Cyfansoddiad cartrefi yng Nghymru o ran y Gymraeg (Cyfrifiad 2021)
Dadansoddiad o’r gallu i siarad Cymraeg yng nghartrefi Cymru, ar sail Cyfrifiad 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Ar 6 Rhagfyr 2022, cyhoeddwyd bwletin ystadegol yn crynhoi canlyniadau cychwynnol Cyfrifiad 2021 am sgiliau Cymraeg y boblogaeth sy’n byw yng Nghymru.
Mae’r bwletin ystadegol hwn yn cynnwys amcangyfrifon o allu plant tair i bedair oed i siarad Cymraeg ar sail gallu oedolion y cartref i siarad yr iaith. Mae hyn yn darparu sail bosibl ar gyfer archwilio a allosod trosglwyddiad y Gymraeg rhwng cenedlaethau (y broses lle mae iaith yn cael ei throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth trwy ryngweithiadau teuluol arferol rhieni neu gwarcheidwaid a phlant). Sylwch nad yw Cyfrifiad 2021 yn cynnwys data ar ddefnydd o’r Gymraeg, dim ond gallu.
Mae’r prif ganlyniadau ar drosglwyddo’r Gymraeg yn y cartref yn seiliedig ar gartrefi un teulu sydd â phlant tair i bedair mlwydd oed (sef 93.2% o blant tair i bedair oed yn 2021). Diffinnir y gyfradd drosglwyddo ar sail cyfran y plant tair i bedair oed o fewn math penodol o deulu sy’n gallu siarad Cymraeg.
Mae’r wybodaeth yn y cyfrifiad am sgiliau Cymraeg wedi’i seilio ar hunanasesiad unigolyn o’i allu. Mewn rhai achosion, yn enwedig mewn perthynas â phlant, unigolyn arall oedd yn cofnodi eu sgiliau Cymraeg, er enghraifft, rhiant neu warcheidwad.
Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), ar 21 Mawrth 2021. Roedd yn dilyn cyfnodau clo a chyfnodau dysgu o bell i blant, ac roedd llawer o bobl yn gweithio gartref. Nid ydym yn gwybod a gafodd y pandemig effaith ar y sgiliau Cymraeg a adroddwyd gan bobl neu ar eu canfyddiad o sgiliau Cymraeg pobl eraill.
Prif bwyntiau
- Gostyngodd nifer y plant tair i bedair oed a oedd yn gallu siarad Cymraeg o 16,500 yn 2011 i 11,950 yn 2021, gostyngiad o 23.3% i 18.2%.
- Fodd bynnag, gostyngodd nifer y plant tair i bedair oed yn y boblogaeth hefyd bron i 5,000 rhwng 2011 a 2021.
- Yn 2021, roedd 80.7% o blant tair i bedair oed, a oedd yn byw mewn cartrefi cwpwl lle roedd dau neu fwy o oedolion yn gallu siarad Cymraeg, yn gallu siarad Cymraeg. Cyfeirir at hyn fel ‘cyfradd trosglwyddo’r Gymraeg’. Mae hyn yn gyson, fwy neu lai, â 2011, pan oedd y gyfradd yn 82.2%.
- Gostyngodd cyfradd trosglwyddo’r Gymraeg ymhlith cartrefi cwpwl, lle roedd un oedolyn yn gallu siarad Cymraeg, o 45.4% yn 2011 i 40.4% yn 2021.
- Cyfradd trosglwyddo’r Gymraeg mewn cartrefi un rhiant, lle roedd un oedolyn yn gallu siarad Cymraeg, oedd 52.1%, sy’n weddol debyg i 2011, pan oedd y gyfradd yn 53.3%.
Amrywiadau lleol
Roedd cyfraddau trosglwyddo’r Gymraeg yn ôl math o gartref yn amrywio fesul awdurdod lleol. Dylid nodi bod rhai o’r niferoedd yn y grwpiau hyn yn fach neu nid ydynt ar gael oherwydd rheoli datgeliadau ystadegol . Mae mwy o fanylion am sut mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi diogelu cyfrinachedd unigolion i’w gweld yn yr adran ar wybodaeth am ansawdd a methodoleg.
- Yn achos cartrefi cwpwl lle roedd dau neu fwy o oedolion yn gallu siarad Cymraeg, Caerdydd a Gwynedd oedd â’r gyfradd trosglwyddo’r Gymraeg uchaf (88.9% a 88.7% yn y drefn honno), a Thor-faen oedd â’r isaf (60.0%)
- Yn achos cartrefi cwpwl lle roedd un oedolyn yn gallu siarad Cymraeg, Gwynedd oedd â’r gyfradd trosglwyddo’r Gymraeg uchaf (60.0%), a Blaenau Gwent oedd â’r isaf (18.8%)
- Yn achos cartrefi un rhiant lle roedd un oedolyn yn gallu siarad Cymraeg, Ceredigion a Gwynedd oedd â’r gyfradd trosglwyddo’r Gymraeg uchaf (77.8% a 77.0% yn y drefn honno), a Chasnewydd oedd â’r isaf (22.2%).
Y gallu i siarad Cymraeg mewn cartrefi
- Roedd bron i chwarter (23.7%) o gartrefi yng Nghymru yn cynnwys o leiaf un unigolyn a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn 2021, gostyngiad o’i chymharu â 25.9% yn 2011.
- Roedd bron i un o bob deg cartref (9.0%) yn 2021 yn cynnwys pobl oedd i gyd yn gallu siarad Cymraeg, gostyngiad bach o’i chymharu â 9.4% yn 2011.
- Mewn 3.4% o gartrefi, nid oedd yr un oedolyn yn gallu siarad Cymraeg, ond roedd o leiaf un plentyn 3 i 15 mlwydd oed yn gallu siarad Cymraeg yn 2021.
- O’r 532,200 o bobl a oedd yn gallu siarad Cymraeg ac a oedd yn byw mewn cartrefi yn 2021, roedd bron i 232,100 (43.6%) naill ai yn byw ar eu pen eu hunain neu mewn cartrefi lle roedd pawb yn gallu siarad Cymraeg.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Cynhaliodd y SYG Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr ddydd Sul 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal bob 10 mlynedd a hwn sy’n darparu’r darlun mwyaf manwl o’r boblogaeth gyfan, gan holi’r un cwestiynau craidd i bawb ledled Cymru a Lloegr. Gall canlyniadau’r cyfrifiad fod yn fwy dibynadwy na chanlyniadau arolygon sy’n seiliedig ar sampl o’r boblogaeth, am fod y boblogaeth gyfan yn cael ei holi.
Roedd y gyfradd a ymatebodd i Gyfrifiad 2021 yn uchel iawn, sef 96.4% o boblogaeth preswylwyr arferol Cymru. Mae’r SYG yn sicrhau bod canlyniadau’r cyfrifiad yn adlewyrchu’r boblogaeth gyfan drwy ddefnyddio dulliau ystadegol i amcangyfrif nifer a nodweddion y bobl na chawsant eu cofnodi yn y cyfrifiad. Amcangyfrifon yw ystadegau’r cyfrifiad, felly, yn hytrach na chyfrif syml o ymatebion. O ganlyniad mae elfen o ansicrwydd ystadegol yn eu cylch. Mae’r SYG yn cymryd sawl cam i gyfyngu ar gamgymeriadau posibl.
Mae’r ystyriaethau ansawdd ynghyd â gwybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 i’w gweld yn fwy cyffredinol yn Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021 (SYG). Darllenwch fwy am yr ystyriaethau ansawdd penodol o safbwynt y Gymraeg: Gwybodaeth am ansawdd data am y Gymraeg o Gyfrifiad 2021 (SYG).
Geirfa
I weld yr eirfa lawn, ewch i Geiriadur Cyfrifiad 2021 SYG.
Mae rhai o’r diffiniadau isod (er enghraifft, ‘cartrefi cwpwl’) yn benodol i’r dadansoddiad hwn a gallent fod ychydig yn wahanol i ddiffiniadau confensiynol y cyfrifiad.
Trosglwyddo’r Gymraeg
Diffinnir y gyfradd drosglwyddo ar sail cyfran y plant tair i bedair oed o fewn math penodol o deulu sy’n gallu siarad Cymraeg.
Cartref
Caiff cartref ei ddiffinio fel:
- un person sy'n byw ar ei ben ei hun
- grŵp o bobl (nad oes rhaid iddyn nhw fod yn perthyn i’w gilydd) sy’n byw yn yr un cyfeiriad, ac sy’n rhannu cyfleusterau coginio ac ystafell fyw neu lolfa neu le bwyta
Mae hyn yn cynnwys:
- unedau llety gwarchod mewn sefydliad (ni waeth p'un a oes cyfleusterau cymunedol eraill ai peidio),
- pob person sy'n byw mewn carafán ar unrhyw fath o safle sy'n breswylfa arferol iddo; bydd hyn yn cynnwys unrhyw un nad oes ganddo breswylfa arferol rywle arall yn y Deyrnas Unedig
Rhaid i gartref gynnwys o leiaf un person y mae ei breswylfa arferol yn y cyfeiriad hwnnw. Ni chaiff grŵp o breswylwyr byrdymor sy'n byw gyda'i gilydd eu cyfrif yn gartref, nac ychwaith grŵp o bobl mewn cyfeiriad sy'n cynnwys ymwelwyr yn unig.
Cyfansoddiad y cartref
Cartrefi yn ôl y cydberthnasau rhwng aelodau.
Caiff cartrefi un teulu eu dosbarthu yn ôl:
- nifer y plant dibynnol
- y math o deulu (teulu pâr priod, cwpwl partneriaeth sifil neu gwpwl sy’n cyd-fyw, neu deulu un rhiant)
Caiff cartrefi eraill eu dosbarthu yn ôl:
- nifer y bobl
- nifer y plant dibynnol
- p’un a yw’r cartref yn cynnwys myfyrwyr yn unig neu bobl 66 oed neu’n hŷn yn unig.
Cyfansoddiad cartrefi cymru
Newidyn deilliedig yw hwn sy’n nodi cartrefi yng Nghymru, yn ôl math o gartref ac yn ôl nifer y siaradwyr Cymraeg yn y cartref.
Nid yw’r newidyn hwn yn cynnwys myfyrwyr yn eu cyfeiriad y tu allan i’r tymor na mudwyr byrdymor.
Cartref cwpwl
Cartref gyda theulu pâr (naill ai'n briod, yn bartner sifil neu'n cyd-fyw) a dim eraill. Yn y cyfrifiad, efallai y bydd gan deulu cwpwl blant yn yr aelwyd neu beidio. Fodd bynnag, yn y dadansoddiad hwn, roedd pob cartref cwpwl yn cynnwys o leiaf un plentyn dibynnol. Mae’r data ar gyfer aelwydydd cwpwl lle mae dau neu fwy o oedolion yn gallu siarad Cymraeg yn cynnwys plant sy’n byw mewn cartrefi lle roedd mwy na dau oedolyn yn gallu siarad Cymraeg (er enghraifft, dau riant a phlentyn neu blant hŷn nad yw’n ddibynnol).
Cartrefi un rhiant
Cartref lle mae teulu un rhiant a dim eraill. Yn y dadansoddiad hwn, roedd pob cartref rhiant unigol yn cynnwys o leiaf un plentyn dibynnol. Mae data ar gyfer cartrefi un rhiant lle mae dau neu fwy o oedolion yn gallu siarad Cymraeg yn cynnwys plant sy’n byw mewn cartrefi lle nad ydynt yn ddibynnol.
Plentyn dibynnol sy’n siarad Cymraeg
Newidyn deilliedig yw hwn sy’n nodi p’un a yw plant dibynnol tair mlwydd oed neu’n hŷn, sy’n byw mewn teulu, yn gallu siarad Cymraeg.
Nid yw myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd yn ystod y tymor, na phobl 16 i 18 oed nad ydynt mewn addysg amser llawn, wedi’u cynnwys yn y newidyn hwn.
Mesur y data
Mae rhai cymariaethau na allwn eu gwneud rhwng 2011 a 2021 o ran data ar y gallu i siarad Cymraeg yn ôl cartref, gan mai dim ond ar lefel cartrefi roedd data ar gael ar gyfer 2011, ond mae data 2021 yn rhoi sylw i breswylwyr arferol sy’n byw mewn cartrefi.
Rheoli datgeliadau ystadegol
Mae rheoli datgeliadau ystadegol (SDC) yn dechneg a ddefnyddir gan y SYG i sicrhau nad oes modd adnabod unrhyw berson neu sefydliad o ganlyniadau dadansoddiad. Roedd y data a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru ar gyfer y dadansoddiad hwn yn cael ei reoli gan ddatgeliad drwy ddileu pob cyfrif llai na 10 a thalgrynnu’r holl ffigurau sy’n weddill i’r pump agosaf.
Mae’r SYG yn rheoli datgeliadau ystadegol er mwyn diogelu cyfrinachedd y rhai sy’n ymateb i’r cyfrifiad. Gallai gwahaniaethau yn y dulliau a ddefnyddir i reoli datgeliadau ystadegol arwain at fân-wahaniaethau yng nghyfansymiau data mewn perthynas â gwahanol ddeilliannau. Gan ein bod yn talgrynnu pob ffigur yn unigol, mae’n bosibl nad yw ffigurau’r tablau yn dod i gyfanswm taclus. Cyfrifwyd canrannau ar sail y niferoedd wedi ei talgrynnu.
Y Gymraeg
Roedd Cyfrifiad 2021 yng Nghymru yn cynnwys cwestiwn ynglŷn â gallu pobl i ddeall Cymraeg llafar, siarad Cymraeg, darllen Cymraeg, ac ysgrifennu yn Gymraeg. I bobl Cymru yn unig y gofynnwyd y cwestiwn hwn. Nid yw'r cyfrifiad yn cynnwys cwestiynau am ba mor aml y mae pobl yn siarad Cymraeg, nac am ba mor dda y maent yn siarad yr iaith.
Mae cwestiynau’r cyfrifiad am sgiliau Cymraeg wedi'u seilio ar hunanasesiad unigolyn o’i allu. Roedd y canllawiau ar gyfer cwblhau'r cyfrifiad yn nodi, os ydych yn byw yng Nghymru, mai chi sydd i benderfynu p’un a ydych yn gallu siarad Cymraeg, darllen Cymraeg, ysgrifennu yn Gymraeg a/neu ddeall Cymraeg llafar. Gofynnwyd i bobl ddewis yr holl opsiynau a oedd yn wir amdanyn nhw. Fodd bynnag, ni fydd pawb wedi darllen y cyfarwyddyd hwn ac efallai eu bod wedi dewis un opsiwn yn unig.
Gall nifer o ffactorau ddylanwadu ar y ffordd y mae pobl yn asesu a chofnodi eu sgiliau, a gall amrywio o berson i berson. Mewn rhai achosion, yn enwedig mewn perthynas â phlant, unigolyn arall oedd yn cofnodi eu sgiliau Cymraeg, er enghraifft, rhiant neu warchodwr. Efallai nad yw eu hasesiad nhw o sgiliau Cymraeg yr unigolyn yr un fath ag asesiad yr unigolyn ei hun.
Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), ar 21 Mawrth 2021. Roedd yn dilyn cyfnodau clo a chyfnodau dysgu o bell i blant, ac roedd llawer o bobl yn gweithio gartref. Nid ydym yn gwybod sut effeithiodd y pandemig ar y ffordd roedd pobl yn adrodd am eu sgiliau Cymraeg neu ar eu canfyddiadau o sgiliau Cymraeg pobl eraill.
Ffynonellau data
Ystyrir y cyfrifiad yn ffynhonnell wybodaeth awdurdodol am nifer y bobl tair oed neu’n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru. Dyma sut mae Llywodraeth Cymru yn mesur y cynnydd tuag at ei huchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru hefyd yn cynnwys cwestiynau am sgiliau Cymraeg, pa mor aml y mae pobl yn siarad Cymraeg, a’u rhuglder. Gofynnir y cwestiynau bob blwyddyn i bobl 16 oed neu'n hŷn. Mae’r canlyniadau i’w gweld drwy ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. Yn 2018-19 casglwyd data ychwanegol sy’n gysylltiedig â throsglwyddo’r Gymraeg ynghylch ble a phryd y dechreuodd siaradwyr Cymraeg ddysgu’r iaith. Mae hyn yn rhoi syniad o nifer y siaradwyr Cymraeg a ddechreuodd ddysgu’r iaith gartref fel plant ifanc.
Cynhelir Arolwg Defnydd Iaith Cymru fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Er mai pwrpas yr Arolwg Defnydd Iaith yw deall mwy am sut mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio'r iaith, mae hefyd yn cynnig amcangyfrif arall o ganran y siaradwyr Cymraeg. Mae canlyniadau cychwynnol Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 a’r bwletinau dilynol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Fel yn achos Arolwg Cenedlaethol Cymru, caiff data ei gasglu hefyd ar faint o siaradwyr Cymraeg a ddechreuodd ddysgu’r iaith gartref fel plant ifanc.
Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth hefyd yn casglu gwybodaeth am sgiliau Cymraeg. Mae’r gwahaniaethau yn yr amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg rhwng y cyfrifiad ac arolygon cartrefi fel yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn hir-sefydlog, ac mae’r SYG ('Differences in estimates of Welsh Language Skills') a Llywodraeth Cymru ('Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth: 2001 i 2018') wedi archwilio rhesymau posibl dros rai o’r gwahaniaethau hyn yn y gorffennol. Er enghraifft, mae’r cyfrifiad yn holiadur statudol sy’n cael ei gwblhau gan unigolion, ond arolwg gwirfoddol yw’r Arolwg Blynyddol sy’n cael ei gynnal ar ffurf cyfweliadau wyneb yn wyneb a thros y ffôn. Mae arolygon o gartrefi yn cynnig amcangyfrifon uwch o allu pobl i siarad Cymraeg, ond dyma’r tro cyntaf y mae’r cyfrifiad wedi amcangyfrif niferoedd is o siaradwyr Cymraeg ar yr un pryd ag y mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi amcangyfrif niferoedd uwch. Mewn erthygl blog a gyhoeddwyd gan y Prif Ystadegydd yn 2019, trafodwyd yn fyr sut i ddehongli data’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth am y Gymraeg.
Mae'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion yn gasgliad electronig o ddata am ddisgyblion ac ysgolion a ddarperir gan bob ysgol a gynhelir ym mis Ionawr bob blwyddyn. Mae nifer o ddangosyddion ar gael sy’n ymwneud â’r Gymraeg, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn â iaith darpariaeth addysg yr ysgol, sgiliau Cymraeg disgyblion ac athrawon, a ph’un a yw disgyblion yn cael eu haddysgu drwy’r Gymraeg. Mae'r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar Chwefror 2022, a gyhoeddwyd ar 31 Awst 2022 ac sydd ar gael ar StatsCymru.
Yn dilyn cyhoeddi Cyfrifiad 2021, rydym yn blaenoriaethu gwaith i archwilio’r gwahaniaethau rhwng y ffynonellau data hyn yn fanylach, gan gynnwys archwilio dulliau arloesol megis cysylltu data, er mwyn sicrhau bod gennym sylfaen dystiolaeth gydlynol y gellir ei defnyddio i wneud penderfyniadau.
Rydym wedi cyhoeddi cynllun gwaith sy’n amlinellu’r gwaith y mae’r SYG a Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud yn ystod 2023-24 a thu hwnt i wella ein dealltwriaeth o’r prif ffynonellau arolygon a data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau am y Gymraeg. I gyd-fynd â'r cynllun gwaith hwn cyhoeddwyd blog a gyhoeddwyd gan y Prif Ystadegydd.
Myfyrwyr
Fel mewn cyfrifiadau blaenorol, cyfrwyd y myfyrwyr yn eu cyfeiriad tymor arferol a'u cyfeiriad arferol y tu allan i'r tymor os oedd y rhain yn wahanol. Er y gofynnwyd i fyfyrwyr ymateb yn y ddau gyfeiriad cawsant eu cyfrif fel preswylydd arferol yn unig yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor.
Yng ngoleuni'r pandemig, cyfyngiadau'r cyfnod clo, a'r ffaith nad oedd llawer o fyfyrwyr yn eu cyfeiriad tymor efallai, aeth y SYG ati i adolygu a gwella'r canllawiau i fyfyrwyr ar sut y dylent gwblhau'r cyfrifiad. Sefydlodd y SYG hefyd ddulliau o amcangyfrif ac addasu ar gyfer diffyg ymateb myfyrwyr neu eu gorgyfrif. Yn ogystal, dyluniwyd proses sicrhau ansawdd eang a hyblyg.
Darllenwch fwy am sut y sicrhaodd y SYG amcangyfrif cywir o fyfyrwyr yng Nghyfrifiad 2021.
Dolenni perthnasol
Y Gymraeg yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Data Cyfrifiad 2021 am sgiliau Cymraeg (y gallu i ddeall Cymraeg llafar, siarad Cymraeg, darllen Cymraeg ac ysgrifennu yn Gymraeg) pobl dair oed neu hŷn sy’n byw yng Nghymru.
Y Gymraeg yn ôl nodweddion y boblogaeth (Cyfrifiad 2021)
Amcangyfrifon o’r boblogaeth oedd yn gallu siarad Cymraeg yn ôl demograffeg, hunaniaeth genedlaethol, gweithgarwch economaidd, iechyd, a nifer o nodweddion eraill o Gyfrifiad 2021.
Demograffeg a mudo yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Amcangyfrifon, heb eu talgrynnu, o’r boblogaeth ac o gartrefi, gan gynnwys trosolwg o’r boblogaeth nad yw’n enedigol o’r DU, a nodweddion cartrefi a phreswylwyr yng Nghymru, ar sail Cyfrifiad 2021.
Trosglwyddo’r Gymraeg ac aelwydydd (Cyfrifiad 2011)
Data Cyfrifiad 2011 am allu pobl i siarad Cymraeg mewn cartrefi.
Trosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd
Mae’r adroddiad hwn yn darparu canfyddiadau astudiaeth ymchwil i batrymau o drosglwyddo’r iaith o un genhedlaeth i’r llall, a defnydd o’r iaith ymhlith teuluoedd â phlant 0 i 4 oed.
Gwybodaeth am ansawdd data am y Gymraeg o Gyfrifiad 2021 (SYG)
Gwybodaeth am ansawdd data mewn perthynas â’r Gymraeg yng Nghyfrifiad 2021 i helpu i’w dehongli’n gywir.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg Cyfrifiad 2021 (SYG)
Manylion cryfderau, cyfyngiadau, defnydd, defnyddwyr a dulliau Cyfrifiad 2021, Cymru a Lloegr.
Geiriadur Cyfrifiad 2021 (SYG)
Diffiniadau, newidynnau a chategorïau i helpu wrth ddefnyddio data Cyfrifiad 2021.
Sut sicrhaodd y SYG ansawdd amcangyfrifon Cyfrifiad 2021
Methodoleg dilysu amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 o’r boblogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr, gan gynnwys sicrwydd prosesau, asesu amcangyfrifon, a chynnwys awdurdodau lleol.
Statws Ystadegau Gwladol ar gyfer Cyfrifiad 2021
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007, gan ddangos eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.
Dylai ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny gyda'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau'n cael eu hadfer.
Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol i'r SYG ym mis Mehefin 2022 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Diben y rhain yw sicrhau Cymru fwy cyfartal, ffyniannus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r gyfres a osodwyd ar 16 Mawrth 2016, ac mae'r datganiad hwn yn gysylltiedig ag un o'r dangosyddion cenedlaethol sef:
- (37) Nifer y bobl a all siarad Cymraeg.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid gosod cerrig milltir cenedlaethol a fyddai “...ym marn Gweinidogion Cymru, yn helpu i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni’r nodau llesiant”. Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu sut y gwyddom fod carreg filltir genedlaethol wedi'i chyflawni ac erbyn pryd y mae i'w chyflawni.
Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol, ond maent yn fesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru.
Yn y bwletin hwn, mae dangosydd 37: Nifer y bobl a all siarad Cymraeg, yn cyfateb i un garreg filltir:
- miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.