Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn gwahodd pobl yn Llanelli i sesiwn holi ac ateb ddydd Iau, 19 Ebrill 2018.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffai'r Prif Weinidog glywed eich syniadau ac ateb eich cwestiynau ar y materion sydd bwysicaf ichi.

Cynhelir y sesiwn yng Nghanolfan Selwyn Samuel, Park Crescent, Llanelli, SA15 3AE rhwng 6pm a 7:30pm.

Gallwch gofrestru eich diddordeb mewn mynychu Cyfarfod Carwyn Llanelli trwy Eventbrite. Gellir cyflwyno cwestiynau wrth gyrraedd y lleoliad, eu hesbostio ymlaen llaw at cabinetcommunications@llyw.cymru neu drwy Twitter gan ddefnyddio @fmwales a hashnod #cyfarfodcarwyn.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:

"Mae bron tair blynedd wedi mynd  heibio ers imi gynnal sesiwn gyntaf Cyfarfod Carwyn. Ers hynny, dw i wedi teithio ar hyd a lled Cymru i glywed barn cymunedau lleol ac i ateb cwestiynau pobl.

“Mae’n bleser gen i gyhoeddi y bydd y digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal yn Llanelli. Fe hoffwn i weld cynifer o bobl â phosibl yng Nghanolfan Selwyn Samuel  felly os oes gennych chi gwestiwn i mi, os ydych eisiau codi ymwybyddiaeth am broblem sy’n effeithio ar eich cymuned, neu os oes gennych syniad a fyddai’n gwneud eich ardal leol yn lle gwell i fyw, dewch draw!

“Dyma'ch cyfle i ofyn y cwestiynau dych chi wir eisiau imi eu hateb. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â phob un ohonoch ac i glywed beth sydd gennych chi i'w ddweud.”