Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Huw Irranca-Davies AC – Cadeirydd
Jeremy Miles AC – Y Gweinidog fydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd – Y Cyn-Arglwydd Brif Ustus

  • Y Farwnes Finlay o Landaf – Tŷ’r Arglwyddi
  • Rachel Sharp – Prif Weithredwr, Ymddiriedolaethau Natur Cymru
  • Yr Athro Jo Hunt – Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd
  • Dr Chris Jones Cad – eirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • Alec Don – Cyn-Brif Swyddog Gweithredol Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau
  • Michael Plaut OBE – Cyn Gadeirydd CBI Cymru
  • Tim Peppin – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Shavanah Taj – TUC Cymru
  • Ruth Marks MBE – CGGC
  • Y Cynghorydd William Powell – Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ewrop yn y Pedwerydd Cynulliad
  • Alex Coley – Strategydd Busnes, Epimorphics Ltd
  • Mark Langshaw – Rheolwr Gyfarwyddwr, Continental Teves
  • Elen ap Robert – Cyn-Gyfarwyddwr Artistig Canolfan Pontio, Prifysgol Bangor
  • Tom Jones OBE – Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop
  • Syr Emyr Jones Parry – Cyn-Lywydd, Prifysgol Aberystwyth
  • Alison Lea-Wilson MBE – Cyd-sylfaenydd Halen Môn
  • John Whalley – Prif Weithredwr Awyrofod Cymru

* Roedd nifer bach o swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn bresennol i roi cymorth.

Ymddiheuriadau

  • Yr Athro Colin Riordan – Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd
  • Kevin Roberts – Cadeirydd Hybu Cig Cymru
  • Dr Hywel Ceri Jones – Cyn-Lysgennad Cyllid yr UE
  • David Jones OBE – Cyn-Brif Weithredwr Coleg Cambria
  • Simon Davies – Linklaters
  • Martin Mansfield – TUC Cymru
  • Y Cynghorydd Rob Stewart – CLlLC/Arweinydd Cyngor Dinas Abertawe
  • Louise O’Shea – Prif Weithredwr Confused.com/Admiral Group
  • Jill Evans ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Nathan Gill ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Dr Kay Swinburne – Cyn-Aelod o Senedd Ewrop
  • Derek Vaughan – Cyn-Aelod o Senedd Ewrop

1. Cyflwyniad

Agorodd Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, y cyfarfod a chroesawodd aelodau’r Grŵp i’r ugeinfed cyfarfod.

Rhoddodd y Cadeirydd amlinelliad o'r agenda ac eglurodd y byddai'r cyfarfod yn cynnwys Diweddariad ar y Datblygiadau (gan gynnwys Bil / Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael)) (Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit); eitem ar Negodi’r Berthynas rhwng y DU a’r UE yn y Dyfodol (Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit); eitem ar y Strategaeth Ryngwladol (Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol); ac eitem lafar ar Agenda'r UE yn y Dyfodol (David Hughes, Y Comisiwn Ewropeaidd).

2. Diweddariad ar y Datblygiadau (gan gynnwys Bil/Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael))

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i roi diweddariad i'r Grŵp ar ddatblygiadau allweddol diweddar, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddigwyddiadau gwleidyddol a'r ddeddfwriaeth yn ymwneud â'r Cytundeb Ymadael â'r UE.

Bil / Deddf y Cytundeb Ymadael â'r UE

Rhoddodd y Gweinidog wybod i'r Grŵp fod gan Lywodraeth Cymru bryderon am gynnwys y Cytundeb Ymadael, ac yn fwy penodol, y Datganiad Gwleidyddol. Roedd pryder hefyd bod y Bil yn diystyru'r posibilrwydd o ymestyn y cyfnod pontio y tu hwnt i ddiwedd 2020, er gwaetha’r ffaith bod darpariaeth wedi'i wneud ar gyfer hyn yn y Cytundeb Ymadael. Tynnodd y Gweinidog sylw at yr heriau sy'n wynebu Prif Weinidog y DU wrth geisio sicrhau cytundeb masnach newydd cynhwysfawr gyda'r UE erbyn diwedd y flwyddyn hon a'r posibilrwydd o ymadael heb gytundeb masnach. Mynegodd ei bryder y gallai hyn beryglu swyddi yng Nghymru a gwneud niwed i economi Cymru.

Eglurodd na allai Llywodraeth Cymru argymell rhoi cydsyniad deddfwriaethol i’r Bil (sydd bellach yn Ddeddf) gan ei fod yn cyflwyno bygythiad sylfaenol i ddatganoli ac nad oedd yn adlewyrchu rôl a statws y sefydliadau datganoledig yn y DU yn briodol. Dyma oedd safbwynt unfrydol y deddfwrfeydd datganoledig. Pleidleisiodd pob un ohonynt o blaid gwrthod rhoi cydsyniad i'r Bil.

Aeth yn ei flaen i ddweud nad oedd Llywodraeth Cymru yn ceisio atal Brexit ac nad oedd yr un o'r gwelliannau a oedd yn cael eu hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru wedi'u cynllunio i rwystro'r Bil. Yn wir, roeddent yn ceisio gwella'r Bil. Eglurodd y Gweinidog fod y rhan fwyaf o welliannau Llywodraeth Cymru wedi cael eu hyrwyddo gan Arglwyddi, ac y pleidleisiwyd ar un ohonynt. Serch hynny, cafodd holl welliannau Tŷ’r Arglwyddi eu gwrthdroi gan Dŷ'r Cyffredin a chollwyd cyfle i wella'r diffygion yn y ddeddfwriaeth.

Eglurwyd wrth y Grŵp fod Llywodraeth Cymru wedi nodi'n fanwl y rhesymau pam na allai argymell rhoi cydsyniad i’r Bil. Nodwyd y pwyntiau canlynol yn benodol:

  • Y pwerau i Weinidogion y DU ddiwygio pob deddfwriaeth sylfaenol, gan gynnwys Deddf Llywodraeth Cymru, drwy reoliadau, yn hytrach na thrwy ddilyn y llwybrau cyfansoddiadol arferol
  • Y ffaith nad oedd ailddatgan sofraniaeth absoliwt Senedd y DU wedi cael ei gefnogi gydag unrhyw gyfeiriad at Gonfensiwn Sewel
  • Diffyg rôl warantedig i’r sefydliadau datganoledig mewn negodiadau ynglŷn â'r berthynas â'r UE yn y dyfodol, er gwaetha’r ffaith y byddai canlyniadau'r negodiadau'n effeithio'n uniongyrchol ar y meysydd lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli.

Eglurodd ei bod yn foment bwysig yn gyfansoddiadol pan wrthododd tair deddfwrfa ddatganoledig y DU roi eu cydsyniad i Senedd y DU basio’r Bil ond bod Llywodraeth y DU wedi bwrw ymlaen â’r broses o wneud y Bil yn Ddeddf er gwaetha’r gwrthwynebiad hwnnw.

Rhannodd gynnwys llythyr gan Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn gyda’r Grŵp. Roedd y llythyr hwnnw’n cynnwys cydnabyddiaeth fod penderfyniad Llywodraeth y DU i barhau heb gydsyniad yn amlwg wedi’i wneud o dan amgylchiadau unigryw a bod Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn ymroddedig i Gonfensiwn Sewel. Cafodd Datganiad Ysgrifenedig tebyg ei gyhoeddi i Senedd y DU.

Eglurodd y Gweinidog y byddai Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried y ffordd orau i fynd ar drywydd ei hamcanion i sicrhau bod y Confensiwn Sewel yn gryfach, gan adeiladu ar y camau a gymerwyd yng nghyd-destun y Bil.

Byddai Llywodraeth Cymru’n parhau i ddefnyddio dulliau anneddfwriaethol i fynd i’r afael â’i phryderon am y Ddeddf. Byddai hyn yn cynnwys ceisio sicrwydd ynglŷn â bwriad Llywodraeth y DU mewn perthynas â’r pwerau. Byddai hefyd yn cynnwys ceisio cadarnhad na fyddai Llywodraeth y DU yn defnyddio’r pwerau hynny i ddiddymu Deddf Llywodraeth Cymru a’u bod yn bwriadu ymgysylltu’n llwyr â’r gweinyddiaethau datganoledig.

Aeth y Gweinidog ymlaen i dynnu sylw at y ffaith y byddai rhaglen waith ehangach Llywodraeth Cymru ar Fframweithiau, y farchnad fewnol a negodiadau hefyd yn lleddfu ei phryderon am y Ddeddf, petai'n gweld llwyddiant yn y meysydd hyn.

Rhoddodd y Farwnes Finley a'r Arglwydd Thomas gyfrif o'r trafodion yn Nhŷ'r Arglwyddi. Diolchodd y Gweinidog i’r ddau ac i’w cyd-Arglwyddi o Gymru am eu cydweithrediad a'u hymdrechion ar ran Llywodraeth Cymru.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar y canlynol:

  • yr angen, wrth symud ymlaen, am gynllun clir a strategaeth i amddiffyn hawliau gweithwyr
  • pwysigrwydd sicrhau bod Cymru’n creu cydweddiad dynamig gyda’r UE o ran ei hawliau amgylcheddol a’i bod yn cyfrannu at greu Deddf yr Amgylchedd yn y dyfodol er mwyn amddiffyn buddiannau amgylcheddol yng Nghymru
  • y newyddion cadarnhaol bod Stormont wedi cael ei adfer a’r ffaith y gallai hyn greu cyfleoedd i ddatblygu drwy drafodaethau dwyochrog â Gogledd Iwerddon
  • pwysigrwydd rhoi gwybod i gwmnïau rhyngwladol fod Cymru ar agor ar gyfer busnes
  • ceisio cynghreiriau gyda chyrff ledled y DU
  • pwysigrwydd llais unedig yng Nghymru. Galw hefyd am gydweithio rhwng y Llywodraeth, busnesau a’r gymdeithas sifil yng Nghymru a defnyddio dull gweithredu ar draws y sectorau i amlinellu ein gofynion er mwyn cyflawni ein hamcanion cyffredin.

3. Negodi’r berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i wneud cyflwyniad i'r Grŵp ar bapur polisi Llywodraeth Cymru, Negodi’r berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol, a gyhoeddwyd ar 20 Ionawr 2020.

Eglurodd y Gweinidog fod y ddogfen yn nodi asesiad Llywodraeth Cymru o Ddatganiad Gwleidyddol Llywodraeth y DU, sy'n dod gyda'r Cytundeb Ymadael, ei blaenoriaethau ar gyfer masnach yn y dyfodol, a’i pherthynas ehangach â'r UE. Eglurodd fod yr asesiad yn dadlau, er bod Llywodraeth Cymru yn derbyn y byddwn bellach yn gadael yr UE, bod newidiadau i gyfeiriad y trafodaethau yn y Datganiad Gwleidyddol yn angenrheidiol i warchod buddiannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru a'r DU gyfan yn well.

Tynnodd y Gweinidog sylw at y ffaith mai blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw sicrhau mynediad at farchnadoedd Ewrop, gan mai yno y mae'r rhan fwyaf o'r cyfleoedd masnachu i'w cael. Eglurodd fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU er mwyn cynnal yr egwyddor na ddylai Llywodraeth y DU barhau heb geisio cyfraniad gan y gweinyddiaethau datganoledig a bod y broses o gynnwys gweinidogion a sicrhau cymeradwyaeth yn parhau i gael ei barchu.

Croesawyd y ddogfen a chanolbwyntiodd y drafodaeth grŵp ar y canlynol:

  • Pwysigrwydd cytuno ar broses glir gyda Llywodraeth y DU sy'n sicrhau bod pryderon sy'n benodol i Gymru yn cael eu hystyried
  • Yr angen i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar nifer cyfyngedig o ofynion allweddol gan Lywodraeth y DU yn ystod y negodiadau rhwng y DU a'r UE
  • Pwysigrwydd sicrhau bod Cymru'n cymryd rhan mewn rhaglenni buddiol gan yr UE, hyd yn oed pan nad yw Llywodraeth y DU yn bwriadu cymryd rhan mwyach
  • Manteision ac anfanteision Protocol Gogledd Iwerddon i Gymru ac, yn fwy eang, y manteision posibl a ddaw yn sgil gwahaniaethau rheoleiddiol
  • Pwysigrwydd defnyddio iaith bositif a fframio Cymru mewn trafodaethau negodi yn y dyfodol.

4. Y strategaeth ryngwladol

Gwahoddodd y Cadeirydd Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i wneud cyflwyniad i’r Grŵp am bapur polisi Llywodraeth Cymru, Strategaeth ryngwladol i Gymru, https://llyw.cymru, a gyhoeddwyd ar 14 Ionawr 2020.

Eglurodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol fod y ddogfen bolisi yn nodi agwedd Llywodraeth Cymru tuag at ymgysylltu rhyngwladol. Mae hefyd yn tynnu sylw at y camau a fydd yn cael eu cymryd i godi proffil Cymry yn y byd a sicrhau bod ganddi fwy o ddylanwad.

Rhannodd y Gweinidog dri o uchelgeisiau craidd y strategaeth gyda'r Grŵp: codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol; tyfu ein heconomi a sefydlu Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Aeth ymlaen i egluro sut y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r tri uchelgais allweddol hyn dros y pum mlynedd nesaf. Eglurodd y byddai hyn yn helpu i greu a chynnal gwaith medrus a theg i bobl sy'n byw ledled Cymru. Byddai hefyd yn cyfrannu at nod cyffredinol Llywodraeth Cymru o greu Cymru fwy cyfartal, fwy ffyniannus a mwy gwyrdd.

Aeth y gweinidog ymlaen i bwysleisio mai prif ddiben y Strategaeth Ryngwladol fydd sicrhau cydweithio rhyngwladol a chyfleu Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Bydd y ddau beth hyn yn helpu i wneud Cymru yn fwy cystadleuol ac yn fwy adnabyddus ar y llwyfan byd-eang. Eglurodd y byddai hyn o fudd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i bobl Cymru.

Canllaw yw'r Strategaeth Ryngwladol mewn byd heriol sy'n newid, lle mae perthnasoedd yn newid yn gyson, economïau yn codi a gostwng a blaenoriaethau'n datblygu.

Croesawyd y ddogfen a gwnaeth yr aelodau y pwyntiau ychwanegol canlynol wrth ei thrafod:

  • Y ffaith bod y ddogfen bolisi yn rhoi gobaith, yn defnyddio iaith bositif ac yn dangos agwedd ragweithiol yn ystod cyfnod anodd
  • sut y bydd y polisi yn cael ei roi ar waith yn wyneb newidiadau i’r gyllideb, ac ar beth mae angen canolbwyntio
  • yr angen i rannu ei manteision i bobl Cymru ac annog Cymru groesawgar
  • yr angen i ddeall beth sy'n gwneud Cymru yn unigryw, beth fyddai'n cadw pobl yma a beth y gallai'r Grŵp ei wneud i helpu
  • yr angen i bob sector a llywodraeth fod yn fwy unedig
  • pwysigrwydd buddsoddi yn ein cyfalaf naturiol, er enghraifft mewn ynni adnewyddadwy ac ynni'r llanw, a sut y gellir eu defnyddio i ddenu busnes i Gymru
  • pwysigrwydd technoleg newydd, fel trydan hybrid a thechnoleg glyfar, i Gymru a sut y gellir cyfuno hyn â'n hanghenion cymdeithasol i leihau anghydraddoldeb a datblygu cyfalaf dynol
  • pryderon bod pobl ifanc talentog yn gorfod gadael Cymru i wneud cynnydd yn eu gyrfaoedd, gan nad yw'r cyfleoedd yn bodoli yng Nghymru
  • yr angen i weithio gyda'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad a’r sectorau masnach a diwydiant i hyrwyddo digwyddiadau chwaraeon Cymru ac i hyrwyddo Cymru yn Ffair y Byd yn Dubai er enghraifft
  • yr angen i newid delwedd Cymru, beth sy'n gwneud Cymru'n unigryw ac ym mha feysydd yr ydym yn arwain y ffordd. Enghreifftiau o hyn yw datblygiadau'n ymwneud â defnyddio'r iaith Gymraeg a thechnoleg. Bydd hyn yn gwneud Cymru’n fwy amlwg mewn marchnad gystadleuol.

5. Agenda'r UE yn y dyfodol

Gwahoddodd y Cadeirydd David Hughes, cynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru, i roi cyflwyniad i'r Grŵp ar Agenda'r UE yn y dyfodol.

Eglurodd David fod blaenoriaethau'r Comisiwn ar gyfer y 5 mlynedd nesaf wedi'u nodi yn y ddogfen ganllaw wleidyddol, ‘A Union that strives for more: My agenda for Europe’, gan Ursula Von der Leyen, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd.

Tynnodd David sylw at y ffaith bod y Canllawiau Gwleidyddol yn canolbwyntio ar chwe uchelgais ar gyfer Ewrop dros y pum mlynedd nesaf a thu hwnt i'r cyfnod hwnnw: Bargen Werdd Ewropeaidd; economi sy'n gweithio i bobl; Ewrop sy'n addas ar gyfer yr oes ddigidol; amddiffyn ein ffordd Ewropeaidd o fyw; Ewrop gryfach yn y byd; gwthio o'r newydd am ddemocratiaeth Ewropeaidd. Eglurodd David hefyd nad rhaglen waith gynhwysfawr yw'r Canllawiau Gwleidyddol hyn. Eu nod, yn hytrach, yw fframio gwaith y Comisiwn Ewropeaidd. Byddai'r Comisiwn Ewropeaidd yn dilyn yr egwyddorion hyn a'r dyheadau a amlinellir yn y canllawiau ond byddai'n eu haddasu a'u diweddaru wrth i heriau a chyfleoedd ddod i'r amlwg.

Croesawyd y cyflwyniad a chanolbwyntiodd y trafodaethau ar allu Llywodraeth y DU i negodi, y tebygolrwydd o sicrhau cytundeb masnach yn ystod y cyfnod pontio a pharodrwydd Llywodraeth y DU i gynnal cydweddiad er mwyn sicrhau'r cytundeb masnach.

Talwyd teyrnged i David Hughes ac i Tom Jones a'r Aelodau Seneddol Ewropeaidd o Gymru wrth i'w cyfnod yn eu swyddi ym Mhwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop a Senedd Ewrop yn y drefn honno ddod i ben wrth i'r DU ymadael â'r UE ar 31 Ionawr.

5. Y camau nesaf ac unrhyw fater arall

Cyflwynodd y Cadeirydd grynodeb o'r cyfarfod gan gadarnhau'r canlynol:

  • bod cyfarfod nesaf y Grŵp Cynghori ar Ewrop wedi’i drefnu ar gyfer 19 Mawrth.

Rhannu’r dudalen hon