Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn gwahodd pobl yn Rhondda Cynon Taf i sesiwn holi ac ateb ddydd Iau, 16 Mawrth ym Mhenygraig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd digwyddiad Cyfarfod Carwyn yn gyfle i bobl yr ardal gyfarfod â’r Prif Weinidog a gofyn cwestiynau iddo am unrhyw fater sy’n effeithio arnyn nhw neu ar eu cymuned. 

Cynhelir y sesiwn rhwng 6pm a 7:30pm yng Nghanolfan Soar, Cross Street, Penygraig, Rhondda Cynon Taf, CF40 1LD.

Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi hefyd y bydd yn cynnal mwy o ddigwyddiadau Cyfarfod Carwyn, a hynny yng Nghei Connah ddydd Iau, 30 Mawrth ac yn y Barri ddydd Llun, 3 Ebrill.

Mae’r digwyddiadau hyn am ddim, ond anogir pobl i gofrestru eu diddordeb ar-lein. Cofrestrwch eich diddordeb.

Mae sawl ffordd o ofyn cwestiwn. Gallwch ei gyflwyno pan fyddwch yn cyrraedd y lleoliad pan fydd y drysau’n agor am 5:30pm; neu gallwch ei anfon ymlaen llaw drwy e-bostio cabinetcommunications@cymru.gsi.gov.uk neu drwy Twitter gan ddefnyddio @fmwales a’r hashnod #cyfarfodcarwyn.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi teithio ar hyd a lled Cymru i glywed barn pobl yn eu cymunedau lleol ac i ateb y cwestiynau y maen nhw’n ysu am eu gofyn.

“Mae’n bleser gen i gyhoeddi y bydd y digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal ym Mhenygraig. Rwy’ eisiau gweld cynifer o bobl â phosibl yn dod i’r digwyddiad hwn. Felly, os oes gennych chi gwestiwn i mi, os ydych eisiau codi ymwybyddiaeth am broblem sy’n effeithio ar eich cymuned, neu os oes gennych syniad fyddai’n gwneud eich ardal leol yn lle gwell i fyw ynddi – dewch draw!

“Ry’n ni wedi cael amrywiaeth eang o bynciau’n codi yn nigwyddiadau’r gorffennol – o gwestiynau am faterion lleol i drafodaethau am bolisïau’r Llywodraeth.

“Dyma’ch cyfle chi i gwrdd â mi a chael sgwrs wyneb yn wyneb. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â phob un ohonoch.”