Cyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg: 8 Gorffennaf 2021
Cofnod o gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg ar 8 Gorffennaf 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol |
Rôl |
---|---|
Jeremy Miles AS |
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg |
Rhodri Llwyd Morgan |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
Rhian Huws Williams |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
Simon Brooks |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
Angharad Mai Roberts |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
Rosemary Jones |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
Dyfed Edwards |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
Lowri Morgans |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
Meleri Davies |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
Rhys Jones |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
Andrew White (Tan 14:00) |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
Bethan Webb |
Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru |
(Ysgrifenyddiaeth) |
Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru |
(Ysgrifenyddiaeth) |
Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru |
(Ysgrifenyddiaeth) |
Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru |
Aelodau staff Is-adran y Gymraeg (Arsylwi’n unig) |
Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru |
Ymddiheuriadau
Ymddiheuriadau |
Rôl |
---|---|
Enlli Thomas |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
Dafydd Hughes |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
Eitem 1
Gair o groeso gan y Gweinidog
Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i rith-gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg – ei gyfarfod cyntaf.
Nododd y Gweinidog ei bod hi’n fraint cael bod yn Weinidog y Gymraeg ac Addysg gan ychwanegu ei fod yn edrych ymlaen at gael cydweithio â’r aelodau.
Amlinellodd y Gweinidog ei flaenoriaethau ar gyfer y Llywodraeth hon:
1. Cefnogi defnydd o’r Gymraeg ym mhob cyd-destun ac ym mhob rhan o Gymru
Nododd ei fod am wneud yn siŵr bod yr iaith yn gynhwysol a’i fod am weld pobl yn cael eu hannog, waeth faint o Gymraeg sydd ganddyn nhw, i’w defnyddio a’i dysgu fel bod pawb ar yr un llwybr. Bydd angen sicrhau hefyd bod gan bawb fynediad at gyfleoedd i ddysgu Cymraeg, yn y system addysg ac yn ehangach.
Bydd gofyn i bob ymyrraeth gyfrannu at y gwaith o gefnogi pobl i ddefnyddio Cymraeg yn amlach – pa un a yw’r ymyrraeth honno gan y Llywodraeth yn uniongyrchol, gan ein partneriaid, gan y rheiny byddwn yn eu hariannu, neu’n gamau o ran rheoleiddio neu gynllunio polisi.
2. Addysg Gymraeg i blant / Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA / WESP)
Nododd bod rhaid gwneud yn siŵr bod pob plentyn sydd am dderbyn ei addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu cael mynediad at yr addysg honno. O ran y CSCA, soniodd mai’r brif her yw bod â gweithlu digonol a all addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd gofyn rhoi sylw manwl i’r cynllun recriwtio deng mlynedd sy’n cael ei ddrafftio i gyd-fynd â’r cylch CSCA nesaf.
Yr elfen ddaearyddol
Nododd y bydd gofyn ystyried y sefyllfa ddaearyddol yn ofalus er mwyn cyrraedd y miliwn: ail gartrefi / yr economi, yn enwedig yn y cadarnleoedd.
Eitem 2
Cyflwyniadau gan yr aelodau
Cyflwynodd yr aelodau eu hunain i’r Gweinidog fesul un – gan sôn am eu cefndiroedd a’r hyn y maent yn gobeithio ei gyfrannu drwy gyfrwng y Cyngor Partneriaeth.
Diolchodd y Gweinidog i’r aelodau am eu cyflwyniadau gan ddatgan ei fod yn edrych ymlaen at elwa ar eu harbenigedd wrth i bawb gydweithio i ddyblu defnydd o’r Gymraeg a chyrraedd y miliwn.