Yn bresennol

  • Huw Irranca-Davies AC – Cadeirydd
  • Jeremy Miles AC – Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit
  • Dr Hywel Ceri Jones – Cyn-Lysgennad Cyllid yr UE
  • William Powell – Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ewrop yn y Pedwerydd Cynulliad
  • Alex Coley – Strategydd Busnes, Epimorphics Ltd.
  • Rachel Sharp – Prif Weithredwr, Ymddiriedolaethau Natur Cymru
  • Michael Plaut – Cyn-Gadeirydd, CBI Cymru
  • Kevin Roberts – Cadeirydd Hybu Cig Cymru
  • Mark Langshaw – Rheolwr Gyfarwyddwr, Continental Teves.
  • Dr Chris Jones – Cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • Elen ap Robert – Cyn-Gyfarwyddwr Artistig Canolfan Pontio, Prifysgol Bangor
  • Martin Mansfield – TUC Cymru
  • Tom Jones OBE – Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop
  • David Jones OBE – Coleg Cambria
  • Tim Peppin – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

*Roedd nifer bach o swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn bresennol i roi cymorth.

Ymddiheuriadau

  • Y Cynghorydd Rob Stewart – CLlLC/Arweinydd Cyngor Dinas Abertawe
  • Y Farnwres Finlay o Landaf – Tŷ’r Arglwyddi
  • Yr Athro Jo Hunt – Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd
  • Syr Emyr Jones Parry – Cyn-Lywydd Prifysgol Aberystwyth
  • Louise O’Shea – Prif Weithredwr, Confused.com/Admiral Group
  • Yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd – Y Cyn-Arglwydd Brif Ustus 
  • Simon Davies – Linklaters
  • Alison Lea-Wilson MBE – Cyd-sylfaenydd Halen Môn
  • Kevin Crofton – Llywydd, SPTS Technologies Ltd
  • John Whalley – Prif Weithredwr, Awyrofod Cymru
  • Yr Athro Colin Riordan – Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd
  • Alec Don Cyn-Brif – Swyddog Gweithredol Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau
  • Ruth Marks MBE – CGGC
  • Jill Evans ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Nathan Gill ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Dr Kay Swinburne ASE – Cyn-Aelod o Senedd Ewrop
  • Derek Vaughan ASE – Cyn-Aelod o Senedd Ewrop

1. Cyflwyniad

Agorodd Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, y cyfarfod a chroesawu aelodau’r Grŵp i’r deunawfed cyfarfod.

Wrth wneud hynny, pwysleisiodd ddiben y Grŵp unwaith yn rhagor, sef nodi’r heriau a’r cyfleoedd sy’n codi i Gymru yn sgil Brexit. Dywedodd fod y rhain wedi esblygu dros amser.

Cyflwynodd y Cadeirydd fanylion bras yr agenda ac eglurodd y byddai’r cyfarfod yn cynnwys Diweddariad ar y Datblygiadau (y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit); eitem ar Brexit a Mudo (Bethan Bateman, Pennaeth Mudo’r Dyfodol); a Thrafodaeth Bord Gron: Y Blaenoriaethau a’r Rhagolygon fesul Sector (i’w harwain gan Simon Brindle, Cyfarwyddwr, Strategaeth Brexit).

2. Diweddariad ar y datblygiadau

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit i roi diweddariad i’r Grŵp ar ddatblygiadau pwysig gan gynnwys y safbwynt diweddaraf am y Negodiadau; Parodrwydd; a dyfarniad y Goruchaf Lys ar addoedi Senedd y DU. Yn ystod y diweddariad gwahoddodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit swyddogion, yn eu tro, i roi tri chyflwyniad byr ar:

  • Dadansoddiad Economaidd y Prif Economegydd (Jonathan Price, Prif Economegydd)
  • Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ynghylch Dim Cytundeb (Piers Bisson, Cyfarwyddwr, y Trefniadau Pontio Ewropeaidd)
  • a Dyfodol Mwy Disglair i Gymru (Gareth Williams, Cynghorydd Arbennig, Tîm y Trefniadau Pontio Ewropeaidd).

Roedd y meysydd a drafodwyd yn cynnwys: 

Dyfarniad y Goruchaf Lys 

Eglurodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit yn fras resymau Llywodraeth Cymru dros ymyrryd yn achos y Goruchaf Lys mewn perthynas ag addoedi Senedd y DU. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit fod ymyrryd yn bwysig oherwydd byddai addoediad estynedig o’r Senedd, fel y cynlluniwyd gan Brif Weinidog y DU, wedi tarfu ar graffu deddfwriaethol yn Senedd y DU a Chynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth. Roedd Llywodraeth Cymru o’r farn bod dyfarniad unfrydol y Goruchaf Lys ar y mater, yn rhannol, yn cyfiawnhau’r safbwynt hwn. Mynegodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit bryderon ynghylch ymateb Llywodraeth y DU i’r dyfarniad a dywedodd y byddai’r ymateb yn niweidio ein henw da fel gwlad sy’n credu yn rheolaeth y gyfraith.

Negodiadau Brexit

Tynnodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit sylw at y ffaith mai diben y Cydbwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) oedd caniatáu i’r gweinyddiaethau datganoledig gynrychioli eu buddiannau mewn perthynas â Brexit mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU. Ym marn Llywodraeth Cymru nid yw Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) wedi bod yn gweithio yn ymarferol. Dangoswyd hyn unwaith yn rhagor pan wrthododd Llywodraeth y DU rannu’r dogfennau ar Brexit ‘nad ydynt yn bapurau’ gyda’r gweinyddiaethau datganoledig yn ddiweddar, nac ymgynghori â hwy ar gynnwys y dogfennau hynny.

O ran cynigion Llywodraeth y DU i gael trefniadau eraill yn lle’r backstop, a amlinellwyd ar 2 Hydref, credai Llywodraeth Cymru nad oedd o gymorth bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r rhain fel cynnig terfynol i’r UE ar yr adeg hon. Ymhlith ein pryderon, er nad oedd llawer o arwydd y byddai’r sefyllfa’n newid yn ôl i un o rannu pwerau yn syth, oedd y byddai’r ansicrwydd ynghylch a fyddai’r cynigion hyn yn cael eu gweithredu ai peidio yn siŵr o gynyddu o ystyried y rôl fyddai gan Gynulliad Gogledd Iwerddon. Roedd y cynigion hyn hefyd yn debygol o arwain at rywfaint o seilwaith tollau yn Iwerddon, a fyddai’n peri problemau lle bynnag y byddai’n cael ei sefydlu.

Yn gyffredinol roedd gan Lywodraeth Cymru amheuon ynglŷn â pha mor debygol oedd hi y byddai cytundeb yn cael ei daro a’i ddilysu erbyn 31 Hydref. Pwysleisiodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit safbwynt Llywodraeth Cymru y dylid cynnal refferendwm arall, gyda’r opsiwn i aros ar y papur pleidleisio, er mwyn penderfynu ar y camau nesaf yn y broses Brexit. Pe na fyddai hynny’n bosibl, dylai’r DU osgoi ymadael â’r UE heb gytundeb.

Dadansoddiad Economaidd newydd y Prif Economegydd

Rhannodd y Prif Economegydd ei ddadansoddiad ac yn benodol ei asesiad o’r rhagolygon, gan gynnwys ystyried y sefyllfa os aiff pethau i’r pen, gyda dirwasgiad difrifol â chwymp o 4-5% o’r brig i’r gwaelod mewn GDP yng Nghymru yn y cyfnod yn union ar ôl Brexit. Byddai hyn oll yn dibynnu ar amgylchiadau ein hymadawiad. Nododd yr effaith y gallai materion y byd ehangach ei chael ar daro cytundebau masnachu ar ôl Brexit. Nid oedd unrhyw reswm dros newid yr asesiad y gallai ymadael â’r UE a masnachu ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, dros y tymor hwy, olygu y byddai’r economi 10% yn llai nag y byddai wedi bod fel arall. Gallai’r effaith fod yn waeth yng Nghymru o ystyried bod ganddi lefelau uwch o ddiwydiant sy’n ddibynnol ar yr UE.

Roedd rhai o effeithiau economaidd Brexit i’w gweld eisoes, gydag astudiaethau yn dangos lefelau is o gynhyrchiant a buddsoddi mewn busnesau (yn arbennig busnesau sy’n canolbwyntio ar yr UE). Roedd gwariant ymhlith defnyddwyr yn parhau ar lefelau tebyg, ond roedd effaith dibrisio’r bunt yn dechrau dangos arwyddion o effeithio ar hyn.

Disgwyliwyd yn y dyfodol na fyddai twf o hyd o ran GDP, neu byddai’r twf yn negyddol. Roedd effaith economaidd Brexit yn cael ei dwysáu ymhellach gan yr anghydfodau masnachu parhaus rhwng y DU/Tsieina a gwendid parhaus Ardal yr Ewro, yn arbennig yr Almaen.

Y Cynllun Gweithredu ynghylch Brexit Dim Cytundeb

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit fod Llywodraeth Cymru yn cynllunio’n ganolog ar hyn o bryd ar y rhagdybiaeth mai Brexit ‘dim cytundeb’ a geir oherwydd ystyriwyd mai dyma oedd y canlyniad mwyaf tebygol. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu ynghylch Brexit Dim Cytundeb ar 16 Medi. Ar 1 Hydref gwnaeth Gweinidogion Cymru gyfres o ddatganiadau hefyd ar effeithiau ‘dim cytundeb’ er mwyn sicrhau bod cyfle ar gyfer craffu ar baratoadau Llywodraeth Cymru a’u bod yn weladwy.

Bwriadwyd hefyd dynnu sylw at hyd a lled a dyfnder y gwaith yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda phartneriaid ar draws pob sector yng Nghymru. Roedd meysydd eang y gwaith hwn yn cynnwys: prosiectau paratoi ar gyfer y DU gyfan y mae Llywodraeth Cymru yn bwydo iddynt, newidiadau deddfwriaethol, cymorth wrth gefn ar gyfer Llywodraeth Leol, gwaith trawsbynciol dan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Cronfa Bontio’r UE ac ymgyrchoedd cyfathrebu.

Nodwyd bod paratoadau Llywodraeth Cymru yn cael eu cyfyngu gan y ffaith bod Llywodraeth y DU yn ymgysylltu llai a llai â’r gweinyddiaethau datganoledig, er gwaetha’r ffaith ei bod yn dwysáu ei pharatoadau ei hun. Roedd Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ymgysylltu mwy.

Ar 27 Medi cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru ddiweddariad ar ei adroddiad ar baratoadau Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus ehangach ar gyfer Brexit. Er nad oedd yn diystyru maint yr her, roedd yn adlewyrchu’n gadarnhaol ar waith Llywodraeth Cymru gyda’i phartneriaid i baratoi ar gyfer ymadael â’r UE heb gytundeb. Fodd bynnag, waeth pa mor drwyadl fydd ein paratoadau, ni allwn liniaru effaith Brexit dim cytundeb.

Dyfodol Mwy Disglair i Gymru

Cafodd y papur polisi Dyfodol mwy Disglair i Gymru ei gyflwyno i’r Grŵp, fel diweddariad ar Diogelu Dyfodol Cymru a gyhoeddwyd yn 2017. Ymddangosai bod yr opsiynau ar gyfer Brexit wedi culhau erbyn hyn, ar wahân i’r Brexit ‘meddal’ yr oedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn eirioli drosto er mwyn pontio rhwng canlyniad y refferendwm ac anghenion economi a chymunedau Cymru.

Roedd y papur polisi Dyfodol mwy Disglair i Gymru yn amlinellu safbwynt newydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag aros yn yr UE a’i ddiwygio. Mae’r papur yn tynnu sylw at chwe maes â blaenoriaeth ac yn cymharu effaith dim cytundeb ag effaith aros yn yr UE. Nod y papur, yn rhannol, yw newid y ddadl o’r effeithiau uniongyrchol y byddai’n Brexit ‘dim cytundeb’ yn eu cael, i’r niwed economaidd tymor hwy a’r newid systemig anffafriol sy’n debygol o gael ei achosi gan hyn.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar:

  • Y graddau y byddai’r sector gwasanaethau yn cael ei effeithio gan Brexit. Er na fyddai’r sector hwn yn cael ei effeithio i’r un graddau â’r sectorau gweithgynhyrchu neu amaethyddiaeth, mae’r ddau sector yn dueddol o fod yn gyd-gysylltiedig ac yn ddibynnol ar ei gilydd. Byddai colli allbwn nwyddau yn debygol o arwain at leihad yn yr angen am wasanaethau etc. Yn fwy na hynny, mae marchnad sengl yr UE yn lleihau rhwystrau heblaw am dariffau ar gyfer gwasanaethau’r DU ac mae’n debygol y byddai colli’r rhain yn arwain at rai anfanteision.
  • Yr effaith a gaiff datganiadau gwrthgyferbyniol Llywodraeth y DU i gynulleidfaoedd yn y DU a’r UE, a allai danseilio ein hygrededd gyda’r UE. Defnyddiwyd, fel enghraifft, ymrwymiad Llywodraeth y DU i gynnal safonau’r UE ar hawliau gweithwyr a safonau amgylcheddol yn erbyn y rhaglen a gyflwynwyd ganddi i herio biwrocratiaeth.
  • Gallu Llywodraeth Cymru i ddiogelu safonau rheoleiddiol a buddiannau eraill Cymru mewn sefyllfa ‘dim cytundeb’ lle y bwriadai Llywodraeth y DU ymrwymo i safbwynt o ddadreoleiddio.
  • Canlyniad tebygol unrhyw refferendwm yn y dyfodol ar aelodaeth o’r UE. Dywedodd yr aelodau fod angen negeseuon mwy clir a chadarnhaol ynglŷn â manteision aros yn aelod o’r UE ar Lywodraeth Cymru ac eraill sy’n eirioli dros aros yn aelod o’r UE.
  • Yr angen i Lywodraeth Cymru bennu gweledigaeth gadarnhaol, hirdymor ar gyfer Cymru ar ôl Brexit a fydd yn ysbrydoli dinasyddion a gwrthwynebu’r teimladau negyddol a’r rhwyg cynyddol niweidiol sy’n deillio o broses Brexit. Cyfeiriwyd at Gynllun Gweithredu ar yr Economi Llywodraeth Cymru a’r Strategaeth Ryngwladol fel mannau cychwyn ar gyfer cyflawni hyn.
  • Effaith Brexit ar gymunedau sy’n arbennig o agored i niwed. Wrth ystyried y gost ddynol sy’n gysylltiedig â Brexit, sicrhaodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit yr aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud dyraniadau i gefnogi grwpiau risg uchel penodol a byddai’n monitro effeithiau’r rheini wrth iddynt godi. Fodd bynnag, ni fyddai Llywodraeth Cymru, na hyd yn oed Llywodraeth y DU, yn gallu lliniaru effeithiau negyddol ‘dim cytundeb’ yn llawn.

3. Brexit a Mudo

Gwahoddodd y Cadeirydd Bethan Bateman, Pennaeth Mudo’r Dyfodol, i roi’r diweddaraf i’r Grŵp ar bolisi Llywodraeth y DU mewn perthynas â Mudo’r Dyfodol a Statws Preswylwyr Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Roedd y meysydd a drafodwyd yn cynnwys yr ansicrwydd ynghylch Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar fudo a’r cynigion ar gyfer system fudo sy’n seiliedig ar bwyntiau.

Tynnodd Pennaeth Mudo’r Dyfodol sylw at bwysigrwydd ymateb i Gais am Dystiolaeth y Pwyllgor Cynghori ar Fudo ar y trothwy cyflogau a’r system sy’n seiliedig ar bwyntiau erbyn 5 Tachwedd.

O ran Statws Preswylwyr Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, rhoddodd Bennaeth Mudo’r Dyfodol drosolwg o’r cynllun a thynnu sylw at y risg nad yw rhai unigolion yn cyflwyno cais. Eglurodd y swyddogion y byddai pob grŵp o ddinasyddion yr UE sy’n preswylio’n gyfreithlon yn y DU hyd at fis Rhagfyr 2020 yn parhau i fod yn gymwys i dderbyn yr un gwasanaethau ag y maent ar hyn o bryd. Gofynnodd swyddogion Llywodraeth Cymru am gymorth i ledaenu’r neges hon yn eang a gwahoddwyd yr aelodau i ystyried hefyd sut fyddai orau i rannu negeseuon ynglŷn ag ymgeisio am Statws Preswylydd Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ymhlith rhanddeiliaid a rhwydweithiau.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar:

  • y goblygiadau o ran gweithlu i’r Diwydiannau Creadigol
  • yr heriau cynyddol sy’n wynebu’r sector iechyd a gofal cymdeithasol, y sector TG, y sector AB/AU, gan gynnwys symudedd myfyrwyr, prosesu bwyd, a gweithwyr asiantaeth. 

4. Trafodaeth Bord Gron: Y Blaenoriaethau a’r Rhagolygon fesul Sector

Gwahoddodd y Cadeirydd Simon Brindle, Cyfarwyddwr, Strategaeth Brexit, i arwain trafodaeth bord gron ar Y Blaenoriaethau a’r Rhagolygon fesul Sector. Anogodd Simon aelodau’r Grŵp i rannu eu barn am yr heriau penodol yr oedd eu sectorau yng Nghymru yn debygol o’u hwynebu yn syth ar ôl yr ymadawiad ac yn y tymor byr a chanolig a’r hirdymor, gan ganolbwyntio ar faterion economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol, cysylltiadau rhynglywodraethol a gwasanaethau cyhoeddus.

Yn ystod y drafodaeth bord gron, ystyriodd yr aelodau flaenoriaethau a rhagolygon y sectorau yng nghyd-destun y rhagdybiaeth gynllunio y ceir Brexit heb gytundeb. Gwahoddwyd aelodau’r Grŵp i rannu rhagor o syniadau am y materion penodol a wynebir gan sectorau ledled Cymru yn syth ar ôl yr ymadawiad ac yn y tymor canolig i hirdymor er mwyn llywio ystyriaethau’r Cabinet.

Disgrifiwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel cwmpawd sy’n ein cadw ar y trywydd iawn, a dywedwyd ei bod yn parhau i fod yn ddatganiad o fwriad pwysig yr oedd angen ei gyflawni er gwaethaf Brexit. Ystyriwyd y Ddeddf fel catalydd ar gyfer newid. Dylid ystyried y Ddeddf mewn modd holistaidd, a dylid meddwl sut i’w gweithredu fel fframwaith ar gyfer y dyfodol, gan sicrhau ei bod yn creu cyfoeth ac yn arwain at ffyniant er mwyn cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus. Nid oedd nodau economaidd ac amgylcheddol yn gwbl neilltuedig o’i gilydd ac ni ddylid eu hystyried ar wahân i’w gilydd. Roedd ein diwylliant a’n celfyddydau yn cynnig ffordd o ailadeiladu cymunedau ar ôl Brexit.

5. Y Camau Nesaf ac Unrhyw Fater Arall

Rhoddodd y Cadeirydd grynodeb o’r cyfarfod a chadarnhau:  

  • byddai’n trefnu i rai o brif negeseuon Llywodraeth Cymru gael eu trosglwyddo i aelodau’r Grŵp Cynghori ar Ewrop er mwyn iddynt hwythau eu rhannu ymhellach â rhwydweithiau a phartneriaid
  • byddai swyddog o Lywodraeth Cymru yn darparu crynodeb o fentrau cyllid yr UE y mae Cymru wedi cael budd ohonynt ers 23 Mehefin 2016
  • byddai cyfarfod arall posibl yn cael ei drefnu o amgylch y dyddiad a bennwyd ar gyfer ymadael â’r UE, sef 31 Hydref
  • fel arall, byddai’r cyfarfod nesaf o’r Grŵp Cynghori ar Ewrop yn cael ei gynnal ar 5 Rhagfyr.