Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau

  • Ruth Glazzard, Cadeirydd 
  • Jocelyn Davies, Is-gadeirydd
  • Dyfed Alsop, Prif Swyddog Gweithredol
  • Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Gweithredu/Darparu Gwasanaethau  
  • Mary Champion, Aelod Anweithredol
  • Jim Scopes, Aelod Anweithredol
  • Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
  • Zoe Curry, Aelod Staff Etholedig
          

Agor y cyfarfod

  1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Ni ddatganwyd unrhyw wrthdaro buddiannau, ac ni dderbyniwyd ymddiheuriadau. Roedd y mynychwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o Drysorlys Cymru (TC), a chyflwynwyr ac arsylwyr o ACC.
  2. Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol (Medi '23) fel cofnod cywir, gydag un mân welliant i baragraff 2.14.
  3. O ran camau gweithredu pwyllgorau, cadarnhawyd bod camau gweithredu BEA23-10 wedi'i gwblhau ac y gellid ei gau Byddai cam newydd yn codi o BEA23-11 yn cael ei gynnwys ac i’r aelod staff etholedig fynychu sesiynau yn ôl yr angen. Byddai BEA23-08 yn parhau ar agor nes bod dyddiad wedi'i drefnu.
  4. Byddai'r penderfyniad a wnaed y tu allan i'r pwyllgor, yn ymwneud ag archwaeth risg, yn cael ei ddiweddaru pan adolygir y datganiad archwaeth risg nesaf, sy’n debygol o fod yn chwarter olaf 24-25.
  5. Roedd aelod anweithredol wedi mynychu gweminar i Gadeiryddion Cyhoeddus ar Reoli Risg Effeithiol a Rheoli Perfformiad ar gyfer Byrddau. Yn seiliedig ar y cyflwyniadau a'r trafodaethau, cadarnhawyd bod dull rheoli risg ACC, a'r gwelliannau a gynlluniwyd, yn dda o'i gymharu ag arfer da. Cafodd ymarfer ACC i gynnwys timau mewn 'gwirio synnwyr archwaeth risg corfforaethol' hefyd ei ganmol yn fawr. Byddai sleidiau o'r weminar yn cael eu rhannu i'r aelodau.
  6. Cafwyd diweddariad ar safonau'r Gymraeg. Cadarnhawyd bod ACC yn gorff y Goron; gan fod corff y Goron yn was neu'n asiant i'r Goron, a bod ACC yn cyflawni swyddogaethau ar ei ran, mae felly'n cael ei gynnwys o dan y safonau. Mae SDLG a Tîm Arwain yn adolygu amserlenni, a byddant yn adrodd yn ôl i'r Bwrdd ar y camau nesaf.

A23-04-01: Aelodau Anweithredol a’r Aelod Staff Etholedig i fynychu gwahanol sesiynau dysgu/gweithgorau ar draws y sefydliad.

A23-04-02: Rheoli sleidiau gweminar risg i'w dosbarthu i aelodau.

Adroddiadau

  1. Wedi'i olygu

Adroddiad y Prif Weithredwr

  1. Wedi'i olygu

Adroddiad SDLG

  1. Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau yr adroddiad diweddaraf. Roedd gweithredu datrysiad meddalwedd wrth gefn trydydd parti yn sylweddol, gan y byddai'n lliniaru risg bellach ar y gofrestr gorfforaethol (IMS). Roedd gwaith ar ddilysu aml-ffactor (MFA) ar y gweill gydag ymgysylltiad da. Mae timau'n bwriadu ymweld â chanolfan gyswllt CThEF, er mwyn ymgyfarwyddo â chanolfan brysurach, archwilio unrhyw feddalwedd ddefnyddiol a pharatoi ar gyfer gweithredu ardoll ymwelwyr posibl.
  2. Wedi'i olygu
  3. Wedi'i olygu
  4. Mae TA wedi cytuno bod risg gorfforaethol sy'n gysylltiedig â chyflenwi ardoll ymwelwyr yn teimlo'n rhy fuan i ymddangos ar y gofrestr gorfforaethol ar hyn o bryd, ond bydd yn cael ei hystyried yn agosach at sefydliad y bwrdd gweithredu ardoll ymwelwyr.

Y Pwyllgor Cydnabyddiaeth

  1. Trafododd y pwyllgor ddwy eitem yn eu cyfarfod diweddaraf: penodi'r cyfarwyddwr strategaeth/ gallu a'r drafodaeth barhaus ar gynllunio olyniaeth.

Trysorlys Cymru

  1. Wedi'i olygu

Trafodaeth y Bwrdd

Rhanddeiliaid

  1. Cyflwynwyd rhestr a chategorïau rhanddeiliaid allweddol ACC i'r aelodau. Roedd hyn yn ddefnyddiol i'r bwrdd, er mwyn dechrau meddwl am ddulliau strategol ac adeiladu ar gysylltiadau cyfredol, a lle gallai bylchau rhanddeiliaid posibl fod ar gyfer unrhyw waith yn y dyfodol. Awgrymwyd bod aelodau'n archwilio unrhyw sefydliadau, sectorau neu hyd yn oed fyrddau er mwyn mynd atynt i drafod. Bydd y rhestr hon nawr yn cael ei hadolygu'n rheolaidd mewn cyfarfodydd adrodd chwarterol.

Gwaith Darganfod yr Ardoll Ymwelwyr

  1. Cyflwynwyd sesiwn friffio er mwyn egluro rôl y bwrdd mewn perthynas â chytundeb Adran 83 ACC a'r prosiect darganfod ardoll ymwelwyr. O dan y trefniant hwn, mae ACC yn cyflawni swyddogaethau ardoll ymwelwyr fel asiant i Weinidogion Cymru, felly mae'r swyddogaethau hyn yn parhau i fod yn swyddogaethau Gweinidogion Cymru ac nid ydynt yn swyddogaethau ACC.  Fodd bynnag, bydd aelodau bwrdd ACC yn dymuno parhau i ystyried sut mae’r gwaith ardoll ymwelwyr yn effeithio ar gyflawni'r trethi datganoledig presennol, a sut y gall y sefydliad baratoi ar gyfer cyflawni'r dreth newydd hon yn y dyfodol.
  2. Bydd angen cytundeb tebyg ar waith ar gyfer ACC ar gyfer y Cynllun Trwyddedu Statudol (CTS), os gofynnir iddo ymgymryd ag unrhyw waith ar gyfer gweithredu CTS, nes bod swyddogaethau'n rhan annatod o'r DCRhT.

A23-04-05: Briff prosiect darganfod ardoll ymwelwyr i'w ddosbarthu i aelodau'r bwrdd.

Myfyrdodau risg a goblygiadau ariannol

Rhoddodd Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd a Phennaeth Cyllid grynodeb llafar o'r risg a'r goblygiadau ariannol sy'n gysylltiedig â thrafodaethau'r diwrnod.

Cau’r cyfarfod

  1. Rhannodd yr aelodau fyfyrdodau ar sut roedd y cyfarfod wedi rhedeg ac roedd yr arsylwyr yn teimlo fod yr eitemau ar yr agenda yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol. 
  2. Byddai'r cyfarfod nesaf, Sgwrs y Bwrdd, yn cael ei gynnal ar 19 Hydref. Bydd y diwrnod strategaeth nesaf yn cael ei gynnal ym mis Ionawr.

Gwybodaeth wedi’i golygu

Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.