Cyfarfod grŵp cyfeirio rhanddeiliaid Hinkley Point C: 16 Tachwedd 2020: nodiadau
Nodiadau ar gyfer cyfarfod grŵp cyfeirio rhanddeiliaid Hinkley Point C ar 16 Tachwedd 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Aelodau oedd yn bresennol:
- Jane Davidson (Cadeirydd)
- Yr Athro Roger Falconer
- Dr Justin Gwynn
- Dr James Robinson
- Rachel Sharp
Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Dr Huw Brunt a Dr Rhoda Ballinger
Hefyd yn bresennol o Lywodraeth Cymru:
- Dan Butler, Cynghorydd Arbennig i’r Prif Weinidog
- John Howells, Tara Doster, Jonni Tomos (Ysgrifenyddiaeth)
Cynhaliwyd pumed cyfarfod Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Hinkley Point C y Prif Weinidog ar 16 Tachwedd Hydref. Cytunodd y Grŵp y cofnodion o’r cyfarfod blaenorol, a gynhaliwyd ar 19 Hydref.
Myfyriodd y Grŵp ar y dystiolaeth a gasglwyd hyd yma, a trafodwyd y themâu sy'n dod i'r amlwg y dylai fod yn ganolbwynt i raglen waith ymlaen llaw'r Grŵp. Cytunodd y Grŵp ar chwe maes blaenoriaeth i'w dilyn, gyda'r bwriad o ddarparu cyngor ar y materion hyn i'r Prif Weinidog, mewn adroddiad cam 1af, ym mis Mawrth 2021:
- Statws a defnydd safleoedd gwaredu morol yn Aber Hafren ar gyfer deunydd a garthwyd, gan gynnwys o Hinkley Point C;
- Archwilio gwytnwch ecosystem forol Aber Hafren;
- Cynllunio brys;
- Y defnydd o bwerau cyfreithiol sydd gan Lywodraeth Cymru a'i hasiantaethau;
- Cysylltiadau a threfniadau trawsffiniol;
- Annibyniaeth asiantaethau yn y broses ddatblygu.
Cytunodd y Grŵp pa sefydliadau ac asiantaethau yr oedd angen iddynt ymgynghori â hwy o hyd i'w alluogi i ddod i gasgliadau gwybodus, a chytunodd i ysgrifennu at y rhanddeiliaid hynny gyda'r bwriad o dderbyn tystiolaeth ysgrifenedig cyn y cyfarfod nesaf.
Cytunodd y Grŵp i gyflwyno ei ganfyddiadau mewn adroddiad i’r Prif Weinidog erbyn mis Mawrth 2021 oherwydd etholidau’r Senedd. Ffocws y cyfarfodydd yn y flwyddyn newydd fyddai cydgrynhoi'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer unrhyw gyngor a fyddai wedi'i gynnwys yn yr adroddiad.
Cytunodd y Grŵp y dylai ei gyfarfod nesaf fod ar 21 Rhagfyr 2020, am 9.00am