Cyfarfod Is-bwyllgor y Cabinet ar Gostau Byw: 15 Ionawr 2024
Cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor y Cabinet ar Gostau Byw ar 15 Ionawr 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Mark Drakeford AS
- Jane Hutt AS (Cadeirydd)
- Rebecca Evans AS
- Vaughan Gething AS
- Lesley Griffiths AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Mick Antoniw AS
- Hannah Blythyn AS
- Dawn Bowden AS
- Julie Morgan AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
- Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
- Amelia John, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi
- Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd
- Jo Salway, Cyfarwyddwr Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Neil Buffin, Gwasanaethau Cyfreithiol
- Liz Lalley, Cyfarwyddwr, Adfer
- Matt Wellington, Trysorlys Cymru
- David Willis, Pennaeth Trechu Tlodi
- Theresa Jaynes, Trechu Tlodi
- Emma Spear, Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa HSS
- Charlotte Anscombe, Trechu Tlodi
- Clare Severn, Pennaeth Polisi Addysg a Gofal yn y Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae
Mynychwr allanol
- Ruth Marks, CGGC
- Andrew Morgan, Arweinydd, Awdurdod Lleol Rhondda Cynon Taf
- Nisreen Mansour, WTUC
- Azim Ahmed, Cyngor Mwslimiaid Cymru
- Lisa Hayward, CLlLC
- Paul Butterworth, Siambrau Masnach, Cymru
Ymddiheuriadau
- Eluned Morgan AS
- Lee Waters AS
- Lynne Neagle AS
Eitem 1: Cyflwyniad, croeso a chofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Croesawodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y Gweinidogion a'r partneriaid i'r cyfarfod. Croesawodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y Gweinidogion a'r partneriaid i'r cyfarfod.
1.2 Cytunodd yr Is-bwyllgor ar gofnodion 13 Tachwedd.
Eitem 2: Cyllideb Ddrafft 2024-2025
2.1 Cyflwynodd y Cadeirydd yr eitem, cyn trosglwyddo'r awenau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Pwyllgor ar Gyllideb Ddrafft 2024-2025.
2.2 Roedd y Gyllideb Ddrafft wedi'i chyhoeddi ar 19 Rhagfyr 2023, a byddai'r diweddariad hwn yn canolbwyntio ar y cyd-destun cyllidol ac economaidd diweddaraf a lywiodd y cynlluniau ochr yn ochr â'r penderfyniadau allweddol.
2.3 Roedd Cymru yn wynebu'r sefyllfa ariannol anoddaf ers dechrau datganoli ac wrth ddatblygu'r Gyllideb Ddrafft roedd y Llywodraeth wedi wynebu cyfres o ddewisiadau anodd a phoenus.
2.4 O ran y cyd-destun economaidd, roedd y wlad wedi bod trwy gyfnod digynsail, ar ôl ymdopi drwy bandemig Covid-19, rhyfeloedd yn Wcráin a'r Dwyrain Canol, y lefelau chwyddiant uchaf erioed ac argyfwng costau byw, a hynny wrth barhau i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a'r hinsawdd.
2.5 Yn y tymor agos, yn ôl rhagolygon OECD ac IMF economi'r DU yw un o'r uwch- economïau sy'n perfformio waethaf eleni a'r flwyddyn nesaf, o ran chwyddiant uchel a thwf gwan. Byddai safonau byw 3.5% yn is y flwyddyn nesaf na chyn y pandemig.
2.6 Yna trodd y Gweinidog at y cyd-destun cyllidol, gan nodi bod y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi adrodd nad oedd cyllid cyhoeddus wedi gwella mewn ffordd ystyrlon, bod y rhagolygon twf wedi gwanhau, a bod disgwyl i chwyddiant aros yn uwch am gyfnod hirach.
2.7 Yn dilyn Datganiad Hydref Llywodraeth y DU, byddai setliad adnoddau Llywodraeth Cymru'n gostwng 0.1% yn 2024-2025 mewn termau real ac roedd y gyllideb gyfalaf i lawr 6% mewn termau real.
2.8 Ar y cyfan, roedd hynny'n cyfateb i ostyngiad o 1% flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn termau real yn y setliad, a oedd bellach yn werth hyd at £1.3bn yn llai mewn termau real na'r disgwyl adeg Adolygiad o Wariant 2021.
2.9 Roedd hi'n anochel, felly, wrth bennu Cyllideb Ddrafft 2024-25, fod rhaid gwneud penderfyniadau anodd iawn. Y penderfyniadau hyn oedd y rhai mwyaf amod a phoenus ers datganoli.
2.10 I hwyluso hyn roeddem wedi ail-lunio ein holl gyllidebau mewn ffordd radical yn unol â set o egwyddorion sylfaenol, sef diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd gymaint â phosibl; sicrhau'r budd mwyaf i aelwydydd sy'n cael eu taro galetaf; blaenoriaethu swyddi, ble bynnag y bo modd, a gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff eraill y sector cyhoeddus i wynebu'r anawsterau ariannol gyda'n gilydd.
2.11 Trwy gymryd y dull hwn, y ffocws oedd buddsoddi mwy yn y GIG a diogelu'r setliad craidd Llywodraeth Leol, a fyddai yn ei dro yn ariannu ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, a gwasanaethau beunyddiol hanfodol eraill y mae pobl Cymru yn dibynnu arnynt.
2.12 Roedd hyn yn cynnwys £450m yn ychwanegol i gefnogi'r GIG yn 2024-25. Roedd hyn ar ben y £425m yn ychwanegol a ddarparwyd ym mis Hydref ar gyfer 2023-2024.
2.13 Roedd setliad craidd llywodraeth leol wedi'i ddiogelu, ac ochr yn ochr â chynnydd o 3.1% a addawyd y llynedd, roedd £1.3m hefyd yn cael ei ddarparu drwy'r Grant Cynnal Refeniw i sicrhau nad oedd gan yr un awdurdod gynnydd o lai na 2% yn y setliad.
2.14 Yn ogystal, roedd cyllid a oedd yn cael ei ddarparu yn uniongyrchol i ysgolion wedi'i flaenoriaethu, gan gynnwys diogelu'r Grant Datblygu Disgyblion a oedd yn ariannu ysgolion i gefnogi dysgwyr o aelwydydd incwm isel, ac roedd y rhaglen lwyddiannus Adfer ar ôl Covid, ‘Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau’ yn parhau.
2.15 Roedd y penderfyniadau hyn yn golygu bod rhaid gwneud penderfyniadau anodd pellach, gan gynnwys ailffocysu rhywfaint o wariant i ffwrdd o feysydd sydd heb eu datganoli. Roedd hyn yn cynnwys ailflaenoriaethu £15.5m o raglen Wcráin oherwydd y gostyngiad yn nifer y newydd-ddyfodiaid ochr yn ochr â llwyddiant y rhaglen i symud pobl ymlaen o'u llety cychwynnol.
2.16 Nodwyd bod £7.5m yn cael ei ail-flaenoriaethu o'r gyllideb ar gyfer PCSOs, ond bod £15.5m yn dal i gael ei fuddsoddi mewn Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Roedd hyn yn golygu y byddai angen i bartneriaid plismona ail-lunio eu gweithlu a byddai'r Llywodraeth yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i leihau'r effeithiau negyddol cyn belled â phosibl.
2.17 O ran cymorth costau byw, roedd y Llywodraeth yn cynnal cymorth wedi'i dargedu a chymorth mewn argyfwng i bobl yr effeithiodd yr argyfwng arnynt. Yn ogystal, byddai pwysau yn dal i gael eu rhoi ar Lywodraeth y DU i gymryd camau ymarferol pellach.
2.18 Nid oes y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf blaenorol, a llawer o'r mentrau a fu'n cefnogi pobl yn 2022-23, ond yn bosibl oherwydd bod cyllid sylweddol wedi'i ddyrannu drwy gyllideb 2022-23. Yn anffodus, nid oedd y dyraniad cyllid oddi wrth Lywodraeth y DU yn ddigonol i alluogi llawer o'r cynlluniau hyn i gael eu cynnig eto.
2.19 Er hynny, roedd popeth posibl yn cael ei wneud i gefnogi pobl drwy'r argyfwng costau byw trwy ddarparu cymorth wedi'i dargedu i'r rhai yr oedd arnynt ei angen fwyaf a thrwy raglenni a chynlluniau sy'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl.
2.20 I'r perwyl hwn, roedd £0.5m ychwanegol wedi'i ddyrannu i'r Sefydliad Banc Tanwydd yn 2023-24 i gefnogi aelwydydd dros gyfnod y gaeaf a oedd yn defnyddio mesuryddion rhagdalu am eu tanwydd, a byddai swm pellach o £0.5m yn cael ei ddarparu yn 2024-2025.
2.21 Gwnaed dyraniad o £2m, sy'n cynnwys refeniw o £1m a chyfalaf o £1m yn 2024-2025 i helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd trwy gymorth i sefydliadau bwyd cymunedol a chamau gweithredu i leihau ac atal yr angen am gymorth bwyd brys trwy atebion tymor hwy ar gyfer cyflenwad bwyd lleol cynaliadwy a chryf.
2.22 Roedd £18.8m yn ychwanegol ar gael i barhau â'r cymorth i'r Gronfa Cymorth Dewisol yn ystod 2024-25, gan ddod â chyfanswm cyllideb y Gronfa i £38.5m. Byddai'r cyllid ychwanegol yn galluogi'r galw cynyddol i gael ei fodloni, gyda mwy o bobl yn troi at y gronfa ar gyfer cymorth gyda chostau byw sylfaenol.
2.23 Byddai gwasanaethau cynghori yn parhau i gael eu hariannu, a fyddai'n darparu cymorth hanfodol i bobl, a'r flwyddyn ganlynol byddai dros £11m ar gael ar gyfer gwasanaethau Cronfa Gynghori Sengl y Llywodraeth. Roedd y gwasanaethau hyn yn rhoi cymorth hanfodol i bobl sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, gan eu helpu i wneud y gorau o'u hincwm a delio â'u dyledion.
2.24 Adroddwyd y byddai'r sector gwirfoddol, trwy ei rwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol, yn trafod ffyrdd creadigol o fynd i'r afael â'r materion cyllido, gan fod gan y sector fwy o hyblygrwydd o ran sut yr oedd yn ceisio adnoddau ychwanegol, a gwnaed y cynnig i drafod syniadau gyda phartneriaid ac i ddarparu data ansoddol a meintiol i gynorthwyo'r trafodaethau hynny.
2.25 Gwnaed cais am unrhyw waith rhagamcanu a oedd wedi'i wneud ar golli swyddi posibl, a fyddai'n arwain yn anochel at fwy o alw ar wasanaethau cynghori.
2.26 Yn ogystal, nodwyd bod busnesau'n lobïo ynghylch ardrethi busnes, er bod cymorth o dros £1bn yn dal i gael ei ddarparu ledled Cymru, gyda bron hanner o fusnesau wedi'u hesemptio rhag ardrethi, a chroesawyd penderfyniadau'r Llywodraeth i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd.
2.27Croesawodd yr Is-bwyllgor benderfyniad ymwybodol y Llywodraeth i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, er gwaethaf pryderon ynghylch cyllidebau a arweinir gan y galw, a nododd fod gwaith craffu'r Senedd yn parhau, gyda'r Gyllideb Derfynol i'w chyhoeddi ar 27 Chwefror.
2.28 Croesawodd yr Is-bwyllgor y diweddariad a diolch i bartneriaid am eu holl gefnogaeth drwy'r cyfnod anodd hwn, gan dynnu sylw at gryfder gweithio mewn partneriaeth drwyddi draw.
Eitem 3: Y Strategaeth Tlodi Plant
3.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip yr eitem, a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyhoeddi'r Strategaeth Tlodi Plant.
3.2 Roedd ymgynghoriad ar y strategaeth ddrafft wedi'i gynnal y flwyddyn flaenorol. Daeth i ben ym mis Medi a daeth 155 o ymatebion i law.
3.3 Gan adeiladu ar argymhellion Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, datblygwyd strategaeth ar y cyd gyda thros 3,000 o bobl â phrofiad bywyd. Roedd y strategaeth yn nodi gwaith trawslywodraethol a gyfrannodd at drechu tlodi ac anghydraddoldeb ac a nododd feysydd blaenoriaeth lle'r oedd angen ffocws o'r newydd i wireddu uchelgeisiau polisi'r Llywodraeth a'i phartneriaid cyflawni.
3.4 Adroddwyd y byddai'r Gweinidog yn gwneud datganiad i'r Senedd i lansio'r Strategaeth ar 23 Ionawr.
3.5 Roedd y Strategaeth yn darparu'r fframwaith ar gyfer gweithredu yn y tymor byr a'r tymor hwy ac roedd pum amcan allweddol yn ganolog iddo. Mae'n nodi'r hyn y gallai'r Llywodraeth a'i phartneriaid yng Nghymru ei wneud gyda'i gilydd i helpu i ddileu tlodi plant yng Nghymru a lliniaru'r effeithiau gwaethaf i'r rhai sy'n byw mewn tlodi.
3.6 O ganlyniad i'r adborth o'r ymgynghoriad, roedd y cyflwyniad i'r strategaeth wedi'i addasu i adlewyrchu uchelgeisiau'r Llywodraeth a'i phartneriaid yn well ar gyfer pob plentyn, pob person ifanc a'u teuluoedd.
3.7 Yn ogystal, roedd y cynnwys ar hawliau plant a'r CCUHP wedi'i gryfhau, gan gynnwys cyfeiriad uniongyrchol at adnodd ac ymagwedd ‘Y Ffordd Iawn’ y Comisiynydd Plant. Roedd naratif cryfach ar hawliau plant yn fwy cyffredinol wedi'i gynnwys, ar CCUHP a'i erthyglau, gan gydnabod bod rhaid cyflawni'r gwaith hwn drwy ymagwedd gref at hawliau plant.
3.8 Adroddwyd bod y cynnwys ar bwysigrwydd y blynyddoedd cynnar, ar y berthynas rhwng tlodi ac anghydraddoldeb iechyd ac ar dai hefyd wedi'i gryfhau.
3.9 Byddai'r Strategaeth yn canolbwyntio gweithgarwch ar y rhaglenni a'r ymyriadau hynny a fyddai'n cael yr effaith fwyaf ar leihau tlodi plant o fewn y pwerau sydd wedi'u datganoli i Gymru.
3.10 Cydnabu'r Is-bwyllgor na ellid mynd i'r afael â thlodi plant, a oedd mor hanfodol a chymhleth, ond pe bai'r holl Weinidogion yn gweithio gyda'i gilydd, fel un Llywodraeth Cymru, ac mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus, y trydydd sector a busnesau yng Nghymru.
3.11 Byddai dull gweithredu cymuned ymarfer yn ddilyniant i'r uwchgynhadledd lwyddiannus a gynhaliwyd y flwyddyn flaenorol, fel y nodir yn y strategaeth. Byddai'r fforwm hwn yn dod â chydweithwyr o bob rhan o wasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector ynghyd i gymharu dysgu a rhannu arferion da i gefnogi dull cydgysylltiedig o ariannu, datblygu a gweithredu gwaith i greu ‘Cymru Fwy Cyfartal,’ gan gynnwys trechu tlodi plant.
3.12 Er mwyn monitro cynnydd yn erbyn y strategaeth, byddai Llywodraeth Cymru’n datblygu fframwaith monitro. Roedd gwaith i ddatblygu'r fframwaith monitro cadarn hwn yn cael ei ddatblygu ar fyrder a byddai’n cynnwys adolygiad arbenigol allanol o’r dangosyddion arfaethedig.
3.13 Byddai'r fframwaith yn cymryd i ystyriaeth y dangosyddion cenedlaethol a'r cerrig milltir cenedlaethol sydd yn eu lle o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, fel y ffordd o ddangos atebolrwydd tryloyw.
3.14 Byddai'r fframwaith hwn, yn seiliedig ar ystod o fesurau, yn adlewyrchu'n fwy cywir y cynnydd yn erbyn dull y Llywodraeth o ymdrin â'r set gymhleth hon o broblemau na mesur sy'n seiliedig ar dargedau yn unig. Y ffordd fwyaf effeithiol o fesur gwaith fyddai drwy ddull gweithredu cydgysylltiedig ar draws pob lefel lle'r oedd pwerau perthnasol yn cael eu dal.
3.15 Cydnabuwyd mai cyhoeddi'r strategaeth, a datblygu'r fframwaith oedd dechrau'r daith, ac roedd yn bwysig cydnabod y sefyllfa gyllidol heriol, a fyddai, yn anorfod, yn effeithio ar raddfa a chyflymder y cyflawni.
3.16 Er gwaethaf hyn, roedd pethau y gellid eu cyflawni gyda'n gilydd i gefnogi pobl i gael mynediad at eu hawliau, i wneud y mwyaf o'u hincwm, i leihau costau bob dydd, i gael mynediad at wasanaethau ac i leihau'r rhwystrau a'r stigma yr oedd tlodi'n eu hachosi.
3.17 Croesawodd yr Is-bwyllgor gyhoeddi'r strategaeth a'r ffocws ar gydweithio â chydweithwyr a phartneriaid i bwrw ymlaen â hi a chyflawni newid gwirioneddol i blant a theuluoedd mewn tlodi.
Eitem 4: Cynnig Gofal Plant Cymru
4.1 Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yr eitem, a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am Gynnig Gofal Plant Cymru, ac ehangu ei feini prawf cymhwysedd i gynnwys rhieni mewn addysg a hyfforddiant.
4.2 Cydnabuwyd bod gofal plant fforddiadwy a hygyrch yn galluogi rhieni i weithio, ac yn cefnogi'r ymgyrch i gynyddu twf economaidd, trechu tlodi lleihau anghydraddoldeb.
4.3 Roedd y Cynnig Gofal Plant yn ymrwymiad allweddol o fewn y Strategaeth Tlodi Plant, yn enwedig o dan Amcan 2 a chreu llwybrau allan o dlodi.
4.4 Mae’r Cynnig Gofal Plant yn darparu hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i blant 3-4 oed i rieni cymwys, a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Roedd 12,873 o blant yn manteisio ar y Cynnig Gofal Plant ym mis Hydref 2023. Roedd hyn yn cyfateb i 57% o'r rhieni cymwys a amcangyfrifwyd.
4.5 Ei brif nodau polisi yw galluogi mwy o rieni i fynd yn ôl i'r gwaith, i gynyddu incwm gwario'r rhai sydd mewn gwaith a helpu i wrthweithio tlodi i'r rhai sydd mewn swyddi cyflog isel.
4.6 Yn aml, dyfynnwyd gofal plant fel y rheswm pam yr oedd rhai rhieni'n gweithio lle'r oeddent yn gweithio, yn gweithio'r oriau yr oeddent yn ei gweithio, neu ddim yn gweithio o gwbl, a gwaith sy'n talu'n dda yw'r llwybr gorau allan o dlodi, a'r amddiffyniad mwyaf rhag tlodi.
4.7 Canfu'r canfyddiadau gwerthuso annibynnol diweddaraf ar gyfer y Cynnig Gofal Plant, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2023, unwaith eto, fod y cynllun wedi bod yn cefnogi cyflogaeth ymhlith rhieni ac roedd 75% o rieni wedi nodi bod y Cynnig yn ei gwneud yn haws iddynt ymgymryd â'u gwaith.
4.8 Yn ogystal, dywedodd 37% o rieni y byddent yn gweithio llai o oriau, pe na bai'r Cynnig ar gael iddynt, ac i rieni sy'n ennill llai na £26,000 y flwyddyn roedd yr effaith yn fwy byth gyda 42% yn dweud y byddent yn gweithio llai o oriau heb y Cynnig.
4.9 Cydnabuwyd y byddai ennill cymwysterau, ailhyfforddi a newid llwybrau gyrfa hefyd yn gam hanfodol i rai rhieni sy'n ceisio gwella eu rhagolygon cyflogaeth fel ffordd allan o dlodi. O'r herwydd, comisiynwyd ymchwil annibynnol yn 2019 i fapio'r gwahanol raglenni cymorth gofal plant sydd ar gael i rieni mewn addysg a hyfforddiant a'r rhai sy'n dychwelyd i'r gwaith. Roedd yr adolygiad, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, yn dangos y bylchau posibl a'r effeithiau a gafodd rhaglenni presennol ar ddileu costau gofal plant fel rhwystr i'r rhieni hynny.
4.10 Roedd hyn yn sail i ddatblygu'r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i'r Llywodraeth gefnogi mwy o rieni sydd mewn addysg a hyfforddiant, neu sydd ar gyrion gwaith. Roedd cefnogi rhieni mewn addysg a hyfforddiant gyda chostau gofal plant yn golygu y byddai nifer fwy o deuluoedd, ac yn enwedig menywod, yn gallu elwa ar well rhagolygon cyflogaeth.
4.11 Er mwyn galluogi hyn, ehangodd y Llywodraeth feini prawf cymhwysedd y Cynnig o fis Medi 2022 i rieni mewn addysg a hyfforddiant, gan gefnogi ymrwymiad Y Rhaglen Lywodraethu. Roedd yr ehangiad hwn yn gymwys i bob rhiant sydd wedi cofrestru ar gyrsiau Addysg Uwch neu Addysg Bellach sydd o leiaf deg wythnos o hyd.
4.12 Mae ehangu'r Cynnig Gofal Plant yn adlewyrchu'r gwerth a roddir ar gefnogi'r rhai sy'n ceisio gwella eu rhagolygon cyflogaeth drwy ennill cymwysterau, ailhyfforddi neu newid llwybrau gyrfa.
4.13 Erbyn diwedd y flwyddyn academaidd 2022/2023, roedd cymorth yn cael ei roi i 675 o deuluoedd ychwanegol o ganlyniad i ehangu'r Cynnig i gynnwys rhieni cymwys a oedd mewn addysg neu hyfforddiant.
4.14 Roedd hyrwyddo'r ehangu hwn, fel rhan o'r rhaglen Cynnig Gofal Plant ehangach, hefyd yn un o nodau allweddol y cynllun cyfathrebu strategol, gyda thimau cyfathrebu o fewn Llywodraeth Cymru ac o fewn yr Awdurdodau Lleol yn gweithio i hyrwyddo'r ehangu i rieni mewn addysg a hyfforddiant o fewn Sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach lleol.
4.15 Roedd llwyddiant y gwaith hyrwyddo hyd yn hyn wedi gweld nifer y rhieni mewn addysg a hyfforddiant a gefnogir gan y Cynnig yn codi i 1100 erbyn tymor yr Hydref yn y flwyddyn academaidd hon, o'i gymharu ag ychydig o dan 200 yn ystod tymor yr Hydref 2022/2023.
4.16 Awgrymwyd mai partneriaeth, unwaith eto, oedd y dull allweddol o sicrhau llwyddiant y polisi hwn a byddai'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn fforwm defnyddiol i gyfleu'r neges hon ar draws rhwydweithiau megis y gofalwyr maethu, gofalwyr mabwysiadu a gofalwr sy'n berthnasau a rhwydweithiau Meithrin a Chylch, ochr yn ochr â rôl i landlordiaid cymdeithasol i ddarparu gwybodaeth i'w tenantiaid.
4.17 Rhoddodd y Dirprwy Weinidog y newyddion diweddaraf ar y rhaglen Dechrau'n Deg, a oedd yn cyrraedd ei dargedau ar hyn o bryd ar gyfer ail gam yr ehangu gyda bron 10,000 o blant yn cael eu cefnogi wedi inni gyrraedd y targedau ar gyfer cam un. Nodwyd bod y nifer sy'n manteisio ar Dechrau'n Deg yn rhyw 85%. Mae hwn yn gyfradd llawer uwch na'r Cynnig Gofal Plant, ond gyda'r dyhead y byddai'r niferoedd yn cynyddu gyda gwaith hyrwyddo parhaus a chymorth partneriaid i dynnu sylw at ei fanteision.
4.18 Byddai monitro'r nifer sy'n manteisio ar ehangu Dechrau'n Deg yn parhau, ochr yn ochr â monitro ehangach ar y Cynnig Gofal Plant yn ei gyfanrwydd. Byddai'n sicrhau bod darparu'r Cynnig i rieni mewn addysg a hyfforddiant yn cael ei amlygu drwy'r cylch parhaus o werthuso blynyddol. Pwysleisiwyd effaith gadarnhaol drawsgenhedlaeth y polisi hwn.
4.19 Croesawodd yr Is-bwyllgor y dull o gefnogi cynnydd mewn twf economaidd, trechu tlodi a lleihau anghydraddoldebau gan gymaint o rieni mewn addysg a hyfforddiant, gan ddefnyddio Cynnig Gofal Plant estynedig y Llywodraeth ac ehangu Dechrau'n Deg, a nododd y gyfres o ddatganiadau llafar a drefnwyd ar gyfer y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ionawr 2024