Neidio i'r prif gynnwy

Aelodau oedd yn bresennol:

  • Jane Davidson (Cadeirydd)
  • Dr Huw Brunt
  • Yr Athro Roger Falconer
  • Dr Justin Gwynn
  • Dr James Robinson
  • Rachel Sharp

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Dr Rhoda Ballinger

Hefyd yn bresennol o Lywodraeth Cymru:

  • Dan Butler, Cynghorydd Arbennig i’r Prif Weinidog
  • John Howells, Tara Doster, Jonni Tomos (Ysgrifenyddiaeth)

Cynhaliwyd pedwerydd cyfarfod Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Hinkley Point C y Prif Weinidog ar 19 Hydref. Cytunodd y Grŵp y cofnodion o’r cyfarfod blaenorol, a gynhaliwyd ar 21 Medi. 

Derbyniodd y Grŵp bapurau ar Diroedd Caerdydd ac ar bysgod (gweler atodiad allanol). Nododd y Grŵp fod y ddau bapur wedi eu paratoi er mwyn darparu gwybodaeth gefndirol ychwanegol i help llywio trafodaethau’r grŵp, ac na ddylid ystyried y naill na’r llall fel cyngor diffiniol ar y materion dan sylw.  Trafododd yr aelodau y ddau bapur a chytunwyd eu bod yn darparu crynodebau gwerthfawr yn gosod cyd-destun ar gyfer archwiliad pellach yn y cyfarfod hwn a chyfarfodydd dilynol. Nododd y Grŵp faterion yn y papurau yr oeddent am eu codi yn hwyrach yn y cyfarfod â sefydliadau gwestai. Trafododd y Grŵp ohebiaeth y derbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf a chytunwyd i ysgrifennu at unigolion a sefydliadau naill ai i gael rhagor o wybodaeth neu i'w gwahodd i fynychu cyfarfodydd yn y dyfodol.

Clywodd y Grŵp gan gynrychiolwyr o Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC), EDF a Cefas. Canolbwyntiodd y trafodaethau â CNC ar ei rôl wrth bennu ceisiadau trwyddedu morol yn nyfroedd Cymru, a chymhwyso cyfraith Cymru gan CNC i'r penderfyniadau hynny. Ceisiodd a derbyniodd y Grŵp wybodaeth am yr arbenigedd technegol ar gael i CNC yn ei swyddogaethau gwneud penderfyniadau, a chytunodd i ysgrifennu at CNC i gael rhagor o wybodaeth am faterion na chawsant sylw llawn yn ystod y cyfarfod.

Rhoddodd cynrychiolwyr EDF a changen fasnachol Cefas gipolwg ar statws cyfredol prosiect Hinkley. Ceisiodd a derbyniodd y Grŵp wybodaeth yn ymwneud â chais EDF am drwydded forol i waredu gwaddod ar Diroedd Caerdydd a phenderfyniad y cwmni i baratoi Datganiad Amgylcheddol. Clywodd y Grŵp hefyd am ddulliau modelu yr oedd wedi'u defnyddio, effeithiau posibl y datblygiad ar bysgod yn Aber Hafren, ac apêl EDF yn erbyn gwrthodiad tybiedig gan Asiantaeth yr Amgylchedd i amrywio trwydded amgylcheddol.

Ymunodd swyddogion o gangen Cefas sy’n ymgynghori’r Llywodraeth â'r cyfarfod ar wahân, a rhoi esboniad o wahanu dyletswyddau yn eu sefydliad. Holodd y Grŵp am ymchwil Cefas i safleoedd gwaredu ar y môr yng Nghymru, ac yn benodol am unrhyw wybodaeth bellach ar Diroedd Caerdydd.

 

Cytunodd y Grŵp y dylai ei gyfarfod nesaf fod ar 16 Tachwedd 2020, am 9.00am.