Neidio i'r prif gynnwy

Contract Economaidd

Rhoddwyd cyflwyniad i'r Bwrdd ar yr adolygiad o'r Contract Economaidd. Mae grŵp gorchwyl a gorffen wedi adolygu'r contract presennol ac wedi nodi ei argymhellion i'r Gweinidog. Mae hyn yn cynnwys cryfhau'r contract, cynyddu ei effaith, cyrraedd mwy o fusnesau, dathlu'r cwmnïau gorau, cefnogi'r adferiad a chefnogi staff a busnesau Llywodraeth Cymru i sicrhau'r canlyniadau gorau.

Mae'r newidiadau arfaethedig yn cynnwys diweddaru enwau'r pedair colofn a mynd i'r afael â’r camargraff bod 'safon aur' yn cael ei mabwysiadu drwy'r Contract. Yn hytrach, mae'r Contract yn rhoi sicrwydd o safon ofynnol ac yn cefnogi cwmnïau i wella.

Cynigiodd y Bwrdd gyngor ar sut y gellid cryfhau'r Contract Economaidd wrth symud ymlaen ac awgrymiadau ar sut y gallai ei sefydliadau ei hun helpu i ddatblygu'r maes gwaith hwn.

Adolygiad o’r mesur teithio ar gyfer dysgwyr

Rhoddwyd trosolwg i'r Bwrdd o'r Adolygiad o'r Mesur Teithio ar gyfer Dysgwyr, gyda'r prif nod o ailedrych ar ddarpariaethau 2-10. Fel rhan o'r adolygiad, croesawyd barn a sylwadau rhanddeiliaid. Cafwyd llawer o ddata gan awdurdodau lleol ac mae'n amlwg bod gwahaniaeth enfawr yn y ddarpariaeth ledled Cymru. Gyda'r adolygiad yn parhau, mae'n debygol y bydd angen i’r weinyddiaeth nesaf wneud rhagor o waith i ddiffinio’n llawn cwmpas, manteision, costau a goblygiadau gwneud newidiadau i'r mesur.

Croesawyd yr adolygiad gan y Bwrdd a gododd rai materion i'w hystyried gan gynnwys yr asesiadau o’u heffaith ar feysydd fel addysg cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd. Tynnwyd sylw hefyd at y ffaith y dylid parhau i gynnwys y gofyniad presennol i Weinidogion hyrwyddo teithio cynaliadwy ynghyd ag  enghreifftiau o sut y gellid gweithredu hyn. Mae'r ddarpariaeth yn yr Alban yn caniatáu cymorth ariannol ar gyfer prynu beiciau yn hytrach na thocynnau bws ac awgrymwyd y gellid gwneud hyn yng Nghymru hefyd. Cafwyd trafodaeth hefyd am yr ystyriaeth ar gyfer myfyrwyr anabl sy'n aml yn gorfod teithio ymhellach i gael addysg briodol.

Targedau a themâu Teithio Llesol

Cyflwynodd y Cadeirydd drosolwg i'r Bwrdd ynghylch gosod targedau a themâu ar gyfer teithio llesol. Y Dirprwy Weinidog ofynnodd am y gwaith hwn. Anogwyd y Bwrdd i roi sylwadau a mynegi barn er mwyn cryfhau'r cyngor a roddwyd i Weinidogion.

Pwysleisiwyd bod hierarchaeth teithio cynaliadwy Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn hanfodol o safbwynt ei chyllido ac yn gosod y naws ar gyfer y math o Gymru a'r amgylchedd yr ydym am fyw ynddynt, gan amlygu'r angen am gymunedau sydd wedi’u hadeiladu ar gyfer pobl yn hytrach nag ar gyfer ceir preifat. Mae hyn yn gofyn am ddull ardal gyfan o weithio ac yn cyfrannu at strategaethau a chynlluniau allweddol eraill fel y parthau 20mya a pharcio ar balmant. Dywedodd y Cadeirydd bod angen trafod ac ystyried manteision economaidd teithio llesol yn fanylach. Pwysleisiwyd hefyd y dylai targedau ystyried cyfrannau’r dulliau teithio, y data sydd ar gael, eu hymarferoldeb a’u cynwysoldeb.   

Dywedodd y Cadeirydd hefyd y bydd creu is-grŵp Teithio Llesol i Bawb, gyda chyfranogiad Anabledd Cymru, yn hanfodol i ymgysylltu â phartneriaid allweddol.

Croesawodd y Bwrdd y cyflwyniad a thrafodwyd sut y gellid cryfhau a datblygu'r cynigion i sicrhau eu bod yn effeithiol o ran hyrwyddo ac annog mwy o deithio llesol yng Nghymru.

Is-grŵp y Bwrdd: Teithio Llesol i ysgolion

Rhoddwyd cyflwyniad byr i’r Bwrdd am yr is-grŵp Teithio Llesol i Ysgolion. Yn anffodus, oherwydd blaenoriaethau eraill o ganlyniad i'r pandemig, nid yw'r grŵp wedi gallu cyfarfod tan yn ddiweddar iawn. Bydd y cynllun hirdymor ar gyfer hyrwyddo teithio llesol i'r ysgol yn cael ei ddatblygu a bydd diweddariad pellach yn cael ei ddarparu cyn gynted â phosibl. Cadarnhawyd y bydd yr Arolwg ‘Hands Up’ yn cael ei gyflwyno ym mis Medi.

Is-grŵp y Bwrdd: newid ymddygiad

Cafwyd diweddariad byr ar waith yr is-grŵp, gan gynnwys y cynllun i ddatblygu astudiaeth achos, a fydd yn canolbwyntio ar faes penodol ac yn arwain at greu manylion y mesurau. Yna defnyddir llwyddiant yr astudiaeth achos i annog rhanddeiliaid eraill. 

Is-grŵp y Bwrdd: hyfforddiant

Rhoddwyd cyflwyniad i’r Bwrdd am yr is-grŵp Hyfforddi. Mae’r ffaith bod aelodau'r grŵp wedi trafod â’r awdurdodau lleol sy'n paratoi ar gyfer gwerthuso'r Gronfa Teithio Llesol, wedi’n helpu i ddeall beth yw’r anghenion hyfforddi. Mae'r grŵp yn bwriadu ehangu ei aelodaeth i gynnwys sefydliadau proffesiynol ac academyddion. Mae Sustrans wedi bod yn gwneud gwaith yn fewnol, gan asesu sut y gallent gyflwyno eu hyfforddiant eu hunain i randdeiliaid allanol. Tynnwyd sylw hefyd at y ffaith bod Phil Jones Associates wedi darparu hyfforddiant teithio llesol i'r cwmni adeiladu Amey. 

Dyddiad y cyfarfod nesaf 3 Mehefin 2021