Yn bresennol

  • Huw Irranca-Davies AC – Cadeirydd
  • Jeremy Miles AC – Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (drwy gyswllt fideo)
  • Lee Waters AC – Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
  • Y Farwnes Ilora Finlay o Landaf – Tŷ'r Arglwyddi
  • Y Cyng. Rob Stewart – CLlLC/Arweinydd Cyngor Dinas Abertawe
  • David Jones OBE – Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Cambria
  • Michael Plaut – Cyn Gadeirydd CBI Cymru
  • Kevin Roberts – Cadeirydd Hybu Cig Cymru (HCC)
  • Martin Mansfield – Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru
  • Syr Emyr Jones Parry – Cyn Lywydd Prifysgol Aberystwyth
  • Alison Lea-Wilson MBE – Cyd-sylfaenydd Halen Môn (drwy gyswllt fideo)
  • Rachel Sharp – Prif Weithredwr Ymddiriedolaethau Natur Cymru
  • Dr Chris Jones – Cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • Yr Athro Jo Hunt – Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd
  • Ruth Marks MBE – Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Alec Don – Cyn Brif Swyddog Gweithredol - Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau
  • Dr Hywel Ceri Jones – Cyn-lysgennad Cyllid yr UE

*Roedd nifer bach o swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn bresennol i gynorthwyo.

Ymddiheuriadau

  • Jill Evans ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Nathan Gill ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Dr Kay Swinburne ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Derek Vaughan ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Yr Athro Richard B. Davies – Is-Ganghellor, Prifysgol Abertawe
  • Kevin Crofton – Llywydd, SPTS Technologies Ltd
  • Yr Athro Colin Riordan – Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd
  • William Powell – Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ewrop yn y Pedwerydd Cynulliad
  • Tom Jones OBE – Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop (EESC)
  • Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd – Cyn Arglwydd Brif Ustus

1. Cyflwyniad

Agorodd Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, y cyfarfod a chroesawu aelodau'r Grŵp i'r pedwerydd cyfarfod ar ddeg.

Amlinellodd y Cadeirydd yr agenda ac eglurodd y byddai'r cyfarfod yn cynnwys:

  • Y datblygiadau diweddaraf (Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit)
  • cyflwyniadau ar Ddiweddariad Brexit o ran yr Economi a Thrafnidiaeth (Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth)
  • Cymru: Diogelu ymchwil ac arloesi ar ôl gadael yr UE (Y Prif Gynghorydd Gwyddonol)
  • a'r Diweddaraf ar Filiau a Deddfwriaeth Ymadael â’r UE (Cyfarwyddwr Strategaeth Brexit, Llywodraeth Cymru).

2. Y newyddion diweddaraf am y datblygiadau a'r negodiadau

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i roi'r newyddion diweddaraf i'r Grŵp am ddatblygiadau allweddol ar lefel y DU a lefel Cymru, gan gynnwys negodiadau'r DU a gweithgareddau Parodrwydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Ailadroddodd y Gweinidog Brexit ei bryderon bod y ffaith bod y negodiadau wedi'u camdrafod gan y DU yn peryglu ein dyfodol ac yn arwain at risg o ganlyniad ‘dim cytundeb’, y dylid ei osgoi ar bob cyfrif. Roedd yn parhau i fod yn aneglur pa gonsesiynau yr oedd Llywodraeth y DU yn gobeithio eu cael o Frwsel, gan fod yr UE27 wedi nodi'n glir na fyddent yn ailagor y Cytundeb Ymadael, a bod y backstop yn elfen allweddol o'r cytundeb hwnnw.

Pwysleisiodd bod Llywodraeth Cymru wedi parhau i fanteisio ar bob cyfle i gyfarfod gyda Llywodraeth y DU i nodi'r hyn yr ydym yn ei ystyried fel y ffordd gywir ymlaen. O ran parodrwydd ar lefel Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i gyflymu paratoadau gan ganolbwyntio ar bedwar prif faes gwaith: datblygu'r ddeddfwriaeth angenrheidiol i sicrhau bod llyfr statud sy'n gweithredu ar y diwrnod ymadael; gweithio gyda Llywodraeth y DU ar brosiectau parodrwydd gweithredol; paratoadau Argyfyngau Sifil; a datblygu camau gweithredu penodol yng Nghymru yn ogystal â gwaith ar fesurau'r Deyrnas Unedig.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar y canlynol:

  • adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru a gyhoeddwyd ar 19 Chwefror ar y paratoadau rhag ofn na fydd cytundeb
  • pryderon cynyddol gan fusnesau ynglŷn â'r ansicrwydd parhaus ynghylch canlyniad negodiadau Brexit
  • y costau sylweddol o baratoi ar gyfer sefyllfa bosib lle na cheir cytundeb
  • rhaglenni a ariennir gan yr UE - Horizon, Erasmus a phwysigrwydd sicrhau mynediad parhaus iddynt
  • pryderon ynghylch y diffyg gwybodaeth parhaus gan Lywodraeth y DU ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin
  • pryderon ynghylch effaith cytundebau masnach i'r dyfodol ar y sector defaid ac yn benodol y ddadl ynghylch tariffau mewnforio yn erbyn dyraniadau cwota a'r effaith ar gynhyrchwyr a defnyddwyr o ganlyniad i hyn;   y cyfle i wneud pethau yn wahanol ac yn arloesol ym mhob sector wrth i ni ymadael â'r UE
  • trafodaeth ynghylch sut berthynas y dylem ei chael â'r UE ar ôl Brexit
  • sefydlu agenda a pholisïau penodol i Gymru
  • trafodaethau a phleidleisiau Seneddol yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 25 Chwefror a'r camau nesaf posibl
  • yr angen am strategaeth glir ynghylch yr hyn y bwriedir ei gyflawni, os gofynnir am estyniad i Erthygl 50
  • pryderon ynghylch gofal iechyd a chardiau yswiriant iechyd teithio ar ôl Brexit
  • yr angen am gynllun llywodraeth gyfan clir i gefnogi busnesau i'r dyfodol mewn senario 'gyda chytundeb' neu 'heb gytundeb'.

3. Diweddariad Brexit o ran yr Economi a Thrafnidiaeth

Rhoddodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth gyflwyniad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau ar y gwaith helaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i baratoi ar gyfer Brexit. Ailadroddodd y Gweinidog y byddai Brexit heb gytundeb yn cael effaith negyddol dros ben ar weithwyr, busnesau, addysg uwch a phellach, ac economi Cymru. Pwysleisiodd ein bod eisoes yn gweld effaith dwy flynedd o ansicrwydd, gan fod Cymru wedi dioddef lleihad yn nifer y cwmnïau sy'n gwneud penderfyniad terfynol i fuddsoddi yma - gyda llawer ohonynt yn nodi ansicrwydd ynghylch Brexit fel rheswm allweddol.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar y canlynol:

  • cymorth ar gyfer yr Economi Sylfaenol - y sefydliadau, BBaChau, microfusnesau a mentrau cymdeithasol sydd wedi'u gwreiddio yn ein cymunedau lleol
  • ansicrwydd ynglŷn â'r hyn y mae busnesau bach yn ei wneud i baratoi ar gyfer sefyllfa o ddim cytundeb a'r angen i'r gymuned fusnes feddwl yn radicalaidd ynglŷn â pharatoi ar gyfer senario o'r fath
  • sut y gall fusnesau bach a microfusnesau baratoi, o ystyried yr ansicrwydd a'r diffyg adnoddau dynol sydd ar gael iddynt
  • ystyried adnabod polisïau y gellir rhoi blaenoriaeth is iddynt o ganlyniad i'r posibilrwydd o golli arian strwythurol a'r angen i gyflwyno polisïau newydd
  • pwysigrwydd cydweithrediad ymchwil rhyngwladol parhaus
  • ystyried pa fath o Gymru yr ydym ei heisiau i'r dyfodol, fel y cyfeiriwyd ato yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)
  • ystyried cefnogaeth ar gyfer ardaloedd dan anfantais economaidd a mynd i'r afael ag anfodlonrwydd mewn ardaloedd ôl-ddiwydiannol
  • cynnydd pellach ar yr agenda Gwaith Teg
  • pwysigrwydd cydweithredu parhaus rhwng Llywodraeth Cymru, sefydliadau partner a rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru wrth i ni ddatblygu cynlluniau i ymateb i Brexit fel y nodwyd yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi.

4. Cymru: Diogelu Ymchwil ac Arloesi ar ôl Ymadael â'r UE

Rhoddodd y Prif Gynghorydd Gwyddonol gyflwyniad yn sefydlu'r diben sy'n gefndir i bapur polisi diweddaraf Llywodraeth Cymru - Cymru: Diogelu Ymchwil ac Arloesi ar ôl Ymadael â'r UE. Ailadroddodd bwysigrwydd cynnal y sylfaen ymchwil yng Nghymru, sydd y mwyaf effeithlon yn y DU. Cyfeiriodd hefyd at effaith yr ymchwil a gyhoeddwyd yng Nghymru sy'n perfformio yn well na'r DU a sawl gwlad o faint cyffelyb yn rhyngwladol. Cadarnhaodd hefyd bod ymadael â'r UE yn debygol o gael effaith sylweddol ar bob agwedd ar weithgarwch ymchwil ac arloesi Cymru.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar y canlynol:

  • y posibilrwydd o golli arian strwythurol yr UE a'r effaith y byddai hyn yn ei gael ar sector ymchwil rhagorol Cymru
  • y bygythiad o golli mynediad at raglenni'r UE – Erasmus a Horizon – ar adeg pan fo'r UE yn cynyddu'r gyllideb sydd ar gael i'r rhaglenni hyn
  • ein perthynas â Banc Buddsoddi Ewrop yn y dyfodol
  • pryderon ynghylch cyfyngu’r cydweithredu rhyngwladol ar ymchwil, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol
  • y posibilrwydd o gael mynediad at wybodaeth am gyfanswm y gwariant yn ôl sector – fel y sectorau gofal iechyd, amaethyddiaeth a'r amgylchedd
  • pryderon gan elusennau penodol ynghylch yr effaith bosibl ar gydweithredu yn y dyfodol yn y trydydd sector
  • y rhwystrau i recriwtio myfyrwyr ymchwil o Ewrop
  • rhwystrau ychwanegol i recriwtio staff talentog o Ewrop
  • llai o gyfleoedd i staff a myfyrwyr fynd i wledydd eraill
  • difrod i enw da rhagorol Cymru yn rhyngwladol.

5. Y Diweddaraf ar Filiau a Deddfwriaeth Ymadael â’r UE

Cafodd y Grŵp yr wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd o ran deddfwriaeth sy'n ymwneud â Brexit.

Ymarfer mawr iawn i 'gywiro' deddfwriaeth sy’n deillio o’r UE, i sicrhau y gallai weithredu ar ôl Brexit. Polisi arferol Llywodraeth Cymru yw mai cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru yw deddfu dros Gymru pan fo'r pwerau yn gorffwys yn eu dwylo. Ond, yn amgylchiadau eithriadol Brexit, cytunwyd y byddem yn gweithio yn agos gyda Llywodraeth y DU ar hyn. O ganlyniad, rhagwelwyd y byddai Llywodraeth y DU yn gwneud 140 o Offerynnau Statudol (OS) mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru, ac y byddai angen cydsyniad Gweinidogion Cymru iddynt dan delerau'r Cytundeb Rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Hyd yma, cydsyniwyd i 123 OS ar amser, a rhagwelwyd, yn ychwanegol, y byddai 42+ o OSau Cymru yn cael eu gwneud yn y Cynulliad Cenedlaethol: mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo yn brydlon. Mae 29 OS, neu bob un o'r OSau negyddol y cadarnhawyd y byddwn yn eu cynnig, wedi cael eu gosod gerbron Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad (CLAC), er mwyn iddynt ddod i rym erbyn y diwrnod ymadael. Bydd gweddill yr OSau yn cael eu gwneud dan weithdrefn gadarnhaol a byddai pob un ond llond llaw ohonynt yn cael eu cyflwyno erbyn 29 Mawrth.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar y canlynol:

  • sut yr oedd y gweithgaredd hwn yn ymwneud â'r fframweithiau cyffredin
  • pryderon y byddai 80% o ddeddfwriaeth y sector amgylcheddol yn cael ei effeithio gan Brexit ac a yw'r 'cywiriadau' i'r ddeddfwriaeth sy’n deillio o’r UE yn darparu diogelwch cyfwerth
  • pryderon hefyd ynghylch diffyg eglurder a chywerthedd unrhyw sefydliad a ddaw yn lle Llys Cyfiawnder Ewrop o ran sicrhau bod hawliau a chyfrifoldebau amgylcheddol yn cael eu parchu
  • pryderon ynghylch pwerau Harri'r Wythfed a'r effaith ar y setliad datganoli.

6. Y camau nesaf ac unrhyw fater arall

Crynhodd y Cadeirydd y cyfarfod a chadarnhau’r canlynol:

  • byddai'n trefnu i gylchredeg ychydig o negeseuon allweddol yn brydlon i aelodau’r Grŵp Cynghori ar Ewrop i'w lledaenu ymhellach i'w rhwydweithiau a'u partneriaid (atodol)
  • byddai'n ystyried amserlennu trafodaeth yn y dyfodol ar gyllid Banc Buddsoddi Ewrop
  • byddai'n ystyried sut i symud ymlaen â chais i ddadansoddi'r gydberthynas rhwng arian Cronfa Gymdeithasol Ewrop ac Erasmus (darn o waith cymharol ar y berthynas rhwng ERDF a Horizon)
  • Byddai Llywodraeth Cymru yn parhau â'r gwaith helaeth y mae yn ei wneud yn fewnol a chyda rhanddeiliaid allanol i baratoi ar gyfer sefyllfa Brexit 'dim cytundeb' os daw i'r gwaethaf
  • bydd Eluned Morgan AC, yn rhinwedd ei rôl newydd fel Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, yn mynychu cyfarfod y Grŵp ar 23 Mai
  • bod y Grŵp yn parhau i sicrhau bod ei lais yn cael ei glywed yn yr holl benderfyniadau a wneir a fydd yn effeithio ar Gymru ar ôl Brexit
  • dylai'r Grŵp ystyried adolygu ei Gylch Gorchwyl, ei aelodaeth a’i weithgareddau maes o law
  • mae cyfarfod nesaf y Grŵp wedi'i drefnu ar gyfer 21 Mawrth – gwybodaeth bellach i'w rhoi maes o law.