Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Mark Drakeford AS (am ran o'r cyfarfod)
  • Jane Hutt AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg 
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi Covid-19 a Llywodraeth Leol 
  • Nick Wood, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru
  • Amelia John, Cyfarwyddwr Dros Dro Cymunedau a Threchu Tlodi
  • Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr y Bartneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth
  • Jonathan Price, Prif Economegydd
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Sarah Hall, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr, Adfer
  • Lori Frater, Pennaeth y Tasglu Diogelwch Tomenni Glo
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet  
  • David Willis, Pennaeth Trechu Tlodi
  • Theresa Jaynes, Ysgrifenyddiaeth
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)

Mynychwyr allanol

  • Clover Rodrigues, CLlLC
  • John Rose, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
  • Lisa Hayward, CLlLC
  • Chris Llewellyn, CLlLC
  • Azim Ahmed, Cyngor Mwslimiaid Cymru
  • Tom Lee, CPAG
  • Paul Butterworth, Siambrau Cymru

Ymddiheuriadau

  • Lesley Griffiths AS
  • Vaughan Gething AS
  • Eluned Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Dawn Bowden AS
  • Lee Waters AS

Eitem 1: Cyflwyniad, croeso a chofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Croesawodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y Gweinidogion a'r partneriaid i'r cyfarfod.

1.2 Nododd y Cadeirydd fod Llywodraeth Cymru, ar 26 Medi, wedi cyhoeddi adroddiad cryno ac argymhellion y Grŵp Arbenigol ar Gostau Byw – adroddiad a gomisiynwyd i gynghori'r Pwyllgor hwn ar effaith yr argyfwng costau byw ar bobl yng Nghymru a'r camau y dylid eu cymryd i liniaru effaith yr argyfwng yng Nghymru.

1.3 Diolchwyd i'r Grŵp Arbenigol am eu gwaith ac i'r Athro Rachel Ashworth, y Cadeirydd, yn arbennig.

1.4 Nodwyd bod Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid eisoes yn gweithredu ar lawer o'r argymhellion yn yr adroddiad, neu byddent yn gallu bwrw ymlaen â hwy yn gyflym. Fodd bynnag, o ystyried yr anawsterau cyllidol sy'n wynebu pob gwasanaeth cyhoeddus, byddai rhai o'r argymhellion yn fwy heriol nag eraill i'w cyflawni.

1.5 Cytunodd yr Is-bwyllgor ar gofnodion 10 Gorffennaf a 14 Medi.

Eitem 2: Canolfannau Clyd a Mannau Croeso Cynnes

2.1 Cyflwynodd y Cadeirydd yr eitem, cyn trosglwyddo i Clover Rodrigues o CLlLC a John Rose o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

2.2 Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu £1m i gefnogi Canolfannau Clyd fel mannau diogel a chynnes yn y gymuned leol y gallai pobl fynd iddynt i gadw'n gynnes yn ystod y gaeaf. Dosbarthwyd y cyllid drwy'r awdurdodau lleol, a weithiodd gyda phartneriaid lleol i ddatblygu a darparu Canolfannau Clyd.

2.3 At hynny, roedd £1m arall wedi bod ar gael i sefydliadau addysg bellach ar gyfer cynnig mannau cynnes i'r gymuned leol fel rhan o'r fenter Dal Ati i Ddysgu, y Colegau Cymunedol.

2.4 Nodwyd bod dros 850 o Ganolfannau Clyd wedi cael eu sefydlu ledled Cymru y gaeaf diwethaf, gan ddarparu cymorth i dros 117,000 o bobl. Roedd hyn yn ychwanegol at y rhai a ariannwyd gan yr awdurdodau lleol, y rhai a oedd yn cael eu rhedeg ar sail gwbl wirfoddol, er enghraifft gan grwpiau ffydd, a'r rhai a fyddai wedi dod o hyd i’w cyllid eu hunain o ffynonellau fel Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

2.5 O ran y gaeaf sydd i ddod, amser a ddengys sut y byddai'r argyfwng yn parhau i ddatblygu. Fodd bynnag, roedd costau tanwydd ac ynni yn parhau i fod yn llawer uwch nag yr oeddent ddwy flynedd yn ôl, ac roedd chwyddiant yn parhau i effeithio ar gartrefi ledled Cymru, gan arwain at bwysau parhaus ar gyllid aelwydydd. Roedd yn amlwg, fodd bynnag, fod penderfyniadau anodd yn gorfod cael eu gwneud ym mhob man wrth flaenoriaethu cyllid.

2.6 Er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol hyn, roedd llawer o bartneriaid yn adeiladu ar gysyniad y Canolfannau Clyd o ddarparu gwasanaethau mewn mannau a rennir a chynnig gweithgareddau wedi'u lleoli mewn 'mannau cynnes' ar gyfer eu cymunedau.

2.7 Yn ogystal â hynny, roedd awdurdodau lleol wedi adeiladu ar y ddarpariaeth a fodolai eisoes ar draws eu cymunedau ac roeddent yn diweddaru ac yn addasu cyfleusterau presennol pan oedd hynny'n bosibl.

2.8 Bwriad yr awdurdodau lleol oedd darparu cymorth wedi'i dargedu at y rhai mwyaf agored i niwed, gan gyfuno gwasanaethau cynghori â mannau cynnes, lle'r oedd bwyd a diodydd cynnes ar gael yn ogystal â mynediad at Wi-Fi, mannau gwefru a chwmni ar gyfer y rhai a oedd yn teimlo'n ynysig.

2.9 Roedd nifer o enghreifftiau rhagorol, megis gweithdai iechyd meddwl yng Nghastell-nedd Port Talbot a'r cynllun 'Croeso Cynnes' yng Ngwynedd. Cafodd y rhain i gyd eu sefydlu ar sail cynnig darpariaeth i bawb heb unrhyw stigma cysylltiedig o ran mynediad, gan ganolbwyntio ar y rhai oedd wirioneddol angen y cymorth.

2.10 Roedd gwaith Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi plethu â gwaith Llywodraeth Cymru a'r awdurdodau lleol, ac roedd grantiau – a oedd yn amrywio mewn gwerth rhwng £300 a £300k – yn cael eu darparu dros ddwy flynedd i gynorthwyo gyda'r argyfwng costau byw.

2.11 Roedd y Gronfa wedi darparu tua £8.7m i 222 o brosiectau a ddynodwyd yn benodol fel rhai oedd yn gysylltiedig â chostau byw, gyda rhagor yn cael ei ddarparu i brosiectau eraill.

2.12 Roedd y rhan fwyaf o'r cymorth wedi mynd at wasanaethau cynghori, mannau cymunedol ac ar gyfer darparu bwyd a mannau cynnes, a rhoddwyd pwyslais allweddol ar addasu ac ailgynllunio mannau cymunedol a oedd yn bodoli eisoes.

2.13 Roedd mannau cymunedol hefyd wedi addasu amseroedd eu darpariaeth, ac roeddent ar agor yn hwyrach gyda'r nos a thrwy’r gwyliau hanner tymor.

2.14 Roedd cyllid hefyd wedi cael ei dargedu at ddarparu cymorth i bobl yn eu cartrefi eu hunain, er enghraifft drwy becyn gofal gydag eitemau fel sanau thermol, a phoptai araf i wneud bwyd maethlon a chynnes am lai o gost.

2.15 Roedd yr hyn a ddysgwyd o ddarpariaeth y flwyddyn a aeth heibio yn cynnwys sicrhau mynediad fforddiadwy at fannau cynnes, gan gynnwys costau cludiant, canolbwyntio ar yr effeithiau anghymesur ar rai mewn cymunedau, fel yr henoed a rhai grwpiau lleiafrifol. Yn ogystal â hynny, roedd yn bwysig bod pobl yn teimlo eu bod yn cael gofal, ac ni ellid gorbwysleisio rôl gwirfoddolwyr croesawgar, cymwynasgar a gwybodus i gyflawni hynny.

2.16 Gwnaed y pwynt bod angen cynnwys cymunedau gwledig yn y gwaith hwn, oherwydd eu bod wedi wynebu heriau penodol gan gynnwys ynysu gwledig, a materion yn gysylltiedig â chludiant ac o ran cael mynediad at wasanaethau.

2.17 Cytunodd yr Is-bwyllgor fod defnyddio pob cyfle i dynnu sylw at waith ‘gwneud i bob cyswllt gyfrif’ yn flaenoriaeth, gan fod bron i £200m mewn arian credyd pensiwn yn dal heb ei hawlio yng Nghymru – roedd hyn gyfystyr â chynnydd o 1c yng nghyfradd sylfaenol y dreth incwm.

2.18 Croesawodd yr Is-bwyllgor y diweddariadau a diolchwyd i'r partneriaid am eu holl waith yn cefnogi cymunedau ledled Cymru.

Eitem 3: Data ar leoliadau tomenni glo

3.1 Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd yr eitem, gan nodi bod tirlithriad o ganlyniad i domen lo yn Tylorstown yn ystod 2020 wedi arwain at sefydlu'r Tasglu Diogelwch Tomenni Glo.

3.2 Un o amcanion allweddol y Tasglu oedd mapio lleoliadau tomenni glo segur yng Nghymru ac asesu eu diogelwch, gan weithio gyda'r Awdurdod Glo, yr awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru.

3.3 Roedd darn sylweddol o waith wedi'i wneud i fapio lleoliad y tomenni segur hyn yn ogystal â phennu perchnogaeth, ac roedd y gwaith hwn yn benllanw ymarfer hir a chymhleth.

3.4 Byddai Llywodraeth Cymru ond yn ystyried rhyddhau gwybodaeth am y lleoliadau pan fyddai digon o hyder ar gael yn y data, a phan fyddai sylw wedi cael ei roi i'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â data personol.

3.5 Gyda'r gwaith hwnnw bellach wedi'i gwblhau, bwriadwyd bwrw ati i gyhoeddi'r data ar leoliadau tomenni glo segur categori C a D ar 14 Tachwedd ar wefan Llywodraeth Cymru.

3.6 Nododd yr Is-bwyllgor fod cymhlethdod penodol yn codi ynghylch cyd-destun perchnogaeth y tomenni, gan fod llawer o domenni ag iddynt sawl perchennog, gan gynnwys rhai oedd o dan berchnogaeth gyhoeddus yn ogystal â phreifat.

3.7 Adroddwyd bod 349 o domenni glo segur categori C a D ledled Cymru a byddai'r Llywodraeth yn ysgrifennu at tua 1,600 o dirfeddianwyr a thua 580 o feddianwyr eiddo a oedd yn debygol o fod â thomen C neu D gyfan, neu ran ohoni, ar eu tir.

3.8 Yn achos nifer bach o’r perchnogion tir, canran fach iawn yn unig o domen fyddai ganddynt ar eu tir, er enghraifft gallai pen isaf y domen fod yn ymestyn i mewn i'w gardd.

3.9 Roedd categori'r domen yn cael ei seilio ar nifer o bethau, gan gynnwys pa mor agos ydy at gymunedau lleol, tai neu seilwaith mawr. 

3.10 Wrth ryddhau'r data hyn, roedd y pwyslais ar domenni categori C a D oherwydd byddent yn fwy tebygol o fod angen eu harchwilio'n rheolaidd, felly byddai nodi eu lleoliad yn gynnar yn golygu bod modd gwneud gwaith cynnal a chadw pan fyddai angen. Roedd yn bwysig nodi nad oedd hyn yn golygu bod y tomenni hyn yn anniogel, ond efallai eu bod yn fwy o ran eu maint ac yn fwy tebygol o fod yn agosach at gymunedau neu seilwaith mawr.

3.11 Nodwyd bod rhyddhau'r data hyn yn debygol o effeithio ar lawer o bobl a chymunedau sy'n byw yn ardaloedd yr hen feysydd glo, ac yn gyfagos, yn enwedig yn ardal cymoedd y De. Roedd llawer o'r ardaloedd hyn ymhlith yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf, ac mae'n debygol eu bod wedi cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw. 

3.12 O ganlyniad, roedd sicrhau bod cymunedau yn ddiogel wedi bod yn brif flaenoriaeth bob amser, ac roedd yn parhau i fod felly.

3.13 Roedd y gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu ynghylch rhyddhau'r data yn canolbwyntio ar sicrhau bod y negeseuon yn glir, yn gyson ac, yn bwysicaf oll, yn cynnig sicrwydd i’r cymunedau hyn.  

3.14 Roedd hwn yn fater hynod sensitif, yn enwedig yng nghymoedd y De ac roedd rhoi sicrwydd i gymunedau am yr hyn yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i reoli diogelwch tomenni glo yn flaenoriaeth allweddol.

3.15 Byddai rhoi gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu rhaglen i fonitro a chynnal y tomenni hyn yn neges allweddol ar gyfer perchnogion tai a meddianwyr eiddo, a'r unig ofyniad arnynt hwythau oedd caniatáu i'w hawdurdod lleol, yr Awdurdod Glo neu gontractwyr gael mynediad i'w tir i gynnal archwiliadau neu waith cynnal a chadw, pe bai angen.

3.16 Roedd y tomenni yn cael eu harchwilio'n rheolaidd gan yr Awdurdod Glo. Roedd tomenni categori C yn cael eu harchwilio unwaith y flwyddyn ac roedd tomenni categori D yn cael eu harchwilio ddwywaith y flwyddyn. Roedd y cylch presennol o archwiliadau'r gaeaf wedi dechrau ar 9 Hydref.

3.17 Yn ogystal â hynny, roedd cyllid o £44.4m ar gael gan Lywodraeth Cymru i’r awdurdodau lleol ar gyfer gwneud gwaith cyffredinol ar domenni o dan berchnogaeth gyhoeddus a phreifat. 

3.18 Roedd gwaith yn y maes hwn yn y dyfodol yn cynnwys y Bil Tomenni Segur, y bwriedir ei gyflwyno y flwyddyn nesaf, a fyddai'n ceisio ymgorffori mewn deddfwriaeth gyfundrefn reoleiddio hirdymor, gynaliadwy ac addas ar gyfer y diben mewn perthynas â diogelwch tomenni segur, dan arweiniad corff cyhoeddus newydd a fyddai'n canolbwyntio ar y gwaith hwn yn unig. 

3.19 Cydnabuwyd y gallai'r llythyrau am ryddhau data godi pryderon ynghylch yr effaith bosibl ar brisiau ac yswiriant tai. Roedd pryderon yn debygol o fod hefyd am ddiogelwch y tomenni a'r effeithiau ar iechyd. Roedd gwaith yn mynd rhagddo gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod y dull yn rhoi tawelwch meddwl a bod y neges yn cyrraedd cymunedau'r meysydd glo yn briodol.

3.20 I'r perwyl hwn, roedd digwyddiadau ar-lein a sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb yn cael eu trefnu mewn cymunedau lleol, er mwyn galluogi tirfeddianwyr ac aelodau o'r gymuned leol i ddod i ofyn unrhyw gwestiynau y gallai fod ganddynt ynglŷn â rhyddhau'r data. Byddai gwybodaeth hefyd ar gael ar wefan y Llywodraeth, yn enwedig ynglŷn â phwy i gysylltu â hwy pe bai angen rhagor o wybodaeth. 

3.21 Yn ogystal â hynny, gan ei bod yn debygol y byddai etholwyr yn gofyn am gyngor gan eu Haelod o'r Senedd, Aelod Seneddol neu Gynghorydd lleol, byddai hefyd angen trefnu sesiynau briffio technegol i ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol i’r cynrychiolwyr.

3.22 Nodwyd mewn dadansoddiad economaidd yn y Papur Gwyn ar Domenni Glo Segur a gyhoeddwyd yn 2022 ei bod yn debygol bod presenoldeb tomenni glo segur eisoes wedi effeithio ar brisiau'r farchnad dai yn ardaloedd yr hen feysydd glo. Fodd bynnag, roedd hwn yn fater sensitif yn amlwg ac roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda'r ABI, UK Finance a thanysgrifenwyr i sicrhau eu bod hwythau hefyd yn cael gwybod pan fyddai data yn cael eu rhyddhau.

3.23 Croesawodd yr Is-bwyllgor y diweddariad a'r effaith bosibl ar ardaloedd difreintiedig a chytunodd i barhau i fonitro'r sefyllfa ochr yn ochr â nifer o ffactorau eraill sy’n gysylltiedig â chostau byw.

Eitem 4: Diweddariad gan y partneriaid

4.1 Gwahoddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip y partneriaid cymdeithasol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf o'u priod rwydweithiau a gofynnodd iddynt argymell eitemau i’w rhoi ar yr agenda mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

4.2 Roedd adroddiadau gan rai teuluoedd yn y gymuned Fwslimaidd am anawsterau wrth sicrhau cydbwysedd rhwng gofal plant â gwaith ac wrth iddynt wneud yn siŵr ei bod yn bosibl iddynt barhau mewn cyflogaeth tra bo ganddynt deulu ifanc i ofalu amdano.

4.3 Adroddwyd mai gan Gymru oedd y cynnig gofal plant gorau yn y DU gyfan ar hyn o bryd, gan gynnig gofal i blant 3 a 4 oed am 48 o wythnosau'r flwyddyn, o'i gymharu â dim ond 38 o wythnosau yn Lloegr.

4.4 Roedd gwaith yn parhau i ehangu'r ddarpariaeth hon i blant 2 oed, ac er i Loegr gyhoeddi eu bod yn ehangu eu darpariaeth hwy i blant mor ifanc â 9 mis oed, nid oedd y polisi hwnnw wedi cael ei roi ar waith eto mewn ymarfer. Roedd y sector yng Nghymru yn dweud y byddai'r gallu i gyflawni yn anodd, ochr yn ochr â'r sefyllfa ariannol anodd ar hyn o bryd.

4.5 Cytunodd yr Is-bwyllgor y byddai'r strategaeth tlodi plant yn faes defnyddiol i'w ystyried yn y cyfarfod nesaf gyda’r partneriaid cymdeithasol, ynghyd â'r cynnig gofal plant ehangach a'r cynllun sgiliau a chyflogadwyedd.

4.6 Diolchodd yr Is-bwyllgor i'r holl bartneriaid am eu cyfraniadau a nodwyd y byddai'r Cadeirydd yn cyfarfod â rhoddwyr benthyciadau cyfrifol, darparwyr ynni a Gweinidog Ynni y DU ac Ofgem yn fuan i drafod materion tlodi tanwydd.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet

Hydref 2023