Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cyfle i bobl sy’n ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern, Ynys Môn, ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog, Carwyn Jones

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cyfarfod Carwyn yn gyfle i bobl ofyn cwestiynau wyneb yn wyneb i’r Prif Weinidog, am unrhyw fater sy’n cael effaith arnynt hwy a’u cymunedau lleol. 
<?xml:namespace prefix = "o" ns = "urn:schemas-microsoft-com:office:office" />

Bydd awr o sesiwn yn cael ei chynnal ar stondin Llywodraeth Cymru am 2 o’r gloch, ddydd Llun, 7 Awst.  Mae gofyn i bawb sydd â diddordeb mewn dod i’r digwyddiad, gofrestru ar  wefan Eventbrite.  Mae modd cyflwyno cwestiynau ymlaen llaw drwy anfon e-bost at cyfathrebu.cabinet@llyw.cymru neu yn y digwyddiad ei hun.

Dywedodd y Prif Weinidog:

 

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rwyf wedi cynnal degau o sesiynau fel hyn ledled y wlad. Mae pob un wedi bod yn gyfle i gael trafodaethau brwd a chadarnhaol. Rwy’n falch o allu cynnal sesiwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf.  Dyma le gwych i gael trafodaethau difyr o hyd ac rwy’n edrych ymlaen i glywed beth fydd pawb am ei drafod. Gobeithio y byddwch yn galw heibio’r sesiwn gwestiwn ac ateb yn yr Eisteddfod. Rwy’n edrych ymlaen at gael gweld pob un ohonoch.”