Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Mark Drakeford AC – (Cadeirydd) Ysgrifennydd y Cabinet Dros Gyllid
  • Yr Athro Richard B. Davies – Is-Ganghellor, Prifysgol Abertawe
  • David Jones OBE – Pennaeth a Phrif Weithredwr, Coleg Cambria
  • Michael Plaut – Cadeirydd, CBI Cymru
  • William Powell – Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ewrop yn y Pedwerydd Cynulliad
  • Ruth Marks MBE – Prif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Kevin Roberts – Cadeirydd Hybu Cig Cymru
  • Rachel Sharp – Prif Weithredwr, Ymddiriedolaethau Natur Cymru
  • Y Cyng. Rob Stewart – CLlLC/Arweinydd Cyngor Abertawe
  • Julie Morgan AC – Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru Gyfan
  • Dr Chris Jones – Cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • Y Farwnes Ilora Finlay o Landaf – Tŷ'r Arglwyddi
  • Dr Jo Hunt – Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd
  • Alec Don – Prif Swyddog Gweithredol Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau

*Roedd nifer bach o swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn bresennol i gynorthwyo.

Ymddiheuriadau

  • Syr Emyr Jones Parry – Llywydd, Prifysgol Aberystwyth
  • Kevin Crofton – Llywydd, SPTS Technologies Ltd
  • Yr Athro Colin Riordan – Llywydd ac Is-ganghellor, Prifysgol Caerdydd
  • Jill Evans ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Nathan Gill ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Yr Arglwydd Kinnock – Cyn Is-Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd
  • Dr Kay Swinburne ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Derek Vaughan ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Dr Hywel Ceri Jones – Cyn-lysgennad Cyllid yr UE
  • Tom Jones OBE – Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop (EESC)
  • Alison Lea-Wilson – Cyd-sylfaenydd Halen Môn
  • Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd – Y cyn Arglwydd Brif Ustus

Cyflwyniad

Agorodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid y cyfarfod a chroesawodd aelodau'r Grŵp Cynghori ar Ewrop i'r degfed cyfarfod. Croesawodd hefyd Dr Chris Jones, Cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru; Alec Don, Prif Swyddog Gweithredol, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau; Y Farwnes Ilora Finlay o Landaf, Tŷ'r Arglwyddi; a Dr Jo Hunt, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, a oedd wedi cael eu gwahodd i ymuno â'r Grŵp.

Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet amlinelliad o'r agenda, gan egluro y byddai'r cyfarfod yn cynnwys cyflwyniadau gan Jonathan Price, Prif Economegydd, Llywodraeth Cymru – Brexit a'n Heconomi; gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y ddogfen ymgynghori ddiweddaraf ar bolisi Llywodraeth Cymru – Brexit a'n Tir; a chlywed safbwyntiau Chris Kebbell, Cynghorydd Amaethyddiaeth, Uchel Gomisiwn Seland Newydd, Llundain.

1. Y datblygiadau diweddaraf

Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wybodaeth i'r grŵp am y datblygiadau diweddaraf ar lefel y DU ac yng Nghymru. Roedd y tri phrif beth yn cynnwys y Fforwm Gweinidogol, cytundeb Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a chyfarfod Chequers a chyhoeddi Papur Gwyn y DU.

Ymysg y meysydd dan sylw, roedd y canlynol:

  • y trafodaethau ar safbwynt y DU ar gyfer negodiadau ynghylch y berthynas â'r UE yn y dyfodol, yn digwydd mewn Fforwm Gweinidogol sy'n adrodd yn ôl i'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE)
  • mae'r Fforwm wedi cwrdd ddwywaith hyd yn hyn (24 Mai a 27 Mehefin) ac mae'r cyfarfod nesaf wedi ei drefnu ar gyfer 1 Awst yng Nghaerdydd. Y Gweinidog Tai ac Adfywio sy'n cynrychioli Llywodraeth Cymru ar y Fforwm;
  • Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) – sydd bellach yn Ddeddf – Mae Gweinidogion Cymru wedi dod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU ynghylch Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) sy'n golygu y bydd meysydd sydd eisoes wedi'u datganoli yn parhau i fod wedi'u datganoli
  • ond mewn nifer cyfyngedig o feysydd bydd angen cytuno ar reolau cyffredin ar draws y DU yn lle rheolau presennol yr UE
  • bydd pob pŵer a maes polisi datganoledig yn gorffwys yng Nghymru, oni bai eu bod wedi'u rhagnodi i gael eu dal dros dro gan Lywodraeth y DU. Bydd hyn mewn meysydd lle mae angen rheolau cyffredin ar draws y DU
  • cynhaliodd Lywodraeth y DU gyfarfod yn Chequers ar 6 Gorffennaf a chyhoeddwyd bod y Cabinet wedi "cytuno" ar y Papur Gwyn
  • cyhoeddwyd Papur Gwyn y DU ar 12 Gorffennaf – The future relationship between the United Kingdom and the European Union
  • mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod angen i’r 27 o wledydd yr UE fod yn hyblyg er mwyn osgoi sefyllfa 'dim cytundeb' drychinebus.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar y canlynol:

  • a fydd y Prif Weinidog y DU yn gallu sicrhau bod y Cabinet, y Senedd a'r UE, yn y pen draw, yn cytuno ar Bapur Gwyn y DU;
  • pryderon nad oes llawer o amser gennym bellach i negodi cytundeb o unrhyw fath ac osgoi sefyllfa 'dim cytundeb' ar bob cyfri;
  • pryderon mawr ynghylch masnachu â'r UE a'r cytundebau masnach rydd;
  • y posibilrwydd y bydd cwmnïau yn mynd ati maes o law i wneud cynlluniau sy'n seiliedig ar y sefyllfa waethaf bosibl;
  • sut gallwn ni sicrhau bod Cymru yn cadw dinasyddion yr UE sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol i fywyd yng Nghymru o ddydd i ddydd – drwy weithio yn ein prif sectorau economaidd a sefydliadau academaidd; darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a chwarae rhan bwysig yn ein cymunedau.

Mae rhagor o'r datblygiadau diweddaraf i’w gweld yn Atodiad 1.

2. Brexit a'n Heconomi

Cafwyd cyflwyniad gan Jonathan Price, Prif Economegydd, Llywodraeth Cymru, Brexit a'n Heconomi, gan asesu'r holl bethau rydym wedi eu dysgu ers 2016. Mae'r asesiad economaidd yn dibynnu ar ganlyniadau gwleidyddol, felly mae'n rhy gynnar o hyd i ragweld yr effaith yn gwbl bendant.

Yn dilyn trafodaeth grŵp, daethpwyd i'r casgliad bod angen gwneud mwy i sicrhau bod Cymru yn barod yn weithredol wrth i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

3. Brexit a'n Tir

Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig y papur diweddaraf yn ein cyfres o bapurau polisi sy'n ymwneud â Brexit - Brexit a'n Tir. Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn gosod Rhaglen Rheoli Tir newydd i roi cymorth i ffermwyr Cymru ar ôl Brexit, i gymryd lle'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC). Cyhoeddwyd y ddogfen ar 10 Gorffennaf a bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ym mis Hydref. Mae'r ddogfen yn cynnig dau gynllun mawr newydd a hyblyg i gymryd lle Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS), Glastir a rhannau eraill o’r Rhaglen Datblygu Gwledig:

  • Bydd y Cynllun Cadernid Economaidd yn buddsoddi'n benodol i helpu rheolwyr tir a'u cadwyni cyflenwi. Bydd yn buddsoddi i'w gwneud yn fwy cystadleuol, yn fwy cadarn ac yn fwy cynhyrchiol ar gyfer cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel.
  • Bydd y Cynllun Nwyddau Cyhoeddus yn cynnig ffrwd incwm newydd i reolwyr tir am ddefnyddio'r tir i ddarparu nwyddau cyhoeddus. Bydd yn eu helpu i fynd i'r afael â heriau fel hinsawdd sy'n newid, colli cynefinoedd ac ansawdd aer a dŵr gwael.

Cafwyd ymateb da i'r ddogfen a chodwyd y pwyntiau canlyno l gan yr aelodau wrth drafod:

  • croesawyd y cyfle i newid y ffordd rydym yn gweithredu wrth inni ymadael â'r UE, ond pwysleisiwyd mai nawr yw'r amser i wneud y gwaith p aratoi
  • gofynnwyd am gadarnhad y bydd rheolwyr tir yn gallu c ymryd rhan yn y ddau gynllun
  • pwysigrwydd manteisio ar gyfalaf naturiol Cymru i ddatblygu marchnadoedd newydd
  • cyfle i ddatblygu polisïau newydd ar gyfer Cymru
  • datblygu sgiliau gwledig y genhedlaeth nesaf o reolwyr tir
  • mae’n bwysig sicrhau na fydd Cymru'n colli ceiniog ar ôl ymadael â’r UE
  • bydd pob rheolwr tir yn cael cyfle i fanteisio ar y cynlluniau newydd, nid dim ond y rheini sy'n derbyn nawdd y PAC ar hyn o bryd. Ond bydd gofyn i bobl wneud pethau'n wahanol yn gyfnewid am y gefnogaeth hon.

Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig gydnabod cyfraniadau'r ford gron o randdeiliaid Brexit at y ddogfen ymgynghori.

4. Chris Kebbell, Cynghorydd ar Amaethyddiaeth, Uwch Gomisiwn Seland Newydd, Llundain

Rhannodd Chris ei brofiadau o ddiwygiadau amaethyddol dwys Seland Newydd gydag aelodau'r Grŵp.

5. Y camau nesaf ac unrhyw fater arall

Hysbyswyd yr Aelodau gan Ysgrifennydd y Cabinet am y papur polisi sydd ar y gweill sef, Diwygio trefniadau ariannu a chodi cyllid y DU ar ôl Brexit.

Caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 20 Medi.

Rhannu’r dudalen hon