Yn bresennol

  • Huw Irranca-Davies AC – Cadeirydd
  • Jeremy Miles AC – Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit
  • Eluned Morgan AC – Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
  • Shan Morgan – Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru
  • David Jones OBE – Pennaeth a Phrif Weithredwr, Coleg Cambria
  • Michael Plaut – Cyn-Gadeirydd, CBI Cymru
  • Syr Emyr Jones Parry – Cyn-Lywydd, Prifysgol Aberystwyth
  • Rachel Sharp – Prif Weithredwr, Ymddiriedolaethau Natur Cymru
  • Dr Chris Jones – Cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • Yr Athro Jo Hunt – Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd
  • Yr Athro Colin Riordan – Llywydd ac Is-ganghellor, Prifysgol Caerdydd
  • Alec Don – Cyn-Brif Swyddog Gweithredol, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau
  • Y Farwnes Ilora Finlay o Landaf – Tŷ'r Arglwyddi
  • Ruth Marks MBE – Prif Weithredwr, Cyngor  Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • William Powell – Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ewrop yn y Pedwerydd Cynulliad
  • Tom Jones OBE – Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop
  • Dr Hywel Ceri Jones – Cyn-Lysgennad Cyllid yr UE
  • Tim Peppin – CLlLC

*Roedd nifer bach o swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn bresennol i gynorthwyo.

Ymddiheuriadau

  • Rebecca Evans – Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
  • Kevin Roberts – Cadeirydd Hybu Cig Cymru Yr Arglwydd
  • Thomas o Gwmgïedd – Cyn-Arglwydd Brif Ustus
  • Martin Mansfield – Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru
  • Kevin Crofton – Llywydd, SPTS Technologies Ltd
  • Y Cyng. Rob Stewart – CLlLC/Arweinydd Cyngor Dinas Abertawe
  • Alison Lea-Wilson MBE – Cyd-sylfaenydd Halen Môn
  • Jill Evans ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Nathan Gill ASE – Aelod o Senedd Ewrop 
  • Dr Kay Swinburne ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Derek Vaughan ASE – Aelod o Senedd Ewrop

1. Cyflwyniad

Agorodd Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, y cyfarfod, gan groesawu aelodau'r Grŵp i'r ail gyfarfod ar bymtheg.  

Amlinellodd y Cadeirydd yr agenda, gan egluro y byddai'r cyfarfod yn cynnwys:

  • Newyddion am y Datblygiadau Diweddaraf (y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit)
  • eitem ar Strategaeth Ryngwladol a Pholisi Fasnach (Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol)
  • ac eitem ar Gyllid a fyddai'n cael ei harwain gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, gan nad oedd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd yn gallu bod yn bresennol.

2. Y datblygiadau diweddaraf

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i roi'r newyddion diweddaraf i'r Grŵp ynghylch y datblygiadau pwysig, gan gynnwys y sefyllfa ddiweddaraf o ran yr UE/DU; Parodrwydd; Cloriannu Deddfwriaeth Brexit; a Fframweithiau / Adolygiadau sy'n ymwneud â Chysylltiadau Rhynglywodraethol.

Ymysg y meysydd dan sylw, roedd y canlynol:

  • ar 4 Mehefin, gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad a oedd yn cynnwys y cyhoeddiad bod Llywodraeth Cymru yn galw am refferendwm, gyda'r bwriad o ymgyrchu dros barhau'n aelod o'r UE; ac mewn dadl yn y Cynulliad Cenedlaethol ar 5 Mehefin, dywedwyd y byddai angen cynnal refferendwm i gymeradwyo unrhyw gytundeb a gynigiwyd, ac mewn ymgyrch refferendwm o'r fath y byddai Llywodraeth Cymru yn ymgyrchu dros barhau'n aelod o'r UE
  • roedd y Prif Weinidog wedi ysgrifennu at ASau Cymru ar 26 Mehefin yn cefnogi'r syniad o gyflwyno deddfwriaeth i osgoi ymadael heb gytundeb, a gorfodi Llywodraeth y DU i baratoi bil refferendwm
  • pryderon ynghylch yr amserlen dynn ar ôl i Brif Weinidog newydd Llywodraeth San Steffan gael ei gadarnhau, a'r posibilrwydd y byddai'n mynnu bod 27 yr UE yn ailagor negodiadau'r Cytundeb Ymadael, er bod arweinwyr yr UE, yn y Cyngor Ewropeaidd ar 20 Mehefin, wedi cadarnhau unwaith yn rhagor na fyddai'n cael ei ail agor ar gyfer unrhyw negodi pellach
  • roedd yn fwyfwy tebygol y byddem yn wynebu dewis o naill ai ymadael heb gytundeb neu aros yn yr UE
  • byddai Llywodraeth Cymru yn dwysáu ei hymdrechion i ddarbwyllo Llywodraeth y DU, y Senedd yn San Steffan, a'r cyhoedd na all Cymru/y DU ymadael â'r UE heb fandad newydd; dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrth y Grŵp fod pecyn cymorth wedi cael ei gyhoeddi i helpu dinasyddion yr UE i baratoi ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE, er mwyn eu helpu i barhau i fyw a gweithio yng Nghymru. Pwysleisiodd yr angen i godi ymwybyddiaeth o hawliau dinasyddion er mwyn eu helpu i aros yma, a galwodd y Gweinidog Brexit ar y Grŵp i helpu i ledaenu'r neges hon
  • roedd gwaith sylweddol wedi ei gyflawni gan bob un o weinyddiaethau'r DU i ddiwygio cyfreithiau sy'n tarddu o'r UE, er mwyn iddynt allu gweithio'n effeithiol o'r dyddiad ymadael os bydd y DU yn gwneud hynny heb gytundeb
  • ni fu fawr o gynnydd o ran canlyniadau'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol, a gomisiynwyd bymtheg mis yn ôl.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar y canlynol:

  • pryderon y bydd Cymru yn wynebu argyfwng o ran gweithlu'r GIG yn y dyfodol agos os nad ydym yn cynnig cymorth i weithwyr mudol
  • ceisiadau i ddarparu cymorth atodol i ddinasyddion yr UE sy'n gweithio yn y GIG a'u teuluoedd, i godi ymwybyddiaeth bod ganddynt yr hawl i gael eu had-dalu am eu costau meddygol
  • galw ar GIG Cymru i sefydlu system adrodd i unigolion ei defnyddio i dynnu sylw at y problemau posibl a all godi i weithlu'r GIG
  • pryderon parhaus ynghylch yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol, a sut y gall gweinyddiaethau'r DU weithio gyda'i gilydd yn y dyfodol
  • pryderon am sut y mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael ei rheoli, a'r diffyg gwybodaeth gan Lywodraeth y DU
  • gwaith y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol ar ddarparu cyllid i gymryd lle cronfeydd yr UE yng Nghymru
  • rôl graffu bwysig i bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar y canlynol:

  • pryderon y bydd Cymru yn wynebu argyfwng o ran gweithlu'r GIG yn y dyfodol agos os nad ydym yn cynnig cymorth i weithwyr mudol
  • ceisiadau i ddarparu cymorth atodol i ddinasyddion yr UE sy'n gweithio yn y GIG a'u teuluoedd, i godi ymwybyddiaeth bod ganddynt yr hawl i gael eu had-dalu am eu costau meddygol
  • galw ar GIG Cymru i sefydlu system adrodd i unigolion ei defnyddio i dynnu sylw at y problemau posibl a all godi i weithlu'r GIG
  • pryderon parhaus ynghylch yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol, a sut y gall gweinyddiaethau'r DU weithio gyda'i gilydd yn y dyfodol
  • pryderon am sut y mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael ei rheoli, a'r diffyg gwybodaeth gan Lywodraeth y DU
  • gwaith y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol ar ddarparu cyllid i gymryd lle cronfeydd yr UE yng Nghymru
  • rôl graffu bwysig i bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

3. Strategaeth ryngwladol a pholisi masnach

Cafodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wahoddiad gan y Cadeirydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Grŵp ynghylch Polisi Masnach a Strategaeth Ryngwladol. Roedd prif elfennau'r Polisi Masnach yn cynnwys y cyddestun Brexit presennol a masnach; gweithio gyda'r Adran Masnach Ryngwladol; a chytundebau masnach newydd.

Ymysg y meysydd dan sylw, roedd y canlynol:

  • yr angen i ganolbwyntio ar bolisi masnach fel un o'r prif faterion i Gymru
  • gallai polisi masnach annibynnol Llywodraeth y DU y tu allan i'r UE ddod â pheryglon ac, o bosib, gyfleoedd i Gymru
  • yr angen i baratoi ar gyfer popeth a allai ddigwydd, gan gynnwys sefyllfa lle y byddai’n rhaid ymdopi â Brexit caled a Phrif Weinidog sy'n awyddus i ddechrau negodiadau masnach yn ddi-oed gyda gwledydd newydd
  • yr angen i gael llais cryf mewn unrhyw negodiadau masnach yn y dyfodol, er mwyn amddiffyn buddiannau busnesau a phrynwyr Cymru, yn ogystal â diogelu'r setliad datganoli
  • er nad yw masnach ryngwladol fel y cyfryw wedi ei datganoli, mae'n gorgyffwrdd â llawer o feysydd lle mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli – gan gynnwys datblygu economaidd, amaethyddiaeth, pysgodfeydd, sgiliau, a'r amgylchedd
  • bellach mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cysylltiadau mwy rheolaidd ac adeiladol gyda'r Adran Masnach Ryngwladol
  • mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i sefydlu Fforwm Gweinidogol ar y cyd ar gyfer masnach ryngwladol er mwyn tynnu'r holl Lywodraethau Datganoledig at ei gilydd
  • nid yw'r peirianwaith rhynglywodraethol presennol yn addas ar gyfer ei ddiben, ac mae swyddogion yn gweithio i gael cytundeb ffurfiol gyda Llywodraeth y DU o ran sut y gallai Llywodraeth Cymru fod yn rhan o negodiadau masnach yn y dyfodol
  • dylid gweld cysylltiadau masnach newydd fel rhywbeth sy'n ategu ein cysylltiadau â'r UE, yn hytrach na rhywbeth sy'n eu disodli. Gan fod 61% o'r nwyddau o Gymru yn cael eu hallforio i'r UE, mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar hyn
  • yr angen i fod yn barod i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynglŷn ag unrhyw bolisi masnach yn y dyfodol, ac i amddiffyn buddiannau Cymru os bydd y negodiadau hyn yn dechrau.

Cafodd yr aelodau eu gwahodd gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i fynegi barn ac i roi eu sylwadau ar bolisi masnach.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar y canlynol:

  • pwysigrwydd cydweithio'n agos gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar amaethyddiaeth a'r economi wledig yng Nghymru; rhwystrau nad ydynt yn dariffau; data; a'r gweithlu megis milfeddygon, os byddwn yn ymadael heb gytundeb
  • pryderon parhaus ynghylch perthynas Cymru â Lloegr o ran negodi tariffau a diffyg tariffau, a'r ffaith nad fydd gan Gymru bwerau negodi i fasnachu gydag Iwerddon os bydd y DU yn ymadael â'r UE heb gytundeb
  • swyddogaeth Llysgenhadaeth Iwerddon yng Nghaerdydd
  • yr angen i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn deall bod yn rhaid i Gymru gymryd rhan mewn negodiadau ynglŷn â masnach
  • yr angen i hyrwyddo Cymru ar lwyfan fyd-eang gystadleuol
  • y ffaith bod angen cynyddol i ddatblygu cysylltiadau gyda gwledydd a'u busnesau drwy ddefnyddio pobl sydd eisoes yn gweithio yn y maes
  • yr angen i Lywodraeth Cymru gynnal rhwydwaith o swyddfeydd tramor i hyrwyddo buddiannau rhyngwladol Cymru.

Eglurodd y Gweinidog fod y gwaith a gyflawnwyd ar bolisi masnach, a chyd-destun ehangach Brexit, wedi helpu i ddatblygu Strategaeth Ryngwladol newydd. Roedd prif elfennau'r newyddion diweddaraf am y Strategaeth Ryngwladol yn cynnwys y cyddestun; blaenoriaethau ac uchelgeisiau; ac amserlen.

Ymysg y meysydd dan sylw, roedd y canlynol:

  • Cymru yn dechrau ar gam nesaf ei thaith ryngwladol o sylfaen gref. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd y lefelau cyflogaeth uchaf erioed, lefelau uchel o fewnfuddsoddi, a thwf yng ngwerth allforion Cymru
  • hefyd gwelwyd Cymru yn rhagori mewn chwaraeon yn ystod y blynyddoedd diweddar, ac mae hynny'n helpu i hyrwyddo Cymru ar y llwyfan ryngwladol
  • tueddiadau a heriau byd-eang sy'n darparu'r cyd-destun - rhyfeloedd masnach a thwf mewn diffyndollaeth
  • mae'n bwysig ein bod yn parhau i edrych tuag at Ewrop a thu hwnt, gan weithio i gryfhau llwybrau masnach sy'n bodoli eisoes a chreu cyfleoedd newydd i fusnesau Cymru, gan annog buddsoddi tuag i mewn ac annog ymwelwyr i ddod i Gymru
  • datblygu strategaeth ryngwladol newydd i Gymru a fydd yn ceisio gosod cyfeiriad ac ateb cwestiynau allweddol, megis pa safle ddylai Cymru ei gymryd yn y byd deinamig hwn a beth yw ein blaenoriaethau?
  • yr angen i'r strategaeth gael ei chydnabod fel un sy'n rhoi cyfeiriad strategol i bawb sy'n gweithio ar lefel ryngwladol, gan dynnu pawb ynghyd a sicrhau ein bod i gyd yn mynd i'r un cyfeiriad ac yn cydweithio i gael y gorau o'n hymdrechion
  • mae'r ymgysylltu a wnaed hyd yn hyn wedi nodi tri nod i'w cyflawni drwy'r strategaeth:
    • codi proffil Cymru yn rhyngwladol
    • sicrhau twf ffyniant yng Nghymru drwy ei hallforion a buddsoddi tuag i mewn
    • ac arddangos Cymru mewn modd sy'n golygu ei bod yn cael ei gweld fel cenedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang
  • bydd gwerthoedd Cymru, a amlygwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'i hymrwymiad i nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig a hawliau dynol, yn sail i'r strategaeth hon
  • bydd y Strategaeth Ryngwladol yn gosod blaenoriaethau Cymru ar gyfer yr economi, addysg, iechyd, diwylliant, a chwaraeon, yn ogystal â sut y byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i gyflawni ein hymrwymiadau i gyfrifoldebau byd-eang drwy fentrau megis ein rhaglen Cymru o Blaid Affrica
  • mae marchnadoedd eraill, megis Asia, gwledydd y Gymanwlad, a Gogledd America, hefyd yn cynnig cyfleoedd i dyfu economi Cymru a chreu partneriaethau
  • bydd dogfen ddrafft yn cael ei chyhoeddi at ddibenion cynnal ymgynghoriad cyhoeddus maes o law.

Cafodd yr aelodau eu gwahodd gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i fynegi barn ac i roi eu sylwadau ar y Strategaeth Ryngwladol.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar y canlynol:

  • pwysigrwydd ein presenoldeb yn Llundain fel rhan o'n strategaeth ryngwladol
  • pwysigrwydd lledaenu ein negeseuon i eraill mewn lle marchnad llawn bwrlwm
  • ceisiadau i greu a chynnal cysylltiadau gyda rhwydweithiau, rhanbarthau a gwledydd ac edrych tuag allan
  • ystyried sut y gallai ein partneriaid cymdeithas sifil barhau i fod yn weithgar drwy'r rhwydweithiau presennol, a chreu cysylltiadau newydd
  • pryderon ein bod yn perthyn i gyfres o rwydweithiau, a'r angen i flaenoriaethu wrth iddynt fynd yn anghynaliadwy
  • parhau â'n cysylltiadau cryf â holl sefydliadau'r UE
  • pryderon ynghylch cysylltedd Cymru a bod angen i Lywodraeth Cymru ei gwneud yn haws i fusnesau fasnachu yng Nghymru
  • cais am yr wybodaeth ddiweddaraf am Gymru mewn ffeithiau a ffigurau.

4. Cyllid

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i roi'r newyddion diweddaraf am Gyllid i'r Grŵp ar ran y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd.

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Grŵp am y datblygiadau diweddaraf o ran y cyllid a fyddai ar gael yn lle cyllid yr UE yng Nghymru ar ôl Brexit.

Ymysg y meysydd dan sylw, roedd y canlynol:

  • parhau y mae'r ansicrwydd ynghylch y cyllid a fydd ar gael yn lle cyllid Cronfeydd Strwythurol yr UE a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin
  • cadarnhaodd y Gweinidog Brexit mai safbwynt Llywodraeth Cymru oedd galw am i gyllid yn lle cyllid cronfeydd y DU gael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru, a hynny'n gyllid nad yw ceiniog yn llai nag y byddem wedi ei gael pe bawn wedi aros yn yr UE - dim ceiniog yn llai; heb golli unrhyw bwerau
  • mae ansicrwydd ac amwysedd tebyg yn sefyllfa'r DU o ran cyllid amgen ar gyfer PAC a Banc Buddsoddi Ewrop yng Nghymru
  • Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am eglurder a sicrwydd ynglŷn â phryd a sut y bydd y cyllid amgen yn dod i Gymru
  • er gwaethaf hyn, mae Llywodraeth y DU nawr wedi dweud na fydd manylion eu cynnig ar gyfer darparu cyllid yn lle cronfeydd yr UE ar gael tan y flwyddyn nesaf (Kwasi Kwarteng yn Nhŷ'r Cyffredin ar 27 Mehefin), a hyd yn hyn nid oes gwybodaeth ynghylch sut y bydd cyllid yn cael ei ddarparu yn lle cyllid CAP ar ôl 2020
  • yng nghyd-destun y sefyllfa anodd hon, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau ein bod yn barod i weinyddu a dosbarthu cyllid amgen i ddiwallu anghenion pobl Cymru yn syth ar ôl ymadael â’r UE, os bydd Brexit yn digwydd
  • rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol ar draws Cymru, a'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), i ddatblygu ein dull ein hunain o ymdrin â chyllid economaidd rhanbarthol ar ôl Brexit, a dyma'r unig ddull gweithredu y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi
  • cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod buddsoddiad cyfalaf o £85 miliwn ar gael i roi hwb i'r economi os byddwn yn ymadael â'r UE heb gytundeb
  • ystyried ystod o gynigion newydd ar gyfer Cronfa Bontio'r UE, ar gyfer cefnogi'r trydydd sector ymysg eraill, gan ganolbwyntio ar sicrhau a chefnogi'r gwaith o adeiladu rhwydweithiau a chysylltiadau.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Grŵp ar y canlynol:

  • pwysigrwydd y cyllid hwn i gymunedau, busnesau, a'r sector cyhoeddus yng Nghymru
  • pa gyllid refeniw fyddai'n bosibl ei godi yng Nghymru a'r DU ar ôl Brexit
  • pwysigrwydd y pŵer galw sydd gan Fanc Buddsoddi Ewrop a phryder ynghylch y lleihad yn y cyllid sydd wedi ei fuddsoddi gan y Banc ers y refferendwm a chychwyn proses erthygl 50
  • pryder y gallai Brexit achosi dirwasgiad
  • pryderon ynghylch sut y gall Cymru barhau i elwa ar Horizon 2020 neu unrhyw gynllun sy'n cael ei roi ar waith yn ei le
  • yr angen i Lywodraeth y DU rannu gwybodaeth â Llywodraeth Cymru o ran sut y bydd y cyllid sydd ar gael yn lle cyllid yr UE yn cael ei reoli, yn enwedig y taliadau i ffermwyr sydd i gael eu talu ym mis Rhagfyr
  • cais i rannu ymysg aelodau’r Grŵp sgript un dudalen ar eu cyfer ynglŷn â'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

5. Y camau nesaf ac unrhyw Fater aralf

Crynhodd y Cadeirydd yr hyn a drafodwyd yn y cyfarfod, gan gadarnhau:

  • y byddai'n trefnu dosbarthu rhai o'r prif negeseuon i aelodau'r Grŵp yn brydlon, er mwyn i'r negeseuon gael eu dosbarthu ymhellach i rwydweithiau a phartneriaid (wedi eu hatodi)
  • cynhelir cyfarfod nesaf y Grŵp ar 3 Hydref.