Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Huw Irranca-Davies AC – Cadeirydd
Jeremy Miles AC – Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit
David Jones OBE – Pennaeth a Phrif Weithredwr, Coleg Cambria
Michael Plaut – Cyn Gadeirydd, CBI Cymru
Syr Emyr Jones Parry – Cyn Lywydd, Prifysgol Aberystwyth
Rachel Sharp – Prif Weithredwr, Ymddiriedolaethau Natur Cymru
Dr Chris Jones – Cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Yr Athro Jo Hunt – Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd
Yr Athro Colin Riordan – Llywydd ac Is-ganghellor, Prifysgol Caerdydd
Alec Don – Cyn Brif Swyddog Gweithredol, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau
Y Farwnes Ilora Finlay o Landaf – Tŷ'r Arglwyddi
Kevin Crofton – Llywydd, SPTS Technologies Ltd
Yr Arglwydd Thomas – Cyn Arglwydd Brif Ustus o Gwmgïedd 
Ruth Marks MBE – Prif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Tim Peppin – CLlLC

*Roedd nifer bach o swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn bresennol i gynorthwyo.

Ymddiheuriadau

  • Y Cyng. Rob Stewart – CLlLC/Arweinydd Cyngor Dinas Abertawe
  • Kevin Roberts – Cadeirydd Hybu Cig Cymru
  • Martin Mansfield – Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru
  • William Powell – Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ewrop yn y Pedwerydd Cynulliad
  • Alison Lea-Wilson MBE – Cyd-sylfaenydd Halen Môn
  • Tom Jones OBE – Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop
  • Dr Hywel Ceri Jones – Cyn-lysgennad Cyllid yr UE
  • Jill Evans ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Nathan Gill ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Dr Kay Swinburne ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Derek Vaughan ASE – Aelod o Senedd Ewrop

1. Cyflwyniad

Agorodd Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, y cyfarfod a chroesawu aelodau'r Grŵp i'r unfed cyfarfod ar bymtheg.

Amlinellodd y Cadeirydd yr agenda, gan egluro y byddai'r cyfarfod yn cynnwys adroddiad ar y Datblygiadau Diweddaraf (Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit) a chyflwyniad ar Effeithiau Sectoraidd a Gofodol Brexit (Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit a Chyfarwyddwr y Strategaeth Brexit, Llywodraeth Cymru).

2. Y datblygiadau diweddaraf

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i roi'r newyddion diweddaraf i'r Grŵp am ddatblygiadau allweddol ar lefel y DU ac ar lefel Cymru.

Cadarnhaodd y Gweinidog Brexit ei fod yn croesawu'r estyniad hyblyg, sy'n caniatáu rhagor o amser i benderfynu ar ffordd ymlaen er mwyn i’r DU ymadael â'r UE mewn modd trefnus. Fodd bynnag, fe wnaeth ailddatgan ei bryderon bod rhaid i wleidyddion etholedig weithredu mewn modd cyfrifol yn awr er mwyn dod i gytundeb a fyddai'n gwarchod buddiannau pobl yng Nghymru ac ar draws y DU.

Gallai gornest debygol am yr arweinyddiaeth arwain at ymadael heb gytundeb yn yr hydref, ac fe gadarnhaodd ei fod wedi codi'r pryderon hyn yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion ar Negodiadau'r UE ar 9 Mai. Fe wnaeth gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro'r sefyllfa ar lefel y DU wrth baratoi ar gyfer y dyddiad ymadael o 31 Hydref.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar y canlynol:

  • cais i Lywodraeth Leol gael ei chynnwys yn y broses o ddatblygu'r fframweithiau polisi ar gyfer y DU gyfan a fydd yn disodli fframweithiau'r UE, er mwyn cynrychioli'r meysydd y mae ganddynt fuddiant ynddynt, megis Safonau Masnach
  • pryderon ynghylch problemau iechyd meddwl i weithwyr fferm a'r cymorth y mae arnynt ei angen
  • cydweithio posibl rhwng Llywodraeth Cymru a'r Adran Addysg ynglŷn â rhaglen Erasmus
  • pryderon parhaus ymysg busnesau bach a chanolig a'r cyfnod pellach o ansicrwydd yn dilyn estyn y dyddiad ymadael tan 31 Hydref a'r angen i barhau i gyfathrebu â busnesau bach a chanolig
  • yn ogystal â'r Porth Brexit, ystyried rhoi cyngor a chyfarwyddyd pellach i fusnesau bach a chanolig ar sut y bydd Brexit yn effeithio arnynt
  • bydd Llywodraeth Cymru yn parhau â'i gwaith ynglŷn â'r effaith ar gwmnïau mawr a bach yn y gadwyn gyflenwi
  • diogelwch gwladol gan gynnwys rhwydweithiau trydan a thelathrebu
  • yr angen i feithrin a chryfhau'r berthynas rhwng cymdeithas sifil a phartneriaid academaidd
  • cynnal archwiliad o'r effeithiau deddfwriaethol ar sectorau gan gynnwys sector yr amgylchedd.

O ran yr etholiadau i Senedd Ewrop ar 23 Mai, cofnododd y Grŵp ei ddiolch i'r Aelodau hynny o'r Senedd nad oeddynt yn ceisio cael eu hailethol.

3. Effeithiau Sectoraidd a Gofodol Brexit

Amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit a Chyfarwyddwr y Strategaeth Brexit y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud er mwyn edrych ar y gwahanol senarios o ran Brexit, er mwyn deall sut y bydd y newidiadau posibl yn strwythur amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota yn edrych ar lefel ofodol, a sut y gallai'r rhain ddylanwadu ar effeithiau anuniongyrchol Brexit.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar y canlynol:

  • rhannu data gyda rhanddeiliad er mwyn iddynt roi mewnbwn i'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud
  • ymdrin ag unrhyw fylchau yn y gwaith ymchwil sydd wedi ei wneud hyd yma
  • y polisïau sy'n angenrheidiol er mwyn cynorthwyo â'r effeithiau a nodwyd
  • ystyried cynnwys unrhyw ddadansoddiadau eraill sydd ar gael, er enghraifft y rhai a luniwyd gan gyrff gwasanaeth cyhoeddus eraill fel canolfan ddata y Trydydd Sector
  • ystyried yr effeithiau economaidd-gymdeithasol ar gymunedau, y Gymraeg ac ati
  • ystyried yr amrywiadau rhwng yr effeithiau ar bobl mewn ardaloedd trefol ac yn y Gymru wledig
  • cynllunio senarios o ran y sectorau addysg bellach ac uwch
  • llunio Cynllun Adfer ar draws sectorau ar ôl Brexit
  • llunio canolbwyntiau rhanbarthol er mwyn ymdrin â materion a phryderon rhanbarthol - er enghraifft mapio canolbwyntiau ecolegol, canolbwyntiau arloesi, a gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer proffesiynau penodol a'r gwella sgiliau sy'n angenrheidiol
  • asesiad yn cael ei wneud yn erbyn tirwedd sy'n newid yng Nghymru
  • tanlinellu pwysigrwydd sgiliau, cysylltedd ac arloesi
  • y cyfraniad y gall arloesi ac ymchwil a datblygu ei wneud yng Nghymru
  • ystyried y seilwaith digidol megis canolfannau meddygol-dechnolegol
  • unwaith y bydd y dadansoddiad yn gyflawn, ei rannu â'r cyhoedd.

4. Y camau nesaf ac unrhyw fater arall

Cyflwynodd y Cadeirydd grynodeb o'r cyfarfod gan gadarnhau'r canlynol:

  • byddai'n trefnu i ddosbarthu rhai prif negeseuon ar yr estyniad Brexit i aelodau'r Grŵp yn brydlon i'w dosbarthu ymhellach i rwydweithiau a phartneriaid (atodiad)
  • byddai Llywodraeth Cymru yn parhau â'r gwaith helaeth y mae'n ei wneud yn fewnol a chyda rhanddeiliaid allanol i baratoi ar gyfer sefyllfa Brexit dim cytundeb os daw i'r gwaethaf
  • dylai'r Grŵp barhau i sicrhau bod ei lais yn cael ei glywed ym mhob penderfyniad a fyddai'n effeithio ar Gymru ar ôl Brexit
  • byddai Eluned Morgan AC, yn rhinwedd ei rôl fel Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, yn dod i gyfarfod y Grŵp Cynghori ar Ewrop ar 11 Gorffennaf
  • fel Cadeirydd, byddai'n ystyried yr awgrymiadau eraill ynghylch eitemau i'r rhoi ar yr agenda yn y dyfodol
  • byddai'r Grŵp yn ystyried adolygiad o'i Gylch Gorchwyl, ei aelodaeth a gweithgareddau'r Grŵp maes o law
  • amserlennwyd cyfarfod nesaf y Grŵp ar gyfer 11 Gorffennaf.

Rhannu’r dudalen hon