Neidio i'r prif gynnwy

Siarter Teithio Llesol

Rhoddwyd cyflwyniad i'r Bwrdd ar y Siarter Teithio Llesol a oedd yn tynnu sylw at symudiad cyhoeddus tuag at newid yn sgil materion amgylcheddol a hefyd y profiad o ran COVID. Mae'r gwaith hwn yn cwmpasu mwy na theithio llesol yn unig, gyda'r bwriad o edrych yn gyntaf ar sut i osgoi teithiau, yna canolbwyntio ar deithio llesol, ac yna defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a defnyddio ceir preifat yn olaf.

Mae'r Siarter Teithio Llesol yn cynnwys 15 o ymrwymiadau dros 3 blynedd sy'n cefnogi teithio llesol, trafnidiaeth gyhoeddus, gweithio ystwyth ac o bell a defnyddio cerbydau allyriadau isel iawn ac mae sefydliadau wedi ymrwymo iddo. Mae'r siarteri'n cael eu harwain yn lleol er mwyn adlewyrchu'r ardal leol ac mae ffocws clir ar gyfathrebu ac arweinyddiaeth er mwyn sicrhau newid.

Mae gan siarteri'r sector preifat ymrwymiadau tebyg ond mae modd eu haddasu ar gyfer busnesau o wahanol faint. Mae adnoddau ar gael i gefnogi'r siarteri, gan gynnwys gwefan ddwyieithog, pecynnau cymorth, dulliau monitro cynnydd a map rhyngweithiol sy’n dangos cyfleusterau cawod a storio. Cytunwyd ar y broses o gyflwyno'r Siarter yn ehangach, ynghyd â chyflwyno ymrwymiadau mwy uchelgeisiol megis annog pobl i beidio â defnyddio ceir.

Yn dilyn y cyflwyniad cafwyd trafodaeth ar sut y gallai'r Siarter Teithio Llesol gyd-fynd â chynllun gweithredu 10 pwynt Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Trafododd y Bwrdd hefyd y mater o flaenoriaethau sy’n gwrthdaro o ran datblygiadau newydd a TUC Cymru a'u menter Adferiad Gwyrdd.

Trafnidiaeth er bywyd o Safon: Teithio Llesol a datgarboneidd

Rhoddwyd trosolwg i'r Bwrdd o'r gwaith y mae Trafnidiaeth er Bywyd o Safon yn ei wneud ar ddatgarboneiddio i Lywodraeth Cymru. Mae'r gwaith hwn wedi canolbwyntio ar deithio mewn ceir, gan mai dyma'r ffynhonnell fwyaf o allyriadau trafnidiaeth wyneb, ac mae wedi ymdrin â sut y byddai lleihau teithio cyffredinol, newid dulliau teithio a chynyddu'r defnydd o gerbydau trydan yn effeithio ar allyriadau carbon.

Wrth asesu'r arbedion carbon posibl o deithio llesol mae dau ddull gweithredu:

  1. Asesiad ‘o'r gwaelod i fyny’ a oedd yn gwerthuso gwariant blynyddol y pen o £26 i ddechrau, gan gynyddu i £46 o 2025.
  2. Asesiad ‘o'r brig i lawr’ a oedd yn edrych ar ba gyfran o deithiau ceir a allai o bosibl newid i deithio llesol pe bai gan Gymru gyfleusterau beicio o ansawdd yr Iseldiroedd / diwylliant beicio a defnydd eang o e-feiciau.

Mae'r gwaith modelu'n dangos er mwyn cyrraedd y targedau presennol y bydd lleihau'r galw (newid dulliau teithio a llai o deithio) yn hanfodol. Nid cynnydd o ran y defnydd o geir trydan fydd yr ateb i leihau allyriadau carbon. Bydd gostyngiadau ychwanegol sy’n deillio o newid dulliau teithio a gweithio o bell yn helpu, ond mae angen archwilio pa gamau ychwanegol y gellir eu rhoi ar waith.

Yn dilyn y cyflwyniad, trafododd y Bwrdd sawl maes gan gynnwys manteision gweithio rhanbarthol a sut i gyfathrebu'n effeithiol â’r cyhoedd na fydd defnyddio ceir trydan yn unig yn ddigon i leihau allyriadau.

Teithio Llesol: y 5 mlynedd nesaf

Atgoffwyd y Bwrdd o'r targedau ar gyfer Teithio Llesol a drafodwyd yn y cyfarfod ym mis Mawrth. Mae'r targedau hyn bellach wedi'u hadolygu fel rhan o Strategaeth Drafnidiaeth ehangach Cymru ac fe'u derbynnir fel fframwaith ar gyfer gweithredu. Rhannodd y Bwrdd yn grwpiau llai i drafod y cyfleoedd a'r heriau ar gyfer teithio llesol yng Nghymru. Bydd y trafodaethau hyn wedyn yn bwydo i flaenoriaethau arfaethedig ar gyfer y 5 mlynedd nesaf.

Is-grŵp y Bwrdd Teithio Llesol: Teithio Llesol i'r ysgol

Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf. Mae drafft cyntaf adroddiad yr is-grŵp wedi'i gwblhau ac mae'n cael ei adolygu cyn iddo gael ei rannu â'r Bwrdd.

Is-grŵp y Bwrdd Teithio Llesol: newid ymddygiad

Mae'r is-grŵp yn cynllunio taith i Gasnewydd, cyn gynted â phosibl, i weld y mesurau teithio llesol a gyflwynwyd yn yr ardal, gyda'r nod o greu astudiaeth achos.

Is-grŵp y Bwrdd Teithio Llesol: hyfforddiant

Mae'r is-grŵp yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant i gydweithwyr proffesiynol i'w helpu i benderfynu sut y gallai teithio llesol fod yn rhan o'u rolau.

Is-grŵp y Bwrdd Teithio Llesol: Teithio Llesol cynhwysol

Mae bwriad i gynnal cyfarfod, gyda rhanddeiliaid perthnasol a rhanddeiliaid â diddordeb, ar gynwysoldeb o ran teithio llesol. Bydd trafodaeth ynghylch sut i sicrhau bod grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cynrychioli hefyd yn cael ei chynnwys yn y cyfarfod hwn. 

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf 23 Medi 2021