Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhoeddi y bydd digwyddiad nesaf Cyfarfod Carwyn, a’r cyntaf yn ystod tymor y Cynulliad hwn, yn cael ei gynnal yn Wrecsam.
Dros y misoedd nesaf bydd y Prif Weinidog hefyd yn cynnal digwyddiadau Cyfarfod Carwyn yn Hwlffordd ar 13 Hydref ac yng Nghaerffili ar 17 Tachwedd. Bydd rhagor o fanylion am y digwyddiadau hyn yn dilyn maes o law.
Mae digwyddiadau Cyfarfod Carwyn yn rhoi cyfle i aelodau o'r cyhoedd ofyn cwestiynau i'r Prif Weinidog ar unrhyw fater sy'n cael effaith arnynt neu eu cymuned leol, a hynny wyneb yn wyneb.
Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal rhwng 6pm a 7:30pm ddydd Iau, 15 Medi yng Nghanolfan Catrin Finch [Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam, LL11 2AW].
Oes gennych chi gwestiwn ar gyfer Llywodraeth Cymru? Ydych chi eisiau codi ymwybyddiaeth am broblem sy’n effeithio ar eich cymuned? Neu, oes gennych chi syniad fyddai’n gwneud eich ardal leol yn lle gwell i fyw? Dewch i ddigwyddiad Cyfarfod Carwyn!
Mae'r digwyddiadau hyn am ddim, ond anogir pobl i gofrestru eu diddordeb ar-lein drwy Eventbrite - https://www.eventbrite.co.uk/e/cyfarfod-carwyncarwyn-connect-tickets-27404707217?aff=ehomecard
Mae sawl ffordd o ofyn cwestiwn, gallwch ei gyflwyno pan fyddwch yn cyrraedd y lleoliad (bydd y drysau'n agor am 5:30pm), neu gallwch ei anfon ymlaen llaw drwy e-bostio cabinetcommunications@wales.gsi.gov.uk neu drwy Twitter gan ddefnyddio @fmwales a'r hashnod #cyfarfodcarwyn.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi teithio ar hyd a lled i wlad i glywed barn pobl yn eu cymunedau lleol ac i ateb y cwestiynau y maen nhw’n ysu i’w gofyn.
"Mae'n bleser gen i gyhoeddi y bydd y digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal yn Wrecsam, gyda digwyddiadau eraill yn cael eu trefnu ar gyfer Hwlffordd a Chaerffili. Rwyf eisiau gweld cynifer o bobl â phosibl yn dod i'r digwyddiadau hyn.
"Ry'n ni wedi cael amrywiaeth eang o bynciau'n codi yn nigwyddiadau'r gorffennol a llawer o drafodaethau brwd. Rwy'n siŵr mai dyma fydd yn digwydd yn Wrecsam hefyd.
"Dyma’ch cyfle chi i gwrdd â mi a chael sgwrs wyneb yn wyneb. Rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â phob un ohonoch."