Neidio i'r prif gynnwy

Strwythur y bwrdd

Esboniodd y Cadeirydd rôl a diben y bwrdd: 

  • craffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru, a chyrff eraill sy'n gyfrifol am gyflawni. 
  • llunio adroddiad blynyddol ar gynnydd, gan gynnwys data cenedlaethol ar fesurau canlyniadau teithio llesol. 
  • dod â phartneriaid cyflawni at ei gilydd i rannu arferion gorau a nodi heriau. 

Cytunodd y bwrdd y dylid sefydlu teithio llesol i'r ysgol (o dan gadeiryddiaeth Chris Roberts a Rhiannon Letman) a theithio llesol cynhwysol (o dan gadeiryddiaeth Christine Boston) fel is-grwpiau o'r bwrdd. 

Cynllun cyflawni teithio llesol

Rhoddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar gefndir a chynnydd drafft y cynllun cyflawni teithio llesol. 

Mewn ymateb, roedd y Bwrdd o'r farn nad oedd y Cynllun yn cynnwys digon o ddata yn erbyn targedau na synergedd.  Cytunodd yr aelodau ei fod wedi cael ei wella ers y cynllun blaenorol, ond roeddent o'r farn nad oedd yn ddigon uchelgeisiol, hyd yn oed wrth ystyried y cyfyngiadau o ran adnoddau. Cytunodd y Cadeirydd i gynnal cyfarfod â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i drafod sut y gall gefnogi'r cynllun teithio llesol.