Neidio i'r prif gynnwy

Ddydd Mercher, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Pwrpas y Bwrdd yw ystyried materion yn ymwneud â recriwtio a chadw athrawon er mwyn cefnogi gweithlu addysg o ansawdd sy'n egnïol, yn ymroddedig ac wedi ymrwymo i sicrhau cyfleoedd dysgu parhaus i bawb, ac sydd hefyd yn gallu diwallu gofynion diwygio'r cwricwlwm ac addysg yn ehangach.

Bydd y Bwrdd Cynghori yn herio, yn drwyadl ac yn sicrhau ansawdd, a bydd ei waith yn sail i rannau allweddol o'r broses o ddatblygu polisi cynllunio'r gweithlu, gan gynnwys mynd i'r afael â goblygiadau Strategaeth Cymraeg 2050.

Bydd y Bwrdd hefyd yn darparu cyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru ar ddiwygio Addysg Gychwynnol Athrawon a chefnogi'r gweithlu addysgu presennol, gan roi sylw i arferion rhagorol mewn rhannau eraill o'r DU ac yn rhyngwladol.

Cadeirydd y Bwrdd yw'r Athro John Gardner, Dirprwy Bennaeth (Addysg a Myfyrwyr) Prifysgol Stirling.

Dywedodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg:

"Mae ein hathrawon yn rhan gwbl annatod o'n Cenhadaeth Genedlaethol. Proffesiwn sy'n cydweithio, sy'n agored i syniadau newydd ac sy'n dysgu'n barhaus - gan godi safonau i bob disgybl, fel y gall Cymru arwain y ffordd ym maes addysg ar lefel fyd-eang."

Dyma aelodau'r Bwrdd:

  • Y Cadeirydd: Yr Athro John Gardner
  • Yr Athro Furlong (Cadeirydd - Bwrdd Achredu Addysg Athrawon)
  • Syr Alasdair Macdonald (Bwrdd Cysgodol Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol)
  • Eithne Hughes (Pennaeth)
  • Sarah Lewis (arweinydd arolygu Addysg Gychwynnol Athrawon - Estyn)
  • Anna Brychan (Consortiwm Canolbarth y De, yn cynrychioli pob consortiwm rhanbarthol)
  • Hayden Llewellyn (Prif Swyddog Gweithredol – Cyngor y Gweithlu Addysg)
  • Geraint Rees (secondai arbenigol Addysg ac Awdurdodau Lleol - Llywodraeth Cymru)
  • Ty Golding (secondai Datblygu'r Cwricwlwm - Llywodraeth Cymru)