Cyfarfod Bwrdd Teithio Llesol: 27 Chwefror 2020
Crynodeb o funudau’r cyfarfod a chynhaliwyd ar 27 Chwefror 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y diweddaraf gan y Dirprwy Weinidog
Cadarnhawyd bod y cyllid sydd ar gael ar gyfer cynlluniau grant 2020 i 2021 yn cynnwys £30 miliwn o’r Gronfa Teithio Llesol, £5 miliwn o’r grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a £4.95 miliwn drwy gyllid Diogelwch ar y Ffyrdd.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog am ei fwriad i ymchwilio i’r posibilrwydd o sefydlu cronfa newid yn yr hinsawdd a fydd yn mynd i'r afael yn benodol â datgarboneiddio drwy newid dulliau teithio. Mae'r gronfa hon yn debygol o gael ei chyfyngu i gynlluniau cyfalaf, a bydd yn fwyaf tebygol o fod ar sail gystadleuol, i ysgogi syniadau arloesol.
Pwysig: Yn dilyn y cyfarfod hwn ac mewn ymateb i argyfwng COVID-19, gwahoddodd y Dirprwy Weinidog awdurdodau lleol i ddatgan diddordeb i roi mesurau ar waith i wella diogelwch ac amodau ar gyfer cerdded a beicio. Y nod oedd dyrannu cyllid ar gyfer mesurau y gellir eu gweithredu'n gyflym.
Mae pedair ffrwd waith i'r tasglu 20mya, sy'n cwmpasu gwahanol agweddau a byddant yn gwneud eu hargymhellion i’r Gweinidogion maes o law.
Y diweddaraf am grantiau
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am sefyllfa grantiau. Mae ceisiadau 2020 i 2021 am gyllid Diogelwch ar y Ffyrdd yn fwy cadarnhaol ac yn adlewyrchu mwy o bwyslais ar deithio llesol. Bydd llythyrau ariannu yn cael eu hanfon maes o law.
Y canllawiau Teithio Llesol
Trafododd y Bwrdd y canllawiau Teithio Llesol ac fe'u gwahoddwyd i gyflwyno sylwadau i'r ymgynghoriad. Bydd hyfforddiant ar y canllawiau ar gael pan gaiff y fersiwn derfynol ei chyhoeddi.
Awgrymwyd y dylid ymgynghori â phobl ifanc ar y canllawiau Teithio Llesol. Cafwyd trafodaeth hefyd ar sut y gallai gwahanol raglenni mewn ysgolion, megis EcoSgolion, gefnogi teithio llesol yn well.
Y diweddaraf am y Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar Deithio Llesol i Ysgolion
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am yr Arolwg Hands Up.
DS. Ers y cyfarfod, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, oherwydd COVID-19, eu bod am ohirio cyflwyno'r Arolwg tan fis Medi 2021.
Y Safon Genedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Beicio
Cafwyd trafodaeth am hyfforddiant beicio yng Nghymru. Tynnwyd sylw at y ffaith bod hyfforddi hyfforddwyr a hefyd y ffordd y mae hyfforddiant yn cael ei rheoli yn amrywio yng Nghymru. Hefyd, nid yw'r brand Bikeability a'r trefniadau rheoli yn cael eu defnyddio yng Nghymru ar hyn o bryd. Cytunodd y Bwrdd y dylid defnyddio Bikeability fel model, gyda gwaith yn mynd rhagddo i roi eglurder i hyfforddwyr cyn gynted â phosibl.
Gweithdy Contract Ymgysylltu Cymru Gyfan
Cychwynnodd y Dirprwy Weinidog drafodaeth y gweithdy drwy bwysleisio mor bwysig yw ymgysylltu o ansawdd da a hynny ag ystod eang o'r boblogaeth, yn enwedig â’r rhai nad ydynt yn defnyddio dulliau teithio llesol ar hyn o bryd. Bydd y drafodaeth hon yn bwydo’r gwaith i gaffael contract a fydd yn darparu gwasanaethau ymgysylltu ac ymgynghori arbenigol i awdurdodau lleol yng Nghymru.
Trafododd y Bwrdd yr hyn a ystyriant yn gynhwysion hanfodol i'w cynnwys yn y contract.
Unrhyw fater arall
Cododd y Dirprwy Weinidog y posibilrwydd o benodi cadeirydd annibynnol ar y Bwrdd Teithio Llesol.
Cafwyd trafodaeth ar ymestyn y dyddiad cau i awdurdodau lleol gyflwyno'r fersiwn nesaf o'r Map Rhwydwaith Integredig (INM) a'r Map Llwybrau Presennol (ERM). Roedd yr oedi a fu wrth ddatblygu'r gwasanaeth mapio GIS newydd yn broblem fawr i awdurdodau lleol o ran rhannu eu mapiau a cheisio ymgysylltu ar-lein. Mynegwyd pryder y byddai estyniad yn arwain at golli momentwm.
Nodyn ar ôl y cyfarfod: Mae'r Dirprwy Weinidog wedi cyhoeddi Cyfarwyddyd o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i bennu dyddiad newydd o 30 Medi 2021 ar gyfer cyflwyno INM ac ERMs. Yn ogystal â'r system GIS a rhyngwynebau’r contract ymgynghori, mae'r penderfyniad yn adlewyrchu effeithiau anochel COVID-19 ar allu awdurdodau lleol i ymgysylltu â’r cyhoedd.
Dyddiad y cyfarfod nesaf: 25 Mehefin 2020