Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl y Bwrdd Teithio Llesol

Cafwyd trafodaeth am y gwaith o ddiweddaru'r Cylch Gorchwyl. Cytunwyd y dylid ychwanegu cynghori a chraffu ar dargedau at adran gynghori a gweithredu'r Cylch Gorchwyl. Cytunwyd hefyd y dylai’r Cylch gyfeirio’n benodol at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. 

Teithio Llesol: trosglwyddo swyddogaethau i Trafnidiaeth Cymru (TrC)

Cyflwynwyd trosolwg i'r Bwrdd o’r gwaith sydd wedi’i wneud mewn perthynas â rheoli gweinyddiad y Gronfa Teithio Llesol. Nod Llywodraeth Cymru yw y bydd y Gronfa Teithio Llesol yn cael ei rheoli gan TrC ar ran Gweinidogion Cymru o 2021 i 2022. Ar hyn o bryd maent wrthi’n creu porth rheoli grant newydd a fydd yn caniatáu i awdurdodau lleol baratoi a chyflwyno eu ceisiadau'n electronig. Bydd yn blatfform hefyd ar gyfer cyflwyno hawliadau chwarterol.

Mae TrC hefyd yn cael y dasg o ddarparu lefel ehangach o gymorth i awdurdodau lleol yn eu gwaith gan gynnwys:

  • Datblygu'r cynllun a pharatoi ceisiadau
  • Paratoi mapiau rhwydwaith teithio llesol
  • Gwerthuso a monitro
  • Ymgynghori ac ymgysylltu

Trafododd y Bwrdd a ellid cynnig rhaglenni ariannu aml-flwyddyn, gan sicrhau bod data'n cael eu casglu gan awdurdodau lleol er nifer o fuddiannau er mwyn sicrhau effeithiolrwydd adnoddau a chydweithio â chydweithwyr priffyrdd.

Teithio Llesol i ysgolion (is-grŵp)

Darparodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddiweddariad i’r Is-grŵp Teithio Llesol i Ysgolion. Roedd yn cynnwys amrywiaeth o ymchwil y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymgymryd â hi i bennu effeithiolrwydd ymyriadau ac ymgyrchoedd newid ymddygiad ac unrhyw broblemau a geir.

Yn dilyn y cyflwyniad trafododd y Bwrdd sawl maes gan gynnwys:

  • Darparu hyfforddiant beicio i oedolion
  • Strydoedd Ysgol a sut y bwriedir iddynt fod yn ganolbwynt i’r rhaglen Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ar gyfer 2021-22
  • A fyddai datdroseddu troseddau traffig symudol ar lefel genedlaethol yn fwy effeithiol nag i awdurdodau lleol unigol wneud hynny
  • Cyfathrebu egwyddorion strydoedd ysgol i aelodau cynghorau
  • Data ar gyfer ysgolion uwchradd
  • Y gofyn i ystyried yr ymyriadau nad ydynt wedi gweithio i ofyn pam

Newid Ymddygiad (is-grŵp)

Rhoddwyd trosolwg cryno i'r Bwrdd o drafodaethau'r Is-grŵp Newid Ymddygiad. Ar hyn o bryd mae'r is-grŵp yn trafod diweddaru eu Cylch Gorchwyl. Esboniodd yr is-grŵp sut mae newid ymddygiad yn ystyriaeth hanfodol ym mhob maes arall a dylai fod yn sylfaen ac yn ddolen gyswllt â phob maes gwaith. Bydd cyfres o egwyddorion yn cael eu rhannu gyda'r Bwrdd pan fyddant wedi'u cwblhau. 

Hyfforddiant (is-grŵp)

Rhoddwyd cyflwyniad byr i'r Bwrdd, am y papur drafft ar hyfforddiant, sy’n cynnwys sicrhau bod cynulleidfa ehangach o ymarferwyr, cynllunwyr, peirianwyr ac ati yn derbyn hyfforddiant a bod adolygiadau’n cael eu cynnal gan gymheiriaid, gan ddod ag arweinwyr trafnidiaeth a gweithwyr proffesiynol ynghyd. Mae'r is-grŵp hefyd wedi ceisio nodi’r hyfforddiant sydd ar gael ar hyn o bryd. Mae apêl hefyd i ychwanegu aelodau i'r is-grŵp, o sefydliadau proffesiynol a'r byd academaidd i gynorthwyo gydag achredu cyrsiau.  

Strategaeth Trafnidiaeth Cymru

Rhoddwyd cyflwyniad i’r Bwrdd ar Strategaeth Drafnidiaeth newydd Cymru sy'n destun ymgynghori ar hyn o bryd. Mae'r WTS yn canolbwyntio ar ffordd newydd o sicrhau newid mewn trafnidiaeth yng Nghymru, gan roi sylw arbennig i bobl a newid hinsawdd. Mae pandemig COVID-19 hefyd wedi dylanwadu ar y strategaeth newydd, gan ddod â heriau a chyfleoedd iddi hi. Ymgysylltwyd ag amrywiaeth eang o grwpiau ac unigolion wrth ddrafftio'r strategaeth ac i sicrhau bod y syniadau'n mynd i'r afael ag anghenion trafnidiaeth pobl Cymru.

 Yn dilyn y cyflwyniad, trafododd y Bwrdd y dehongliad o 'integreiddio' a ddefnyddir yn y strategaeth, sut y bydd y cynlluniau hyn yn galluogi newid a sut i sicrhau bod gofynion anabledd yn cael eu hystyried fel bod y seilwaith trafnidiaeth yn addas i bawb yng Nghymru.

Strategaeth Trafnidiaeth Cymru / Cymorth ar gyfer Datgarboneiddio

Rhoddwyd cyflwyniad i'r Bwrdd ar gefnogi datgarboneiddio trafnidiaeth fel rhan o Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys mesur y bwlch carbon a sut y gall teithio llesol gyfrannu. Dywedwyd wrth y Bwrdd y bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar sut y bydd cynyddu’r buddsoddiad mewn teithio llesol yn gwneud gwahaniaeth. Ar hyn o bryd mae model wedi'i adeiladu ar gyfer Lloegr a fydd yn cael ei addasu ar gyfer Cymru er mwyn helpu i ddadansoddi'r gwaith hwn.

Unrhyw fater arall

Cafwyd trafodaeth fer am e-feiciau ar sut y gall y cynllun Beicio i’r Gwaith helpu i gynyddu’r nifer sy’n e-beicio yng Nghymru.

Dyddiad y cyfarfod nesaf 4 Mawrth 2021