Cyfarfod Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid: 27 Tachwedd 2024
Agenda a chrynodeb o Cyfarfod y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid 27 Tachwedd 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Sharon Lovell (SL) (Cadeirydd)
- Joanne Sims (JS)
- Marco Gil-Cervantes (MG)
- Shahinoor Alom (SA)
- Deb Austin (DA)
- David Williams (DW)
- Sian Elen Tomos (ST)
- Lowri Jones (LJ)
- Dyfan Evans, Pennaeth Cangen Ymgysylltu â Phobl Ifanc, Llywodraeth Cymru (DE)
- Dareth Edwards, Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (DaE)
- Kirsty Harrington, Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (KH)
- Tom Kitschker, Swyddog Cymorth Tîm Cefnogi Dysgwyr, Llywodraeth Cymru (TK)
Ymddiheuriadau
- Simon Stewart (SS)
Gwrthdaro Buddiannau
Dim wedi ei ddatgan.
Cofnodion a chamau gweithredu y cyfarfod blaenorol
Adolygodd y Bwrdd y cofnodion a'r camau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 03 Hydref 2024.
Corff cenedlaethol posibl ar gyfer gwaith ieuenctid : crynodeb o'r materion allweddol a'r camau nesaf
Rhoddodd swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed hyd yma i edrych ar y posibilrwydd o sefydlu corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid, gan gynnwys ei rôl a'i gylch gwaith, modelu lefel uchel o'r cyllid angenrheidiol ac ystyriaethau allweddol eraill. Gwahoddwyd aelodau'r Bwrdd i ddarparu unrhyw gyngor ychwanegol cyn casglu'r dystiolaeth hon i'w hystyried gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gynnar yn 2025.
Roedd y pwyntiau allweddol a nodwyd gan aelodau'r Bwrdd yn cynnwys:
- Pwysigrwydd sicrhau parhad rhwng diwedd cyfnod y Bwrdd ym mis Medi 2025 a'r amserlen debygol ar gyfer sefydlu corff cenedlaethol.
- Ystyried y berthynas rhwng rôl corff cenedlaethol wrth eirioli ar ran gwaith ieuenctid a'i rôl wrth lobïo ar ran gwaith ieuenctid.
- Y potensial i gorff cenedlaethol helpu i wireddu'r fframwaith statudol arfaethedig ar gyfer gwaith ieuenctid.
- Y gwagle o ran arweinydd unigol ar hyn o bryd yn y sector.
- Pe bai penderfyniad i fwrw ymlaen â sefydlu corff cenedlaethol, pwysigrwydd manteisio ar arbenigedd y rhai sydd wedi bod yn rhan o ymarfer tebyg er mwyn helpu gyda'r gwaith o wireddu'r uchelgais.
Rhwystrau rhag cael mynediad at waith ieuenctid: trafodaeth
Rhoddodd swyddogion drosolwg o'r gwaith a wnaed i gasglu tystiolaeth mewn perthynas â rhwystrau rhag cael mynediad at wasanaethau gwaith ieuenctid fel rhan o ffocws ehangach ar hyrwyddo cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth, yn ogystal â manylion cysylltiadau strategol ehangach. Gwahoddwyd aelodau'r Bwrdd i ystyried blaenoriaethau yn y maes hwn ar gyfer y dyfodol.
Roedd y pwyntiau allweddol a godwyd yn cynnwys y canlynol:
- Roedd consensws bod llawer o'r rhwystrau a nodwyd trwy ymarferion casglu tystiolaeth diweddar yn adlewyrchu ymarferion eraill, ac y byddai llawer o'r materion, er enghraifft diffyg cludiant, angen dull trawslywodraethol i fynd i'r afael â'r rhwystrau.
- Amlygwyd cludiant a chost cael mynediad at ddarpariaeth fel materion allweddol sy'n gallu atal pobl ifanc rhag cael mynediad at ddarpariaeth gwaith ieuenctid, ac roedd gan aelodau'r Bwrdd ddiddordeb mewn archwilio cyfleoedd i dreialu dulliau i fynd i'r afael â'r materion hyn yn y dyfodol.
- Roedd aelodau'r Bwrdd o'r farn y byddai'n fuddiol gwneud gwaith pellach i godi ymwybyddiaeth o'r amrywiaeth o ddarpariaeth sydd ar gael i bobl ifanc o fewn gwaith ieuenctid ac y gallai ysgolion chwarae rhan werthfawr yn hyn o beth, gan feithrin gwell dealltwriaeth bod darpariaeth gwaith ieuenctid yn ymestyn y tu hwnt i glybiau ieuenctid 'traddodiadol' yn unig.
- Roedd cydweithio rhwng gwaith ieuenctid a sectorau eraill yn hanfodol. Nodwyd enghraifft o'r ffordd y gall cysylltwyr cymunedol ddod â phartneriaid at ei gilydd er budd pobl ifanc, gan helpu i agor lleoliadau o fewn cymunedau at ddefnydd partneriaid lleol ar y cyd.
- Cytunwyd y dylid datblygu astudiaethau achos i rannu arferion arloesol o ran camau a gymerwyd i ddileu rhwystrau rhag cael mynediad at waith ieuenctid.
Datblygu'r gweithlu, gan gynnwys archwilio sgiliau a hyfforddiant: canfyddiadau allweddol a'r camau nesaf
Diolchodd y Bwrdd i Darryl White (Swyddog Datblygu'r Gweithlu) a'r Grŵp Cyfranogiad Datblygu'r Gweithlu ehangach am eu gwaith yn cynhyrchu'r archwiliad diweddar o sgiliau a hyfforddiant y gweithlu gwaith ieuenctid: ETS Cymru: Archwilio Sgiliau a Hyfforddiant. Cydnabu'r Bwrdd werth rôl Datblygu'r Gweithlu a'r ffordd y mae hyn wedi sbarduno'r gwaith.
Amlygodd yr archwiliad her benodol o ran recriwtio a chadw staff. Roedd aelodau'r bwrdd hefyd yn teimlo bod angen rhagor o waith i hyrwyddo gwaith ieuenctid fel gyrfa ac edrych ar fodelau sydd ar waith mewn mannau eraill yn y sector addysg a thu hwnt i ddatblygu'r gweithlu. Tynnodd aelodau'r Bwrdd sylw hefyd at y rôl bosibl y gallai corff cenedlaethol ei chwarae wrth hyrwyddo gwaith ieuenctid fel llwybr gyrfa, pe bai'r gwaith hwnnw'n mynd yn ei flaen.
Trafododd y Bwrdd ganfyddiadau allweddol yr archwiliad a daeth i'r casgliad y byddai'n fuddiol ailadrodd yr archwiliad yn y dyfodol i adeiladu cronfa o wybodaeth barhaus am anghenion cyfnewidiol y gweithlu.
Unrhyw fater arall a'r trefniadau ar gyfer cyfarfod nesaf
Mae'r adroddiad terfynol ar y cwrs preswyl i bobl ifanc a gynhaliwyd ym mis Awst 2024 bellach wedi dod i law a bydd yn cael ei ddosbarthu i aelodau'r Bwrdd yn fuan.
Yn dilyn saib yn 2024, mae modelau ar gyfer y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, i'w hystyried gan y Bwrdd yn eu cyfarfod ym mis Ionawr.
Gofynnodd swyddogion i aelodau barhau i annog eu rhwydweithiau i ymateb i'r ymgynghoriad ar y fframwaith statudol newydd arfaethedig ar gyfer gwaith ieuenctid, sy'n dod i ben ar 10 Ionawr 2025.
Cynigiwyd y dylai cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 23 Ionawr 2025 ganolbwyntio ar ganfyddiadau cychwynnol yr ymgynghoriad ar y fframwaith statudol newydd arfaethedig ar gyfer gwaith ieuenctid a threfniadau ar gyfer y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid.