Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad a sylwadau agoriadol

Croesawodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol aelodau Cyngor Partneriaeth y Gweithlu i'r cyfarfod a chadarnhaodd y byddai ymddiheuriadau'n cael eu nodi yn y cofnodion.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog mai hwn fyddai'r cyfarfod olaf cyn etholiad y Senedd a diolchodd i'r aelodau am eu cefnogaeth, gan obeithio y byddai’n cael y cyfle i barhau i weithio gyda phawb yn y dyfodol. Diolchodd y Dirprwy Weinidog hefyd i Ceri Williams am ei gyfraniad yn y Cyd-ysgrifenyddiaeth a chyn iddo ddychwelyd i TUC Cymru.

2. Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) Drafft

Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog fanylion y Bil drafft a gyhoeddwyd yn ddiweddar, a’r ymgynghoriad, a diolchodd i bawb a gyfrannodd ac a gefnogodd ddatblygiad y Bil, gan gydnabod bod hwn wedi bod yn ddarn heriol o waith o ystyried y pwysau yn sgil y pandemig presennol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog fod Partneriaeth Gymdeithasol yn ffordd o weithio sydd wedi datblygu'n organig yn ystod datganoli. Bydd y Bil yn cryfhau'r fforymau teirochrog presennol, yn dod ag elfen gwaith teg i gaffael cyhoeddus ac yn gosod dyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol ar gyrff cyhoeddus.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog y bydd y Bil yn annog ymgysylltu ar bob lefel ac yn helpu i ategu agendâu polisi eraill. Bydd yn sail statudol i Bartneriaeth Gymdeithasol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog y gall pob un ohonom, drwy weithio mewn partneriaeth, helpu i ddatblygu'r Bil, gan annog aelodau a sefydliadau i ymgysylltu drwy'r ymgynghoriad.

Diolchodd Shavanah Taj i'r Dirprwy Weinidog am ei gwaith parhaus gyda'r Undebau Llafur mewn cyfres o gyfarfodydd ar y mater hwn. Dywedodd ei bod yn beth positif ein bod wedi cyrraedd y sefyllfa hon. Y cam nesaf fydd troi'r ddeddfwriaeth ddrafft yn fanteision ymarferol i weithwyr. Dywedodd Shavanah Taj hefyd nad ydym wedi teimlo effaith lawn dirwasgiad COVID eto, ond y bydd y Bil hwn yn ein helpu i symud ymlaen.

Croesawodd Karen Loughlin y Bil drafft hefyd. Dywedodd o safbwynt undebau llafur, y dylai bod ffafriaeth pendant ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus yn fewnol. Fodd bynnag, derbyniodd fod llawer o wasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu gan drydydd partïon ar hyn o bryd. Gofynnodd a fyddai'r darparwyr hyn yn dod o dan y Bil.

Ymatebodd Karen Higgins mai dim ond y cyrff cyhoeddus hynny a nodir sydd ‘yn rhan o’r maes’ y mae'r Bil drafft yn eu cynnwys ar hyn o bryd. Fodd bynnag, croesawir adborth ynghylch a ddylid ymestyn y rhestr hon, er y gallai fod cyfyngiadau cyfreithiol ar hyn.

Dywedodd Alun Richards nad yw'r ffafriaeth ar gyfer darparu gwasanaethau’n fewnol wedi’i chynnwys yn y ddeddfwriaeth ar hyn o bryd nac yn cael ei hystyried mewn ymgynghoriad. Fodd bynnag, mae'r cyfnod ymgynghori yn rhoi cyfle i bartneriaid gynnig hyn.

3. Diweddariad ar y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol

Cyflwynodd Andrea Street, dirprwy gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol bapur ar y fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol.

Rhoddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch ers cyflwyno'r papur. Mae datganiad sefyllfa'n cael ei lunio a chaiff ei gyhoeddi ar y wefan a'i rannu drwy sianeli cyfathrebu. Mae cysylltiadau da yn bodoli drwy GCC ac ADSS.

Mae'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol yn cyfarfod yn fisol ar hyn o bryd. Mae wedi cynnal chwe chyfarfod llawn o'r Fforwm ers ei gyfarfod cyntaf ym mis Medi. Diolchodd Andrea Street i'r unigolion hynny sy'n cymryd rhan am y gwaith y maent yn ei wneud rhwng cyfarfodydd i ddatblygu gwaith y fforwm.

Mae cysylltiadau'r fforwm â meysydd gwaith eraill yn bwysig iawn, yn enwedig gwaith Llywodraeth Cymru ar gydraddoldeb.

Diolchodd y Dirprwy Weinidog i Andrea Street am ei hymrwymiad i fwrw ymlaen â'r darn hwn o waith ac mae'n edrych ymlaen at weld y canlyniad terfynol.

4. Dyletswydd economaidd-gymdeithasol

Cyflwynodd Alyson Francis, y Dirprwy Gyfarwyddwr Cymunedau, bapur ar y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.

Dywedodd fod y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol wedi'i phasio'n ddiweddar gan y Senedd ac y daw’n gyfraith ddiwedd y mis hwn.

Dywedodd fod y ddyletswydd yn sbardun i fynd i'r afael â thlodi fel rhan o fframwaith ehangach. Mae ei hadran wedi helpu cyrff cyhoeddus i baratoi ar gyfer cyflwyno'r ddyletswydd a ddaw i rym gydag offerynnau ar gael ar-lein a chanllawiau statudol ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae'r tîm dyletswydd economaidd-gymdeithasol yn bwriadu gweithio gyda chyrff eraill i ddod â phrofiad byw i weithredu'r ddyletswydd. Byddant hefyd yn canolbwyntio ar y cysylltiadau rhwng y ddyletswydd a chaffael, partneriaeth gymdeithasol a dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Mae grŵp gweithredu wedi'i sefydlu i gefnogi cyrff cyhoeddus.

Gofynnodd y Dirprwy Weinidog am i'r offer gael eu dosbarthu i'r aelodau a diolchodd i TUC Cymru am gefnogi Llywodraeth Cymru ar yr agenda hon.

Diolchodd Karen Loughlin i Lywodraeth Cymru am eu gwaith ar yr agenda hon a chroesawodd gyflwyniad y ddyletswydd. Gofynnodd sut y byddai gweithredu'r ddyletswydd yn cael ei fonitro. Ymatebodd Alyson Francis gan ddweud bod ymchwil sylfaenol wedi'i chyhoeddi gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy'n dweud wrthym ble y mae cyrff cyhoeddus arni yn awr ac mae ymchwil ddilynol wedi'i chynllunio. Mae dangosyddion cenedlaethol yn cael eu hystyried ar hyn o bryd a bydd adroddiad Tecach Cymru'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd yn darparu data pwysig. Bydd angen mwy o drafod ynghylch monitro gan nad oes dyletswydd adrodd ar hyn o bryd fel rhan o'r ddeddfwriaeth hon. Fodd bynnag, bydd angen i gyrff cyhoeddus ddangos sut y maent yn ei gyflawni ac mae trafodaethau wedi dechrau ar sut y gellir ei gynnwys gyda’r hyn y maent eisoes yn adrodd arno.

Gofynnodd Shavanah Taj am y cysylltiad rhwng y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol drafft. Dywedodd Alyson Francis eu bod wedi bod yn gweithio gyda thîm y Bil Partneriaeth Gymdeithasol ac y byddai'n bwysig ystyried yr adborth yn yr ymgynghoriad.

Nododd Darren Williams fod rhestr gyfyngedig o gyrff wedi'u cynnwys o dan y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a gofynnodd am y disgwyliadau ar gyrff cyhoeddus eraill. Dywedodd Alyson Francis fod nifer o gyrff eraill nad ydynt wedi'u cynnwys yn fodlon gweithio yn ysbryd dyletswydd. Mae'r offer, yr adnoddau a'r canllawiau strategol ar gael i'w defnyddio a byddai Llywodraeth Cymru yn annog cyrff eraill i'w mabwysiadu.

Gofynnodd Margaret Phelan a fyddai'r ddyletswydd yn cynnwys addysg uwch ac addysg bellach ac a ellid rhannu gwybodaeth â'r undebau llafur. Nodwyd hyn.

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i ddarparu'r offer a'r adnoddau dyletswydd economaidd-gymdeithasol i'r Cyd-ysgrifenyddiaeth i'w dosbarthu i aelodau Cyngor Partneriaeth y Gweithlu.

5. Diweddariad Cap Cyflog Ymadael â’r Sector Cyhoeddus

Cyflwynodd Richard Mulcahy, Rheolwr Uned Cyrff Cyhoeddus, bapur ar y Cap Cyflog Ymadael â’r Sector Cyhoeddus.

Mae gweinidogion y DU wedi penderfynu dirymu'r Rheoliadau a dod â'r cap ar y taliad ymadael i ben o 12 Chwefror 2021.

Ar hyn o bryd mae prosesau yn bodoli o hyd i gyrff cyhoeddus roi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw daliadau ymadael dros £95,000 a bydd hyn yn parhau hyd nes y caiff y rheoliadau eu dirymu. Nid yw Llywodraeth Cymru yn siŵr beth fydd camau nesaf y Trysorlys gan fod ymrwymiad o hyd i leihau taliadau ymadael.

6. Blaenraglen Waith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu

Cyflwynodd Karen Higgins bapur ar y mater hwn ar ran Cyd-bwyllgor Gweithredol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu.

Mae dwy flaenoriaeth allweddol i raglen waith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a gynigiwyd gan JEC yn 2021: dyfodol gwaith ac un gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Nodwyd nifer o amcanion a chamau gweithredu. Mae'r rhain yn adlewyrchu ymrwymiadau presennol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ynghyd â nifer o ychwanegiadau. Yn fwy cyffredinol, mae'r rhain yn cynnwys gweithio hyblyg gan gynnwys gweithio gartref. Amrywiaeth a chynhwysiant gan gynnwys y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol a'r cynllun gweithredu anabledd. Sgiliau, datblygiad a chynnydd, sy'n berthnasol i nifer o amcanion y rhaglen waith. Gwaith Teg, pontio yn gyfiawn i economi werdd a digideiddio.

Dywedodd Shavanah Taj fod gan y rhaglen waith agwedd gadarnhaol ar gyfer y dyfodol. Dywedodd fod y themâu'n gweithio gyda'i gilydd. Dywedodd y byddai'n bwysig deall ystyr cynllun peilot pontio cyfiawn. At hynny, dywedodd y byddai'n ddefnyddiol cyfleu gweledigaeth ar gyfer un gwasanaeth cyhoeddus fel bod pob gweithiwr yn deall yr ystyr.

Dywedodd Karen Loughlin ei bod yn teimlo bod hwn yn ddarn cynhwysol iawn o waith gyda phob elfen yn cyd-fynd â'i gilydd a dywedodd fod angen i rai elfennau symud yn gyflymach nag eraill, er enghraifft, cymorth i weithio gartref.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog fod cyfathrebu ynglŷn ag un gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn bwysig, gyda'r negeseuon yn cael eu cyfleu ar lefel partneriaeth i hybu eglurder.

Dywedodd Karen Higgins fod gweithio ystwyth a hyblyg yn cael ei rannu'n ddwy ffrwd, anghenion uniongyrchol ac anghenion yn y dyfodol. Mae'r cyd-ysgrifenyddiaeth wrthi'n paratoi papur ar gyfer y JEC ar gyfer y cyfarfod sy'n cael ei gynnal ym mis Mehefin.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog y bydd y blaenoriaethau ar ôl yr etholiad hefyd yn effeithio ar y rhaglen waith bresennol.

7. Adolygiad o Gofnodion Cyngor Partneriaeth y Gweithlu/Materion yn Codi

Nododd y Dirprwy Weinidog fod y cofnodion wedi'u derbyn yn ffurfiol a bod camau gweithredu o'r cyfarfod ym mis Tachwedd wedi'u cyflawni.

Caiff un eitem ei dwyn ymlaen o gyfarfod blaenorol a chadarnhawyd ei bod yn 'barhaus’:

  • Cytunodd Llywodraeth Cymru i ystyried a yw’n bosibl cytuno ar fath o eiriad gydag addysg bellach ac addysg uwch er mwyn eu galluogi i gymryd rhan yng Nghyngor Partneriaeth y Gweithlu

Daeth y Dirprwy Weinidog â’r cyfarfod i ben a chadarnhaodd fod y cyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gweithlu nesaf wedi'i drefnu ar gyfer 04 Tachwedd 2021.

Rhestr o’r mynychwyr

Cabinet

Cadeirydd - Hannah Blythyn AS – Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Undebau Llafur

Kelly Andrews – GMB
Neil Butler – NASUWT
David Evans – NEU
Nicky Hughes – RCN (dirprwy)
Karen Loughlin - Unsain
Dominic MacAskill – Unsain
Richard Munn – Unite 
Mike Payne - GMB
Margaret Phelan – UCU
Shavanah Taj – TUC Cymru
Jessica Turner – Unsain (dirprwy)
Darren Williams – PCS

Cyflogwyr Datganoledig 

Graham Jones – CLlLC (dirprwy)
Peter Kennedy – Grŵp y Sector Datganoledig
David Michael – Grŵp y Sector Datganoledig

Llywodraeth Cymru 

Steve Davies – Addysg 
Karen Higgins – Partneriaeth Gymdeithasol
Reg Kilpatrick –  Llywodraeth Leol
Jo Salway – Partneriaeth Gymdeithasol
Andrea Street – Gwasanaethau Cymdeithasol
Neil Surman – Partneriaeth Gymdeithasol

Sylwedyddion a Siaradwyr 

Sarah Abraham – Partneriaeth Gymdeithasol, Llywodraeth Cymru
Steve Austin – Cymdeithas Ddeieteg Prydain
Charlotte Cosserat – Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
Alyson Francis – Cymunedau, Llywodraeth Cymru
David Gerwyn – Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru
Lucy Jackson – Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru
Mark Lewis – Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru
Jonathan Lloyd, Partneriaeth Gymdeithasol, Llywodraeth Cymru
Martin Mansfield – Partneriaeth Gymdeithasol, Llywodraeth Cymru
Richard Mulcahy – Uned Cyrff Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru
Liam Perry – TUC Cymru
Jo Rees – TUC Cymru
Diana Scott-Brown – Coleg Podiatreg
Natalie Stewart – Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
Ceri Williams – Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

Helen Arthur – Iechyd, Llywodraeth Cymru
Judith Cole – Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
Albert Heaney – Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru
Sam Huckle – Sgiliau, Llywodraeth Cymru
Chris.Llewelyn – CLlLC
Y Cynghorydd Philippa Marsden – CLlLC
Steve Moore – Prif Weithredwyr y GIG
Michelle Morris - SOLACE Cymru
Julie Rowles – Gweithlu’r GIG/Grŵp Cyfarwyddwyr OD
Simon Smith – Prif Weithredwyr y Gwasanaethau Tân ac Achub
Bethan Thomas – Unsain
Richard Tompkins - Cyflogwyr GIG Cymru
Helen Whyley – RCN

Gweithredoedd

Rhif Cam gweithredu Perchennog
1 Llywodraeth Cymru i ddarparu offer ac adnoddau’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i'r Cyd-ysgrifenyddiaeth i'w dosbarthu i aelodau Cyngor Partneriaeth y Gweithlu Llywodraeth Cymru