Yn bresennol

  • Mark Drakeford AC – (Cadeirydd), Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
  • Dr Hywel Ceri Jones – Cyn-lysgennad Cyllid yr UE
  • David Jones OBE – Pennaeth a Phrif Weithredwr, Coleg Cambria
  • Syr Emyr Jones Parry – Llywydd, Prifysgol Aberystwyth
  • Michael Plaut – Cadeirydd, CBI Cymru
  • William Powell – Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ewrop yn y Pedwerydd Cynulliad
  • Martin Mansfield – Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru
  • Ruth Marks MBE – Prif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Tim Peppin – CLlLC (yn lle'r Cynghorydd Rob Stewart
  • Kevin Crofton – Llywydd, SPTS Technologies Ltd
  • Yr Athro Colin Riordan – Llywydd ac Is-ganghellor, Prifysgol Caerdydd
  • Tom Jones OBE – Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop (EESC)
  • Julie Morgan AM – Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru Gyfan

*Roedd nifer bach o swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn bresennol i gynorthwyo.

Ymddiheuriadau

  • Jill Evans ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Nathan Gill ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Yr Arglwydd Kinnock – Cyn Is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd
  • Dr Kay Swinburne ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Derek Vaughan ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Yr Athro Richard B. Davies – Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe
  • Kevin Roberts – Cadeirydd Hybu Cig Cymru
  • Rachel Sharp – Prif Weithredwr, Ymddiriedolaethau Natur Cymru

1. Cyflwyniad

Agorodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol y cyfarfod a chroesawu aelodau'r Grŵp Cynghori ar Ewrop i'r wythfed cyfarfod. Cyflwynodd hefyd Julie Morgan AC, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru Gyfan, a oedd wedi cael ei gwahodd i ymuno â'r Grŵp.

Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet amlinelliad o'r agenda, gan egluro y byddai'r cyfarfod yn cynnwys trafodaeth ar Fargen Cam Un; Bil Ymadael â’r DU; rôl y Grŵp Cynghori ar Ewrop: dau grŵp trafod ar y Gronfa Bontio Ewropeaidd, a dogfen Polisi Masnach Llywodraeth Cymru.

2. Y datblygiadau diweddaraf

Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wybodaeth i'r grŵp am y datblygiadau diweddaraf ers y cyfarfod diwethaf, ar lefel yr UE, ar lefel y DU ac yng Nghymru. Ymhlith y meysydd dan sylw roedd y canlynol:

  • Lansio dogfen Bolisi Llywodraeth Cymru ar Fasnach ar 2 Chwefror
  • cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) (JMC(EN)) ar 12 Rhagfyr
  • lansio dogfen Bolisi Llywodraeth Cymru ar Fuddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit ar 14
  • Cyfarfod tairochrog â Brandon Lewis (fel Gweinidog y DU dros Fudo ar y pryd)
  • cynnal digwyddiad briffio ar y cyd rhwng Tŷ'r Arglwyddi a Llywodraeth yr Alban ar ryngweithiad Bil Ymadael â’r UE a datganoli
  • Cyfarfod y Prif Weinidog â David Lidington, Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet a Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru
  • presenoldeb Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yng Nghynhadledd Economaidd Killarney a chyn y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.

3. Trafod Bargen Cam Un

Arweiniodd Dr Hywel Ceri Jones ar yr eitem hon. Y prif bwyntiau a godwyd wrth drafod oedd:

  • siom nad yw'r gwelliannau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi cael eu derbyn gan Lywodraeth y DU yng Nghyfnod y Pwyllgor yn Nhŷ'r Cyffredin nac yn y Cyfnod Adrodd
  • croeso i'r ymrwymiad a wnaed gan Brif Weinidog y DU yng nghanol Ionawr i gyflwyno gwelliannau i gymal 11, ond cydnabod yr angen am ymrwymiad cadarn sy'n parchu'r setliad datganoli
  • pwysigrwydd ceisio barn gan lawer o sefydliadau ledled Cymru yn llywio safbwynt Llywodraeth Cymru i fwydo i mewn i'r ddadl i roi llais cryf i Gymru
  • ystyried paratoi datganiad byr a chlir yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru a gofynion i'w cyflwyno i Lywodraeth y DU
  • anghenraid peidio â chael ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon ac amddiffyn hawliau'r dinesydd
  • pwysigrwydd bod y DU gyfan yn dal i gydweddu'n llawn â'r Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau
  • gofyniad i lunio testun sy'n rhwymo mewn cyfraith ynghylch yr Undeb Tollau yn enwedig yn ystod y cyfnod pontio.

4. Y diweddaraf am Fil Ymadael â'r UE

Rhoes Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid y newyddion diweddaraf am y gweithgareddau hyd yn hyn. Ar y cyd â Llywodraeth yr Alban, Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o welliannau i sicrhau bod y setliad datganoli'n cael ei barchu. Croesawyd yr ymrwymiad gan Brif Weinidog y DU i gyflwyno gwelliannau i gymal 11 yn Nhŷ'r Arglwyddi, ond nes i'r gwelliannau gael eu derbyn ni fyddwn yn ceisio cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r Bil. I'r perwyl hwn byddwn yn parhau i drafod â Llywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi Bil Parhad a allai gael ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol pe bai angen. Ynghyd â Llywodraeth yr Alban, cynhaliwyd digwyddiad briffio ar y cyd gyda Thŷ'r Arglwyddi ar y rhyngweithiad rhwng Bil Ymadael â’r UE a datganoli. Daeth nifer mawr i'r digwyddiad. Byddwn yn parhau i gadw llygad ar y sefyllfa.

5. Dogfen Polisi Masnach Llywodraeth Cymru

Nododd Ysgrifennydd y Cabinet fod y diweddaraf yn ein cyfres o bapurau polisi ynghylch Brexit - sef Polisi Masnach: Materion Cymru wedi'i gyhoeddi ar 2 Chwefror. Mae'r papur, sy'n cael ei ategu gan ddadansoddiad o'r effaith economaidd o Ysgol Fusnes Caerdydd, yn dadlau mai'r ffordd orau o ddiogelu economi Cymru yw trwy gadw mynediad llawn i'r Farchnad Sengl Ewropeaidd a bod yn aelod o undeb tollau.

Cafodd y ddogfen ei chroesawu gan aelodau'r Grŵp Cynghori ar Ewrop ac fe wahoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid sylwadau gan y Grŵp wedyn. Trafodwyd amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys:

  • pwysigrwydd tanlinellu anghenion y gwahanol sectorau busnes a gwasanaethau cyhoeddus ac osgoi tariffau fel dwy o'r prif flaenoriaethau
  • byddai canlyniadau methu â sicrhau cytundeb yn drychinebus i Gymru ac i'r DU, a'n blaenoriaeth yw sicrhau'r cytundeb gorau posibl i Gymru
  • pwysigrwydd y Farchnad Sengl i Gymru, o safbwynt allforion a mewnfuddsoddi.
  • trefniadau pontio i'w sefydlu er mwyn negodi perthynas hirdymor newydd â'r UE.
  • y gallu i gael mynediad i raglenni Horizon 2020 ac Erasmus+
  • angen i'r DU sefydlu safbwynt negodi cadarn sy'n cynrychioli anghenion Cymru.

6. Cronfa Bontio'r UE

Ymrannodd yr aelodau'n ddau grŵp trafod gyda'r cynullwyr David Jones a William Powell yn arwain y grwpiau. Roedd swyddogion wedi paratoi papur i gefnogi trafodaethau'r grŵp.

Cafodd y prif bwyntiau canlynol a godwyd ym mhob grŵp eu hadrodd yn ôl i'r grŵp llawn:

  • croesawyd y gronfa hon fel datblygiad cadarnhaol wrth helpu sefydliadau yng Nghymru i baratoi ar gyfer y cyfnod pontio
  • o ran egwyddor, ni ddylai'r gronfa gael ei defnyddio i ddisodli arian sy'n dal yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU
  • yr angen i benderfynu a ddylai'r gronfa gael ei hanelu'n fwy at brosiectau llai neu fwy
  • dylai Llywodraeth Cymru geisio cadw biwrocratiaeth i'r lleiaf, tra'n sicrhau bod y Gronfa'n cael ei monitro a'i rheoli'n effeithiol
  • defnyddio arbenigedd a phrofiad Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru gyfan ynghylch Rheoli'r Gronfa
  • ystyried cyfleoedd ar gyfer arian cyfatebol fel atodiad at y Gronfa Bontio Ewropeaidd
  • mae'n debygol y bydd ystod o brosiectau lle y gallai'r gronfa hon ychwanegu gwerth, yn amrywio o wasanaethau cynghori a gweithredu risg isel at fentrau mwy arloesol
  • angen i sicrhau bod egwyddorion y Ddeddf Llesiant yn cael ei hymgorffori ym mhob prosiect a ariennir.

7. Y Grŵp Cynghori ar Ewrop - asesu'r sefyllfa hyd yma

Diolchodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i'r aelodau am eu cyfraniad at yr adolygiad o'r Grŵp Cynghori ar Ewrop a chasglu y byddai'r camau gweithredu canlynol yn cael eu cymryd:

  • yr aelodau'n ymgymryd â rôl fwy cyhoeddus yn unigol yn ôl eu dymuniad ac yn defnyddio eu cysylltiadau eu hunain er budd ehangach lle bo'n berthnasol
  • gweithgareddau'r Grŵp Cynghori ar Ewrop i gael cyhoeddusrwydd ehangach gan ddefnyddio'r sianeli cyfathrebu amrywiol;
  • cyfle i roi sylwadau ar bapurau polisi drafft Llywodraeth Cymru ac i ymgynghori ag aelodau'r Grŵp ynghylch y dogfennau;
  • lobïo ar ran safbwyntiau Llywodraeth Cymru fel unigolion mewn meysydd polisi penodol
  • cyhoeddi papurau cyfarfodydd ar ôl pob cyfarfod
  • mwy o weithio ar y cyd â sefydliadau yng Nghymru ac arweinwyr polisi yn Llywodraeth Cymru
  • gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Phwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad Cenedlaethol
  • mae'r gynrychiolaeth bresennol yn briodol, ond bydd yn cael ei hadolygu'n barhaus.

8. Y camau nesaf ac unrhyw fater arall

Roedd rhestr o ddyddiadau cyfarfodydd arfaethedig ar gyfer 2018 wedi ei rhoi i'r Grŵp fis Rhagfyr diwethaf. Caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 26 Ebrill.