Neidio i'r prif gynnwy

Bydd digwyddiad nesaf Cyfarfod Carwyn yn cael ei gynnal yn Hwlffordd yr wythnos nesaf. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal rhwng 6pm a 7:30pm ddydd Iau, 13 Hydref yng Ngholeg Sir Benfro [Coleg Sir Benfro, Hwlffordd, SA61 1SZ].

Dros y misoedd nesaf bydd y Prif Weinidog yn cynnal digwyddiadau Cyfarfod Carwyn ledled Cymru. Ar ôl y sesiwn yn Hwlffordd, bydd y digwyddiad nesaf yng Nghaerffili ar 17 Tachwedd.

Mae'r digwyddiadau hyn am ddim, ond anogir pobl i gofrestru eu diddordeb ar-lein drwy ddilyn y ddolen hon. 

Mae sawl ffordd o ofyn cwestiwn, gallwch ei gyflwyno pan fyddwch yn cyrraedd y lleoliad (bydd y drysau'n agor am 5:30pm), neu gallwch ei anfon ymlaen llaw drwy e-bostio cabinetcommunications@wales.gsi.gov.uk neu drwy Twitter gan ddefnyddio @fmwales a'r hashnod #cyfarfodcarwyn.

Dywedodd y Prif Weinidog: 

"Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi teithio ar hyd a lled i wlad i glywed barn pobl yn eu cymunedau lleol ac i ateb y cwestiynau y maen nhw’n ysu i’w gofyn.

"Mae'n bleser gen i gyhoeddi y bydd y digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal yn Hwlffordd, ac y bydd sesiwn arall maes o law yng Nghaerffili. Rwyf eisiau gweld cynifer o bobl â phosibl yn dod i'r digwyddiadau hyn, felly os oes gennych chi gwestiwn i mi, os ydych eisiau codi ymwybyddiaeth am broblem sy’n effeithio ar eich cymuned, neu os oes gennych syniad fyddai’n gwneud eich ardal leol yn lle gwell i fyw – dewch draw!

"Ry'n ni wedi cael amrywiaeth eang o bynciau'n codi yn nigwyddiadau'r gorffennol – o gwestiynau am faterion lleol i drafodaethau am bolisïau’r Llywodraeth.  Rwy'n siŵr mai dyma fydd yn digwydd yn Sir Benfro hefyd.

"Dyma’ch cyfle chi i gwrdd â mi a chael sgwrs wyneb yn wyneb. Rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â phob un ohonoch."