Cyfarfod Is-bwyllgor y Cabinet ar Gyfiawnder: 11 Mai 2023
Cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor y Cabinet ar Gyfiawnder ar 11 Mai 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS
- Mick Antoniw AS (Cadeirydd)
- Jane Hutt AS
- Julie Morgan AS
- Jeremy Miles AS (rhan o’r cyfarfod)
Swyddogion Llywodraeth Cymru
- Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a'r Cyfansoddiad
- Des Clifford, Cyfarwyddwr, Swyddfa'r Prif Weinidog
- Piers Bisson, Cyfarwyddwr y Trefniadau Pontio Ewropeaidd, y Cyfansoddiad a Chyfiawnder
- James Gerard, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Cyfiawnder
- Karin Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diogelwch Cymunedol
- Diane Dunning, Gwasanaethau Cyfreithiol
- Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
- Owen John, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- James Oxenham, Is-adran y Cabinet
- Nigel Brown, Prif Weithredwr, Cafcass Cymru
- Kimberley Phillips, Is-adran Diogelwch Cymunedol
- Nadine Young, Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg
- Adam Turbervill, Gwasanaethau Cyfreithiol
- Louis Urutty, Cyfathrebu
- Fiona Green, Y Polisi Cyfiawnder
- Tony Jones, Y Polisi Cyfiawnder
- Antonia Castello-Allen, Y Polisi Cyfiawnder
- David Slade, Y Polisi Cyfiawnder
- Chris James, Y Polisi Cyfiawnder
Mynychwyr allanol
- Dame Vera Baird CB, Cynghorydd Arbenigol Annibynnol ar Ddatganoli Cyfiawnder (rhan o’r cyfarfod)
- Corin Morgan-Armstrong, CEF y Parc (eitem 4)
Cyflwyno a chroesawu
Croesawodd y Cwnsler Cyffredinol y Fonesig Vera Baird CB i'r cyfarfod. Byddai'n mynychu ar gyfer eitemau yn ymwneud â chyfiawnder ieuenctid a phrawf yn rhinwedd ei swydd fel cynghorydd arbenigol annibynnol.
Eitem 1: Sefyllfa bresennol y rhaglen trawsnewid cyfiawnder
1.1 Nododd y Cwnsler Cyffredinol y newid diweddaraf i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, gyda Dominic Raab AS yn gadael, ac Alex Chalk AS yn ei ddisodli.
1.2 Byddai effaith ehangach y newid hwn ar gysylltiadau rhynglywodraethol yn cael ei monitro, gyda'r cyfle i wneud hynny yng nghyfarfod cyntaf y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gyfiawnder sydd newydd ei gyfansoddi, a oedd i fod i gyfarfod ar 24 Mai, ond a gafodd ei ohirio gan Lywodraeth y DU. Nid oes dyddiad arall ar hyn o bryd.
1.3 Cafodd y pwynt ei wneud y dylai data cyfiawnder wedi'u dadgyfuno i Gymru fod yn uchel ar yr agenda i'w drafod gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
1.4 Roedd datblygiadau nodedig ym maes cyfiawnder troseddol yn cynnwys cyflwyno'r Strategaeth Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt, am y tro cyntaf i Gymru. Yn ogystal, roedd y strategaeth addysg carcharorion yn datblygu.
1.5 Hysbysodd MSJCW y cyfarfod y bydd dangosfwrdd data o wybodaeth benodol i Gymru am gyfiawnder ieuenctid ar gael cyn bo hir. Caiff ei gyhoeddi gan Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru.
1.6 Trafododd yr Is-bwyllgor ddatblygiadau eraill mewn perthynas â'r Bil Dioddefwyr a Charcharorion, a gododd rai materion cyfansoddiadol yn ogystal â chynnwys darpariaethau na fyddai Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi.
1.7 Codwyd pryderon am bobl ifanc sy'n cael eu cadw ar remánd yn nalfa'r heddlu a byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu ar gyfer y cyfarfod nesaf, gan gynnwys yr effeithiau cysylltiedig ar iechyd meddwl.
1.8 Wrth nodi’r papur sefyllfa bresennol, cytunodd yr Is-bwyllgor i'w rannu â'r Cabinet.
Eitem 2: Cyflwyniad Trefol y Cynllun Braenaru ar gyfer Llysoedd Teulu
2.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol yr eitem, a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Is-bwyllgor ar lwyddiant cynllun braenaru peilot Gogledd Cymru hyd yma, a gwahoddodd Nigel Brown, Prif Weithredwr Cafcass Cymru i roi trosolwg.
2.2 Er nad oedd y cynllun peilot wedi'i werthuso eto, roedd arwyddion cynnar yn awgrymu'n gryf fod y cynllun peilot yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol i blant a theuluoedd, ac roedd ymgysylltiad cynnar Cafcass Cymru wedi arwain at setlo mwy o achosion yn gynnar ac at nifer isel iawn o achosion yn dychwelyd ac apeliadau.
2.3 Roedd y dull datrys problemau yn helpu i leihau'r trawma anochel a brofwyd o ganlyniad i wrandawiadau llys ailadroddus, ac ar yr un pryd roedd yn ymddangos ei fod yn cyflawni arbedion gwirioneddol i'r system gyfiawnder.
2.4 O ystyried llwyddiant y cynllun peilot presennol a'r arbedion a gynhyrchwyd ar gyfer y system gyfiawnder, roedd potensial i gyflwyno'r dull gweithredu ledled Cymru.
2.5 Nododd yr Is-bwyllgor y diweddariad.
Eitem 3: Diwygio'r Tribiwnlys
3.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol y papur, sy'n nodi'r cynnydd o ran diwygio'r tribiwnlys. Gofynnwyd i'r Is-bwyllgor hefyd ystyried a rhoi sylwadau ar ddrafft gweithio'r Papur Gwyn, i gytuno ar y dull polisi ar gyfer materion penodol a chytuno ar y dull o fynd â'r ymgynghoriad yn ei flaen.
3.2 Roedd yr Is-bwyllgor eisoes wedi cymeradwyo egwyddor argymhellion Comisiwn y Gyfraith i greu un system unedig a chydlynol ar gyfer tribiwnlysoedd datganoledig a oedd yn cynnwys Tribiwnlys Haen Gyntaf i Gymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, y ddau wedi'u rhannu'n siambrau, ac yn cael eu llywyddu gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Nodwyd hefyd yr achos dros fwy o annibyniaeth strwythurol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gweinyddu'r system dribiwnlysoedd newydd, fel yr argymhellwyd gan Gomisiwn Thomas.
3.3 Nododd yr Is-bwyllgor yr argymhellion yn y papur a chytunwyd arnynt.
Eitem 4: Cysylltiadau Teuluol - gan gynnwys cyflwyniad gan Corin Morgan-Armstrong, Pennaeth Gwasanaethau Teuluol Invisible Wales, G4S, CEF Y Parc
4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip y papur, a oedd yn gofyn i'r Is-bwyllgor nodi'r gwaith presennol i gefnogi teuluoedd a chysylltiadau arwyddocaol eraill troseddwyr yng Nghymru.
4.2 Gwrandawodd yr Is-bwyllgor ar Corin Morgan-Armstrong o Gwasanaethau Teuluol Invisible Wales ynghylch y ffaith bod cadw cysylltiadau teuluol ar gyfer pobl yn y ddalfa yn cael ei gydnabod fwyfwy fel rhan bwysig o system gyfiawnder effeithiol.
4.3 Canfu adolygiad yn 2017 gan yr Arglwydd Farmer mai perthnasau teuluol oedd yr 'edefyn aur' i atal aildroseddu.
4.4 Efallai y bydd aelodau'r teulu hefyd yn gallu helpu i nodi pryderon lles yn gynnar drwy sylwi ar newidiadau mewn ymddygiad neu arwyddion o fregusrwydd nad ydynt efallai'n amlwg i staff rheng flaen y system gyfiawnder.
4.5 Yn yr un modd, roedd cysylltiadau teuluol yn ffynhonnell ychwanegol o gefnogaeth ac anogaeth i bobl yn y system gyfiawnder, yn ogystal â darparu sefydlogrwydd drwy gydol eu taith yn y system gyfiawnder. Fodd bynnag, roedd adroddiadau bod teuluoedd ac unigolion arwyddocaol eraill yn aml yn teimlo nad oedd y system yn gwerthfawrogi eu barn na'u cyfraniad posibl at adsefydlu llwyddiannus.
4.6 Er mwyn mynd i'r afael â hyn, roedd Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn gwneud llawer o waith perthnasol i gefnogi teuluoedd, megis cynllun Invisible Walls Wales, a ddatblygwyd gan G4S a Barnardo's Cymru yn CEF y Parc, sy’n cynnig cymorth wedi'i deilwra i deuluoedd cyn ac ar ôl i unigolion gael eu rhyddhau o'r ddalfa.
4.7 Yn ogystal, daeth y rhaglen 'Teuluoedd a Effeithiwyd gan Garcharu' â phartneriaid Gogledd Cymru ynghyd gan gynnwys CEF Berwyn, CEF Styal, Awdurdodau Lleol, Heddlu Gogledd Cymru a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu i gryfhau'r cymorth a ddarperir i aelodau'r teulu.
4.8 Roedd gwaith arall yn cynnwys y 'Safonau Teulu ac Unigolion Arwyddocaol Eraill', gwaith i gefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn CEF y Parc, ochr yn ochr â gwaith i gefnogi teuluoedd troseddwyr, fel y 'Cynllun Ymweld â Mam', y 'Fforwm Cysylltu â Theuluoedd' a chyfres o weithdai ac ymchwil i'w darparu drwy gydol 2023, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.
4.9 Nododd yr Is-bwyllgor y gwaith da yn y maes hwn.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mai 2023