Yn bresennol

  • Huw Irranca-Davies AC – Cadeirydd
  • Jeremy Miles AC – Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit
  • Mark Drakeford AC – Prif Weinidog Cymru
  • Rebecca Evans AC – Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
  • Y Farwnes Ilora Finlay o Landaf – Tŷ'r Arglwyddi
  • William Powell – Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ewrop yn y Pedwerydd Cynulliad
  • Y Cyng. Rob Stewart – CLlLC/Arweinydd Cyngor Abertawe
  • David Jones OBE – Pennaeth a Phrif Weithredwr, Coleg Cambria
  • Michael Plaut – Cyn Gadeirydd, CBI Cymru
  • Kevin Roberts – Cadeirydd Hybu Cig Cymru
  • Martin Mansfield – Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru
  • Tom Jones OBE – Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop (EESC)
  • Syr Emyr Jones Parry – Llywydd, Prifysgol Aberystwyth
  • Alison Lea-Wilson – Cyd-sylfaenydd Halen Môn
  • Rachel Sharp – Prif Weithredwr, Ymddiriedolaethau Natur Cymru
  • Dr Chris Jones – Cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • Yr Athro Jo Hunt – Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd
  • Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd – Cyn Arglwydd Brif Ustus
  • Ruth Marks MBE – Prif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

*Roedd nifer bach o swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn bresennol i gynorthwyo.

Ymddiheuriadau

  • Jill Evans ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Nathan Gill ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Dr Kay Swinburne ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Derek Vaughan ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Yr Athro Richard B. Davies – Is-Ganghellor, Prifysgol Abertawe
  • Kevin Crofton – Llywydd, SPTS Technologies Ltd
  • Yr Athro Colin Riordan – Llywydd ac Is-ganghellor, Prifysgol Caerdydd
  • Dr Hywel Ceri Jones – Cyn-lysgennad Cyllid yr UE
  • Alec Don – Cyn Prif Swyddog Gweithredol. Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau

1. Cyflwyniad

Agorodd Huw Irranca-Davies AC, a gafodd ei benodi'n ddiweddar yn Gadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop yn sgil yr ad-drefnu diweddar, y cyfarfod a chroesawu aelodau'r Grŵp Cynghori ar Ewrop i'r trydydd cyfarfod ar ddeg.

Amlinellodd y Cadeirydd yr agenda ac esbonio y byddai'r cyfarfod yn cynnwys:

  • Diweddariad ar ddatblygiadau a negodiadau (Y Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit)
  • Cynllunio Wrth Gefn (Reg Kilpatrick)
  • Chyfathrebu (Leon Griffiths)
  • eitem ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Chronfa Bontio'r UE (cyflwyniad gan Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd).

2. Y newyddion diweddaraf am y datblygiadau a'r negodiadau

Gwahoddodd y Cadeirydd y Prif Weinidog i annerch y Grŵp.

Rhoes Prif Weinidog Cymru'r newyddion diwdaraf am wrthodiad Tŷ'r Cyffredin o Gytundeb Ymadael / Datganiad Gwleidyddol Prif Weinidog y DU ar 15 Ionawr. Ailddatganodd nad yw'r cytundeb hwn ddim byd tebyg i'r model ar gyfer y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol a nodwyd ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru Diogelu Dyfodol Cymru, sef y math lleiaf niweidiol o Brexit o hyd. Byddai hynny'n cynnwys cymryd rhan yn y Farchnad Sengl ac mewn Undeb Tollau. Mynegodd Prif Weinidog Cymru ei bryderon difrifol hefyd am y posibilrwydd na fyddai cytundeb o gwbl, a bod rhaid osgoi'r sefyllfa hon ar bob cyfrif.

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit wedyn i roi'r newyddion diweddaraf i'r Grŵp am ddatblygiadau allweddol eraill ar lefel y DU a lefel Cymru, gan gynnwys:

  • Y ddadl yn y Cynulliad Cenedlaethol a’r penderfyniad i wrthod Cytundeb Ymadael / Datganiad Gwleidyddol Prif Weinidog y DU ar 4 Rhagfyr 2018
  • Cyfarfod Llawn Cyd-bwyllgor y Gweinidogion â Phrif Weinidog y DU lle'r oedd Prif Weinidog Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit yn bresennol ar 19 Rhagfyr.
  • Cyfarfu'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit a Mike Russell, Ysgrifennydd y Cabinet dros Fusnes y Llywodraeth a Chysylltiadau Cyfansoddiadol yn Llywodraeth yr Alban ag ystod o Weinidogion Llywodraeth y DU i drafod parodrwydd ar gyfer Brexit ar 19 Rhagfyr.
  • y Papur Gwyn ar Fewnfudo a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar 19 Rhagfyr
  • Y ddadl a'r bleidlais ystyrlon ar 15 Ionawr a'r camau posibl nesaf.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar y canlynol:

  • Canlyniadau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid sy'n datgelu'r effaith debygol ar sectorau diwydiant yng Nghymru a'r nifer mawr o bobl heb gymwysterau a sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn dioddef yn sgil Brexit a'r angen i atgyfodi partneriaethau cymdeithasol a chynlluniau llwyddiannus a sefydlwyd gynt - sef ProAct a ReAct
  • pryderon bod dwy flynedd wedi mynd heibio a bod rhaid i Gymru geisio dylanwadu ar y DU gan na allwn baratoi Cymru ar ein pennau ein hunain. Rhaid i Lywodraeth y DU weithio gyda ni os ydym am sicrhau'r cytundeb gorau posib i'r DU yn gyfan
  • a ddylid datgan nad yw ‘dim cytundeb’ yn opsiwn o gwbl er mwyn meithrin cysylltiadau negodi gwell
  • pryderon cynyddol ymhlith busnesau oherwydd ansicrwydd sicrhau cytundeb
  • estyn cyfnod erthygl 50, ond rhai pryderon y byddai hyn yn gwrthdaro ag Etholiadau Senedd Ewrop
  • presenoldeb y Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru ar ôl Brexit
  • ofnau bod Brexit wedi dylanwadu ar y penderfyniadau buddsoddi ynghylch Wylfa
  • pryderon am y ffi o £65 i wladolion yr UE sydd am gael statws preswylydd sefydlog ar ôl Brexit.

3. Cyflwyniadau am barodrwydd

Paratoadau ar gyfer ‘Dim Cytundeb’ – y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit

Rhoes y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit gyflwyniad yn ailddatgan safbwynt Llywodraeth y DU y byddai ‘Dim Cytundeb’ yn fethiant trychinebus ar ran Llywodraeth y DU a bod rhaid osgoi sefyllfa o't fath. Pwysleisiodd y câi hyn effaith ddifrifol ar fusnesau, swyddi, gwasanaethau cyhoeddus, cymunedau a phobl ledled Cymru.

Amlinellodd y gwaith helaeth a oedd wedi'i wneud yn fewnol ac yn allanol â rhanddeiliaid a'r pecynnau cymorth ariannol a oedd wedi cael eu sefydlu ar draws pob sector i gynllunio a pharatoi ar gyfer Brexit.

Cynllunio Wrth Gefn – Reg Kilpatrick, Llywodraeth Cymru

Rhoes Reg gyflwyniad yn nodi'r cyd-destun ar gyfer cynllun argyfyngau sifil posibl; nodau'r cynllun; sut i roi'r cynllun ar waith; ac amlinellodd y gwaith hyd yn hyn. Ailadroddodd fod cynllunio ar gyfer argyfyngau posibl yn ymateb rhagofalus o gofio'r ansicrwydd parhaus ar oblygiadau sefyllfa Brexit ‘dim cytundeb’.

Cyfathrebu – Leon Griffiths, Llywodraeth Cymru

Amlinellodd Leon gynlluniau cyfathrebu Llywodraeth Cymru yn ymwneud â sefyllfa Brexit ‘dim cytundeb’. Hysbysodd y Grŵp hefyd am lansio gwefan Paratoi Cymru ar 18 Ionawr.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar y canlynol:

  • yr angen i ymestyn y dyddiad cau o 29 Mawrth yn wyneb Brexit dim cytundeb, ac o gofio'r effaith debygol ar sector y diwydiant defaid er enghraifft gyda'r posibilrwydd y bydd prisiau wrth gât y fferm yn cwympo, pwysigrwydd cynorthwyo sectorau sy'n dibynnu ar allforio.
  • ystyried sut i gefnogi'r llu o weithwyr sgiliau is ar draws y sector gofal iechyd a sectorau eraill ar ôl Brexit
  • pryderon sydd wedi'u mynegi ynghylch cydlyniant cymdeithasol
  • pwysigrwydd asesiad risg cynhwysfawr yn seiliedig ar ddealltwriaeth o ragdybiaethau cynllunio a'r sefyllfa waethaf resymol
  • effaith bosibl argyfwng mawr pan fyddwn wedi ymadael â ffiniau fframweithiau Ewropeaidd
  • sut y gallwn gydweithio â'r trydydd sector a'r rôl y gall ei chwarae
  • ystyried polisi cyfansoddiadol os bydd Brexit dim cytundeb, ac arfer pwerau ar lefel y DU neu Gymru, gan gydnabod cymhlethdod y setliadau datganoli
  • pwysigrwydd strategaeth i hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol i gynhyrchu cyfoeth economaidd trwy wella cystadleurwydd.

4. Y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Chronfa Bontio'r UE

Rhoes y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd y newyddion diweddaraf i'r grŵp ar gynnydd y Gronfa Bontio Ewropeaidd a'i llwyddiannau hyd yn hyn. Esboniodd y bydd y dyraniadau newydd a gyhoeddwyd ar 15 Ionawr yn ei datganiad ar y gyllideb yn helpu gwasanaethau'r heddlu a gwasanaethau cymdeithasol i ymateb i unrhyw sefyllfa o safbwynt Brexit, ac yn ein helpu i feithrin dull gweithredu newydd o ran buddsoddi rhanbarthol.

Bydd prosiectau eraill sy'n cael eu datblygu'n canolbwyntio ar roi cymorth i wasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill. Er hynny, roedd yn glir na all Llywodraeth Cymru liniaru'r canlyniadau llawn i Gymru yn sgil sefyllfa Brexit dim cytundeb yn unig. Ailadroddodd fod rhaid i Lywodraeth y DU weithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau bod y DU gyfan yn barod am Brexit.

Mynegodd ei phryder am y diffyg manylder oddi wrth Lywodraeth y DU ynghylch y Gronfa a fyddai'n disodli Cronfeydd Strwythurol yr UE - sef Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - ac fe fydd yn parhau i bwyso am wybodaeth bellach am y gronfa.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar y canlynol:

  • pryderon am y diffyg cyfathrebu gan Lywodraeth y DU ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin
  • yr angen i bwyso ar Lywodraeth y DU fel na fydd Cymru geiniog ar ei cholled ar ôl Brexit
  • Tynnwyd sylw'r aelodau at gyflwyniad Stephen Kinnock yn y Grŵp Trawsbleidiol ar Fuddsoddi Rhanbarthol ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin
  • pryderon na chaiff safbwyntiau eu cymryd i ystyriaeth yn yr ymgynghoriad
  • pryderon am beth fydd yn digwydd i daliadau'r UE ar 30 Mawrth ac a fyddai unrhyw ddiffyg yn dod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU/Llywodraeth Cymru
  • ystyried anfon llythyr ar y cyd neu ddatganiad i bob sector yn dweud wrthynt am newidiadau i gyllid ar ôl Brexit
  • pryderon a fynegwyd ar daliadau sengl uniongyrchol i ffermwyr os ceir Brexit dim cytundeb
  • defnyddio holl rwydweithiau a hpartneriaid y grŵp i gyfleu negeseuon pwysig.

5. Y camau nesaf ac unrhyw fater arall

Crynhodd y Cadeirydd y cyfarfod a chadarnhau:

  • pwysigrwydd darparu eglurder ynghylch cyfrifoldebau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a'r angen am gydweithredu parhaus
  • mae'n iawn paratoi ar gyfer Brexit dim cytundeb ond wrth wneud hynny ni ddylai Llywodraeth Cymru dderbyn bod hyn yn anochel ac osgoi hwyluso'r canlyniad
  • rhaid inni barhau i lobïo Llywodraeth y DU er mwyn i'n llais gael ei glywed yn yr holl benderfyniadau a wneir a fydd yn effeithio arnom ar ôl Brexit
  • parhau â'r gwaith helaeth yr ydym yn ei wneud yn fewnol a chyda rhanddeiliaid allanol i baratoi ar gyfer sefyllfa Brexit dim cytundeb os daw i'r gwaethaf
  • ystyried ychydig o negeseuon allweddol i'w cylchredeg i aelodau EAG i'w lledaenu ymhellach i'w rhwydweithiau a'u partneriaid
  • rhoi i'r grŵp fanylion swyddogion allweddol yn Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r Trefniadau Pontio Ewropeaidd
  • darparu neges syml – beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i wneud Cymru'n lle diogel i fyw, astudio, buddsoddi a gwneud busnes
  • gwahodd Eluned Morgan AC, yn rhinwedd ei rôl newydd fel Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, i un o gyfarfodydd EAG yn y dyfodol
  • ystyried adolygiad o gylch gorchwyl, aelodaeth a gweithgareddau'r Grŵp maes o law
  • ystyried cysylltiadau rhwng Pwyllgor Monitro'r Rhaglen a'r Grŵp Cynghori ar Ewrop
  • nodi bod cyfarfod ychwanegol o'r Grŵp Cynghori ar Ewrop wedi'i amserlennu ar gyfer 21 Chwefror – gwybodaeth bellach i'w rhoi maes o law.