Yn bresennol

  • Carwyn Jones AC – Prif Weinidog Cymru
  • Mark Drakeford AC – (Cadeirydd) Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
  • Y Cynghorydd Phil Bale – Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd
  • Kevin Crofton – Llywydd, SPTS Technologies Ltd
  • Yr Athro Richard B. Davies – Is-Ganghellor, Prifysgol Abertawe
  • Jill Evans ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Nathan Gill AC/ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • David Jones OBE – Pennaeth a Phrif Weithredwr, Coleg Cambria
  • Syr Emyr Jones Parry – Llywydd, Prifysgol Aberystwyth
  • Tom Jones OBE – Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop
  • Yr Arglwydd Kinnock – Cyn Is-Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd
  • Martin Mansfield – Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru
  • Y Farwnes Eluned Morgan AC – Cyn-aelod o Senedd Ewrop
  • William Powell – Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ewrop yn y Pedwerydd Cynulliad
  • Yr Athro Colin Riordan – Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd
  • Kevin Roberts – Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth ar gyfer Amaethyddiaeth
  • Derek Vaughan ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Emma Watkins – Cyfarwyddwr, CBI Cymru

*Roedd nifer bach o swyddogion o Lywodraeth Cymru hefyd yn bresennol i gynorthwyo.

Ymddiheuriadau

  • Dr Hywel Ceri Jones – Cyn-Lysgennad Cyllid yr UE
  • Ruth Marks MBE – Prif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Dr Kay Swinburne ASE – Aelod o Senedd Ewrop

1. Cyflwyniad

Agorodd y Prif Weinidog y cyfarfod ac estynnodd groeso i aelodau'r grŵp newydd - y Grŵp Cynghori ar Ewrop (GCE). Rhoddodd amlinelliad o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd, a gyhoeddwyd ychydig ar ôl canlyniad y refferendwm. Aeth yn ei flaen i nodi rhai o'r prif gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd ers y refferendwm, gan gynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid, cychwyn deialog gyda Llywodraeth y DU, gwaith polisi a dadansoddi mewnol, a sefydlu Is-bwyllgor y Cabinet ar y Trefniadau Pontio Ewropeaidd. Cyfeiriodd at y rôl werthfawr y gallai'r GCE ei chwarae, nid gymaint o ran craffu, ond o ran cynnig cyngor a chynorthwyo Llywodraeth Cymru i asesu'r opsiynau cyn y trafodaethau ynghylch ymadael â'r UE, gan fanteisio ar arbenigedd sylweddol aelodau'r grŵp.

Yna, gwahoddodd y Prif Weinidog sylwadau gan y Grŵp. Trafodwyd amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: 

  • bwysigrwydd ymgysylltu'n weithredol â Llywodraeth y DU
  • y gwahanol ddulliau gweithredu o ran Marchnad Sengl yr UE (a'r angen i sicrhau eglurder o ran yr iaith a ddefnyddir wrth sôn am hyn)
  • cymorth posibl yn lle cyllid yr UE
  • y ffaith fod Llywodraeth Cymru'n benderfynol o amddiffyn hawliau gweithwyr a swyddi o safon uchel
  • pwysigrwydd ystyried senarios, gan gynllunio ar gyfer y gwahanol ganlyniadau a allai ddod o'r trafodaethau ynghylch Brexit
  • a'r posibiliadau sydd ar gael i aelodau unigol ddefnyddio eu rhwydweithiau eu hunain i sicrhau bod llais Cymru'n cael ei glywed ac i feithrin cysylltiadau.

2. Cylch gorchwyl

Trosglwyddodd y Prif Weinidog yr awenau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet y cylch gorchwyl drafft gan nodi, er bod cryn dipyn o ddiddordeb gan y cyhoedd yn y grŵp, er mwyn caniatáu'r aelodau i fynegi eu barn yn llawn ac yn onest y bwriad oedd i gadw trafodaethau'r grŵp yn gyfrinachol. Ychwanegodd ei fod yn deall, serch hyn, y byddai'r aelodau'n dymuno trafod eu gwaith ar y grŵp yn allanol ar lefel gyffredinol, gan drafod y prif faterion yn unig ac heb enwi neb. Nid oedd yn rhagweld y byddai hyn yn llesteirio gwaith y grŵp. Esboniodd fod rhai o aelodau'r grŵp wedi paratoi papurau byr a fyddai'n cael eu dosbarthu i'r aelodau gyda nodyn lefel uchel o'r cyfarfod cyn i'r nodyn gael ei gyhoeddi.

Awgrymodd rhai aelodau y dylai'r cylch gorchwyl gynnwys disgrifiad penodol o rôl y GCE, nid yn unig o ran ystyried y cyfleoedd a'r risgiau sy'n gysylltiedig â Brexit, ond hefyd o ran llywio a datblygu Cymru ar ôl Brexit. Bydd cylch gorchwyl wedi'i ddiweddaru yn cael ei gynnwys gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod nesaf.

3. Y datblygiadau diweddaraf

Siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol am rai o brif bwyntiau'r papur a oedd yn cyd-fynd â'r eitem hon, a oedd yn ymdrin â materion ar lefel y DU ac yng Nghymru. Yn benodol, roedd Llywodraeth Cymru'n dechrau cael rhywfaint o eglurder ynghylch y ffordd yr oedd Llywodraeth y DU yn bwriadu ymgysylltu â'r llywodraethau datganoledig ynghylch y gwaith yn dilyn refferendwm yr UE.

Roedd y drafodaeth ddilynol yn ystyried a oedd buddiannau Cymru'n cael eu cynrychioli'n ddigonol yn adrannau Whitehall. Roedd barn gref fod angen sicrhau cysylltiadau effeithiol ar lefel swyddogol, yn ogystal â deialog wleidyddol gadarn. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol fod Prif Weinidog y DU wedi ymrwymo y byddai'r gweinyddiaethau datganoledig yn chwarae rhan lawn yn y trafodaethau.

Trafodwyd pwysigrwydd y Comisiwn Ewropeaidd i'r trafodaethau. Er bod amrywiaeth o ran barn aelod-wladwriaethau'r UE ar ymadawiad y DU, roedd disgwyl i'r Comisiwn gymryd safbwynt pendant. Atgoffodd Ysgrifennydd y Cabinet y cyfarfod y byddai'r DU yn parhau i fod yn aelod o'r UE am o leiaf dwy flynedd eto ac y byddai Gweinidogion Llywodraeth Cymru, yn ystod y cyfnod hwnnw, yn manteisio ar bob cyfle i ymgysylltu â'r Comisiwn, a gwledydd a sefydliadau eraill yr UE.

Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y byddai rhwydweithiau cryf gyda Whitehall, Comisiwn yr UE ac Aelod-wladwriaethau yn hanfodol er mwyn caniatáu i Gymru leisio ei barn yn ystod y trafodaethau sydd i ddod. Oherwydd amharodrwydd y Comisiwn i drafod unrhyw agwedd ar y trefniadau ar gyfer ymadawiad y DU nes bod Erthygl 50 mewn grym, fe wnaeth y pwynt fod gan bob aelod o'r Grŵp rwydweithiau a chysylltiadau pwysig ledled Ewrop, ac yn Whitehall, a fyddai'n werthfawr iawn wrth hybu buddiannau Cymru yn ystod y misoedd nesaf.

4. Papur trafod

Roedd y papur hwn yn rhoi trosolwg o nifer o faterion strategol allweddol a fyddai'n berthnasol i Gymru o ganlyniad i ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Roedd y papur yn rhoi ystyriaeth i heriau a risgiau trawsbynciol, cyfleoedd posibl, a'r ffordd orau o sicrhau fod perthynas gadarnhaol yn parhau rhwng Cymru a gwledydd eraill yn Ewrop a thu hwnt.

Trafodwyd y math o fynediad at y Farchnad Sengl a allai fod yn bosibl i Gymru. Gwnaeth nifer o aelodau y sylw ei bod yn debygol y byddai cysylltiad rhwng rhyddid pobl i symud a lefel y mynediad at y Farchnad Sengl. Cydnabuwyd bod cyfran sylweddol o'r cyhoedd yn teimlo'n gryf ynglŷn â rhyddid i symud, ac roedd hynny'n un o'r materion a oedd yn destun dadl yn y cyfnod yn arwain at Refferendwm yr UE.

Mynegwyd barn y byddai rhai aelodau o'r cyhoedd, o bosibl, yn disgwyl cael "premiwm Brexit" oherwydd dadleuon a gyflwynwyd gan y rhai a ymgyrchodd dros adael yn y cyfnod yn arwain at y refferendwm. Byddai archwilio cyfleoedd o'r fath yn llawn yn dasg bwysig. Byddai hefyd yn bwysig asesu effaith economaidd bosibl gwahanol fodelau ar gyfer ein cyswllt â'r Farchnad Sengl yn y dyfodol. Yn ehangach, roedd cydsyniad cyffredinol fod gweithio ar asesu effaith ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd ar Gymru yn gyffredinol yn flaenoriaeth, ac y dylai'r gwaith ystyried pob senario bosibl. Ar yr un pryd, dylid gwneud ymchwil ar ba rai o raglenni a sefydliadau'r UE, megis Erasmus a Banc Buddsoddi Ewrop, a allai fod ar gael i Gymru wedi i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

5. Y cyfarfod nesaf

Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yr Athro Steve Martin o Ysgol Fusnes Caerdydd a Chyfarwyddwr y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru (PPIW). O ran cyfarfod nesaf y Grŵp Cynghori ar Ewrop - y disgwylir iddo gael ei gynnal tua chanol mis Tachwedd - y bwriad oedd i rannu'n grwpiau bach ar y cychwyn, i gael trafodaethau mwy penodol gyda chymorth PPIW. Yna, gellid rhannu'r hyn a drafodwyd yn y grwpiau hyn gyda'r holl aelodau yn ail ran y cyfarfod.

Byddai themâu'r grwpiau trafod yn seiliedig ar faterion allweddol a gododd o'r trafodaethau yn y cyfarfod hwn.