Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

Eitem Eitem yr agenda Perchennog Math
1

COVID 19 – Ymateb a Blaenoriaethau

I’w trafod

TUC Cymru Papur
2

Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg

I’w trafod

Llywodraeth Cymru Llafar
3

Cyfnewid Pobl Cymru

I’w benderfynu

Cyd-ysgrifenyddiaeth Papur
4

Y Diweddaraf am Raglen Waith WPC

Er gwybodaeth

Cyd-ysgrifenyddiaeth Papur
5

Adolygiad o gofnodion y Cyd-bwyllgor Gweithredol/Materion yn Codi

Er gwybodaeth

Cyd-ysgrifenyddiaeth Papur
6 UFA    

Cadeirydd – Ochr y Cyflogwyr, Peter Kennedy

Eitem 1: COVID-19 ymateb a blaenoriaethau

Penderfyniadau

1. JEC mis Medi i gynnwys eitemau agenda ar brofi, olrhain, diogelu COVID a rheoli achosion lleol o COVID yn y gweithle.

2. Cymeradwyodd a chytunodd aelodau JEC i gefnogi adolygiad o drefniadau partneriaethau cymdeithasol.

Gweithredu

1. Cyd-ysgrifenyddiaeth WPC i wahodd Jo-Anne Daniels i fynychu cyfarfod nesaf JEC ym mis Medi 2020 i drafod profi, olrhain, diogelu COVID a rheoli achosion lleol o COVID yn y gweithle.

2. Helen Arthur i ddarparu'r animeiddiad ar yr offeryn asesu i Gyd-ysgrifenyddiaeth WPC i'w ddosbarthu i aelodau JEC WPC.

Eitem 3: Cyfnewid Pobl Cymru (PEC)

Penderfyniadau

1. Cydnabu'r JEC gau PEC ym mis Medi 2020 a chytunodd â'r cynnig i ddarparu tudalen gyflwyno LLYW.CYMRU fel mesur dros dro, tra hefyd yn cychwyn proses i edrych a oes cefnogaeth a digon o alw am un newydd.

Gweithredu

1. Y JS i drefnu tudalen gyflwyno ar LLYW.CYMRU i hysbysu ymwelwyr â PEC bod y safle wedi cau ac i gyfeirio at adnoddau eraill.

2. Y JS i ddatblygu a chychwyn cynllun cyfathrebu i gefnogi cau PEC.

3. Y JS i gychwyn ymarfer gyda phartneriaid cymdeithasol i edrych a oes galw am ddisodli PEC.

Eitem 4: Diweddariad Rhaglen Waith WPC

Penderfyniadau 

1.Cytunodd JEC i'r JS ddatblygu'r eitemau gwaith teg a gynigiwyd ar gyfer gweddill Rhaglen Waith WPC ar gyfer 2019/2020.

2. Cytunodd y JEC i drafod rhaglen waith ar gyfer y WPC yn y dyfodol yng nghyfarfod nesaf JEC ym mis Medi 2020.

Gweithredu

1. Y JS i gyflwyno papur ar Argymhellion Grŵp Cyfeirio Arbenigol Symudedd y Gweithlu i'w cyflwyno i WPC ym mis Tachwedd 2020.

2.Y JS i roi rhaglen waith WPC yn y dyfodol ar gyfer 2020/21 ar yr agenda ar gyfer y JEC nesaf ym mis Medi.