Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Mark Drakeford AC – Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AC – Y Gweinidog Tai ac Adfywio
  • Carwyn Jones AC – Prif Weinidog Cymru
  • Vaughan Gething AC – Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Y Farwnes Ilora Finlay o Landaf – Tŷ’r Arglwyddi
  • Dr Hywel Ceri Jones – Cyn-lysgennad Cyllid yr UE
  • William Powell – Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ewrop yn y Pedwerydd Cynulliad
  • David Jones OBE – Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Cambria
  • Michael Plaut – Cadeirydd CBI Cymru
  • Kevin Roberts – Cadeirydd Hybu Cig Cymru (HCC)
  • Martin Mansfield – Ysgrifennydd Cyffredinol CBI Cymru
  • Tom Jones OBE – Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop (EESC)
  • Syr Emyr Jones Parry – Llywydd Prifysgol Aberystwyth
  • Alison Lea-Wilson – Cyd-sylfaenydd Halen Môn
  • Rachel Sharp – Prif Weithredwr Ymddiriedolaethau Natur Cymru
  • Tim Peppin – yn cynrychioli CLlLG yn absenoldeb y Cynghorydd Rob Stewart
  • Julie Morgan AC – Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru Gyfan
  • Dr Chris Jones – Cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru 
  • Yr Athro Jo Hunt – Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd
  • Alec Don – Cyn Brif Swyddog Gweithredol Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau

*Roedd nifer bach o swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn bresennol i gynorthwyo.

Ymddiheuriadau

  • Jill Evans ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Nathan Gill ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Dr Kay Swinburne ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Derek Vaughan ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Yr Athro Richard B. Davies – Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe
  • Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd – Cyn Arglwydd Brif Ustus
  • Kevin Crofton – Llywydd, SPTS Technologies Ltd
  • Yr Athro Colin Riordan – Llywydd ac Is-ganghellor, Prifysgol Caerdydd
  • Ruth Marks MBE – Prif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Y Cyng. Rob Stewart – CLlLC/Arweinydd Cyngor Abertawe

1. Cyflwyniad

Agorodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid y cyfarfod a chroesawu aelodau'r Grŵp Cynghori ar Ewrop i'r deuddegfed cyfarfod.

Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet amlinelliad o’r agenda ac esboniodd y byddai’r cyfarfod yn cynnwys cyflwyniadau gan y Prif Weinidog a chan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ôl Brexit a dadl ar Sefyllfa Brexit.

2. Diogelu Dyfodol Cymru

Ailadroddodd y Prif Weinidog brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd, a phwysigrwydd sicrhau mynediad llawn a dirwystr i’r Farchnad Sengl a chymryd rhan mewn undeb tollau er mwyn diogelu’r economi a swyddi yng Nghymru, fel y nodwyd yn Diogelu Dyfodol Cymru.

Cadarnhaodd fod Llywodraeth Cymru, er gwaethaf pob ymdrech, yn dal i gael trafferth cael Llywodraeth y DU i ymgysylltu’n llawn â hi. Roedd cyhoeddi Cytundeb Ymadael y DU ar 14 Tachwedd heb gynnwys Llywodraeth Cymru yn enghraifft arall o hyn ac roedd wedi ailadrodd y pwynt hwn pan gyfarfu â Phrif Weinidog y DU ar 21 Tachwedd.

Diolchodd y Prif Weinidog i’r aelodau am eu cyfraniad pwysig wrth i Lywodraeth Cymru baratoi a negodi gyda Llywodraeth y DU a chadarnhaodd y byddai’n parhau i ddilyn gweithgarwch y grŵp y tu hwnt i fis Mawrth 2019.

Canolbwyntiodd trafodaeth y grŵp ar y canlynol:

  • pryder a fyddai Prif Weinidog y DU yn gallu sicrhau cymeradwyaeth i’w bargen gan 27 gwlad yr UE a Senedd y DU
  • pe bai methiant i sicrhau cymeradwyaeth, pryder y byddai’r wlad yn wynebu argyfwng gwleidyddol na welwyd mo’i debyg, a fyddai’n arwain at etholiad cyffredinol neu hyd yn oed bleidlais gyhoeddus
  • os na cheir cytundeb, beth fyddai’n digwydd yn achos Erthygl 50 ac a fyddai modd ei hestyn
  • cynnal hawliau dinasyddion yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd
  • trafodaeth ynghylch a fyddai’r Cynulliad yn cael cyfle i drafod y Cytundeb Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol cyn y Bleidlais Ystyrlon yn Nhŷ’r Cyffredin.

3. Y datblygiadau diweddaraf

Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wybodaeth i'r grŵp am y datblygiadau diweddaraf yn y DU ac yng Nghymru. Y ddwy brif agwedd oedd Cytundeb Ymadael y DU a’r UE a’r Datganiad Gwleidyddol ar ein Perthynas â’r UE yn y Dyfodol.

Ymysg y meysydd dan sylw, roedd y canlynol:

  • cyhoeddi Cytundeb Ymadael y DU a’r UE
  • byrder y Datganiad Gwleidyddol ar ein Perthynas yn y Dyfodol
  • yr opsiwn o estyn y cyfnod pontio
  • pwysigrwydd diogelu cytundeb Gwener y Groglith yng Ngogledd Iwerddon a’r trefniadau ‘backstop’
  • diogelu hawliau dinasyddion
  • cynlluniau hirdymor o ran undeb tollau.

Rhoddodd y Gweinidog Tai ac Adfywio ddiweddariad i’r grŵp ar Fforymau Gweinidogol diweddar a hynt y trafodaethau ynghylch addysg, gwyddoniaeth ac arloesi. Soniodd wrth yr aelodau am ei hymweliad â Senedd Ewrop yn Strasbourg a’r trafodaethau ynglŷn â’r negodiadau sydd ar y gweill a’r camau nesaf. Roedd y Gweinidog wedi cynrychioli Cymru yn nigwyddiad Vanguard ym Mrwsel ar 21 Tachwedd a thynnodd sylw at y cyfle i feithrin y berthynas â phartneriaid a rhwydweithiau rhanbarthol eraill yn yr UE.

Canolbwyntiodd trafodaeth y grŵp ar y canlynol:

  • y camau nesaf i Lywodraeth Cymru os na fydd cytundeb
  • y cyfle i Weinidogion Llywodraeth Cymru weithio ar gynigion manwl ar gyfer ein perthynas â’r UE mewn meysydd pwnc penodol (ee cydweithredu ar wyddoniaeth ac arloesi)
  • croesawu’r gwelliant yng ngwaith y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar fframweithiau
  • Gwrandawiad Llys Cyfiawnder Ewrop ar wrthdroi Erthygl 50
  • Galwad ar holl aelodau’r grŵp i feithrin eu perthynas â’u partneriaid a’u rhwydweithiau presennol yn yr UE
  • mynegi pryderon ynghylch pasio deddfwriaeth yn ymwneud â Brexit cyn y diwrnod ymadael
  • tynnu sylw at bwysigrwydd y gweithlu ac uwchsgilio
  • mynegi pryderon ynghylch cydlyniant cymunedol.

4. Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ôl Brexit

Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyniad ar Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ôl Brexit a’r angen i reoli’r ansicrwydd a grëwyd gan Brexit ac yn fwy diweddar gytundeb arfaethedig Prif Weinidog y DU, y byddai angen i 27 gwlad yr UE a Senedd y DU ei gadarnhau. Amlinellodd y gweithgareddau y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd â hwy hyd yma a chadarnhaodd fod Gweinidogion a swyddogion yn parhau i gydweithio’n rhagweithiol â phartneriaid, rhanddeiliaid ac adrannau eraill y llywodraeth i geisio lliniaru effeithiau sefyllfa bosibl o ‘ddim cytundeb’.

Tanlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet bwysigrwydd cadw’r mynediad i’r Farchnad Sengl ac undeb tollau. Ategodd y byddai canlyniad Brexit ‘dim cytundeb’ yn annerbyniol ac y gallai wneud niwed sylweddol i les a ffyniant pobl Cymru am genedlaethau i ddod.

Soniodd Dr Chris Jones, Cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru am Glymblaid Cavendish a’r adroddiad yr oeddent wedi’i gomisiynu’n ddiweddar gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (NIESR) yn edrych ar Brexit a’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU.

Canolbwyntiodd trafodaeth y grŵp ar y canlynol:

  • pryderon ynglŷn â’r cyflenwad meddyginiaethau ar ôl Brexit, gan gynnwys storio meddyginiaethau sy’n achub bywydau
  • pryderon ynghylch cyflenwadau dyfeisiau meddygol a deunyddiau craidd clinigol ar ôl Brexit
  • y cyfle i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a staff prifysgolion a’u teuluoedd wneud cais am statws preswylio sefydlog
  • diogelwch a chadernid systemau TG ar ôl Brexit
  • pryderon ynghylch cynnal adnodd o feddygon teulu a sicrhau gwasanaethau ‘y tu allan i oriau’ ar ôl i’r DU ymadael â’r UE
  • cydnabod cymwysterau proffesiynol cyfatebol ar ôl mis Mawrth 2019
  • ystyried hawliau pobl anabl
  • safonau cynhyrchu bwyd
  • Gweinidog y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi diweddariad i aelodau’r grŵp ar y datblygiadau maes o law.

5. Trafodaeth ar Sefyllfa Brexit

Cyflwynwyd yr eitem gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ac roedd y sesiwn drafod yn canolbwyntio ar dri chwestiwn:

  • Beth all y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector ei wneud i sicrhau bod Cymru’n barod ar gyfer Brexit, yn enwedig os na fydd cytundeb
  • Beth mae angen i Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid ei wneud i sicrhau’r effaith fwyaf ac amddiffyn buddiannau Cymru mewn materion sy’n berthnasol i’r DU i gyd?
  • Beth allwn ni ei wneud gyda’n gilydd i sicrhau ein bod yn cynnal ein perthynas â’r Undeb Ewropeaidd, ond gan fynd ar drywydd cyfleoedd newydd gyda gweddill y byd yr un pryd?

Canolbwyntiodd trafodaeth y grŵp ar y canlynol:

  • anhawster cynllunio ar gyfer sefyllfa o ddim cytundeb a’r posibilrwydd o sefydlu ymyriadau llywodraethol newydd i helpu gyda hyn
  • pryderon ac ofnau y gallai canghennau o fusnesau rhyngwladol adleoli yn y dyfodol os na fydd modd negodi cytundeb derbyniol
  • pwysigrwydd buddsoddi mewn seilwaith ac uwchsgilio’r gweithlu
  • pryderon ynghylch cynnal diwydiannau dŵr Cymru a chyflenwadau o driniaethau cemegol o’r UE
  • pwysigrwydd cadw mynediad i Fanc Buddsoddi Ewrop ar ôl i’r DU ymadael â’r UE
  • trafodaeth am y Cronfeydd Pontio Ewropeaidd sydd wedi’u dyfarnu i CLlLC i helpu i gefnogi awdurdodau lleol gyda’u cynlluniau a’u parodrwydd ar gyfer Brexit
  • ansicrwydd ynghylch cynnydd mewn prisiau bwyd ac effaith hynny ar gadwyni cyflenwi a’r economi wledig, ac ar yr iaith a’r diwylliant Cymraeg yn sgil hynny
  • sut i sicrhau bod Cymru a’i chynhyrchion yn parhau’n ddeniadol i fuddsoddwyr ac i gwsmeriaid
  • pwysigrwydd cwmnïau allforio i economi Cymru, ystyriaeth o’r angen am gymorth ariannol i allforio, a’r defnydd posib o gyllid Pontio Ewropeaidd i helpu busnesau allforio
  • swyddogion Llywodraeth Cymru i siarad â chwmnïau yn fwy eang ynglŷn â phroses Brexit i’w helpu â chwestiynau a ofynnir iddynt gan eu cwsmeriaid tramor
  • pwysigrwydd rhoi gwybod am y Porthol Brexit i fusnesau ar draws y sectorau diwydiant
  • pryderon ynglŷn â sut bydd Cymru’n elwa ar Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU
  • sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n parchu’r addewidion a gafodd eu gwneud dro ar ôl tro i bobl Cymru na fyddai Cymru’n colli ceiniog yn sgil Brexit
  • camau lliniaru rhag ofn y bydd gwerth y bunt yn gostwng ar ôl Brexit, ardrethi masnachol a threth prynu digidol
  • pwysigrwydd defnyddio cyfalaf naturiol Cymru i ddatblygu marchnadoedd newydd
  • y cyfle i wneud pethau’n wahanol ac yn arloesol wrth inni ymadael â’r UE
  • cadw unrhyw berthnasoedd arbennig, gwneud y gorau o’n perthynas â rhanddeiliaid eraill yn y DU ac adeiladu arnynt, wrth inni ymadael â’r UE
  • effaith colli mynediad at gronfeydd Ewropeaidd ar brifysgolion Cymru, a’r newidiadau posibl i gostau ffioedd myfyrwyr ar ôl Brexit
  • system fisa bosibl
  • sicrhau bod Cymru’n parhau i edrych tuag allan a’i bod yn cymryd rhan lawn ar y llwyfan Ewropeaidd a rhyngwladol.

6. Y camau nesaf ac unrhyw fater arall

Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet wybod i’r aelodau y byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ddydd Iau 17 Ionawr yn Adeilad y Pierhead.

Rhannu’r dudalen hon