Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau

  • Ruth Glazzard, Cadeirydd 
  • Jocelyn Davies, Is-gadeirydd
  • Dyfed Alsop, Prif Swyddog Gweithredol
  • Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Gweithredu/Darparu Gwasanaethau  
  • Mary Champion, Aelod Anweithredol
  • Jim Scopes, Aelod Anweithredol
  • Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
  • Karen Athanatos, Aelod Staff Etholedig
          

Agor y cyfarfod

  1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan nodi mai hwn fyddai'r cyfarfod olaf ar gyfer yr Aelod Staff Etholedig presennol. Ni ddatganwyd unrhyw wrthdaro buddiannau, ac ni dderbyniwyd ymddiheuriadau. Roedd y mynychwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o Drysorlys Cymru (TC), a chyflwynwyr ac arsylwyr o ACC.
  2. Nodwyd y byddai adborth o’r rhaglen ymweld asiantiaid arfaethedig y cyfeiriwyd ato yn y papur Diweddariad ar Berfformiad yn cael ei groesawu. Roedd hefyd yn bwysig nodi'r adborth dymunol gan gwsmeriaid ar wasanaethau ACC. Byddai’r cofnodion ARAC diweddaraf ar gael yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Tachwedd.
  3. Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol (Mehefin '23) fel cofnod cywir, gyda mân newidiadau i baragraffau 2.5 a 2.6. 
  4. O ran camau gweithredu’r pwyllgor, nodwyd nad oedd unrhyw adborth ar weminarau a gwersi a ddysgwyd wedi dod i law ond roedd rhoi cyngor a chyfle i asiantau ofyn cwestiynau yn dal i fod yn weithgaredd gwerthfawr. Gellid cau’r cam gweithredu.
  5. Roedd y broses ddiweddar o ethol aelod staff etholedig wedi digwydd ac aelod staff etholedig wedi’i ethol, i ddechrau ym mis Hydref. Estynnodd y Cadeirydd ddiolch i'r aelod staff etholedig sy'n gadael am eu gwaith caled a'u cyfraniad gwerthfawr i'r Bwrdd.

Adroddiadau

Adroddiad y Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu

  1. Eglurwyd nad oedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn ymwneud yn benodol â Chwarter 1; roedd hefyd yn ymwneud â gweithgarwch diweddar.
  2. Nodwyd bod yr ymgynghoriad ar gontractau QED wedi cymryd llai o amser na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol. Gellid priodoli hyn i dryloywder, blaenoriaethu pobl o fewn y sefydliad, a gwaith rhagorol gan Adnoddau Dynol.
  3. Wedi'i olygu
  4. Cytunodd yr Aelodau fod y CE a'r Tîm Arwain (TA) yn cynllunio'n gywir ar gyfer cyllidebau blynyddoedd i ddod gyda'r wybodaeth a oedd ganddynt ar hyn o bryd, gan sefyll yn ôl egwyddorion a ddefnyddiwyd yn flaenorol ar gyflogau, ac yn ystyried pob senario tebygol.
  5. Wedi'i olygu

Adroddiad SDLG 

  1. Nodwyd bod yr adroddiad yn ymwneud â Chwarter 1 ac y byddai diweddariad mwy diweddar yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod nesaf, ynghyd â'r adroddiad ar y chwarter perthnasol. 
  2. Wedi'i olygu
  3. Wedi'i olygu
  4. Cadarnhawyd bod adolygiad o’r systemau corfforaethol ar y gweill. Byddai adborth gan ddefnyddwyr allanol y system AD yn cael ei cheisio er mwyn penderfynu a ellid ailweithredu'r system bresennol yn fwy effeithiol. Nid oedd y system Gyllid wedi cael ei hadolygu eto.
  5. Roedd hyfforddiant perfformiad uchel wedi helpu SDLG i wella'n sylweddol o ran cynllunio a blaenoriaethu.

Adroddiad Cyllid ac ARAC

  1. Nodwyd na fu'n bosibl cymeradwyo cofnodion ARAC mewn pryd ar gyfer cyfarfod y Bwrdd a chytunwyd bod angen adolygu amseriad cyfarfod Bwrdd mis Medi.
  2. Roedd yr archwiliad terfynol ar gyfer yr adroddiad blynyddol wedi mynd yn dda ac nid oedd unrhyw beth i’w uwchgyfeirio i’r Bwrdd. Roedd yr adroddiad wedi'i gyhoeddi'n llwyddiannus, er gwaethaf yr oedi anochel. Diolchwyd i bawb a gymerodd ran, am weithio gyda'r dull diwygiedig manylach, ac y byddai amser yn cael ei dreulio yn cadarnhau ffyrdd y gellid gwella'r broses ar gyfer y flwyddyn ganlynol.
  3. Cytunwyd y byddai'r map adrodd risg yn cael ei ddosbarthu gyda chofnodion yr ARAC pan fyddent ar gael.

A23-03-01: Dyddiad cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi i'w adolygu. 

A23-03-02: Map Adrodd Risg i'w ddosbarthu gyda'r cofnodion ARAC wedi’u cymeradwyo.

Diweddariad y pwyllgor cydnabyddiaeth ariannol

  1. Wedi'i olygu

Adroddiad Trysorlys Cymru 

  1. Wedi'i olygu
  2. Wedi'i olygu

Trafodaeth y Bwrdd

Ardoll Ymwelwyr / Cynllun Trwyddedu Statudol 

  1. Wedi'i olygu
  2. Wedi'i olygu
  3. Wedi'i olygu

Sesiwn Ddatblygu'r Bwrdd - myfyrdodau 

  1. Cytunodd yr Aelodau fod y sesiwn perfformiad uchel wedi bod yn ddefnydd gwerthfawr o amser a bod y sgyrsiau wedi bod yn gefnogol, yn agored ac yn barchus. Roedd set glir o gamau gweithredu wedi deillio o'r sesiwn, yn enwedig ffyrdd y gallai'r Bwrdd roi mwy o gefnogaeth i ACC a pherthnasoedd allanol.

Myfyrdodau risg a Goblygiadau ariannol 

  1. Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid grynodeb o'r risg a'r goblygiadau ariannol yn ymwneud â thrafodaethau'r diwrnod.

Cau’r cyfarfod

  1. Nid oedd unrhyw fusnes arall i'w adrodd. 
  2. Byddai cymorth yn cael ei ddarparu ar gyfer cyflawni'r camau gweithredu o sesiwn ddatblygu'r Bwrdd.
  3. Rhannodd yr Aelodau eu myfyrdodau ar sut roedd y cyfarfod wedi rhedeg gan fwydo'n ôl i'w gilydd yr hyn yr oedden nhw wedi’i ddarparu i'r cyfarfod. 
  4. Diolchwyd a dymunwyd yn dda i'r Pennaeth Cyllid a fyddai'n gadael ACC yn fuan.
  5. Sgwrs Bwrdd fyddai’r cyfarfod nesaf, ar 25 Hydref.

Gwybodaeth wedi’i golygu

Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.