Yn bresennol

  • Mark Drakeford AC – (Cadeirydd), Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
  • Jill Evans ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Dr Hywel Ceri Jones – Cyn-lysgennad Cyllid yr UE
  • Nathan Gill AC/ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Tom Jones OBE – Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop
  • Syr Emyr Jones Parry – Llywydd, Prifysgol Aberystwyth (drwy skype)
  • Yr Arglwydd Kinnock – Cyn Is-Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd
  • Ruth Marks MBE – Prif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Y Farwnes Eluned Morgan AC – Cyn-aelod o Senedd Ewrop
  • Michael Plaut – Cadeirydd, CBI Cymru
  • William Powell – Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ewrop yn y Pedwerydd Cynulliad
  • Yr Athro Colin Riordan – Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd
  • Rachel Sharp – Prif Weithredwr, Ymddiriedolaethau Natur Cymru
  • Y Cyng. Rob Stewart – Arweinydd Cyngor Abertawe

*Roedd nifer bach o swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn bresennol i gynorthwyo.

Ymddiheuriadau

  • Yr Athro Richard B. Davies – Is-Ganghellor, Prifysgol Abertawe
  • Kevin Crofton – Llywydd, SPTS Technologies Ltd
  • David Jones OBE – Pennaeth a Phrif Weithredwr, Coleg Cambria
  • Martin Mansfield – Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru
  • Kevin Roberts – Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth ar gyfer Amaethyddiaeth
  • Dr Kay Swinburne ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Derek Vaughan ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Hefyd roedd Dan Bristow, Dirprwy Gyfarwyddwr y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru a Catherine May, Arweinydd Brexit y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru.

1. Cyflwyniad

Croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol aelodau'r Grŵp Cynghori ar Ewrop i'r pumed cyfarfod. Hefyd cyflwynodd y Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Ddatblygu Economaidd, Ewrop ac Ynni, a oedd wedi ei wahodd i ymuno â'r grŵp, i gymryd lle'r Cyng. Phil Bale. Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet amlinelliad o'r agenda, gan egluro y byddai'r agenda'n cynnwys tri chyflwyniad. Hawliau'r Dinasyddion, Mudo a Chydraddoldebau.

2. Y datblygiadau diweddaraf

Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol newyddion i'r grŵp am y datblygiadau diweddaraf ers y cyfarfod diwethaf, ar lefel yr EU, ar lefel y DU, ac yng Nghymru. Ymysg y meysydd dan sylw, roedd y canlynol: yr Etholiad Cyffredinol; dechrau'r trafodaethau ffurfiol; dogfen bolisi Llywodraeth Cymru, Brexit a Datganoli ; a Bil Ymadael â'r UE (sef y Bil Diddymu Mawr gynt).

Yna, gwahoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol sylwadau gan y Grŵp. Trafodwyd amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys:

  • pryderon ynghylch cynnwys Bil Ymadael â'r UE a sut y gallai Cymru sicrhau bod buddiannau Cymru'n cael eu cynrychioli'n briodol yn y broses ddeddfu
  • y posibiliadau ar gyfer Bil Parhad i Gymru i ategu Bil Ymadael â'r UE
  • sut y gallai Cymru ymwneud â'r DU yn y ffordd fwyaf effeithiol, yn wyneb y ffaith na chynhelir cyfarfodydd rheolaidd o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar gyfer Negodiadau Ewropeaidd
  • pwysigrwydd Senedd Ewrop a Phwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop yn nhrafodaethau Brexit
  • dogfen bolisi ddiweddar Llywodraeth Cymru Brexit a Datganoli
  • opsiynau gwahanol fodelau ar gyfer cytundebau masnach
  • gwahanol effeithiau Brexit caled’ neu Brexit ‘meddal’
  • yr angen i gadw busnesau a’'r economi ar fynd yn ystod proses Brexit ac wedi hynny
  • yr angen i egluro proses Brexit i bobl wrth i'r broses honno fynd rhagddi
  • pwysigrwydd gweithio gydag Iwerddon ar amrywiaeth o faterion
  • rôl y Grŵp Cynghori ar Ewrop yn y dyfodol, yn enwedig o ran dylanwadu ar eraill.

3. Hawliau dinasyddion

Rhoddodd Ruth Marks gyflwyniad ar Hawliau Dinasyddion, gan sôn am faterion cysylltiedig mewn perthynas â'r negodiadau fel y maent yn datblygu, gyda'r DU a'r UE bellach wedi datgan eu safbwyntiau ar gydnabyddiaeth gydfuddiannol o hawliau dinasyddion wedi Brexit. Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar:

  • effeithiau Brexit ar Hawliau Dynol o dan Gytuniadau'r UE
  • yr angen am ateb cyflym i ddatrys materion sy'n ymwneud â byw a gweithio yn nhiriogaethau ein gilydd, yn enwedig ym maes addysg uwch a'r sectorau sgiliau uwch a sgiliau is
  • pwysigrwydd cyd-gydnabod cymwysterau
  • yr angen i ddiogelu cydraddoldebau
  • y posibilrwydd y bydd angen cyflwyno newidiadau'n raddol er mwyn diogeli hawliau dinasyddion.

4. Mudo

Cyflwynodd Dan Bristow o'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru y papur ar fudo, gyda chyfraniad gan Jonathan Portes, Kings College London, ac fel y'i hamlinellwyd yn y nodyn ar gyfarfod 9 Chwefror.

Eglurodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi dogfen bolisi yn fuan ar ôl cyflwyno'r dull gweithredu yr oedd yn ei ffafrio ar gyfer rheoli mudo mewn modd a fyddai'n cefnogi economi Cymru.

Canolbwyntiodd trafodaeth ddilynol y Grŵp ar y canlynol:

  • yr angen parhaus am lafur mudwyr mewn llawer o sectorau yng Nghymru, ond gydamarchnad fyd-eang am dalent mewn sectorau sgiliau uwch gallai hyn fod yn heriol
  • cydnabyddiaeth y bydd mudo a reolir yn effeithiol yn hanfodol ar gyfer dyfodol economi Cymru
  • yr angen am fesurau gorfodi i fynd i'r afael â'r broblem o gamfanteisio ar weithwyr sydd ar gyflogau isel
  • yr angen am eglurder o ran sut y gellid sicrhau darpariaeth briodol ar gyfer teuluoedd ac unrhyw un arall sy'n dibynnu ar fudwyr
  • pwysigrwydd egwyddorion Erthyglau 48 a 49 o Gytuniad Rhufain sy'n rhoi'r  rhyddid i symud i weithwyr. yr angen i'r DU sefydlu safbwynt negodi cadarn sy'n cynrychioli anghenion Cymru.

5. Cydraddoldebau

Rhoddodd Catherine May o'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gyflwyniad ar oblygiadau Brexit ar gyfer cydraddoldebau yng Nghymru. Amlinellodd gynllun 5 pwynt y Comisiwn ar sut y gallai Prydain gadw a chryfhau ei statws fel un o arweinwyr y byd ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Roedd consensws o fewn y Grŵp na ddylai'r ffaith ein bod yn ymadael â'r UE leihau ein ffocws ar hyrwyddo cydraddoldebau a herio unrhyw wahaniaethu lle bynnag y bo hynny'n digwydd. Hefyd pwysleisiodd rhai aelodau bod angen cydbwyso hawliau yn erbyn anghenion datblygu economaidd.

6. Y camau nesaf ac unrhyw fater arall

Cydnabuwyd yr angen i ddatblygu ymhellach y gwaith a wneir ar y cyd â Chyngor Sefydlog ar Ewrop Prif Weinidog yr Alban.

Cytunwyd y gallai'r cyfarfod nesaf gynnwys papur CBI, ac o bosibl eitem ar yr Amgylchedd i'w gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Hefyd byddai cyfle i gael trafodaethau pellach ar rôl y Grŵp Cynghori ar Ewrop yn y dyfodol.

Roedd rhestr o ddyddiadau cyfarfodydd arfaethedig (hyd at fis Rhagfyr 2017, ac yn cynnwys y mis hwnnw) wedi ei rhoi i aelodau'r Grŵp yng nghyfarfod mis Tachwedd 2016. Byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 5 Hydref yn y prynhawn.