Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Mark Drakeford AC – (Cadeirydd) Ysgrifennydd y Cabinet Dros Gyllid
  • Rebecca Evans AC – Y Gweinidog Tai ac Adfywio
  • Kirsty Williams AC – Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
  • Y Farwnes Ilora Finlay o Landaf – Tŷ'r Arglwyddi
  • Kevin Crofton – Llywydd, SPTS Technologies Ltd
  • Yr Athro Colin Riordan – Llywydd ac Is-ganghellor, Prifysgol Caerdydd
  • Dr Hywel Ceri Jones – Cyn-lysgennad Cyllid yr UE
  • William Powell – Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ewrop yn y Pedwerydd Cynulliad
  • Ruth Marks MBE – Prif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Syr Emyr Jones Parry – Llywydd, Prifysgol Aberystwyth
  • Alison Lea-Wilson – Cyd-sylfaenydd Halen Môn
  • Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd – Cyn Arglwydd Brif Ustus
  • Rachel Sharp – Prif Weithredwr, Ymddiriedolaethau Natur Cymru
  • Y Cyng. Rob Stewart – CLlLC/Arweinydd Cyngor Abertawe
  • Julie Morgan AM – Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru Gyfan
  • Dr Chris Jones – Cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • Dr Jo Hunt – Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd
  • Alec Don – Prif Swyddog Gweithredol Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau

*Roedd nifer bach o swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn bresennol i gynorthwyo.

Ymddiheuriadau

  • Jill Evans ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Nathan Gill ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Dr Kay Swinburne ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Derek Vaughan ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Tom Jones OBE – Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop (EESC)
  • Yr Athro Richard B. Davies – Is-Ganghellor, Prifysgol Abertawe
  • David Jones OBE – Pennaeth a Phrif Weithredwr, Coleg Cambria
  • Michael Plaut – Cadeirydd, CBI Cymru
  • Kevin Roberts – Cadeirydd Hybu Cig Cymru
  • Martin Mansfield – Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru

1. Cyflwyniad

Agorodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid y cyfarfod a chroesawu aelodau'r Grŵp Cynghori ar Ewrop i'r unfed cyfarfod ar ddeg. Croesawodd hefyd Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio; yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd; ac Alison Lea-Wilson, Halen Môn, a wahoddwyd i ymuno â'r Grŵp.

Amlinellodd yr Ysgrifennydd Cabinet yr agenda, ac eglurodd y byddai'r cyfarfod yn cynnwys:

  • cyflwyniadau gan Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio
  • y Farwnes Ilora Finlay o Landaf, Tŷ'r Arglwyddi - Sylwadau o Senedd y DU
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar Addysg ar ôl Brexit
  • Alec Don, Prif Weithredwr Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau - Brexit: Safbwynt y Porthladdoedd.

2. Negodiadau'r UE a Fforwm y Gweinidogion

Rhoddodd y Gweinidog Tai ac Adfywio yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Fforwm y Gweinidogion, gan amlinellu diben y Fforwm a'i swyddogaeth hi yn benodol. Rhoddodd y Gweinidog fanylion am y pedwar cyfarfod a gynhaliwyd hyd yma, a'r pynciau a drafodwyd ym mhob un o'r cyfarfodydd. Eglurodd hefyd sut mae'r Fforwm yn helpu i symud y negodiadau rhwng yn DU a'r UE yn eu blaen.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar y canlynol:

  • cynigion aelodau'r Grŵp Cynghori ar Ewrop i ddarparu rhagor o dystiolaeth am faterion yn eu sectorau yn ôl y gofyn ar gyfer cyfarfodydd Fforwm y Gweinidogion yn y dyfodol
  • awgrymiadau am eitemau agenda ar gyfer cyfarfodydd Fforwm y Gweinidogion yn y dyfodol
  • cyfarfodydd gydag aelodau'r Grŵp Cynghori ar Ewrop i ddeall materion sy'n codi a phryderon unigol
  • pwysigrwydd asesiad i fonitro effaith Brexit ar draws pob sector
  • pwysigrwydd cynnwys y Gweinyddiaethau Datganoledig a chynrychioli pryderon Cymru yng nghyfarfodydd Fforwm y Gweinidogion
  • pwysigrwydd osgoi sefyllfa o ymadael heb gytundeb dan unrhyw amgylchiadau
  • telerau ac amodau cyfnod pontio
  • y berthynas â Banc Buddsoddi Ewrop yn y dyfodol.

3. Y Datblygiadau Diweddaraf

Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wybodaeth i'r grŵp am y datblygiadau diweddaraf ar lefel y DU ac yng Nghymru. Roedd y prif agweddau'n cynnwys cyfarfod Llywodraeth y DU yn Chequers a chyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth y DU; sefyllfa bosib o ymadael heb gytundeb a'n hymdrechion o ran parodrwydd gweithredol i liniaru effeithiau posibl; a Mudo.

Ymysg y meysydd dan sylw, roedd y canlynol:

  • pryderon am gyflwr y negodiadau rhwng y DU a'r UE ar yr adeg hanfodol hon yng nghalendr Brexit
  • cydnabyddiaeth y dylai safbwynt y DU symud ymhellach i osgoi sefyllfa o ymadael heb gytundeb
  • wrth i'r amserlen lithro, galw ar y DU i ofyn i'r UE gynnig mwy o hyblygrwydd o ran amseru i sicrhau cytundeb manteisiol i'r ddwy ochr rhwng y DU a'r UE
  • cydnabyddiaeth bod cytundeb Chequers yn gadael materion pwysig heb eu datrys, yn arbennig y Farchnad Sengl, Undeb Tollau a'r ffin ag Iwerddon
  • yn y byd go-iawn, nid yw nwyddau a gwasanaethau bellach yn cael eu gwahanu
  • cydnabyddiaeth, er gwaethaf ein hargyhoeddiad bod rhaid cael cytundeb boddhaol, bod dyletswydd arnom i baratoi ar gyfer y sefyllfa waethaf bosib
  • cydweithio â phartneriaid ar hapddigwyddiadau sifil
  • ystyried cydlyniant cymdeithasol a'r effaith bosib ar blismona
  • ein nod o weld trafodaethau Brexit yn arwain at y canlyniad gorau posib - neu'r canlyniad lleiaf niweidiol - i Gymru
  • cydnabyddiaeth o'r cyfraniad cadarnhaol y mae dinasyddion yr UE yn ei wneud i fywyd bob dydd yng Nghymru; o'r staff academaidd yn ein prifysgolion i'r unigolion sy'n gweithio yn ein GIG, a'r gyfran sylweddol o wladolion yr UE sy'n gweithio yn ein diwydiant twristiaeth ffyniannus a'r sectorau gweithgynhyrchu
  • adroddiad terfynol a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo – EEA: Migration in the UK, a'i ystyriaeth o drefn fisâu, targedau, llafur â sgiliau o gymharu â heb sgiliau, a symud i system lle mae'r holl fudo'n cael ei reoli heb unrhyw driniaeth ffafriol i ddinasyddion yr UE.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar y canlynol:

  • gallu Prif Weinidog y DU i gael cytundeb ei phlaid ei hun i symud ymlaen â chytundeb Chequers
  • y camau nesaf i Lywodraeth Cymru os na fydd cytundeb
  • negodiadau rhwng Llywodraeth y DU a'r UE a rhan y Gweinyddiaethau Datganoledig yn y broses
  • trafodaethau am waith Parodrwydd Llywodraeth Cymru
  • y posibilrwydd i ymestyn dyddiad presennol Brexit
  • pwysigrwydd gwladolion yr UE i economi Cymru a'r angen i gadw gweithlu'r UE sy'n chwarae rhan bwysig mewn sectorau allweddol.

Mae papur 'Y Datblygiadau Diweddaraf' ynghlwm yn Atodiad 1.

4. Sylwadau o Senedd y DU

Rhoddodd y Farwnes Ilora Finlay o Dŷ'r Arglwyddi gyflwyniad - Sylwadau o Senedd y DU, gan roi cipolwg ar farn wrthrychol y Senedd am y negodiadau a'r hyn sydd ei angen gan y DU a'r UE i gyrraedd sefyllfa sy'n dderbyniol i'r ddwy ochr.

5. Addysg ar ôl Brexit

Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gyflwyniad - Addysg ar ôl Brexit, yn crynhoi'r materion sy'n wynebu'r sectorau Addysg Bellach ac Addysg Uwch. Amlinellodd y gwaith helaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i ddeall yr effeithiau posibl a'r hyn yr ydym yn ei wneud i ymbaratoi. Pwysleisiodd bwysigrwydd ei phortffolio a'i gyfraniad i adeiladu gallu a chadernid unigolion a sefydliadau sy'n dygymod ag effeithiau Brexit.

Siaradodd yr Athro Colin Riordan, Prifysgol Caerdydd am effaith sefyllfa bosib o ymadael heb gytundeb ar Sefydliadau Addysg Uwch.

Edrychwyd hefyd ar bapur ynghylch materion sy'n codi i Addysg Bellach a rannwyd gyda'r aelodau ar ran David Jones OBE, Coleg Cambria, yn ei absenoldeb.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar y canlynol:

  • cyfraniad sylweddol cronfeydd Ewropeaidd i raglenni sgiliau
  • ffynonellau cymorth posib yn lle cyllid Ewropeaidd, a sicrhau na fydd Cymru ar ei cholled o ganlyniad i Brexit
  • y camau sydd angen eu cymryd i roi sylw i'r prinder sgiliau mewn sectorau penodol - ffermio, twristiaeth, gofal cymdeithasol
  • mynediad at raglenni'r UE - Erasmus+ a Horizon 2020 – ar adeg pan fo'r UE yn cynyddu'r gyllideb sydd ar gael i'r rhaglenni hyn
  • ystyried asesu effaith colli mynediad at gronfeydd yr UE ar brifysgolion Cymru
  • yr angen i barhau i gydweithio'n agos â'r sectorau i adnabod y prif faterion sy'n codi
  • goblygiadau statws trydedd wlad ar gyfer rhwydweithiau a phartneriaethau yn y dyfodol
  • cynnal gallu'r sector Addysg Uwch i gystadlu mewn sector cystadleuol yn fyd-eang
  • ar nodyn cadarnhaol, mae gan y sector Addysg Uwch enw rhagorol ar draws y byd, a gellir adeiladu arno
  • hyrwyddo ein cynnyrch addysgol i'r byd, er enghraifft drwy Global Wales a chynnal lefelau uchel o recriwtio myfyrwyr o'r UE
  • parhau i gael perthynas gadarn â Gweithgor Addysg Uwch Brexit a grwpiau eraill y DU
  • ystyried yr ysgolion sy'n debyg o gael eu dal gan yr effaith bosib ar gaffael, cydlyniant cymdeithasol a llesiant myfyrwyr
  • cynllunio wrth gefn rhag ofn byddwn yn ymadael heb gytundeb.

6. Brexit: Safbwynt y Porthladdoedd

Rhoddodd Alec Don, Prif Weithredwr Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, gyflwyniad - Brexit: Safbwynt y Porthladdoedd, gan roi cipolwg ar rôl y Porthladd a lefel y fasnach ryngwladol sy'n teithio drwy Borthladdoedd. Cadarnhaodd bod 95% o'r nwyddau sy'n cael eu masnachu i mewn ac allan o'r wlad yn mynd drwy'r Porthladdoedd, a'u bod yn rhan hanfodol o'r seilwaith cenedlaethol gan chwarae rhan allweddol wrth sicrhau economi ffyniannus. Mae'r Porthladd yn hyrwyddo morgludiant fel y cyfrwng trafnidiaeth sy'n effeithio leiaf ar yr amgylchedd, ar y cyfan.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar y canlynol:

  • porthladdoedd fel rhyngwyneb rhwng y tir a'r môr
  • ymagwedd at bysgodfeydd, cwotâu a llongau pysgota sy'n glanio ym mhorthladdoedd Cymru
  • yr effaith y byddai Brexit yn ei chael ar y porthladdoedd o ran tariffau a fisâu
  • y cysyniad o ardal porthladd masnach rydd, ac mewn cystadleuaeth gydag eraill, sicrhau bod porthladdoedd yn ddeniadol i fusnesau a buddsoddiad
  • cynllunio ar gyfer seilwaith/porthladdoedd ar sail datblygu cynaliadwy
  • rôl y porthladdoedd yn ysgogi ffyniant economaidd yng Nghymru a'r amodau angenrheidiol i gynhyrchu twf ehangach i fusnesau ar ôl Brexit
  • pwysigrwydd y sector i Gymru a'i gallu i feithrin perthynas fasnachu newydd a thwf dan arweiniad gweithgynhyrchu yn y dyfodol i gryfhau economi Cymru.

7. Y camau nesaf ac unrhyw fater arall

Hysbysodd yr Ysgrifennydd Cabinet yr Aelodau bod dyddiad y cyfarfod nesaf wedi'i newid o'r 15fed i'r 22ain o fis Tachwedd.

Rhannu’r dudalen hon