Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn gwahodd pobl i sesiwn holi ac ateb a gynhelir ddydd Iau, 30 Mawrth yng Nghei Connah.
Bydd digwyddiad Cyfarfod Carwyn yn gyfle i bobl leol gyfarfod â’r Prif Weinidog wyneb yn wyneb i ofyn cwestiynau am unrhyw faterion llosg sy’n effeithio arnyn nhw neu ar eu cymuned.
Cynhelir y sesiwn rhwng 6pm a 7.30pm yng nghanolfan newydd Chweched Glannau Dyfrdwy, Coleg Cambria. Does dim rhaid talu i ddod i’r digwyddiad hwn, ond anogir pobl i gofrestru eu diddordeb ar-lein drwy www.eventbrite.co.uk, gan roi "Cyfarfod Carwyn Cei Connah" neu "Carwyn Connect Connah’s Quay" yn y bar chwilio.
Rydym yn derbyn cwestiynau mewn nifer o wahanol ffyrdd. Cewch eu cyflwyno pan fyddwch yn cyrraedd – mae’r drysau’n agor am at 5.30pm; neu cewch eu hanfon ymlaen llaw drwy e-bost: cabinetcommunications@wales.gsi.gov.uk, neu drwy Twitter gan ddefnyddio @fmwales gyda’r hashnod #CyfarfodCarwyn.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:
“Mae’n bleser gen i gyhoeddi y byddaf yn cynnal digwyddiad Cyfarfod Carwyn yng Nghei Connah.
“Dw i wedi teithio ar hyd a lled Cymru i gyfarfod â phobl ac ateb eu cwestiynau am faterion sy’n bwysig iddyn nhw. Mae’r galonogol gweld pa mor boblogaidd mae’r digwyddiadau hyn, a dw i’n siŵr na fydd y digwyddiad yng Nghei Connah yn wahanol.
“Felly, os oes gennych chi gwestiwn imi, neu os ydych chi am godi mater neu gyflwyno syniad gwych a fyddai’n gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned, dewch draw i Ganolfan Chweched Glannau Dyfrdwy, Coleg Cambria, ar 30 Mawrth. Dw i wir yn edrych ymlaen at gyfarfod â chi bob un.”