Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn cymryd cam mawr yn nes at gasglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru, wrth i’w fwrdd gyfarfod am y tro cyntaf.
Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn cymryd cam mawr yn nes at gasglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru, wrth i’w fwrdd gyfarfod am y tro cyntaf.
Mae llai na chwe mis i fynd nes bydd y trethi cyntaf mewn bron 800 o flynyddoedd yn cael eu cyflwyno yng Nghymru, sef treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi. Bydd ACC yn casglu’r ddwy dreth hyn pan fyddant yn cael eu cyflwyno ar 1 Ebrill 2018.
Mae cyfarfod cyntaf bwrdd ACC sy’n cael ei gynnal yn Nhrefforest heddiw yn garreg filltir bwysig i’r gwaith o greu'r sefydliad newydd, sef yr adran Anweinidogol gyntaf i gael ei chreu yng Nghymru erioed.
Bydd trafodaethau’r bwrdd yn canolbwyntio ar sefydlu ACC a’i drefniadau llywodraethu o safbwynt cyfreithiol. Dros y misoedd nesaf, byddant yn canolbwyntio ar ddatblygu swyddogaethau ACC a’i berthynas â’i gwsmeriaid, yn enwedig datblygu Siarter y Trethdalwr.
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford fod pum aelod bwrdd anweithredol wedi’u penodi ynghyd â phrif weithredwr ACC, sef Dyfed Alsop, fis diwethaf.
Dywedodd Kathryn Bishop, cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru:
“Bydd trethdalwyr am gael canllawiau wrth i’r trethi newydd gael eu cyflwyno yng Nghymru a sicrwydd y bydd y broses o’u casglu yn effeithlon ac yn ddiogel. Mae’r sefydliad eisoes yn gweithio’n galed ar hyn, gan ddod ag arbenigedd o fannau eraill yng Nghymru ac yn y DU.”
Gan roi sylwadau ar yr hyn y gall cwsmeriaid ei ddisgwyl gan ACC, dywedodd Mr Alsop:
“Rydw i am greu sefydliad sy’n darparu’n hyderus ac yn ennyn ffydd y bobl fydd yn ei ddefnyddio. Bydd ACC yn gweithio mewn partneriaeth â threthdalwyr a gweithwyr treth proffesiynol, i’w helpu i dalu'r trethi.
“Yn ymarferol, rydyn ni’n creu sefydliad digidol newydd heb hanes ar bapur. Does gennym ni ddim contractau na systemau TG etifeddol ac nid oes gennym ni eto enw da yn ddiwylliannol. Gobeithio bod hyn yn golygu y gallwn ni lywio'r sefydliad newydd i ymateb i anghenion pobl Cymru.”
Dros y chwe mis nesaf, dylai darpar gwsmeriaid ACC barhau i gyfeirio unrhyw ymholiadau am drethi i Gyllid a Thollau EM - mae hyn yn cynnwys treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi.
Bydd yr holl wybodaeth ddiweddaraf am y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi, a fydd yn disodli treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi o fis Ebrill 2018 ymlaen, yn ogystal â chanllawiau ar y trethi newydd, yn cael eu cyhoeddi ar wefan newydd ACC. Bydd cwsmeriaid yn gallu cofrestru â’r system dreth ddechrau 2018.
Bydd y sefydliad yn cyflwyno polisi treth Gweinidogion Cymru ac yn dilyn y cyfeiriad strategol a bennwyd ganddynt ond bydd yn weithredol annibynnol.
I gael rhagor o wybodaeth am weithredu’r ACC, cysylltwch â WRAimplementation@llyw.cymru.