Cyfarfod Bwrdd Teithio Llesol: 24 Medi 2020
Crynodeb o funudau’r cyfarfod a chynhaliwyd ar 24 Medi 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Cyflwynodd Dafydd Trystan ei hun fel Cadeirydd annibynnol newydd y Bwrdd Teithio Llesol.
Cyflwr Teithio Llesol yng Nghymru: barn aelodau a thrafodaeth
Gofynnwyd i'r Bwrdd am eu barn am gyflwr teithio llesol yng Nghymru. Yn dilyn y trafod, crynhodd y Cadeirydd y pwyntiau a wnaed a thynnu sylw at y themâu canlynol:
- Mae gweledigaeth a gwerthoedd cyson a chlir yn bwysig ac yn llywio sut rydym yn trafod teithio llesol
- Mae angen i ni ganolbwyntio ar flaenoriaethau – mae’n amlwg bod angen canolbwyntio’n hymdrechion ar deithio i'r ysgol a lleoedd gwaith ar
- Mae argaeledd a sicrwydd ariannol, yn ogystal â chapasiti a hyfforddiant, yn elfennau allweddol sy'n dal y ddarpariaeth yn ôl
- Mae gwerthuso a thystiolaeth yn hanfodol i ddeall y gwahaniaeth y gallwn ei wneud ac i gefnogi'r achos dros deithio llesol
- Dylid adolygu pwy sy’n cael ei gynrychioli ar y Bwrdd.
Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru
Cadarnhawyd bod £38 miliwn o gyllid grant wedi'i ddyfarnu i awdurdodau lleol ledled Cymru ar gyfer cynlluniau teithio llesol a diogelwch ar y ffyrdd i'w hadeiladu yn 2020-21, ynghyd ag £16.2 miliwn i awdurdodau lleol ar gyfer mesurau trafnidiaeth gynaliadwy mewn ymateb i COVID-19.
Cyhoeddir fersiwn newydd o’r Canllawiau Teithio Llesol yn ddiweddarach eleni.
Cafwyd trafodaeth ynghylch Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (WTS) a sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a’r Strategaeth wedi’u hintegreiddio. Codwyd pryder penodol ynglŷn â'r berthynas rhwng iechyd a thrafnidiaeth. Cadarnhaodd swyddogion fod Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a'i swyddfa wedi bod ynghlwm wrth ddatblygu'r strategaeth o'r cychwyn cyntaf a bod y penderfyniad i adlewyrchu'r 7 nod llesiant mewn pedair colofn wedi'i wneud am resymau pragmatig. Bydd unrhyw bryderon yn cael eu bwydo'n ôl i'r tîm sy'n gweithio ar y WTS.
Rhaglen waith y Bwrdd
Cynhaliwyd trafodaeth i benderfynu ar raglen waith y Bwrdd. Awgrymwyd y gallai marchnata fod yn erfyn pwysig, a bod angen darn sylweddol o waith ar newid ymddygiad. Argymhellwyd llunio pecyn hyfforddi, a neilltuo cyllid ar ei gyfer.
Tynnodd y Bwrdd sylw at y cyfle i gysoni negeseuon teithio llesol a meysydd polisi cysylltiedig, gan gynnwys y terfyn cyflymder 20mya diofyn a pharcio palmant.
Nodwyd hefyd y cyfle i gydweithio ar draws sectorau a sefydliadau i ymwreiddio teithio llesol. Mae enghreifftiau o arfer da eisoes yn bodoli rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a Chyngor Sir Caerdydd, ond oherwydd COVID-19 bu'n rhaid gohirio’r gwaith hwn.
Trafododd y Bwrdd hefyd sut i fynd ar ofyn y gymuned fusnes am gefnogaeth ar gyfer hyfforddiant i feicwyr newydd neu bobl sy'n ailddechrau beicio. Hefyd, trafodwyd sut i sicrhau y manteisir yn llawn ar y cyfleoedd ddaeth yn sgil y tarfu ar batrymau teithio oherwydd cyfnod clo COVID-19.
Mesur cynnydd
Cafwyd trafodaeth ar fesur cynnydd, gyda'r Cadeirydd yn amlinellu rhai o'r mesurau yr oedd yn eu hystyried gan gynnwys;
- % y boblogaeth sy'n teithio’n llesol
- % sy'n teithio’n llesol i'r ysgol
- cael pobl i newid i deithio llesol
- cael mwy i deithio’n llesol
Cafodd y Bwrdd drafodaeth am ddata ymddygiad teithio yng Nghymru, sy'n cael eu casglu drwy'r Arolwg Cenedlaethol. Cadarnhaodd swyddogion eu bod yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru ar atgyfodi’r Arolwg Teithio Cenedlaethol.
Cytunodd y Bwrdd fod y fframwaith o fesurau a awgrymwyd yn briodol. Mae angen gwneud rhagor o waith mewn perthynas â chasglu data addas, nodi llinellau sylfaen addas a chymaryddion priodol.
Dyddiad y cyfarfod nesaf dydd Iau 3 Rhagfyr 2020.