Cyfarfod grŵp cyfeirio rhanddeiliaid Hinkley Point C: 18 Ionawr 2021: nodiadau
Nodiadau ar gyfer cyfarfod grŵp cyfeirio rhanddeiliaid Hinkley Point C ar 18 Ionawr 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Aelodau oedd yn bresennol:
- Jane Davidson (Cadeirydd)
- Dr Rhoda Ballinger
- Yr Athro Roger Falconer
- Dr Justin Gwynn
- Dr Sarah Jones
- Dr James Robinson
- Rachel Sharp
Hefyd yn bresennol o Lywodraeth Cymru:
- Dan Butler, Cynghorydd Arbennig i’r Prif Weinidog
- John Howells,
- Tara Doster,
- Jonni Tomos (Ysgrifenyddiaeth)
Cynhaliwyd seithfed cyfarfod Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Hinkley Point C y Prif Weinidog ar 18 Ionawr. Cytunodd y Grŵp y cofnodion o’r cyfarfod blaenorol, a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr. Croesawodd y Cadeirydd Dr Sarah Jones, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru i’r Grŵp.
Yn ystod y cyfarfod clywodd y Grŵp gan Bennaeth yr Amgylchedd EDF ar gyfer Hinkley Point C. Rhoddodd ddiweddariadau i’r Grŵp ar y prosiect, gan gynnwys dau gais EDF i waredu mwd o Hinkley yn ardaloedd gwaredu morol Caerdydd a Portishead yn Aber Hafren. Esboniodd y byddai EDF yn penderfynu ble i waredu’r mwd unwaith y byddai canlyniad y ddau gais yn hysbys.
Trafododd y Grŵp ohebiaeth a dderbyniwyd gan y Cwnsler Cyffredinol, a dogfennau briffio a ddarparwyd gan Fish Guidance Systems a Pisces Conservation. Trafododd y grŵp feysydd yr oedd yn eu hystyried yn gofyn am dystiolaeth bellach i lywio ei adroddiad cam cyntaf, a nododd randdeiliaid yr oedd angen iddo gysylltu â nhw. Rhoddodd yr aelodau ddiweddariadau ar gynnydd gydag ysgrifennu’r adroddiad a chytunwyd i ddarparu drafftiau llawn ar gyfer cyfarfod mis Chwefror y Grŵp.
Cytunodd y Grŵp i gynnal ei gyfarfod nesaf ar 15 Chwefror, am 9.00am