Cyfarfod Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, 10 Gorffennaf 2024: cofnodion
10 Gorffennaf 2024, 10:30 i 12:30, cyfarfod rhithwir.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Eitem 1: Croeso / Sylwadau Agoriadol
- Fe wnaeth y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol groesawu’r rhai a oedd yn bresennol i drydydd cyfarfod y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (CPG). Nododd y Gweinidog yr arweinwyr ar gyfer pob eitem agenda a threfn y cyfarfod. Eglurodd fod yr aelodau wedi derbyn dau bapur i'w nodi gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gaffael cymdeithasol gyfrifol a Pholisi Presenoldeb ac Ymddygiad Aelodau CPG drafft a chadarnhaodd y byddai'r eitemau hyn yn llywio'r agenda ar gyfer cyfarfod nesaf y CPG.
Eitem 2: Defnyddio Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru i Sicrhau Gwaith Teg
- Cadarnhaodd y Gweinidog fod TUC Cymru wedi darparu'r papur ar gyfer yr eitem hon mewn ymgynghoriad â'u hundebau llafur ymgysylltiol. Eglurodd ei fod yn amlinellu dull tri cham yr oedd yr undebau llafur am ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i gefnogi polisi gwaith teg. Gwahoddodd y Gweinidog Shavanah Taj (TUC Cymru) i gyflwyno'r eitem.
- Gan fod y CPG bellach yn weithredol, roedd Shavanah Taj yn teimlo y gallai aelodau ganolbwyntio ar eu prif rôl sef cynghori Llywodraeth Cymru gyda pholisi gwaith teg yn ganolog i'r cylch gwaith hwnnw. Cydnabu Shavanah yr holl waith a oedd eisoes wedi digwydd i ddatblygu polisi gwaith teg Cymru ond dywedodd ei bod yn bwysig datblygu'r cam nesaf trwy adeiladu dull trawslywodraethol sy'n canolbwyntio ar gynnwys amodau wrth ariannu ac ehangu'r Contract Economaidd.
- Eglurodd fod cynnig yr undebau llafur yn ceisio mynd i'r afael â'r egwyddorion sy'n sail i gyllid cyhoeddus yn hytrach nag effaith wirioneddol grantiau er mwyn gwneud gwaith teg yn amod canolog o dderbyn cymorth ariannol. Er bod mynediad at gynrychiolaeth undebau llafur wedi bod yn amod ar gyfer rhai grantiau, nid oedd hyn yn arfer cyffredinol. Byddai'n bwysig datblygu dull mwy cyson lle byddai derbyn cyllid grant neu fenthyciadau gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys gan Fanc Datblygu Cymru (DBW), yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau gytuno, mewn egwyddor, y gallai gweithwyr gael mynediad at gymorth undebau llafur.
- Eglurodd Shavanah na ddylai'r egwyddor o gynnwys mynediad i'r gweithlu i undebau llafur fod yn broblemus o ystyried bod amodau eisoes wedi'u cynnwys mewn arian grant ar gyfer cydraddoldeb a'r Gymraeg. Pwysleisiodd farn yr undebau llafur bod peidio â chynnwys yr egwyddor hon yn mynd yn groes i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i waith teg (gan gynnwys datblygu Cronfa Gwaith Teg). Tynnodd sylw at beryglon posibl y llywodraeth yn anfwriadol yn cefnogi cwmnïau a oedd yn gwrthwynebu undebau llafur yn agored. Byddai'n bwysig datblygu canllawiau fel bod cwmnïau'n glir ynghylch yr hyn a ddisgwylir ganddynt.
- Cydnabu Shavanah y pryderon a godwyd gan Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) (a ddarparwyd yn ysgrifenedig cyn y cyfarfod) a theimlai y gallai'r rhain gael eu trafod ymhellach gan Weithgor y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. Pwysleisiodd bwysigrwydd cadarnhau'r safiad ar gyllid i'r sector cyhoeddus ac yna defnyddio hynny fel llwyfan i drafod y materion penodol gyda'r sector preifat. Wrth gyfeirio at adolygiad y Contract Economaidd, dywedodd Shavanah mai'r CPG oedd yn y sefyllfa orau i weithredu fel y cyfrwng ar gyfer datblygu dull mwy cyson a chymesur o'i ddefnyddio. Teimlai y byddai creu mwy o gysondeb yn helpu i leihau rhywfaint o'r baich biwrocrataidd ar gyflogwyr wrth gael gafael ar gyllid ond na ddylai hyn fod ar draul gwaith teg.
- Esboniodd Shavanah mai'r dull a amlinellwyd oedd man cychwyn pragmatig yr undebau llafur ar gyfer datblygu cysondeb o ran polisi gwaith teg, ac y dylid canolbwyntio ar yr hyn y gellid ei gyflawni yn hytrach na'r hyn sy’n rhwystro cynnydd.
- Fe wnaeth Ruth Brady (GMB) fynegi pryderon ynghylch bygythiadau sy'n cael eu profi gan staff mewn rhai cwmnïau ledled y DU lle'r oedd y gweithlu wedi bod yn ceisio cynrychiolaeth undeb llafur. Eglurodd Ruth fod un o'r cwmnïau y cyfeiriwyd atynt wedi bod yn derbyn cyllid Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag un o'u safleoedd yng Nghymru. Nododd Ruth bwysigrwydd deall yn well i ba raddau yr oedd cwmnïau bach a chanolig yn cyflawni eu rhwymedigaethau i egwyddorion gwaith teg yn ogystal ag amodau eu grantiau.
- Cyfeiriodd Ian Price (CBI) at Araith y Brenin a drefnwyd ar gyfer 17 Gorffennaf; rhagwelid y byddai'n cynnwys Siarter Gweithwyr ac argymhellodd y dylid aros i weld sut y gallai hyn gefnogi gwaith teg. Mynegodd bryderon am greu anfantais yn y farchnad trwy gymhwyso'r cynigion i Fanc Datblygu Cymru yn ogystal â chwmnïau llai a gynrychiolir gan Ffederasiwn y Busnesau Bach, a dywedodd y byddai'n bwysig deall pa fath o fusnesau fyddai dan sylw a'r effeithiau posibl arnynt. Pwysleisiodd bod yn rhaid i bwrpas y polisi ganolbwyntio ar gael gwared ar arferion cyflogaeth bwriadol wael heb greu canlyniadau anfwriadol a allai roi busnesau sy'n gweithredu’n ddidwyll o dan anfantais fasnachol.
- Croesawodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Llefarydd Gweithlu CLlLC) gynnig y TUC o safbwynt Llywodraeth Leol, gan bwysleisio pwysigrwydd bod yn glir a chyson wrth ddyrannu cyllid y llywodraeth o ddechrau'r broses. Tynnodd sylw at rai o'r problemau sy'n gysylltiedig â chaffael gwasanaethau gan gwmnïau, gan gynnwys aneffeithiolrwydd defnyddio systemau sgorio i annog busnesau i weithredu'n foesegol. Roedd yn cydnabod peryglon creu rhwystrau anfwriadol i fusnesau llai sy'n gweithredu mewn ffordd gydwybodol ac roedd yn teimlo y gallai cwmnïau mwy weithiau fod yn fwy medrus wrth osgoi eu cyfrifoldebau i'w gweithwyr.
- Roedd Jessica Turner (Unsain) yn cefnogi pwynt y Cynghorydd Hunt ynghylch mwy o eglurder a chysondeb o ran amodau ariannu a thynnodd sylw at rai o'r pryderon mewn meysydd fel gofal cymdeithasol a'r angen i osod safon glir i osgoi arferion sy’n camfanteisio ar y gweithlu. Er ei bod yn cydnabod yr angen i warchod rhag canlyniadau anfwriadol, dywedodd fod hwn yn gyfle i'r CPG ddangos sut y gallai partneriaeth gymdeithasol weithio'n ymarferol i sicrhau newid go iawn, trwy ganolbwyntio i ddechrau ar y sectorau hynny yr oedd angen eu gwella fwyaf.
- Cadarnhaodd Claire McDonald (Llywodraeth Cymru) fod adolygiad sylfaenol o'r Contract Economaidd ar y gweill i sicrhau ei fod yn canolbwyntio'n well ar y mater, gan gynnwys ystyried ei gysylltiadau polisi â gwaith teg. Yn ogystal, comisiynwyd adolygiad allanol byr o gymorth busnes a fyddai'n rhedeg trwy gydol mis Awst a byddai'r papur hwn yn cael ei fwydo i'r ddau adolygiad.
- Teimlai'r Fonesig Elan Stephens (Fforwm Arweinwyr Cyhoeddus, PLF) y dylai'r CPG aros i ystyried cynnwys y Siarter Gweithwyr a chanlyniad yr adolygiad i'r Contract Economaidd cyn cytuno ar safiad. Teimlai y byddai hyn yn caniatáu i'r CPG weld sut roedd y rhain yn cyd-fynd â'r cynnig a'r polisi gwaith teg yn fwy cyffredinol, gan gynnwys unrhyw faterion yn ymwneud â chaethwasiaeth fodern. Roedd ganddi bryderon hefyd am ganlyniadau anfwriadol ar aelodau'r PLF fel cyrff hyd braich sy’n rhoi grantiau a'r rhoddwyr grantiau eilaidd fel cwmnïau theatr bach. Roedd hi’n croesawu’r cynnig yn y papur ond hoffai ei roi gerbron y PLF i'w ystyried.
- Amlinellodd Kathryn Robson (Addysg Oedolion Cymru) ddyfnder y gefnogaeth ar gyfer mabwysiadu egwyddorion gwaith teg ledled y sector addysg bellach, gan gynnwys meysydd fel caffael. Roedd hi’n cefnogi’r cynigion ac yn teimlo y byddent yn cael eu croesawu o fewn ei sector ei hun.
- Roedd Gareth Lloyd (UCU) yn croesawu cefnogaeth Kathryn Robson i bapur y TUC. Cadarnhaodd Gareth fod undebau llafur addysg bellach yn cydweithio i gefnogi'r papur ym Mhwyllgor Trafodaethau Cymru ar gyfer Addysg Bellach (WNCFE). Cadarnhaodd y byddai'r papur yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf y WNCFE a gwahoddodd Kathryn Robson i fod yn bresennol.
- Croesawodd Shavanah Taj (TUC Cymru) y trafodaethau cadarnhaol a oedd wedi digwydd. Cyfeiriodd Shavanah at y gefnogaeth a gynigiwyd gan Ffederasiwn y Busnesau Bach a Chydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) i’r egwyddorion sy'n sail i bapur y TUC mewn trafodaethau ar wahân y tu allan i'r cyfarfod hwn. Cydnabu bryderon posibl ynghylch cwmnïau llai/canolig eu maint a'r sector diwylliant a'r farn y dylai aelodau aros am ganlyniad Araith y Brenin cyn cytuno ar safiad.
- Teimlai y dylid ystyried adolygiad y Contract Economaidd a'r cymorth busnes ehangach yn y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn y lle cyntaf a mynegodd bryder y byddai sgyrsiau ar y rhain yn digwydd mewn fforymau ar wahân. Byddai'n bwysig bod y gwaith hwn yn cael ei flaenoriaethu ac awgrymodd y dylid sefydlu is-grŵp.
- Cydnabu'r Gweinidog yr arfer gwael a nodwyd yn achos rhai cyflogwyr a'r angen i ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i fynd i'r afael â hyn. Croesawodd farn yr aelodau a'r angen i fwrw ymlaen â’r mater hwn fel blaenoriaeth. Cydnabu'r Gweinidog y pryderon a godwyd ynghylch busnesau llai/canolig eu maint yn ogystal â'r angen i sicrhau bod y cwmnïau hynny'n cydymffurfio. Cadarnhaodd y gallai'r Cyngor gynnal trafodaeth bellach yn ei gyfarfod nesaf ym mis Medi.
Cam Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth CPG i sicrhau bod y mater o ddefnyddio amodau cyllid Llywodraeth Cymru i gefnogi gwaith teg yn cael ei roi ar yr agenda ar gyfer cyfarfod nesaf y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
Eitem 3: Y Potensial i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Gynghori ar Oblygiadau AI i'r Gweithlu
- Eglurodd y Gweinidog fod mater deallusrwydd artiffisial (AI) a'r gweithlu wedi'i godi fel pwnc posibl i'w drafod yng nghyfarfod y CPG ar 1 Chwefror. Roedd hi'n croesawu'r gwaith a oedd eisoes wedi cael ei wneud gan Gyngor Partneriaeth y Gweithlu (WPC) ond, gan nad oedd y defnydd o AI yn y gweithle wedi'i gyfyngu i'r sector cyhoeddus, gallai hwn fod yn faes priodol ar gyfer ymchwil bellach gan y CPG. Fodd bynnag, byddai'n bwysig osgoi dyblygu.
- Cadarnhaodd Jessica Turner (Unsain) mai'r opsiwn a ffefrir gan rwydweithiau'r undebau llafur yw cymryd agwedd fesul cam ac ystyried adroddiad is-grŵp Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar AI yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Er mwyn osgoi oedi, awgrymodd Jessica y gallai'r Cyngor gael gwybodaeth friffio gan Gyngor Partneriaeth y Gweithlu ar gynnydd fel y gallai aelodau ddeall eu canfyddiadau cychwynnol yn well gan y byddai'n ddoeth i'r CPG ddechrau datblygu ei waith ei hun cyn adroddiad terfynol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu. Pwysleisiodd nad oedd yr undebau llafur yn dymuno ymyrryd â gwaith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu o ystyried ei ffocws pwysig ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig.
- Roedd Ian Price (CBI) yn cefnogi sylwadau Jessica Turner a chytunodd y byddai'n bwysig i'r CPG ystyried cyngor gan arbenigwyr yn y maes. Byddai hyn yn hanfodol er mwyn i’r Cyngor wneud penderfyniadau gwybodus yn y maes cymhleth hwn.
- Roedd Kathryn Robson (Addysg Oedolion Cymru) yn cytuno gyda'r sylwadau a wnaed eisoes a phwysleisiodd bwysigrwydd dod o hyd i’r arbenigwyr cywir ar gyfer grŵp CPG. Tynnodd sylw at bwysigrwydd peidio â dyblygu unrhyw ymdrechion a chododd y posibilrwydd y bydd Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ac is-grwpiau’r CPG yn cydweithio. Argymhellodd ei harbenigwr digidol ei hun fel ffynhonnell cyngor arbenigol yn y CPG a phwysleisiodd bwysigrwydd datblygu dull cytbwys o ymdrin ag AI a oedd yn cydnabod ei fygythiadau a'i fanteision.
- Cyfeiriodd Gareth Lloyd (UCU) at waith Coleg Cambria lle defnyddiwyd AI i leihau llwythi gwaith heb ddiswyddo staff, gan nodi hyn fel enghraifft dda o sut y gallai technoleg fod o fudd i bawb.
- Dywedodd y Fonesig Elan Stephens (Fforwm Arweinwyr Cyhoeddus) nad oedd yn ofynnol i aelodau'r is-grŵp arfaethedig fod yn arbenigwyr mewn technoleg AI. Roedd AI yn cynrychioli chwyldro diwydiannol newydd a byddai'n hanfodol deall yr effaith ar sgiliau a chyflogadwyedd pobl ifanc yn y cyd-destun newydd hwn. O ystyried cwmpas AI yn y dyfodol, y CPG oedd y fforwm cywir ar gyfer dechrau sgwrs ehangach wrth symud ymlaen.
- Cydnabu'r Gweinidog gwmpas AI a phwysigrwydd datblygu cyd-ddealltwriaeth o sut i weithredu technolegau newydd mewn partneriaeth gymdeithasol. Nododd gonsensws ymhlith aelodau y dylai'r Cyngor fod yn ofalus i beidio â dyblygu gwaith ac, ar ôl cwblhau adroddiad Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ym mis Tachwedd, byddai gweithgaredd gan y CPG yn caniatáu i AI gael ei ystyried gan ystod ehangach o bartneriaid cymdeithasol. Yna gallai'r CPG benderfynu pa arbenigwyr yr oedd am eu gwahodd i'w is-grŵp.
Cam Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y CPG i ddrafftio llythyr gan y Gweinidog at is-grŵp AI Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn diolch iddynt am eu gwaith ac yn cadarnhau y byddai gan y CPG ddiddordeb mewn derbyn eu hadroddiad terfynol ar y bygythiadau a'r cyfleoedd a gyflwynir gan AI.
Eitem 4: Y Potensial i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Gefnogi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Eglurodd y Gweinidog wrth aelodau bod gofyn iddynt gytuno ar yr opsiwn neu opsiynau y maent yn eu ffafrio o ran sut y gallai'r Cyngor gefnogi gwaith cydraddoldeb ac amrywiaeth. Er mwyn sicrhau y gallai'r CPG ystyried materion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn llawn, eglurodd fod pedwar opsiwn yn cael eu cyflwyno yn y papur, a bod gan bob un ohonynt ei fanteision a'i anfanteision ei hun.
- Opsiwn 1 - bod y CPG yn sefydlu is-grŵp cydraddoldeb ac amrywiaeth. Opsiwn 2 - bod pob papur trafod CPG sy’n gofyn i'r Cyngor am benderfyniad yn cynnwys adran yn ystyried ystyriaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth. Opsiwn 3 - bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn eitem sefydlog ar yr agenda ym mhob cyfarfod o'r Cyngor ac Opsiwn 4 - bod y CPG yn ystyried sut i wneud defnydd o waith cydraddoldeb sy'n bodoli eisoes ar draws Llywodraeth Cymru, partneriaid cymdeithasol a grwpiau arbenigol.
- Pwysleisiodd Pippa Britton (Trydydd Sector) bwysigrwydd cynhwysiant mewn unrhyw drafodaethau sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth. Am y rheswm hwn, roedd yn cefnogi Opsiwn 2 ond teimlai y byddai cyfuno hyn ag Opsiwn 4 a chael mynediad at grwpiau arbenigol sydd eisoes yn bodoli yn caniatáu dull mwy cynhwysol. Awgrymodd Pippa y gellid ychwanegu nodyn at yr agenda ar gyfer pob cyfarfod o’r CPG yn gofyn i'r aelodau a oedd unrhyw faterion eraill yr oedd angen eu hystyried ynghylch cydraddoldeb.
- Roedd Kathryn Robson (Addysg Oedolion Cymru) yn cytuno gyda'r dull a amlinellwyd gan Pippa Britton ac awgrymodd y gallai aelodau’r CPG sydd â chefndir mewn cydraddoldeb gael golwg gynnar ar bapurau i sicrhau eu bod yn cynnwys unrhyw bwyntiau perthnasol. Awgrymodd y gellid ychwanegu'r Gymraeg ond gallai hyn olygu ystyried ieithoedd eraill a materion diwylliannol eraill.
- Teimlai Darren Williams (PCS) y byddai dull cyfunol yn cynnwys creu is-grŵp o aelodau’r CPG a fyddai'n tynnu ar arbenigedd grwpiau presennol ac yna'n adrodd i bob cyfarfod o'r Cyngor yn well. Mynegodd bryder y gallai adran orfodol ar bapurau penderfynu fod yn ymarfer blwch ticio.
- Eglurodd Amelia John (Llywodraeth Cymru) fod llawer o'r grwpiau cydraddoldeb arbenigol y cyfeiriwyd atynt gan aelodau o fewn ei chylch gwaith fel Cyfarwyddwr Cymunedau a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac y byddai'n hapus i roi mwy o wybodaeth am y rhain i'r CPG.
- Ychwanegodd Pippa Britton (Trydydd Sector) y gallai'r CPG ddymuno creu grŵp gorchwyl a gorffen cydraddoldeb a allai fynd i'r afael â materion penodol sy'n dod i'r amlwg.
- Cefnogodd Kathryn Robson (Addysg Oedolion Cymru) argymhelliad Pippa Britton gan y byddai hyn yn caniatáu i'r CPG ddelio â mater sy'n dod i'r amlwg yn fwy effeithiol na chreu is-grŵp sefydlog.
- Diolchodd y Gweinidog i'r aelodau am eu cyngor a'r dull cyfunol a argymhellwyd. Cadarnhaodd y Gweinidog y byddai'n gofyn i swyddogion lunio papur wedi'i addasu yn seiliedig ar y trafodaethau hyn i'r aelodau ei ystyried. Ychwanegodd y byddai'n bwysig i'r CPG gael dealltwriaeth o waith yr holl grwpiau cydraddoldeb presennol er mwyn osgoi dyblygu.
Cam Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y CPG i baratoi papur sy'n amlinellu’r dull cyfunol o ymdrin â gwaith cydraddoldeb a argymhellir gan aelodau.
Cam Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y CPG i roi manylion i aelodau am grwpiau cydraddoldeb presennol ar draws Llywodraeth Cymru.
Eitem 5: Cofnodion / Camau Gweithredu yn Codi
- Cytunwyd ar y camau gweithredu a gododd o gyfarfodydd blaenorol.
- Cododd Jessica Turner (Unsain) fater ynglŷn â dull fformadu sut y mae camau gweithredu sy’n codi yn cael eu cofnodi.
- Cydnabu'r Gweinidog hyn a chadarnhaodd y byddai Ysgrifenyddiaeth CPG yn ystyried y mater.
Cam Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y CPG i ystyried dull fformadu sut y mae camau gweithredu sy’n codi yn cael eu cofnodi yn y dyfodol.
Eitem 6: Dyddiad a lleoliad y myfarfod nesaf
- Cadarnhaodd y Gweinidog fod cyfarfod nesaf y CPG wedi'i drefnu ar gyfer 30 Medi, a bod y posibilrwydd o wneud hwn yn gyfarfod wyneb yn wyneb yn cael ei archwilio. Cadarnhaodd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn darparu'r agenda ddrafft ar gyfer sylwadau maes o law, a diolchodd i'r Aelodau am eu hamser a'r cyngor yr oeddent wedi'i roi yn y cyfarfod.
Presenoldeb y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (CPG): 10 Gorffennaf 2024
Llywodraeth Cymru
Sarah Murphy AS, Y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Cynrychiolwyr Gweithwyr
Ruth Brady, GMB
Neil Butler, Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau
Gareth Lloyd, Undeb Prifysgolion a Cholegau
Shavanah Taj, Wales TUC Cymru
Jess Turner, UNSAIN
Darren Williams, Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol
Cynrychiolwyr Cyflogwyr
Pippa Britton, Trydydd Sector
Y Fonesig Elan Closs-Stephens, Y Fforwm Arweinwyr Cyhoeddus
Y Cynghorydd Anthony Hunt, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Ian Price, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain Cymru
Nicola Prygodzicz, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Kathryn Robson, Addysg Oedolion Cymru
Janis Richards, Make UK Ltd
Cymorth Ysgrifenyddiaeth/Arsylwyr
Philippa Marsden, Llywodraeth Cymru (Cynghorydd Arbennig)
Jo Salway, Cyfarwyddwr, Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg
Amelia John, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Chyfiawnder Cymdeithasol
Claire McDonald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Economaidd
Clare Jankovic, Llywodraeth Cymru
Kate Bacon, Llywodraeth Cymru
Glyn Jones, Llywodraeth Cymru
Zoe Holland, Llywodraeth Cymru
Mark Lewis, Llywodraeth Cymru
Robert Hobbs, Llywodraeth Cymru
Fflur Elin, Ffederasiwn y Busnesau Bach (yn cynrychioli Ben Cottam)
Nick Hughes, Coleg Nyrsio Brenhinol (yn cynrychioli Helen Whyley)
Ymddiheuriadau
Peter Hughes, Unite the Union
Mike Walker, Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol
Helen Whyley, Coleg Nyrsio Brenhinol
Ben Cottam, Ffederasiwn y Busnesau Bach
Yr Athro Wendy Larner, Prifysgol Caerdydd