Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyfarfod cyntaf o Bwyllgor Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gogledd wedi cael ei gynnal yng Nghyffordd Llandudno.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gweinidog yr Economi a Thrafnidaieth, Ken Skates, sydd hefyd yn Weinidog ar gyfer y Gogledd, oedd yn cadeirio'r Pwyllgor. Cylch gwaith y Pwyllgor yw ystyried unrhyw fater sy'n berthnasol i lesiant cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd y rhanbarth.

Bydd yn gwneud argymhellion ac yn adrodd yn ôl i'r Cabinet llawn, sydd eisoes wedi cyfarfod yn y Gogledd eleni.

Dywedodd Ken Skates:

"Mae Pwyllgor y Cabinet ar gyfer y Gogledd yn caniatáu inni hoelio sylw ar faterion sy'n effeithio ar y rhanbarth. Yn y cyfarfod cyntaf, trafodwyd nifer o faterion, gan gynnwys Bargen Twf y Gogledd, materion trawsffiniol, a'r cynllun economaidd ehangach.

“Fel y Mae'r Prif Weinidog wedi datgan yn glir, un o'i flaenoriaethau yw sicrhau bod gan y Gogledd lais cryf yn y llywodraeth ac yn y Cabinet er mwyn inni fedru canolbwyntio’n gryf ar y rhanbarth a'i ddyfodol. Mae sefydlu'r Pwyllgor hwn yn rhan o'r ymdrech honno, ac rwy'n falch o gael cadeirio'r cyfarfod cyntaf hwn.