Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Sharon Lovell (SL) (Cadeirydd)
  • Joanne Sims (JS)
  • Marco Gil-Cervantes (MG)
  • Shahinoor Alom (SA)
  • Deb Austin (DA)
  • David Williams (DW)
  • Sian Elen Tomos (ST)
  • Dyfan Evans, Pennaeth Cangen Ymgysylltu â Phobl Ifanc, Llywodraeth Cymru (LlC) (DE)
  • Dareth Edwards, Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (DaE)
  • Donna Robins, Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (DR)
  • Kirsty Harrington, Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (KH)
  • Victoria Allen, Rheolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (VA)

Ymddiheuriadau

  • Lowri Jones (LJ)
  • Simon Stewart (SS)
  • Jo Trott (JT) Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Llwybrau Dysgu, Llywodraeth Cymru

Gwrthdaro buddiannau

Dim wedi ei ddatgan.

Cofnodion a chamau gweithredu y cyfarfod blaenorol

Adolygodd y Bwrdd y cofnodion a'r camau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2024.

Adolygiad o gyllido gwaith ieuenctid

Rhannodd swyddogion bapur gwaith ar y syniadau cychwynnol am argymhellion Cam 2 yr Adolygiad o gyllido gwaith ieuenctid. Mae argymhellion yr adolygiad yn eang ac yn ymdrin â llawer o feysydd sy'n ymwneud â chyllid, gan gynnwys chwilio am ffyrdd o leihau biwrocratiaeth ar draws ffrydiau cyllido, cynyddu cyfle cyfartal i gael gafael ar gyllid a phwysigrwydd rhannu arferion gorau. Rhannodd y Bwrdd eu barn ar yr argymhellion, a fydd yn cael eu bwydo i mewn i gyngor sy'n cael ei baratoi i'w ystyried gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg maes o law.

Grwpiau cyfranogiad gweithredu

Trafododd aelodau'r Bwrdd rôl y Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu (GCG) wrth gefnogi a chynghori gwaith dros weddill tymor y Bwrdd.

Yn ôl aelodau'r Bwrdd, mae'r gwaith ymgysylltu hyd yma wedi dangos bod strwythur y GCG o fudd sylweddol i'r gwaith hwn ym marn nifer, ond bod cyfleoedd i feithrin cysylltiadau agosach rhwng ffrydiau gwaith a sicrhau bod gwaith y GCG yn parhau i ganolbwyntio ar ddatblygu argymhellion y Bwrdd Dros Dro.

Cam Gweithredu: Swyddogion i ystyried awgrymiadau a wnaed gan aelodau i wella effaith yr GCG ymhellach ac i ddatblygu cynnig ar gyfer ystyriaeth y Bwrdd.

Adborth o'r fforwm preswyl i bobl ifanc

Yn dilyn y fforwm breswyl i bobl ifanc a gynhaliwyd ym mis Awst, ymunodd pedwar cynrychiolydd â'r cyfarfod yng nghwmni Catrin James o Urdd Gobaith Cymru, a hwylusodd y fforwm hwn, i roi adborth ar eu barn a'u canfyddiadau.

Daeth y fforwm â grŵp o 28 o bobl ifanc o bob rhan o Gymru at ei gilydd ar gyfer cwrs preswyl tridiau o hyd er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'u cyfranogiad presennol mewn strwythurau cyfranogi a rhannu eu barn ar strwythur llywodraethu dan arweiniad ieuenctid ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Bydd adroddiad sy'n crynhoi canfyddiadau'r fforwm yn cael ei rannu gydag aelodau'r Bwrdd pan fydd wedi'i gwblhau.

Unrhyw Fater Arall a'r trefniadau ar gyfer cyfarfod nesaf

Nododd swyddogion fod disgwyl i'r ymgynghoriad ar gynigion i gryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid gael ei gyhoeddi yn fuan. Diolchodd swyddogion i'r Bwrdd ac eraill ar draws y sector a thu hwnt am eu mewnbwn a'u cyngor wrth i gynigion gael eu datblygu ar y darn pwysig hwn o waith a gofynnwyd am eu cefnogaeth barhaus i sicrhau ein bod yn cael barn gan ystod eang o randdeiliaid.

Mae ceisiadau ar gyfer y rownd nesaf o gyllid y Grant ar gyfer Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol Strategol yn agored, gyda'r bwriad o ddechrau darparu cyllid ym mis Ebrill 2025. Mae trefniadau ar gyfer cyllid y Grant Cymorth Ieuenctid o fis Ebrill 2025 ymlaen yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.

Nododd swyddogion fod manylion y Gynhadledd Gwaith Ieuenctid Genedlaethol, a gynhelir yng Nghaerdydd ar 20 Chwefror, wedi cael eu rhannu gyda'r sector a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Cynigiwyd y byddai cyfarfod nesaf y Bwrdd (27 Tachwedd 2024) yn canolbwyntio ar archwilio rhwystrau posibl rhag cael mynediad at ddarpariaeth gwaith ieuenctid, a diweddariad ar ddatblygu'r gweithlu, gan gynnwys canfyddiadau'r archwiliad sgiliau a hyfforddiant diweddar a gynhaliwyd gan ETS Cymru.