Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Mark Drakeford AC – (Cadeirydd) Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
  • Y Cynghorydd Phil Bale – Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd
  • Kevin Crofton – Llywydd, SPTS Technologies Ltd
  • Dr Hywel Ceri Jones – Cyn Lysgennad Ariannu’r UE
  • Yr Athro Richard B. Davies – Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe
  • Jill Evans ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Nathan Gill AC/ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • David Jones OBE – Pennaeth a Phrif Weithredwr, Coleg Cambria
  • Tom Jones OBE – Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop (EESC)
  • Martin Mansfield – Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru
  • Ruth Marks MBE – Prif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Y Farwnes Eluned Morgan AS – Aelod o Senedd Ewrop
  • William Powell – Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ewrop yn y Pedwerydd Cynulliad
  • Yr Athro Colin Riordan – Llywydd ac Is-ganghellor, Prifysgol Caerdydd
  • Kevin Roberts – Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth ar gyfer Amaethyddiaeth
  • Rachel Sharp – Prif Weithredwr, Ymddiriedolaethau Natur Cymru
  • Dr Kay Swinburne ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Derek Vaughan ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Emma Watkins – Cyfarwyddwr, CBI Cymru

*Roedd nifer bach o swyddogion Llywodraeth Cymru’n bresennol hefyd i gynorthwyo.

Ymddiheuriadau

  • Syr Emyr Jones Parry – Llywydd, Prifysgol Aberystwyth
  • Yr Arglwydd Kinnock – Cyn Is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd

Yn bresennol yn y cyfarfod hefyd roedd Steve Martin, Dan Bristow, Ian Jones ac Andrew Connell, Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru (PPIW), a roes gymorth dadansoddi i’r Grŵp Cynghori ar Ewrop.

1. Cyflwyniad

Agorodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol y cyfarfod a chroesawodd Aelodau EAG i’r ail gyfarfod hwn. Cyflwynodd hefyd Rachel Sharp, Prif Weithredwr Ymddiriedolaethau Natur Cymru, a oedd wedi cael ei gwahodd i ymuno â’r grŵp. Amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet yr agenda ac eglurodd y byddai'r Aelodau’n ymrannu’n dri grŵp am ran o’r cyfarfod am drafodaeth fwy cryno ar faterion allweddol yn deillio o’r trafodaethau yn y cyfarfod cyntaf. Wedyn byddai gofyn i gynullyddion grwpiau rannu adborth ar y cyd â’r holl Aelodau yn y cyfarfod llawn.

2. Y newyddion diweddaraf am ddatblygiadau

Rhoes Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol y newyddion diweddaraf i’r grŵp ar y datblygiadau ar lefel y DU ac yng Nghymru. Roedd y tair prif agwedd yn cynnwys cyfarfod llawn Cyd-bwyllgor y Gweinidogion a gynhaliwyd ym mis Hydref o dan gadeiryddiaeth Prif Weinidog y DU, Cyd-bwyllgor y Gweinidogion dros Negodwyr UE ac achosion cyfreithiol Erthygl 50.

Ailddatganodd Ysgrifennydd y Cabinet y disgwylid i’r DU barhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd am ddwy flynedd arall o leiaf ac y byddai Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn yr amser hwnnw’n parhau i achub pob cyfle i ymgysylltu â swyddogion y DU, y Gweinidogion, llywodraethau datganoledig eraill, y Comisiwn a sefydliadau a gwledydd eraill y DU.

3. Dadansoddiad economaidd o oblygiadau Brexit

Rhoddodd Prif Economegydd Llywodraeth Cymru, Jonathan Price, gyflwyniad o dan y teitl 'Ymadael â’r UE - Canlyniadau Economaidd i Gymru', a oedd yn seiliedig ar yr asesiadau gorau a oedd ar gael o'r sefyllfa facro-economaidd i Gymru a'r DU. Roedd ei drosolwg yn canolbwyntio ar ganlyniadau hirdymor a byrdymor, sectorau allforio Cymru a rhai cyfleoedd posibl ar gyfer trafodaeth gan y Grŵp. Yn gyffredinol, barn y mwyafrif o safbwynt yr economi oedd bod risgiau sylweddol i berfformiad economaidd yn y tymor canolig. Roedd rhai cyfleoedd posibl hefyd, er enghraifft o wamaliadau mewn arian cyfredol a newid rheoliadol o bosibl, er bod yr olaf yn destun ystyriaethau ehangach.

Gwnaeth aelodau'r prif bwyntiau ychwanegol canlynol wrth drafod:

  • Mae angen ystyried effeithiau ehangach ar dlodi fel rhan o'r dadansoddiad macro-economaidd
  • Dylid nodi natur fregus y sector Busnesau Bach a Chanolig
  • Byddai gwybodaeth fanylach am fewnforion ac allforion yn ddefnyddiol
  • Mae newidiadau economaidd byd-eang ehangach yn bwysig dros ben ac mae angen eu hystyried, yn ddelfrydol, wrth gynllunio’r sefyllfa economaidd yn y dyfodol.

4. Grwpiau trafod

Ymrannodd yr Aelodau’n dri grŵp trafod, o dan arweiniad tri o'r Aelodau EAH: Premiwm Brexit - yr Athro Colin Riordan, Prifysgol Caerdydd; Mudo - Ruth Marks, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; a Chymru a'r Byd - Tom Jones, EESC. Deilliodd y themâu ar gyfer y grwpiau o drafodaeth yng nghyfarfod cyntaf yr EAG ym mis Medi. Ar gyfer grwpiau Premiwm Brexit a Mudo, roedd PPIW wedi paratoi’r prif ddogfennau trafod a chynorthwyo gyda'r grwpiau trafod. Roedd WEFO wedi paratoi papurau a chynnig cefnogaeth yn yr un modd i Grŵp Cymru a’r Byd.

5. Adborth o’r grwpiau trafod

Cafodd y prif bwyntiau canlynol a wnaed ym mhob grŵp eu hadrodd yn ôl i'r grŵp llawn.

Premiwm Brexit

  • Byddai angen i fformiwla Barnett gael ei diweddaru fel rhan o ddisodli ffrydiau ariannu'r UE.
  • Ni ddylai pwerau datganoli presennol Cymru gael eu datod o gwbl.
  • Gallai manteision fod ar eu gorau mewn meysydd lle y byddai angen rheoleiddio penodol sylweddol, megis amaethyddiaeth; ond ni ddylai hyn arwain at sector cyflogau isel.
  • Dylid chwilio am gyfleoedd i sianelu cefnogaeth well i amcanion Deddf yr Amgylchedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol; a hefyd i gefnogi dulliau dinas-ranbarthau.
  • Dylai rheolaethau ar ymfudo barhau i gefnogi’r bobl fwyaf cymwysedig sy’n dod i Gymru ar gyfer busnes, ymchwil ac addysg uwch.

Ymfudo

  • Dylai telerau a fframweithiau rheoliadol perthnasol gael eu diffinio a’u hesbonio’n glir; dylai’r holl ddewisiadau posibl ar gyfer y sefyllfa ar ôl ymadael â’r UE, o fewn fframweithiau o'r fath, gael eu nodi’n glir. Byddai hyn yn cynorthwyo ystyried costau a manteision dewisiadau.
  • Mae angen mwy o wybodaeth a gwybodaeth well am anghenion sectorau busnes gwahanol, a sectorau gwasanaethau cyhoeddus.
  • Mae pwysigrwydd ymfudiad i addysg uwch hefyd yn fawr; ac mae cydfuddiannau ymfudiad myfyrwyr drwy ERASMUS yn sylweddol.
  • Gallai fod yn ddefnyddiol deall yn well yr agweddau cymdeithasol at ymfudo a barodd i bobl bleidleisio dros ymadael.
  • Mae angen cydnabod yn llawn cyd-destun y cynnydd mewn ymfudiad am amryw o resymau, o safbwynt yr economi a hawliau dynol.
  • Dylid cydnabod y cydbwysedd rhwng hawliau a rhwymedigaethau gweithwyr mudol.

Cymru a'r Byd

  • Gan adeiladu ar y gwaith a wnaed ar gyfer y cyfarfod hwn, dylai Llywodraeth Cymru baratoi rhestr lawn o'r rhwydweithiau a’r rhaglenni y mae Cymru’n gallu manteisio arnynt ar ôl ymadael â’r UE. Dylai hyn gynnwys dadansoddiad llawn o gostau a manteision ym mhob achos, gan gynnwys cydnabod priod fanteision cyfranogiad ar lefel Cymru neu ar lefel y DU.
  • Dylid cynnwys trefniadau presennol megis partneriaethau strategol prifysgolion, a gefeillio trefi.
  • Dylid nodi’r manteision posibl i lawer o sefydliadau yng Nghymru (cyhoeddus, preifat a thrydydd sector); gallai Llywodraeth Cymru ysgwyddo rôl gydlynu i ddatblygu strategaeth gydlynol "Tîm Cymru" ar gyfer hyn, gydag amserlen rhwng 3 a 5 mlynedd o bosibl.
  • Mae gan y sefyllfa geo-wleidyddol effaith ar lefel Cymru hefyd.
  • Roedd dysgu iaith mor bwysig ag erioed, gan gynnwys ieithoedd Ewropeaidd, megis Tsieineeg.
  • Mae llwyddiant Cymru yn fyd-eang yn gysylltiedig yn y bôn â masnach lwyddiannus.
  • Gallai fod gan y Cyngor Prydeinig rôl.
  • Dylid defnyddio swyddfeydd presennol Llywodraeth Cymru ym Mrwsel a gweddill y byd i’r eithaf.

6. Trafod blaenraglenni gwaith

Gwahoddodd Ysgrifennydd y Cabinet awgrymiadau gan Aelodau ECG ar ôl y cyfarfod ynghylch eitemau i’r agenda yn y dyfodol, yn enwedig mewn perthynas â’r posibilrwydd o ymrannu’n grwpiau i ymdrin â materion allweddol penodol. Darparwyd rhestr o'r dyddiadau dros dro i'r grŵp, hyd at a chan gynnwys Rhagfyr 2017. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar ddechrau mis Chwefror; bydd pynciau ar gyfer y grwpiau unigol yn cymryd i ystyriaeth y materion allweddol yn deillio materion yn y cyfarfod hwn, a hefyd o faterion y mae angen eu hystyried i’w trafod gyda Llywodraeth y DU.

Rhannu’r dudalen hon