Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Yn bresennol

Rôl

Eluned Morgan AS

Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg

Rhodri Llwyd Morgan

Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Enlli Thomas

Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

 

Owen Derbyshire

Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Simon Brooks

Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rhian Huws Williams

Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Bethan Webb

Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

 (Ysgrifenyddiaeth)

Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

 (Ysgrifenyddiaeth)

Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

 (Ysgrifenyddiaeth)

Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

Aelodau staff Is-adran y Gymraeg (Arsylwi’n unig)

Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

Ymddiheuriadau Rôl

Angharad Mai Roberts 

Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Croeso

Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, i rith-gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg. Nodwyd bod aelodau o Uwch-dîm Rheoli Is-Adran y Gymraeg yn bresennol yn y cyfarfod i wrando ar y trafodaethau ac i fod ar gael i ateb cwestiynau ar unrhyw faes perthnasol yn ôl y galw.

Diolchodd y Gweinidog yn fawr i’r Aelodau am eu holl waith, yn enwedig eleni wrth feddwl am y cyfnod ansicr yr ydym ni wedi bod ynddo. Diolchodd hefyd am y gwaith adeiladol y mae’r is-grwpiau yn ei wneud. Nododd bod yr argymhellion sydd wedi deillio o’r grwpiau hynny wedi bod yn amhrisiadwy a diolchodd am eu harbenigedd.

Eitem 1: diweddariad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg

Cafwyd diweddariad gan y Gweinidog ar yr hyn sydd wedi digwydd ers y cyfarfod diwethaf.

Fel rhan o’r diweddariad, nododd y Gweinidog ei bod yn awyddus i weld a oes yna rywbeth y gellid ei wneud o ran gwarchod enwau tai. Nododd y Gweinidog hefyd bod ymgynghoriad ar gategoreiddio ysgolion yn fyw ar hyn o bryd, ac anogodd yr Aelodau i gyflwyno eu sylwadau ar yr ymgynghoriad.

Pwynt Gweithredu 1

Swyddogion i ymchwilio i weld beth sy’n bosib o ran gwarchod enwau tai.

Pwynt Gweithredu 2

Aelodau i roi sylwadau ar yr ymgynghoriad ar gategoreiddio ysgolion.

Cyflwynodd y Gweinidog gofnodion y cyfarfod blaenorol a chynnig bod Aelodau’n cysylltu gyda’r Ysgrifenyddiaeth os bydd ganddynt unrhyw sylwadau. Fel arall, byddant yn cael eu cymeradwyo.

Diolchodd Aelod i’r Gweinidog ac i aelodau’r Is-adran am eu gwaith yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Eitem 2: adborth gan yr is-grwpiau 

Trodd y Gweinidog at yr ail eitem ar yr agenda.

Gan droi at pob is-grŵp yn ei dro, estynnwyd croeso i’r cadeiryddion roi diweddariad ar eu gwaith.

Eitem 3: ymateb i Argymhellion yr Is-grŵp Cynyddu'r Defnydd o'r Gymraeg – trafodaeth gychwynnol

Cafwyd trafodaeth ar argymhellion yr Is-grŵp Cynyddu’r Defnydd o’r Gymraeg.

Dyma rai o’r materion a godwyd gan Aelodau:

  • prif her yr Is-grŵp yn ystod y blynyddoedd nesaf fydd ailadeiladu bywydau cymunedau Cymraeg yn sgil COVID-19 a Brexit
  • angen cofio bod gweithgareddau’r Mentrau Iaith yn amrywio ar draws Cymru a bod angen parhau i gydweithio â nhw
  • y pwysigrwydd i blethu gwaith y Mentrau Iaith gyda rhaglen Arfor: gan ystyried defnyddio arbenigedd pobl fusnes i helpu gwydnwch mudiadau cymunedol a potensial mudiadau Cymraeg o ran datblygu mentrau economaidd sydd hefyd yn rhoi budd i'r iaith Gymraeg

Eitem 4: polisi Seilwaith Ieithyddol – diweddariad

Trodd y Gweinidog at y pedwerydd eitem ar yr agenda. Nododd mai dogfen ddrafft yw’r Polisi seilwaith ieithyddol sydd gerbron yr Aelodau ac y bydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus maes o law. Mae’n amlinellu cynigion er mwyn datblygu a chydlynu maes seilwaith ieithyddol y Gymraeg yn well.

Trosglwyddwyd yr awenau i un o swyddogion y Llywodraeth i roi cyflwyniad ar y gwaith.

Nododd y swyddog mai’r hyn a olygir wrth seilwaith ieithyddol yn y ddogfen yw geiriaduron, adnoddau terminoleg, gwaith cynllunio corpws, a safoni’r Gymraeg (gyda ffocws penodol ar yr orgraff / sillafiadau). Er mwyn bwrw’r gwaith yn ei flaen, y bwriad yw sefydlu Uned i gydlynu’r gwahanol elfennau’n well, a chynllunio gwaith yn y maes. Mae yna fwriad hefyd i greu un wefan chwiliadwy lle gall unrhyw un sydd am ddefnyddio’r Gymraeg ddod o hyd i air neu derm yn rhwydd. Nododd mai un o’r prif amcanion oedd gwneud i’r maes weithio yn well i’r defnyddiwr.

Nododd y Swyddog bod croeso i’r Aelodau rannu sylwadau yn ystod y cyfarfod neu gysylltu eto os hoffent drafodaeth fanylach ar y ddogfen.

Dyma rai o’r materion a godwyd gan Aelodau:

  • nododd Aelod ei fod yn croesawu’r polisi drafft yn fawr iawn. Eglurodd ei fod yn cytuno bod angen sefydlu Uned a bod y polisi drafft yn dangos y ffordd ymlaen mewn ffordd gadarn ac yn gwneud hynny gan barchu rhanddeiliaid sydd eisoes yn rhan o’r maes
  • cyfeiriwyd at bwysigrwydd bod â deunyddiau sy’n addas ar gyfer gwahanol ddefnyddwyr (e.e. cyfieithwyr / rhieni di-Gymraeg / dysgwyr) ac y bydd felly angen dylunio’r platfform a llwybr defnyddwyr at yr adnoddau yn unol â hynny

Pwynt Gweithredu 3

Aelodau i ymateb yn swyddogol i’r ymgynghoriad pan aiff yn fyw a gofyn i eraill sydd â diddordeb wneud yr un fath.

Eitem 5: ail gartrefi: datblygu polisïau newydd yng Nghymru (drafft cyntaf) – diweddariad

Cafwyd cyflwyniad gan Aelod ar ddatblygu polisïau newydd yng Nghymru ym maes ail gartrefi yng nghyfarfod 22 Hydref 2020 y Cyngor Partneriaeth. Cafwyd diweddariad pellach gan yr Aelod ar y gwaith - sydd bellach yn cynnwys cyflwyno argymhellion polisi i Lywodraeth Cymru ar gais y Gweinidog. Amlygodd yr aelodau:

  • bod angen safbwynt ac arweiniad cenedlaethol clir ar gyfer y maes hwn
  • bod angen sefydlu polisi cenedlaethol i ddelio gydag ardaloedd sydd â dwysedd uchel o ail gartrefi
  • yr angen i weithredu yn y maes hwn heb oedi pellach er mwyn diogelu cymunedau yn enwedig cymunedau Cymraeg

Eitem 6: proffiliau iaith – trafodaeth gychwynnol

Trodd y Gweinidog at yr eitem nesaf ar y agenda gan drosglwyddo’r awenau i un o swyddogion Llywodraeth Cymru.

Nododd y swyddog mai bwriad y prosiect yw gwella mynediad at wybodaeth a data ynghylch y Gymraeg gyda’r nod o hwyluso’r gwaith cynllunio ieithyddol ar lefel sirol. Nid comisiynu gwaith ymchwil newydd yw’r bwriad ond yn hytrach, cyflwyno gwybodaeth a data sydd eisoes ar gael mewn dull mwy hygyrch a chyson ar draws yr holl siroedd.

Nodwyd mai’r prif gynulleidfa darged yw arweinwyr ac uwch-swyddogion yn y cynghorau sir ond bod y prosiect yn debygol o fod o ddiddordeb a budd i gynulleidfa ehangach megis swyddogion Is-adran y Gymraeg, Comisiynydd y Gymraeg, swyddogion mewn adrannau ar draws y Llywodraeth er mwyn eu cynorthwyo i brif-ffrydio’r Gymraeg ac asesu effaith penderfyniadau ar y Gymraeg, mudiadau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg ar lawr gwlad, cyrff cyhoeddus eraill ac ati.

Eitem 7: unrhyw fater arall

Diolchodd Aelod i’r Gweinidog am ei gwaith yn ystod y Llywodraeth hon.

Diolchodd y Gweinidog i bawb am eu cyfraniadau gwerthfawr a nododd ei bod wedi mwynhau gweithio gyda phawb.

Pwyntiau Gweithredu

 

Pwynt gweithredu

I bwy?

Wedi cwblhau?

1.

Swyddogion i ymchwilio i weld beth sy’n bosib o ran gwarchod enwau tai.

Swyddogion Llywdoraeth Cymru

2.

Annog yr Aelodau i edrych ac i roi sylwadau ar yr ymgynghoriad ar gategoreiddio ysgolion. Swyddogion i rannu’r ymgynghoriad gyda’r aelodau. Ysgrifenyddiaeth i ddanfon y ddolen at yr Aelodau.

Ysgrifenyddiaeth/Aelodau

3.

Aelodau i ymateb yn swyddogol i’r ymgynghoriad pan aiff yn fyw a gofyn i eraill sydd â diddordeb wneud yr un fath.

Aelodau