Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Yn bresennol

Rôl

Jeremy Miles AS

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Rhodri Llwyd Morgan

Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Enlli Thomas

Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Simon Brooks

Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Angharad Mai Roberts

Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rosemary Jones

Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Dyfed Edwards

Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Dafydd Hughes 

Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Lowri Morgans

Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Meleri Davies

Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rhys Jones

Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Andrew White

Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

 

Adran Ystadegau, Llywodraeth Cymru

 

Adran Ystadegau, Llywodraeth Cymru

Dr Ioan Matthews

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Gwenllian Griffiths

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Bethan Webb

Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

 

(Ysgrifenyddiaeth)

Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

 

(Ysgrifenyddiaeth)

Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

Aelodau staff Is-adran y Gymraeg (Arsylwi’n unig)

Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

Ymddiheuriadau

Rôl

Rhian Huws Williams

Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

 

Eitem 1: croeso gan ddirprwy gyfarwyddwr is-adran y Gymraeg

Croesawyd pawb gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Gymraeg i gyfarfod y Cyngor Partneriaeth.

Eitem 2: diweddariad data

Trosglwyddwyd yr awenau i un o swyddogion Llywodraeth Cymru i roi diweddariad ar ddata ym maes y Gymraeg.

Eitem 3: diweddariad ar y proffiliau iaith fesul awdurdod lleol

Cafwyd diweddariad gan un o swyddogion Llywodraeth Cymru ar y gwaith sydd wedi’i wneud yn ddiweddar ar y proffiliau iaith fesul awdurdod lleol.

Cam Gweithredu 1

Ysgrifenyddiaeth i anfon copïau o’r cyflwyniad at yr Aelodau ar ôl y cyfarfod.

Cam Gweithredu 2

Swyddogion Ymchwil i ddarparu data ôl-16, gan edrych ar ddilyniant o addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol i addysg bellach ac addysg uwch.

Cam Gweithredu 3

Ysgrifenyddiaeth i anfon dolen at y proffiliau iaith at yr aelodau i holi am adborth ar y cynnwys / i nodi unrhyw fylchau.

Eitem 4: sgwrs gyda chyfarwyddwr addysg a’r gymraeg, Llywodraeth Cymru

Cafwyd diweddariad gan Gyfarwyddwr Addysg a’r Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru. Bu’n trafod ei weledigaeth ar gyfer y swydd a bu Aelodau’n cynnig sylwadau ac yn holi cwestiynau.

Egwyl

[Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ymuno â’r cyfarfod ac yn cymryd y gadair]

Eitem 5: gair o groeso a diweddariad ar y rhaglen waith

Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i rith-gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg.

Cafwyd diweddariad gan y Gweinidog ar y Rhaglen Waith.

Eitem 6: y cynllun tai cymunedau Cymraeg

Symudodd y Gweinidog ymlaen at yr eitem nesaf gan droi i edrych ar y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg.

Dyma rai o’r materion a godwyd gan Aelodau:

  • bydd angen i effeithiau COVID-19 a Brexit ar y maes fod yn ganolog yn ein meddyliau, yn enwedig wrth ddadansoddi canlyniadau’r Cyfrifiad pan fyddant ar gael a bydd hyn yn effeithio ar ein polisi addysg ac ati
  • nododd un Aelod bod entrepreneuriaeth yn allweddol i hyn a bod datblygu cymunedau mentrus yn rhan fawr o’r ateb
  • nodwyd bod angen helpu cymunedau i brynu tai i’w gosod i bobl leol
  • nodwyd bod y syniad o greu ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol yn hanfodol
  • nodwyd bod yr egwyddor o roi cyfle i bobl leol neu fentrau cymdeithasol yn unig i gael cyfle i brynu eiddo cyn agor y farchnad i eraill yn un pwysig

Eitem 7: diweddariad ar y maes Ôl-16

Cafwyd diweddariad ar y maes Ôl-16 gan Dr Ioan Matthews a Gwenllian Griffiths o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

  • Cafwyd trafodaeth ar ddenu myfyrwyr i astudio’n Gymraeg ac ar ddatblygu’r gweithlu a all addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Cyfeiriwyd at rwydwaith SEREN: er bod yna rai pryderon am y gwaith hwn, mae’n gyfle pwysig i gadw cysylltiad gyda myfyrwyr. Nodwyd bod angen edrych ar sut mae cysoni nodau’r prosiect.
  • Cafwyd trafodaeth hefyd am brentisiaethau.

Cam Gweithredu 4

Ioan Matthews i rannu rhai adnoddau codi ymwybyddiaeth gydag Aelodau i geisio eu hadborth arnynt.

Eitem 8: unrhyw fater arall

Nid oedd unrhyw fater arall i’w drafod.

Diolchodd y Gweinidog i’r Aelodau am eu hamser, eu cefnogaeth ac am eu gwaith.

Pwyntiau gweithredu

 

Pwynt gweithredu           

I bwy?       

Erbyn pryd?

Wedi cwblhau?

1.

Ysgrifenyddiaeth i anfon copïau o’r cyflwyniad at yr Aelodau ar ôl y cyfarfod.

Ysgrifenyddiaeth

Wedi’u hanfon ar 10 Chwefror 2022

Ydw

2.

Swyddogion Ymchwil i ddarparu data ôl-16, gan edrych ar ddilyniant o addysg cyfwng Cymraeg yn yr ysgol i addysg bellach ac addysg uwch.

Swyddogion Ymchwil

Diweddariad wedi’i anfon ar 10 Chwefror 2022

Ydw

3.

Ysgrifenyddiaeth i anfon dolen at y proffiliau iaith at yr Aelodau i holi am adborth cynnwys / i nodi unrhyw fylchau.

Ysgrifenyddiaeth

Wedi’u hanfon ar 10 Chwefror 2022

Ydw

4.

Ioan Matthews i rannu rhai adnoddau codi ymwybyddiaeth gydag Aelodau i geisio eu hadborth arnynt.

Ioan Matthews, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Wedi’u hanfon ar 10 Chwefror 2022

Ydw