Yn bresennol

  • Huw Irranca-Davies AC – Cadeirydd
  • Jeremy Miles AC – Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit
  • Ken Skates AC – Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
  • Shan Morgan – Yr Ysgrifennydd Parhaol                          
  • Y Cyng. Rob Stewart – CLlLC/Arweinydd Cyngor Abertawe
  • David Jones OBE – Pennaeth a Phrif Weithredwr, Coleg Cambria
  • Michael Plaut – Cyn Gadeirydd, CBI Cymru
  • Kevin Roberts – Cadeirydd Hybu Cig Cymru
  • Martin Mansfield – Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru
  • Syr Emyr Jones Parry – Cyn Lywydd, Prifysgol Aberystwyth
  • Rachel Sharp – Prif Weithredwr, Ymddiriedolaethau Natur Cymru
  • Dr Chris Jones – Cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • Yr Athro Jo Hunt – Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd
  • Yr Athro Colin Riordan – Llywydd ac Is-ganghellor, Prifysgol Caerdydd
  • William Powell – Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ewrop yn y Pedwerydd Cynulliad
  • Alec Don – Cyn Brif Swyddog Gweithredol, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau

*Roedd nifer bach o swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn bresennol i gynorthwyo.

Ymddiheuriadau

  • Y Farwnes Ilora Finlay o Landaf – Tŷ'r Arglwyddi
  • Alison Lea-Wilson – Cyd-sylfaenydd Halen Môn
  • Ruth Marks MBE – Prif Weithredwr, Cyngor  Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Dr Hywel Ceri Jones – Cyn-lysgennad Cyllid yr UE
  • Jill Evans ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Nathan Gill ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Dr Kay Swinburne ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Derek Vaughan ASE – Aelod o Senedd Ewrop Yr Athro
  • Richard B. Davies – Is-Ganghellor, Prifysgol Abertawe
  • Kevin Crofton – Llywydd, SPTS Technologies Ltd
  • Tom Jones OBE – Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop (EESC)
  • Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd – Cyn Arglwydd Brif Ustus

1. Cyflwyniad

Agorodd Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, y cyfarfod a chroesawu aelodau'r Grŵp i'r pymthegfed cyfarfod.

Amlinellodd y Cadeirydd yr agenda, gan egluro y byddai'r cyfarfod yn cynnwys:

  • adroddiad ar y datblygiadau diweddaraf (y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit)
  • cyflwyniadau ar y goblygiadau ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol (y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit a Chyfarwyddwr Materion Cyfansoddiadol a Chysylltiadau Rhynglywodraethol, Llywodraeth Cymru)
  • a'r adroddiad diweddaraf am economi Cymru ar ôl Brexit (y Prif Economegydd, Llywodraeth Cymru a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth).

2. Y newyddion diweddaraf am y datblygiadau a'r negodiadau

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i roi'r newyddion diweddaraf i'r Grŵp am ddatblygiadau allweddol eraill ar lefel y DU ac ar lefel Cymru, gan gynnwys Negodiadau'r DU a pharatoadau Llywodraethau Cymru a'r DU.

Mynegodd y Gweinidog Brexit bryderon difrifol am y bygythiad gwirioneddol, pe bai Prif Weinidog y DU yn methu unwaith eto i gael rhagor o gefnogaeth ar gyfer ei Chytundeb Ymadael, y byddai'r DU yn wynebu ymadael heb gytundeb ddiwedd Mawrth. Roedd hyn o ganlyniad i anallu'r Prif Weinidog i adeiladu mwyafrif cynaliadwy o blaid ei chytundeb, a'i methiant i drafod mewn unrhyw ffordd ystyrlon â'r wrthblaid. Roedd yn aneglur o hyd a fyddai'r UE yn pwyso am estyniad byr neu un hir, ond roedd yr UE wedi dweud yn glir y byddai ond yn caniatáu estyniad pe bai cynllun clir neu ddiwygiedig yn ei le.

Pwysleisiodd ein bod ni, fel Llywodraeth gyfrifol, wedi parhau i ddwysau ein paratoadau ar lefel Cymru. Roedd y paratoadau yn canolbwyntio ar bedair prif ffrwd waith:

  • datblygu'r ddeddfwriaeth angenrheidiol i sicrhau bod llyfr statud gweithredol ar gael ar y diwrnod ymadael
  • gweithio gyda Llywodraeth y DU ar brosiectau paratoadau gweithredol
  • paratoadau Argyfyngau Sifil
  • a datblygu camau penodol yng Nghymru yn ychwanegol at y gwaith uchod ar fesurau ar draws y DU.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar y canlynol:

  • y mwy fyth o ansicrwydd y byddai estyniad hir/byr yn ei greu, yn arbennig ar gyfer busnesau
  • y posibilrwydd o estyniad hirach, lle byddai gofyn i'r DU gymryd rhan yn yr etholiadau ar gyfer Senedd Ewrop, a goblygiadau hyn
  • y posibilrwydd o ddirymu Erthygl 50 os yw ymadael heb gytundeb yn ymddangos yn anochel, a dechrau'r broses o'r newydd
  • pryderon am y niwed y mae'r ychydig dros ddwy flynedd ddiwethaf wedi'i achosi i enw da y DU yn fyd-eang
  • y Datganiad Gwleidyddol a'r gwaith helaeth y byddai angen ei wneud er mwyn i hyn fod yn dderbyniol
  • y camau sydd angen eu cymryd i ddiwygio OSau ymadael â’r UE os bydd estyniad i'r diwrnod ymadael. Cadarnhad y byddai'r dyddiad dod i rym yn gysylltiedig â'r 'diwrnod ymadael' ac yn newid yn awtomatig
  • y cyfle i wneud pethau'n wahanol ac yn arloesol pan fydd y DU yn ymadael â'r UE
  • y cyfle i godi proffil Cymru yn yr UE os bydd estyniad hirach
  • y cyfle i Gymru wrth symud at economi rhad-ar-garbon
  • cais am rannu cynlluniau paratoi rhag ofn byddwn yn ymadael heb gytundeb
  • yr angen i atgyfodi partneriaethau cymdeithasol a chynlluniau llwyddiannus a sefydlwyd gynt fel ProAct a ReAct yn wyneb y posibilrwydd o weld nifer sylweddol o gwmnïau'n cau a swyddi'n cael eu colli
  • y perygl o rannu gwybodaeth anghywir ar y cyfryngau cymdeithasol
  • galwadau gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ar i Lywodraeth y DU newid ei chynlluniau mewnfudo ar ôl Brexit a gostwng y trothwy cyflog o £30,000, oherwydd y sgil effeithiau ar staff rheng flaen y sector gofal cymdeithasol yn benodol.

3. Goblygiadau ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol a fframweithiau cyffredin

Cadarnhaodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit a'r Cyfarwyddwr Materion Cyfansoddiadol a Chysylltiadau Rhynglywodraethol bod Llywodraeth Cymru wedi parhau i alw am drawsnewid cysylltiadau rhynglywodraethol yng ngoleuni Brexit. Roedd y neges hon yn gyson â'n papur polisi Brexit a Datganoli, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2017, sy'n tynnu sylw at y ffaith bod deddfwrfeydd a llywodraethau datganoledig bellach wedi'u hen sefydlu ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli. Fel rhan o'r diwygiad yr oedd dirfawr ei angen ar gysylltiadau rhynglywodraethol roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnig system Cyngor Gweinidogion y DU, ar hyd yr un llinellau â Chyngor Gweinidogion yr UE.

Amlinellodd y Gweinidog y broses drafod ffurfiol drwy strwythurau Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, a oedd wedi bod yn amrywiol iawn hyd yma, ac angen ei diwygio. Ym mis Mawrth 2018, comisiynwyd adolygiad yn cynnwys y pedair gweinyddiaeth ddatganoledig. Er i bethau ddechrau yn araf, roedd bellach yn symud ymlaen ac yn ystyried egwyddorion, systemau a datrys anghydfodau ymysg materion eraill.

Yn fwy diweddar, gwahoddwyd Gweinidogion Llywodraeth Cymru i fod yn bresennol yng nghyfarfod Pwyllgor Cabinet Llywodraeth y DU am y tro cyntaf, ac roedd cyfarfodydd Gweinidogol pedairochrog wedi cychwyn am y tro cyntaf mewn meysydd polisi newydd fel Iechyd, yr Amgylchedd a Masnach.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar y canlynol:

  • papur polisi 'Brexit a Datganoli' Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn 2017, a oedd yn galw am lefel ddyfnach a mwy cyson o gydweithredu rhwng gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU ar ôl ymadael
  • yr angen i ddatblygu model 'cyd-lywodraethu' rhwng Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig, yn arbennig yng nghyd-destun y gorgyffwrdd rhwng cysylltiadau rhyngwladol a meysydd lle mae cymhwysedd wedi'i ddatganoli
  • pwysigrwydd cynnwys y pedair gweinyddiaeth ym mhob penderfyniad rhynglywodraethol
  • yr angen i ddatblygu gallu newydd mewn penderfyniadau ar y cyd ac adolygu'r holl systemau presennol
  • ystyried cysylltiadau rhyng-seneddol wrth ochr cysylltiadau rhynglywodraethol
  • anawsterau wrth golli mynediad at adroddiadau tystiolaeth Llys Cyfiawnder Ewrop a'r Comisiwn Ewropeaidd ar ôl Brexit
  • y pwerau fydd yn dychwelyd i Gymru a'r angen i egluro cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol ar ôl Brexit.

4. Economi Cymru ar ôl Brexit (y diweddaraf)

Darparodd Jonathan Price, Prif Economegydd Llywodraeth Cymru, yr wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp am bapur polisi Llywodraeth Cymru Dadansoddiad economaidd o gynigion llywodraeth y DU ar gyfer ymadael â’r UE a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2018.

Gan ddibynnu ar y math o Brexit, ac wrth gymharu ag argyfwng ariannol 2008, eglurodd Jonathan beth fyddai'r effaith ar economi Cymru yn y tymor byr a'r tymor hir.

Rhoddodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth gyflwyniad gan amlinellu'r cynllun o ran camau i'w cymryd ar ôl Brexit ar 29 Mawrth, yng nghyd-destun y Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Lluniwyd y cynllun i roi sylw i heriau Brexit a thueddiadau eraill, ac i feithrin yr amodau cywir ar gyfer economi Cymru nawr ac yn y dyfodol, gan osod uchelgais economaidd Llywodraeth Cymru  mewn ymgais i herio effaith negyddol Brexit.

Rhoddodd y Gweinidog yr wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y gwaith helaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i baratoi ar gyfer Brexit, a'r ffrydiau cyllido sylweddol sydd yn eu lle. Dywedodd y Gweinidog unwaith eto y byddai Brexit heb gytundeb yn drychinebus i Gymru ac y dylid gwneud popeth posib i'w osgoi. Fodd bynnag, pe bai hynny'n digwydd, byddai cymorth a mesurau priodol yn eu lle. Gan ddysgu gwersi o gyfnodau o ddirywiad economaidd yn y gorffennol, dywedodd y Gweinidog bod sefydliadau newydd Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru bellach ar gael i helpu i warchod yr economi a swyddi.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar y canlynol:

  • cynlluniau tymor byr Llywodraeth Cymru i herio effaith negyddol Brexit
  • uchelgais economaidd hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd cynaliadwy yng Nghymru
  • y gwaith helaeth sy'n mynd rhagddo i ddiogelu swyddi a bywoliaethau
  • y posibilrwydd o ddiddymu cyfyngiadau ar brentisiaethau i rai dros 25 oed
  • pwysigrwydd cydweithio a chysylltiadau parhaus gyda Llywodraeth y DU a chysylltu strategaethau
  • ystyried defnyddio pwerau amrywio trethi a newidiadau posib i ardrethi busnes
  • annog datblygu economaidd rhanbarthol a thimau rhanbarthol i wasanaethu pob rhan o Gymru
  • helpu busnesau bach a micro i baratoi, gan ystyried yr ansicrwydd a'r prinder adnoddau dynol sydd ar gael iddynt
  • pwysigrwydd parhau i weld cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, sefydliadau partner a rhanddeiliaid ar draws Cymru
  • diogelu'r economi at y dyfodol a buddsoddi yn niwydiannau yfory
  • edrych ar gymorth i sectorau lle gall Cymru arwain, fel ynni'r môr, ynni adnewyddadwy a diwydiannau lled-ddargludyddion
  • seilwaith cynaliadwy gan gynnwys ar gyfer cerbydau allyriadau isel
  • ysgogiad i helpu i gyrraedd y targed tai fforddiadwy
  • sut i fanteisio ar botensial enfawr amgylchedd Cymru a'n cyfalaf naturiol cyfoethog
  • yr angen i barhau i gefnogi cymunedau sydd wedi dioddef dad-ddiwydiannu, a'r bobl sy'n teimlo’n ynysig ac wedi'u difreinio
  • pwysigrwydd cyfathrebu clir i hysbysu'r cyhoedd yn ehangach wrth i ddigwyddiadau godi.

5. Y camau nesaf ac unrhyw fater arall

Cyflwynodd y Cadeirydd grynodeb o'r cyfarfod gan gadarnhau'r canlynol:

  • byddai'n trefnu i ddosbarthu rhai prif negeseuon i aelodau'r Grŵp Cynghori ar Ewrop yn brydlon i'w dosbarthu ymhellach i rwydweithiau a phartneriaid (atodiad)
  • byddai'n ystyried amserlenni trafodaeth yn y dyfodol ar gyllid Banc Buddsoddi Ewrop
  • byddai'n ystyried gwahodd Lee Waters AC, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i siarad yng nghyfarfod y Grŵp Cynghori ar Ewrop yn y dyfodol yn rhinwedd ei rôl fel arweinydd cyfathrebu
  • bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gweithgor ac y byddai'n cyfarfod ar 9 Ebrill i ystyried datblygu dadansoddiad o'r gydberthynas rhwng cyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop ac Erasmus. Byddai'n darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer y cyfarfod nesaf
  • byddai'n trefnu i ddosbarthu cymalau arfaethedig Llywodraeth Cymru i'r Bil Cytundeb Ymadael
  • byddai Llywodraeth Cymru yn parhau â'r gwaith helaeth y mae'n ei wneud yn fewnol a chyda rhanddeiliaid allanol i baratoi ar gyfer sefyllfa Brexit dim cytundeb os daw i'r gwaethaf
  • byddai Eluned Morgan AC, yn rhinwedd ei rôl  fel Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, yn dod i un o gyfarfodydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop yn y dyfodol
  • dylai'r Grŵp Cynghori ar Ewrop barhau i sicrhau bod ei lais yn cael ei glywed ym mhob penderfyniad a fyddai'n effeithio ar Gymru ar ôl Brexit.
  • byddai'n ystyried yr awgrym o drafodaeth ar swyddogaeth cymdeithas sifil  dylai'r Grŵp ystyried adolygiad o'i Gylch Gorchwyl, ei aelodaeth a gweithgareddau'r Grŵp maes o law
  • bod cyfarfod nesaf y Grŵp Cynghori ar Ewrop wedi'i amserlennu ar gyfer 11 Ebrill – gwybodaeth bellach maes o law.