Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Sharon Lovell (SL) (Cadeirydd)
  • Marco Gil-Cervantes (MG)
  • Shahinoor Alom (SA)
  • Deb Austin (DA)
  • David Williams (DW)
  • Sian Elen Tomos (ST)
  • Lowri Jones (LJ)
  • Dareth Edwards, Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (DaE)
  • Kirsty Harrington, Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (KH)
  • Tom Kitschker, Swyddog Cymorth Tîm Ymgysylltu ag Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (TK)
  • Victoria Allen, Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (VA)
  • Jo Trott, Dirprwy Gyfarwyddwr Llwybrau Dysgu, Llywodraeth Cymru (JT)

Ymddiheuriadau

  • Simon Stewart (SS)
  • Dyfan Evans (DE)
  • Joanne Sims (JS)

Gwrthdaro Buddiannau

Dim wedi ei ddatgan.

Cofnodion a chamau gweithredu y cyfarfod blaenorol

Adolygodd y Bwrdd y cofnodion a'r camau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2024.

Cam Gweithredu: Cytunodd swyddogion i ddosbarthu adroddiad y cwrs preswyl i bobl ifanc a gynhaliwyd ym mis Awst 2024.

Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid

Gohiriwyd y Gwobrau yn 2024 er mwyn caniatáu amser i adolygu effeithiolrwydd y model presennol ac i ba raddau y mae'n cyflawni amcanion cyfathrebu y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth Cymru. Cyflwynodd DA a KH dystiolaeth gan y sector a rhanddeiliaid ehangach a gasglwyd ym mis Rhagfyr 2024 i ddeall llwyddiant y model presennol a chael sylwadau ar sut y gellid ei wella, a oedd yn cynnwys y pwyntiau canlynol. 

  • Galw am arweiniad a hyfforddiant i ymgeiswyr er mwyn gwella ansawdd yr enwebiadau
  • Ystyried proses dau gam sy'n gofyn i ymgeiswyr gael adborth cychwynnol ar eu syniad sylfaenol cyn neilltuo amser i greu cais llawn
  • Angen cymryd camau i geisio sicrhau mwy o amrywiaeth yn yr enwebiadau – edrych ar ardaloedd daearyddol lle na cheir llawer o enwebiadau ar hyn o bryd a chefnogi enwebiadau gan ystod ehangach o sefydliadau
  • Angen mynd i'r afael â'r adnoddau sylweddol (amser ac ariannol) sy'n ofynnol er mwyn cyflawni'r gwobrau.
  • Galw am rôl fwy sylfaenol i bobl ifanc wrth gyflawni'r gwobrau.

Yn seiliedig ar yr adborth hwn ac ystyriaethau ehangach o effaith a chost, mae DA/KH wedi datblygu nifer o wahanol opsiynau i'w hystyried gan y Bwrdd. 

Nododd aelodau'r Bwrdd fod y sector yn gwerthfawrogi'r Gwobrau yn fawr iawn a'u bod yn ffordd amhrisiadwy o ddathlu rhagoriaeth a rhannu arfer gorau. 

Cafodd y cynnig i greu cyfleoedd i bobl ifanc mewn model yn y dyfodol dderbyniad da gydag awgrym y gellid gwella hyn ymhellach drwy gyfleoedd am hyfforddiant achrededig. 

Bydd sylwadau'r Bwrdd yn helpu i lunio ffordd ymlaen ochr yn ochr ag ystyriaethau ehangach o werth am arian, cynaliadwyedd ac effaith. 

Cam Gweithredu: Gwahoddwyd aelodau'r Bwrdd i ystyried a rhoi adborth ar yr opsiynau a gyflwynwyd.

Ymgynghoriad ar fframwaith statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid: negeseuon allweddol

Daeth yr ymgynghoriad ar gynigion i gryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid i ben ar 10 Ionawr. Rhoddodd swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ystod o ymatebion a ddaeth i law. 

Er bod dadansoddiad manwl yn dal i fynd rhagddo, rhannodd swyddogion y prif negeseuon a themâu a ddaeth i'r amlwg o ddadansoddiad cychwynnol. 

Roedd aelodau'r Bwrdd yn fodlon gyda'r nifer o ymatebion a gafwyd a'r ymgysylltiad parhaus gan bob rhan o'r sector. Roedd yr aelodau hefyd yn falch o gael ymatebion o'r tu hwnt i'r sector, gan dynnu sylw at y gwerth a roddir ar waith ieuenctid gan ymarferwyr ehangach. 

Nododd swyddogion y blaenoriaethau allweddol ar gyfer y gwaith hwn dros y misoedd nesaf. Y nod yw cwblhau'r dadansoddiad erbyn diwedd mis Ionawr. Bydd y Tasglu Deddfwriaeth a sefydlwyd i lywio'r gwaith o ddatblygu'r cynigion hyn yn cael ei ailgynnull i ystyried yr ymatebion a rhoi cyngor ar unrhyw faterion sy'n codi. Bydd swyddogion hefyd yn trefnu trafodaethau dilynol gyda rhanddeiliaid allweddol lle bo angen.

Unrhyw fater arall a'r trefniadau ar gyfer cyfarfod nesaf

Trosolwg o'r gyllideb

Rhoddodd swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf am y Grant Cymorth Ieuenctid ar gyfer 2025 i 2028 gan nodi, er bod cyfanswm y dyraniad grant wedi'i ddiogelu, y bydd dyraniadau ar lefel awdurdod lleol yn amrywio gan eu bod yn cael eu cyfrifo ar sail data.

Mae canlyniadau diweddar y Grant Strategol ar gyfer Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol hefyd bellach wedi'u rhannu gyda'r holl ymgeiswyr. Roedd y rownd ariannu yn gystadleuol iawn gyda dros 45 o geisiadau, ac roedd 17 ohonynt yn llwyddiannus. Bydd yr arian yn cael ei ddyrannu i'r ymgeiswyr llwyddiannus dros gylch ariannu tair blynedd o 2025 i 2028.

Yr wybodaeth ddiweddaraf am gorff cenedlaethol posib

Cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg â'r Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid ym mis Rhagfyr 2024 i glywed eu barn ar y posibilrwydd o sefydlu corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Cynhelir cyfarfod tebyg gyda chynrychiolwyr o'r sector gwirfoddol ym mis Mawrth. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud yn glir y byddai angen dangos bod sefydlu corff cenedlaethol yn gwella'n sylweddol y ddarpariaeth o wasanaethau rheng flaen i bobl ifanc.

Cynhadledd gwaith ieuenctid

Bydd y gynhadledd gwaith ieuenctid yn cael ei chynnal ar 20 Chwefror yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Mae'r galw wedi bod yn uchel gyda dros 370 o gyfranogwyr wedi'u cofrestru. Thema'r gynhadledd eleni yw cydweithio a phartneriaeth. 

Dyddiad a ffocws arfaethedig cyfarfod nesaf y Bwrdd (20 Mawrth 2025)

  • Yr wybodaeth ddiweddaraf am sefydlu corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf ar dasgau blaenoriaeth y Grwpiau Cyfranogiad ar Weithredu
  • Adborth ac adolygiad o'r gynhadledd gwaith ieuenctid