Neidio i'r prif gynnwy

Eitem 1 - Croeso/Sylwadau Agoriadol

1. Gwnaeth y Prif Weinidog ddeialu i mewn a chroesawu pawb i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol cyntaf, gan ymddiheuro am ei absenoldeb ac esbonio y byddai'n ymuno yn y cnawd cyn bo hir. Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol gymerodd yr awenau fel Cadeirydd.

2. Croesawodd y Dirprwy Weinidog aelodau i gyfarfod cyntaf y CPG, a gofynnodd i bob aelod gyflwyno ei hun.

3. Amlinellodd y Dirprwy Weinidog bwysigrwydd Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus Cymru wrth atgyfnerthu ymrwymiad Gweinidogion i egwyddorion gwaith partneriaeth gymdeithasol, a phwysigrwydd ymgorffori'r rhain a'r CPG ei hun yn y gyfraith.

4. Cafwyd ymddiheuriadau gan Helen Whyley ac, yn ei lle, croesawodd y Dirprwy Weinidog Sandy Harding (SH).

5. Nododd y Dirprwy Weinidog fod yr agenda'n llawn, ac aeth drwy'r drefn ar gyfer y cyfarfod a chyflwyno'r eitem agenda gyntaf.

Eitem 2 – Gweithdrefnau'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol

6. Dywedodd y Dirprwy Weinidog fod y gweithdrefnau'n nodi'r trefniadau gweinyddol a gweithredol ar gyfer y CPG. Roedd y ddogfen weithdrefnau (SPC 01-02) wedi'i dosbarthu cyn y cyfarfod i'w hystyried gan yr aelodau. Tynnodd y Dirprwy Weinidog sylw at bwyntiau allweddol, megis y gofyniad i'r CPG gyfarfod o leiaf dair gwaith mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, y cworwm a materion eraill megis presenoldeb dirprwyon a sylwedyddion. Gwahoddodd y Dirprwy Weinidog sylwadau gan yr aelodau.

7. Cododd Darren Williams (DW) fater yn ymwneud â diffyg presenoldeb a'r broses o gael gwared ar aelodau'r CPG o ganlyniad i ddiffyg presenoldeb fel y nodir ym mharagraff 28. Gofynnodd DW i'r frawddeg gael ei dileu dros dro a chroesawodd drafodaeth bellach ar y rôl a fyddai gan gyrff enwebu yn y broses. Awgrymodd DW y byddai'n ddefnyddiol ailddatgan y broses enwebu o dan baragraff 6, a sut y byddai unrhyw swydd wag yn cael ei llenwi ar ôl cael gwared ar aelod. Ychwanegodd DW y dylai cyfarfodydd yn y dyfodol gael eu trefnu ymhell ymlaen llaw er mwyn galluogi aelodau'r Cyngor i flaenoriaethu eu dyddiaduron.

8. Nododd y Dirprwy Weinidog fod darpariaeth yn y Ddeddf i'r CPG sefydlu is-grwpiau i gynorthwyo'r CPG gyda'i waith.

9. Cododd Ian Price (IP) bryderon ynghylch is-grwpiau, a phresenoldeb aelodau mewn is-grwpiau. Gofynnodd IP a ellid sicrhau hyblygrwydd o ran cynrychiolaeth ar is-grwpiau gan nad oedd yn hysbys ar hyn o bryd faint o is-grwpiau y byddai angen i'r CPG eu sefydlu, ac y byddai hyn yn effeithio ar ymrwymiadau amser yr unigolion hyn ac o bosibl yn gorlwytho aelodau wrth i'r grwpiau hyn esblygu. Esboniodd Neil Surman (NS) y gallai'r grwpiau hyn fod ar ffurf is-grwpiau gorchwyl a gorffen neu is-grwpiau sefydlog o'r CPG gan fod y ddeddfwriaeth yn caniatáu i'r CPG benderfynu ar ddiben a model gweithredu unrhyw is-grwpiau

10. Cwestiynodd Jess Turner (JT) baragraff 39 o'r gweithdrefnau a oedd yn rhoi sylw i ymgysylltiad â'r wasg. Roedd hi'n teimlo bod y geiriad presennol yn rhy gyfyngol. Eglurodd NS mai'r nod oedd peidio â chyfyngu ar allu unrhyw aelod o'r CPG i siarad am bolisi'r llywodraeth a oedd yn y parth cyhoeddus ond, lle nad oedd yr hyn yr oedd y CPG yn ei ystyried ac yn ei drafod yn wybodaeth gyhoeddus ar y pryd, na fyddai hyn yn cael ei ganiatáu. 

11. Gofynnodd Ruth Brady (RB) am gadarnhad a chysondeb ynghylch y polisi ar gyfer presenoldeb sylwedyddion yng nghyfarfodydd y CPG. Nododd RB fod sylwedyddion yn bresennol, er gwaethaf cais cynharach RB am wrthod mynediad i sylwedyddion. Esboniodd Jon Roche (JR) fod y sylwedyddion a welir ar y sgrin naill ai'n rhan o'r ysgrifenyddiaeth, yn gynghorwyr arbennig neu o swyddfeydd preifat Gweinidogion. Cytunodd y Cadeirydd y gallai Sandy Harding fod yn bresennol yn sgil absenoldeb aelod arall. Gofynnwyd i aelodau'r CPG a oeddent yn fodlon i SH fod yn bresennol yn y cyfarfod am y rheswm hyn; ni chodwyd unrhyw wrthwynebiadau. Gofynnodd y Dirprwy Weinidog a fyddai aelodau'n cefnogi'r cynnig i sylwedyddion fynychu cyfarfodydd yn y dyfodol, a chytunodd yr aelodau.

12. Awgrymodd Gareth Lloyd (GL) ymgysylltiad ag Undebau Llafur yn y dyfodol o fewn tîm ysgrifenyddiaeth y CPG. Cwestiynodd GL hefyd y broses o godi ymholiadau rhwng cyfarfodydd a'r broses ar gyfer sut y gallai aelodau ofyn am gyfarfodydd CPG ychwanegol. Dywedodd NS y byddai angen trafodaethau pellach ynghylch rôl arfaethedig Ochr yr Undebau Llafur ar Ysgrifenyddiaeth y CPG ac y byddai swyddogion yn cysylltu â chynrychiolwyr gweithwyr i drafod hyn ymhellach. Gofynnodd GL hefyd am i flaenraglen waith ddrafft y CPG y cyfeiriwyd ati ym mharagraff 21 gael ei rhannu â'r aelodau i'w hystyried ymlaen llaw.

Cam Gweithredu: 

Yr Ysgrifenyddiaeth i adolygu ac ailddosbarthu'r ddogfen weithdrefnau ar ôl ystyried y pwyntiau a godwyd gan (DW a GL ym mharagraffau 7, a 12 yn y drefn honno) cyn y cyfarfod nesaf. 

Cam Gweithredu: 

Swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod cyfraniad Undebau Llafur at ysgrifenyddiaeth y CPG fel y codwyd gan GL gyda chynrychiolwyr gweithwyr.

Eitem 3 - Trosolwg o Ddyletswyddau Llesiant Cyrff Cyhoeddus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

13. Rhoddodd y Dirprwy Weinidog drosolwg o'r berthynas rhwng y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus a dyletswydd llesiant cyrff cyhoeddus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a chyflwynodd Andrew Charles (AC) i gyflwyno'r eitem. 

14. Cyflwynodd AC drosolwg o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y bensaernïaeth a'r ddyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus. Cyfeiriodd at y sleidiau a rannwyd cyn cyfarfod y CPG. Diolchodd y Dirprwy Weinidog i Andrew a gofynnodd a oedd gan yr aelodau unrhyw gwestiynau. 

15. Cwestiynodd Shavanah Taj (ST) rôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol o ran y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol. Esboniodd AC fod gan y Comisiynydd ddyletswydd gyffredinol benodol i hyrwyddo datblygu cynaliadwy, yn ogystal â phwerau i ddarparu cymorth, arweiniad a rhannu arferion gorau. Roedd hyn yn cynnwys pŵer i adolygu cyrff cyhoeddus. Mae gwaith y Comisiynydd o ran hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn cyfateb yn well i ymdrechion partneriaeth gymdeithasol. 

16. Gofynnodd Nicola Prygodzicz (NP) am eglurhad ar y data a ddefnyddir ar gyfer y set o ddangosyddion llesiant, a'r hyn y dylai'r CPG ganolbwyntio arno. Ymatebodd AC fod Llywodraeth Cymru wedi datblygu'r dangosyddion llesiant cenedlaethol i fesur cynnydd cenedl, felly roedd y mesurau'n cwmpasu'r economi, yr amgylchedd, cymdeithas a diwylliant. Cyhoeddodd Prif Ystadegydd Cymru adroddiad llesiant blynyddol ym mis Medi a adroddodd yn erbyn y 50 dangosydd cenedlaethol a'r cerrig milltir cysylltiedig. 

17. Ychwanegodd AC fod peth o'r data yn mynd i lawr i lefel awdurdod lleol a thu hwnt, ond nad oedd yn ddarlun cyflawn ar draws yr holl ddangosyddion. Cydnabu AC fod rhywfaint o ddadlau wedi bod dros gyfnod o amser ynghylch y ffordd orau o gipio a chofnodi gwybodaeth o'r fath, ac y gallai'r dull gofodol weithio. Cytunodd AC i gynnwys hyn yn y gwaith ar adroddiad llesiant blynyddol Cymru gyda'r Prif Ystadegydd 

18. Dywedodd Ben Cottam (BC) fod angen i'r CPG fod yn glir ynghylch ble mae'r pwyntiau cyswllt gan fod diffyg sicrwydd rhwng deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol a'r ddeddfwriaeth partneriaeth gymdeithasol. Yn dilyn sgyrsiau â'r busnesau yr oedd FSP yn eu cynrychioli, esboniodd BC mai eu barn oedd bod y ddeddfwriaeth llesiant wedi helpu i roi'r dull partneriaeth gymdeithasol ar waith, a bod y cysylltiadau rhwng y ddau ddarn o ddeddfwriaeth yn atgyfnerthu ei gilydd yn hytrach nag yn annibynnol ar ei gilydd.

19. Gofynnodd Mike Walker (MW) a fyddai'r CPG yn gallu gwneud sylwadau ar unrhyw un o'r adroddiadau blynyddol ar amcanion Gweinidogion Cymru. Eglurodd NS y byddai'r CPG yn gwneud sylwadau ar yr adolygiad blynyddol o'r amcanion llesiant a'r adroddiad blynyddol sy'n deillio o hynny. Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog y byddai'r Prif Weinidog yn darparu eglurder, fel rhan o'r eitem yn ddiweddarach yn y cyfarfod, ar weithredoli’r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar Weinidogion Cymru. 

20. Nododd Pippa Britton (PB) fod gwaith teg yn aml yn canolbwyntio ar bobl mewn cyflogaeth am dâl ac y dylai'r CPG fod yn ymwybodol bod gwaith teg yn llawer ehangach. Ychwanegodd PB fod gweithwyr y trydydd sector a gweithwyr gwirfoddol wrth wraidd hyn i gyd, gan gynnwys y gweithwyr hynny ag anableddau. 

21. Ymatebodd AC fod y trydydd sector wedi arwain ymgysylltiad ar agenda llesiant cenedlaethau'r dyfodol ac, er bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cynnwys dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus a byrddau gwasanaethau cyhoeddus a, hyd yn oed pe bai dyletswyddau'r sector cyhoeddus yn cael eu dileu, roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn darparu fframwaith polisi cryf ar gyfer pob sector gan eu bod yn cydnabod y berthynas â'r llywodraeth a'r ffaith bod cyrff cyhoeddus yn sbarduno newid. 

Cam Gweithredu: 

Cytunodd AC i gyfrannu trafodaethau o’r cyfarfod ar gasglu data ar lefel awdurdod lleol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol gyda Phrif Ystadegydd Llywodraeth Cymru fel rhan o adroddiad Llesiant Blynyddol Cymru.

Eitem 4 – Dull arfaethedig o ddarparu gwybodaeth a chyngor gan y CPG i Weinidogion Cymru

22. Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog y papur CPG 01-03, a rannwyd cyn y cyfarfod, ac esboniodd sut mae'r dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol yn adeiladu ar y ddyletswydd llesiant a osodwyd ar gyrff cyhoeddus gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac yn ymdrin â swyddogaethau craidd y CPG. Roedd y ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff geisio consensws neu gyfaddawd gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig neu, os nad oedd undeb llafur cydnabyddedig, gyda chynrychiolwyr eraill eu gweithlu wrth osod eu hamcanion llesiant, a hefyd wrth wneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau rhesymol y bwriadant eu cymryd i gyflawni'r amcanion llesiant hynny. Byddai hefyd yn ofynnol iddynt adolygu ac adrodd ar gynnydd bob blwyddyn 

23. Nododd y Dirprwy Weinidog fod yn rhaid i’r holl adroddiadau dderbyn sêl bendith undeb llafur neu gynrychiolwyr gweithwyr y corff cyhoeddus cyn iddynt gael eu hanfon i'r CPG a, lle nad oedd hyn yn wir, y byddai angen esboniad. 

24. Atgoffodd y Dirprwy Weinidog yr aelodau mai un o swyddogaethau craidd y CPG oedd rhoi gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru ar sut roedd cyrff cyhoeddus wedi cyflawni'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol. Ychwanegodd fod y papur yn cynnig y dylai'r ysgrifenyddiaeth goladu, dadansoddi a chrynhoi'r adroddiadau partneriaeth gymdeithasol y mae'n ofynnol eu cyhoeddi o 2025 ymlaen, a darparu'r deunydd hwnnw i'r CPG bob blwyddyn. Byddai'r deunydd hwn yn sail i unrhyw gyngor a gwybodaeth a ddarperir i Weinidogion.

25. Esboniodd y Dirprwy Weinidog y gallai'r wybodaeth a'r cyngor a ddarperir i Weinidogion gynnwys enghreifftiau o ymarfer nodedig neu feysydd sy'n peri pryder, beth oedd yn gweithio'n dda neu bethau nad oeddent yn gweithio cystal, a lle gallai cymorth neu gyngor fod o fudd.

26. Gofynnodd y Dirprwy Weinidog i'r aelodau am unrhyw sylwadau neu gwestiynau.

 27. Roedd PH yn anghytuno ag adran 14 o'r papur a oedd yn cynnig mai dim ond adroddiad cryno y dylid ei ddarparu i'r CPG, ac awgrymodd y dylai aelodau gael mynediad at yr adroddiadau llawn gan bob corff cyhoeddus, yn ogystal ag adroddiad cryno wedi’i baratoi gan yr ysgrifenyddiaeth. Esboniodd y Dirprwy Weinidog fod yr adroddiad cryno yn gynnig i helpu i reoli amser aelodau'r CPG, ond y byddai'n fodlon rhannu pob un o'r 56 adroddiad pe bai'r Cyngor yn dymuno eu gweld.

28. Ar y pwynt hwn, ymunodd y Prif Weinidog â'r cyfarfod yn y cnawd ac awgrymodd y dylai'r Dirprwy Weinidog barhau fel cadeirydd.

Cam Gweithredu: 

Cytunodd y Dirprwy Weinidog i rannu’r 56 adroddiad partneriaeth gymdeithasol gan gyrff cyhoeddus (pan fyddant ar gael) gyda'r adroddiad cryno ar gyfer 2024/25 pe bai aelodau CCA yn dymuno eu gweld.

Eitem 5 – Gwaith teg: polisi a chyd-destun, ysgogiadau a chyfyngiadau

29. Tynnodd y Dirprwy Weinidog sylw at bwysigrwydd gwaith teg o fewn cylch gwaith y CPG a chyflwynodd Stephen Layne (LS), a roddodd gyflwyniad ar bolisi a chyd-destun, ysgogiadau a chyfyngiadau ynghylch gwaith teg.

30. Cytunodd Ian Price (IP) ar bwysigrwydd gwaith teg a chyflawni'r cyflog byw gwirioneddol. Tynnodd sylw at effaith COVID-19 a'r newid diwylliant i weithio gartref, a sut roedd cynnal gwaith teg yn hanfodol i'r rhai sy'n gweithio gartref. 

31. Cytunodd SL fod COVID-19 wedi gwthio hyblygrwydd gweithwyr, ac ychwanegodd y byddai angen gwneud gwaith pellach i fynd i'r afael â llesiant wrth weithio gartref. Tynnodd SL sylw at strategaeth Llywodraeth Cymru ar weithio o bell.

32. Ychwanegodd ST fod angen dealltwriaeth bellach o waith teg i gefnogi a chyflawni'r nod Cymru Lewyrchus, a galwodd am ddull mwy cyfunol o weithredu'r polisi a nododd nad yw'r iaith a'r cyfathrebiadau a ddefnyddir ar draws y llywodraeth yn gyson ar hyn o bryd. 

33. Nododd GL nad oedd y term gwaith teg yn cael ei ymgorffori'n ddigonol mewn negeseuon ar hyn o bryd, ac awgrymodd y gallai'r derminoleg yn y cyflwyniad helpu'r neges honno a rhoi lefel o gysondeb. Cytunodd SL y byddai angen gwneud rhagor o waith i wella'r negeseuon.

34. Tynnodd y Cynghorydd Anthony Hunt (AH) sylw at y rôl sydd gan gyrff cyhoeddus o ran helpu i ddeall deddfwriaeth Partneriaeth Gymdeithasol, deddfwriaeth Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a chadwyni cyflenwi.

35. Ychwanegodd AH bwysigrwydd dysgu o arferion gorau gwaith teg a'r hyn y gellir ei wneud i wneud y gweithle yn lle tecach. Mewn sgyrsiau â'r gweithlu, roedd rhaniad rhwng y cenedlaethau, gan fod cynlluniau pensiwn cyflog terfynol yn fwy deniadol i'r gweithlu hŷn nag i weithwyr iau. Roedd y gweithlu wedi newid, gyda phobl iau yn dilyn nifer o lwybrau gyrfa yn ystod eu hoes, felly roedd yn bwysig diffinio gwaith teg o fewn y cyd-destun hwnnw. 

36. Gofynnodd ST pa ysgogiadau oedd ar gael a nododd yr angen i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ddeall sut y gellid defnyddio eu potensial i ddylanwadu ar waith teg a'i ymgorffori yn y gweithle. 

37. Atebodd SL fod gwaith wedi'i wneud ar ddeall ysgogiadau polisi gwaith teg yn well. Roedd yn bwysig gosod ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru yng nghyd-destun yr hyn y gall ac na all Llywodraeth Cymru ei wneud. Dywedodd SL wrth yr aelodau ei fod yn gweld tri math o gyflogwyr yr oedd gan Lywodraeth Cymru wahanol lefelau o ddylanwad drostynt. Yn gyntaf, roedd gan Lywodraeth Cymru ddylanwad cymharol uniongyrchol dros amodau gwaith yn y sector cyhoeddus datganoledig. Yn ail, mae gan Lywodraeth Cymru rywfaint o ddylanwad dros y sefydliadau hynny y mae ganddi berthynas ariannol â nhw. Fodd bynnag, nid oedd mwyafrif y cyflogwyr yng Nghymru mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig nac yn gyflogwyr y mae gan Lywodraeth Cymru berthynas ariannol â nhw. Pwysleisiodd Stephen bwysigrwydd ymgorffori gwaith teg o fewn dulliau ehangach, ond hefyd yr angen am ddulliau cyfathrebu clir a chyson, a chydnabyddiaeth bod lle i wella o hyd. 

Eitem 6 - Darpariaethau Caffael Cyhoeddus Cymdeithasol Gyfrifol Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023

38. Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog Sue Hurrell (SH) i ddarparu trosolwg o'r darpariaethau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol yn y Ddeddf ac amlinellu bwriadau Llywodraeth Cymru o ran gweithredu. Darparwyd y sleidiau i'r aelodau cyn y cyfarfod.

39. Tynnodd JT sylw at bwysigrwydd briffiau mwy technegol ar gyfer y CPG yn y dyfodol, ac awgrymodd na ddylid gadael y pwnc hwn i'r is-grŵp caffael yn unig.

40. Awgrymodd ST archwiliad dwfn i gaffael gyda sefydliadau'r trydydd sector, yn enwedig o ran gwaith teg yng nghyd-destun gwirfoddolwyr yn darparu gwasanaethau. 

41. Tynnodd RB sylw at bryderon ynghylch caffael a deallusrwydd artiffisial. Ychwanegodd RB fod Cyngres yr Undebau Llafur wedi cyhoeddi adroddiad yn cofnodi profiad gweithwyr o ddeallusrwydd artiffisial. Awgrymodd RB y dylai'r CPG greu is-grŵp i gynghori'n benodol ar gaffael deallusrwydd artiffisial, yn enwedig o ran lliniaru niwed a nodi cyfleoedd i'r gweithlu. 

42. Daeth y Dirprwy Weinidog â'r eitem hon i ben. Diolchodd SH i'r aelodau am eu sylwadau a chytunodd i ystyried y ffordd orau o fynd i'r afael â'u sylwadau.

Cam Gweithredu: 

Y CPG i ystyried sefydlu is-grŵp i edrych yn benodol ar gaffael deallusrwydd artiffisial a'i effaith ar y gweithlu.

Cam Gweithredu: 

SH i ystyried y ffordd orau o sicrhau bod y CPG yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy friffiau technegol ar faterion caffael, yn ogystal â datblygiad yrIs-grŵp Caffael.

Eitem 7 - Y potensial i Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 gefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle

43. Oherwydd cyfyngiadau amseru, awgrymodd y Dirprwy Weinidog y byddai'r eitem hon yn cael ei gohirio tan gyfarfod nesaf y CPG i sicrhau bod amser i'w hystyried yn llawn.

Cam Gweithredu: 

I ychwanegu 'Y potensial i Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 gefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle' at agenda'r cyfarfod nesaf.

Eitem 8 – Gweithredoli’r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar Weinidogion Cymru

44. Esboniodd y Prif Weinidog fod y Ddeddf yn gosod dyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â'r CPG wrth wneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau mae Gweinidogion Cymru'n bwriadu eu cymryd i gyflawni eu hamcanion llesiant. Dywedodd, fel man cychwyn, bod Gweinidogion wedi cynnig ymgysylltu â'r CPG ar dri phwynt hynod bwysig o ran gwneud penderfyniadau bob blwyddyn. 

45. Y cyntaf o'r tri phenderfyniad fyddai pennu cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru, a oedd o'r pwys mwyaf o safbwynt cefnogi blaenoriaethau'r llywodraeth. Rhoddodd y Prif Weinidog drosolwg o'r cylch cyllideb blynyddol a chynigiodd y dylid ymgysylltu â'r CPG ar gam ffurfiannol addas o'r broses bob blwyddyn. 

46. Yr ail benderfyniad y cynigiodd y Prif Weinidog y dylid ymgynghori'r CPG yn ei gylch oedd datblygu rhaglen ddeddfwriaethol flynyddol Llywodraeth Cymru. Daw'r broses honno i ben bob mis Gorffennaf mewn datganiad deddfwriaethol sy'n nodi'r ddeddfwriaeth sydd i'w chyflwyno gerbron y Senedd yn  ystod y tymor canlynol. Awgrymodd y Prif Weinidog y byddai'r ymgysylltu â'r CPG yn digwydd wrth ddatblygu'r datganiad, ar adeg cyn i’r penderfyniadau terfynol gael eu gwneud.

47. Y trydydd penderfyniad strategol oedd yr adolygiad blynyddol o amcanion llesiant Llywodraeth Cymru fel y nodir yn y Rhaglen Lywodraethu. Esboniodd y Prif Weinidog mai'r rhain oedd yr amcanion ehangaf y mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i'w cyflawni, felly dylid ymgysylltu â'r CPG yn yr adolygiad blynyddol o gynnydd yn erbyn amcanion presennol ac ystyried a oedd angen unrhyw newid.

48. Teimlai'r Prif Weinidog y byddai ymgynghori ar y tri mater allweddol hyn bob blwyddyn yn darparu cyfleoedd i'r CPG lywio meddylfryd y llywodraeth, heb fod yn faich ar aelodau. Awgrymodd y Prif Weinidog y dylid treialu'r dull hwn am flwyddyn a'i adolygu wedi hynny. Cytunodd yr aelodau i hyn, er y cydnabuwyd y byddai angen rheoli amseriad y tair eitem hyn bob blwyddyn yn ofalus er mwyn sicrhau bod yr ymgysylltu'n digwydd ar adeg briodol ym mhob proses.

Eitem 9 - Cyllideb Ddrafft 2024-2025 Llywodraeth Cymru

49. Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i drafod y gyllideb ddrafft

50. Esboniodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol fod y gyllideb ddrafft wedi'i chyhoeddi ar 19 Rhagfyr, a rhoddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am y cyd-destun cyllidol ac economaidd diweddaraf a lywiodd gynlluniau ynghyd â phenderfyniadau allweddol yn y gyllideb. Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mai dyma'r sefyllfa ariannol anoddaf i Lywodraeth Cymru ei hwynebu ers dechrau datganoli.

51. Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mai egwyddorion arweiniol Llywodraeth Cymru oedd amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd cyn belled ag y bo modd a sicrhau'r budd mwyaf i aelwydydd a gafodd eu taro galetaf. Byddai'r gyllideb derfynol yn cael ei chyhoeddi ddiwedd mis Chwefror ac yn destun pleidlais yn y Senedd ddechrau mis Mawrth. 

52. Diolchodd yr aelodau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol am y trafodaethau sydd eisoes wedi'u cynnal gyda phartneriaid cymdeithasol, ac roeddent yn cydnabod y penderfyniadau anodd sy'n wynebu Gweinidogion Cymru wrth bennu'r gyllideb ddrafft. Cododd yr aelodau bryderon am ddiswyddiadau gorfodol posibl o fewn y sector cyhoeddus. Cydnabu'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y pryderon hyn. Croesawodd y Gweinidog ymgysylltiad parhaus y CPG yn y broses o bennu'r gyllideb flynyddol. 

53. Adleisiodd JT y sylwadau a wnaed a chydymdeimlodd â'r angen i ddiogelu'r GIG ac awdurdodau lleol yn y gyllideb. Cododd DW bryderon ychwanegol am doriadau cyflogaeth yn y gwasanaeth sifil a chyrff noddedig, yn enwedig yn y sector diwylliant fel yr Amgueddfa Genedlaethol a'r Llyfrgell.

54. Cydnabodd Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y pryderon hyn. Croesawodd y Gweinidog yr ymgysylltiad parhaus y CPG yn y broses gosod cyllideb flynyddol.

Eitem 10 - Diweddariad Llywodraeth Cymru: Cyfarfod ag Arweinwyr Mosgiau ac Imamiaid

55. Esboniodd y Prif Weinidog fod yr eitem agenda hon wedi'i hychwanegu o ganlyniad i gyfarfod diweddar gydag arweinwyr mosgiau ac Imamiaid, a dynnodd sylw at y galar a'r trawma a achoswyd i'r gymuned yn sgil y gwrthdaro yn Gaza. Un o themâu’r trafodaethau oedd effaith y gwrthdaro mewn gweithleoedd. Roedd arweinwyr mosgiau ac Imamiaid eisiau archwilio sut y gallai'r CPG gael negeseuon allan i gefnogi aelodau staff Mwslimaidd a helpu gweithleoedd i gydnabod effaith y gwrthdaro.

56. Gwnaeth ST sylw ar sawl sgwrs mae aelodau undebau wedi'u cael ar y gwrthdaro hwn, sy'n tynnu sylw at bryderon gwirioneddol ynghylch iechyd meddwl a llesiant gweithwyr. Ychwanegodd ST fod adroddiadau wedi'u cyflwyno ar gynnydd mewn hiliaeth a bod Cyngres yr Undebau Llafur wedi lobïo i Gymru gyhoeddi apêl am gadoediad.

57. Atseiniodd DW'r sylwadau hyn ac ailadroddodd gefnogaeth TUC Cymru i gadoediad ar unwaith. Gofynnodd DW hefyd i Lywodraeth Cymru gefnogi'r galwadau am gadoediad.

58. Cododd yr aelodau faterion tebyg hefyd o ran y gwrthdaro parhaus yn Wcráin, a nodwyd bod plant o fewn y gymuned Iddewig hefyd yn ofnus gan fod eu cymuned yn wynebu gelyniaeth.

59. Nododd PB bwysigrwydd diwylliant cynhwysol yn y gweithle i bob gweithiwr. 

60. Nododd y Prif Weinidog ei fod wedi rhannu hyn gyda'r aelodau fel y gallai'r CPG gysylltu'r agweddau mwy damcaniaethol ar eu rôl â bywydau pobl. Cytunodd yr aelodau ar bwysigrwydd y neges o ddealltwriaeth a thosturi.

Eitem 11 – Blaenraglen waith

61. Cyn yr eitem agenda nesaf, cafwyd cyfle i dynnu llun o aelodau'r CPG. Yna, bu'n rhaid i'r Prif Weinidog adael y cyfarfod.

62. Nododd y Dirprwy Weinidog y byddai eitem 11 yn cael ei hychwanegu at yr agenda nesaf. Ni awgrymwyd unrhyw eitemau ychwanegol. Dywedodd y Dirprwy Weinidog y gellid cyflwyno unrhyw awgrymiadau ar gyfer yr agenda nesaf i'r ysgrifenyddiaeth drwy e-bost. 

Cam Gweithredu: 

Nododd y Dirprwy Weinidog y byddai eitem 11 yn cael ei hychwanegu at yr agenda nesaf

Cam Gweithredu:   

Aelodau i anfon cynigion ar gyfer yr agenda nesaf i'w hanfon at ysgrifenyddiaeth y CPG.

Eitem 12 - Cyfarfod nesaf – dyddiad a lleoliad

63. Nododd y Dirprwy Weinidog y byddai o leiaf ddau gyfarfod arall yn cael eu cynnal eleni, fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf. Gofynnodd y Dirprwy Weinidog i'r aelodau am unrhyw ddewisiadau ynghylch pryd y dylai'r CPG gyfarfod ac a oedd awydd i gynnal y momentwm cyn y cyfarfod nesaf o ystyried bod yr aelodau wedi gofyn am wybodaeth fanylach am ysgogiadau polisi ar gyfer gwaith teg, yn ogystal â mwy o wybodaeth am faterion caffael. 

64. Gofynnodd y Dirprwy Weinidog a oedd aelodau'n teimlo y gallai fod angen cyfarfod paratoi cyn y cyfarfod ffurfiol nesaf mewn tua thri mis. Roedd y Dirprwy Weinidog yn hapus i dderbyn barn yr aelodau. 

65. Awgrymodd PH y dylai'r CPG gynnal 4 cyfarfod y flwyddyn yn y cnawd, a chyfarfod misol. Atgoffodd y Dirprwy Weinidog yr aelodau mai'r Prif Weinidog newydd fyddai'n cadeirio cyfarfod nesaf y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ac yr ymgynghorir ag ef ynghylch dyddiad y cyfarfod nesaf a chyfarfodydd y dyfodol. Gofynnodd y Dirprwy Weinidog i'r aelodau gyflwyno eu barn i'r Ysgrifenyddiaeth ynghylch pryd, ble a sut y dylai'r CPG gyfarfod nesaf er mwyn iddynt allu gwneud y trefniadau angenrheidiol 

Cam Gweithredu: 

Aelodau’r CPG i roi eu barn ar pryd, ble a sut y dylai'r CPG gyfarfod nesaf ei gynnal i’r Ysgrifenyddiaeth. 

Cam Gweithredu: 

Ysgrifenyddiaeth y CPG i gydlynu’r trefniadau ar gyfer cyfarfod nesaf y Cyngor.

66. Awgrymodd yr aelodau slot amser hirach i osgoi gor-redeg.

67. Diolchodd y Dirprwy Weinidog i'r Cyngor a daeth â’r cyfarfod i ben.

Rhestr o Fynychwyr

Gweinidogion Cymru 

Cyd-gadeirydd – Hannah Blythyn AS – Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Cyd-gadeirydd – Mark Drakeford AS – Y Prif Weinidog
Rebecca Evans - Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (drwy Teams)

Aelodau Cynrychiadol Gweithwyr y CPG 

Ruth Brady – GMB (drwy Teams)
Neil Butler – NASUWT
Sandy Harding – RCN (yn lle Helen Whyley (drwy Teams))
Peter Hughes - Undeb Unite
Gareth Lloyd – UCU (drwy Teams)
Shavanah Taj – TUC Cymru
Jess Turner - Unsain
Mike Walker – USDAW 
Darren Williams – PCS

Aelodau Cynrychiadol Cyflogwyr  

Pippa Britton – Trydydd Sector
Ben Cottam – FSB 
Y Cynghorydd Anthony Hunt – Llefarydd Gweithlu CLlLC
Yr Athro Wendy Larner – Prifysgolion Cymru
Ian Price – CBI Cymru
Nicola Prygodzicz – BIP Aneurin Bevan
Janis Richards – MAKE UK
Kathryn Robson – Addysg Oedolion Cymru
Y Fonesig Elan Stephens – Fforwm Arweinwyr Cyhoeddus

Aelodau Llywodraeth Cymru 

Andrew Charles – Dyfodol Cynaliadwy
Sioned Evans – Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg (drwy Teams)
Sue Hurrell – Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a gwaith teg
Stephen Layne – Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a gwaith teg
Vivienne Lewis - Polisi a Chyflawni'r Gyllideb (drwy Teams)
Jon Roche - Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a gwaith teg
Jo Salway – Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a gwaith teg
Neil Surman – Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a gwaith teg

Ysgrifenyddiaeth y CPG 

Robert Hobbs – Llywodraeth Cymru 
Gavin Jenkins – Llywodraeth Cymru
Mark Lewis - Llywodraeth Cymru

Sylwedyddion

Amber Courtney – Llywodraeth Cymru
Sioned Evans – Llywodraeth Cymru 
Sandy Harding – RCN (yn lle Helen Whyley)
Zoe Holland – Llywodraeth Cymru
Jessica Khoshooee – Llywodraeth Cymru
Phillipa Marsden – Cynghorydd Arbennig (drwy Teams)
Jane Runeckles – Cynghorydd Arbennig (drwy Teams)
Sharon West – Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

Helen Whyley – RCN