Neidio i'r prif gynnwy

Cyfamod y Lluoedd Arfog

Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn gyfamod parhaus rhwng pobl y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Ei Fawrhydi a phawb sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y Goron a’u teuluoedd.

Dyletswydd gyntaf Llywodraeth y DU yw amddiffyn y deyrnas. Mae ein Lluoedd Arfog yn cyflawni’r cyfrifoldeb hwnnw ar ran y Llywodraeth, ac yn aberthu rhywfaint o’u rhyddid sifil, yn wynebu perygl ac, weithiau, yn cael anaf difrifol neu’n marw o ganlyniad i’w dyletswydd.                   

Mae teuluoedd hefyd yn rhan hollbwysig o’r gwaith o gefnogi effeithiolrwydd gweithredol ein Lluoedd Arfog. Yn gyfnewid am hynny, mae gan y genedl gyfan ddyletswydd foesol i aelodau Gwasanaeth y Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Brenhinol, ynghyd â’u teuluoedd. Maent yn haeddu ein parch a’n cefnogaeth, a chael eu trin yn deg. 

Ni ddylai’r rheini sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, boed yn y Lluoedd Rheolaidd neu’r Lluoedd Wrth Gefn, y rheini sydd wedi gwasanaethu yn y gorffennol, a’u teuluoedd, wynebu unrhyw anfantais o’u cymharu â dinasyddion eraill o ran darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus a masnachol. Mae'n briodol rhoi ystyriaeth arbennig mewn rhai achosion, yn enwedig i’r rhai sydd wedi gwneud yr aberth fwyaf, fel y rhai sydd wedi’u hanafu a’r rhai sydd wedi dioddef profedigaeth.

Mae’r ddyletswydd hon yn cynnwys y gymdeithas gyfan: mae’n cynnwys cyrff gwirfoddol ac elusennol, sefydliadau preifat, a gweithredoedd unigolion wrth gefnogi’r Lluoedd Arfog. Mae cydnabod y rheini sydd wedi cyflawni dyletswydd filwrol yn uno’r wlad, ac yn dangos gwerth eu cyfraniad. Ni ellir mynegi hyn yn fwy nag wrth gefnogi’r Cyfamod hwn.

Y Ddyletswydd Sylw Dyledus

‌Mae Deddf y Lluoedd Arfog 2021 yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus penodedig ac yn mynnu eu bod yn rhoi sylw dyladwy i egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog wrth arfer rhai‌ swyddogaethau statudol‌ ym meysydd gofal iechyd, addysg a thai. 

Pan fydd corff penodedig yn arfer swyddogaeth berthnasol, rhaid iddo roi sylw dyladwy i’r canlynol: 

  • rhwymedigaethau unigryw’r Lluoedd Arfog a’r aberthau a wneir ganddynt 
  • yr egwyddor ei bod yn ddymunol dileu’r anfanteision sy’n codi i filwyr yn sgil bod yn aelodau neu'n gyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog 
  • yr egwyddor y gellir cyfiawnhau darpariaeth arbennig ar gyfer milwyr ar sail yr effeithiau y mae bod yn aelod neu'n gyn-aelod o'r Lluoedd Arfog yn eu cael ar y bobl hyn

Mae cyrff penodedig yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau lleol ym meysydd gofal iechyd, addysg a thai. Mae'r rhain yn cynnwys awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a byrddau iechyd lleol.

Rhagair y Gweinidog

Mae’n bleser gennyf gyflwyno’r adroddiad hwn sy’n ymdrin â gweithgarwch a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru rhwng mis Ebrill 2022 a diwedd mis Mawrth 2023.

Ym mis Mehefin 2022, fe wnaethom nodi 40 mlynedd ers y gwrthdaro ar Ynysoedd Falkland. Cawsom gyfle i gofio’r rhai a wasanaethodd mewn Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol yng Nghadeirlan Llandaf ym mis Mehefin, ac eto yng Ngŵyl y Cofio yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd.

Hefyd yn ystod y cyfnod adrodd hwn, bu farw Ei Mawrhydi’r Frenhines ym mis Medi 2022 ac fe esgynnodd Ei Fawrhydi'r Brenin Charles i'r orsedd. Yn sgil hynny, cafodd ein tri Llu Arfog gyfnod estynedig o weithgarwch seremonïol, a dylent ymfalchïo’n fawr yn hynny.

Mae hon yn flwyddyn lle mae canlyniadau Cyfrifiad Cenedlaethol 2021 wedi cadarnhau sut mae’r traddodiad o wasanaethu yn y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn arwain at boblogaeth sy'n cynnwys lefel uwch o gyn-filwyr na chyfartaledd y DU. Dangosodd y canlyniadau fod canran y 115,000 o gyn-filwyr y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn 2021 yn cyfrif am 4.5% o'r boblogaeth o'i gymharu â chyfartaledd y DU o 3.8%. Dangosodd y canlyniadau hefyd fod canran yr aelwydydd ac ynddynt un neu fwy o bobl sydd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y DU wedi bod yn uwch yng Nghymru (8.1%) nag yn Lloegr (7.0%). Mae’r rhain a’r canlyniadau eraill sy’n cael eu rhyddhau, yn dangos maint a phwysigrwydd y gymuned hon yng Nghymru a, gan weithio gyda phartneriaid, rydym yn defnyddio’r dystiolaeth hon i lywio ein darpariaeth. 

Mae adnabod Cymuned y Lluoedd Arfog a gofyn y cwestiwn ‘Ydych chi wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog EF o’r blaen?’ wedi dod yn bwysicach eleni yn sgil y ‘Ddyletswydd Sylw Dyladwy’ yn Neddf y Lluoedd Arfog yn dod i rym ym mis Tachwedd 2022. Gwn fod awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yng Nghymru wedi bod yn weithgar yn codi ymwybyddiaeth o’r gofyniad newydd hwn a bod y Swyddogion Cyswllt Cyfamod y Lluoedd Arfog rydym yn eu hariannu i helpu i gyflawni’r Cyfamod yn lleol, wedi bod yn gweithio’n galed yn y maes hwn. 

Arweiniodd penodiad Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru gan Lywodraeth y DU ym mis Mehefin 2022 at lefel ychwanegol o eiriolaeth a chraffu er mwyn cyflawni ar gyfer cyn-filwyr yng Nghymru. Mae ymgysylltiad ac adroddiadau’r Comisiynydd wedi darparu ffocws defnyddiol ar faterion cyn-filwyr.

Mae adrannau ar draws Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog. Mae'r gefnogaeth i blant y Lluoedd Arfog yn parhau, i sicrhau nad ydynt dan anfantais yn addysgol. Mae GIG Cymru i Gyn-filwyr yn parhau i ddarparu gwasanaeth ar gyfer anghenion unigryw cyn-filwyr o ran iechyd meddwl yng Nghymru. Ym maes tai, bydd cynlluniau i ymgynghori ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth digartrefedd yn cynnwys ystyried Cymuned y Lluoedd Arfog.

Ac yn olaf, yn ystod y cyfnod adrodd hwn, rydym wedi gweld y gwaith pwysig ar yr ‘Adolygiad Annibynnol o Gyn-filwyr LHDT’ yn dechrau. Bu cyn-filwyr yr effeithiwyd arnynt gan y gwaharddiad ar fod yn hoyw yn y Lluoedd Arfog cyn y flwyddyn 2000 yn ddewr iawn yn rhannu eu profiadau. Mae gweithredu i gefnogi'r gymuned LHDTC+ yng Nghymru yn bwysig ar draws Llywodraeth Cymru a byddwn yn gweithio tuag at sicrhau bod y rhai yr effeithir arnynt yn dod o hyd i amgylchedd cefnogol yma. 

Hannah Blythyn AS

Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Cyflwyniad

Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r gweithgarwch a gyflawnir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnal egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog yng Nghymru. 

Mae rhwydwaith cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn gryf – mae'n cynnwys y Lluoedd Arfog a’u milwyr, elusennau, Cymdeithasau Catrodol, grwpiau cymorth ac amrywiaeth eang o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, sydd i gyd yn unedig yn eu parch at yr hyn y mae’r Lluoedd Arfog yn ei wneud, ac wedi’i wneud, dros y blynyddoedd. 

Er bod yr adroddiad yn ceisio cofnodi gweithgarwch ar draws amrywiaeth o sectorau, mae ehangder y gwaith yn golygu nad oes modd gwneud cyfiawnder llawn â’r holl unigolion a sefydliadau sy’n gweithio’n ddiflino i gyflawni ymrwymiad y genedl o dan Gyfamod y Lluoedd Arfog. 

Mae’r adroddiad yn amlinellu gweithgarwch ar draws ystod eang o feysydd polisi, sy’n gysylltiedig â’r rheini sy’n rhan o Ddeddf y Lluoedd Arfog 2021 a Strategaeth y DU ar gyfer ein Cyn-filwyr.

Sylwadau gan Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog

Mae Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog yn dod â phobl ynghyd sydd â gwybodaeth fanwl am faterion sy’n effeithio ar Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Mae’r Grŵp yn rhoi cyngor, adborth a gwybodaeth i Lywodraeth Cymru er mwyn deall anghenion y gymuned yn well a sut y gellid gwella’r ffordd mae gwasanaethau’n cael eu darparu. Mae aelodau'r Grŵp wedi cael y cyfle i gyfrannu at yr adroddiad hwn. Ar y cyfan, maent yn cefnogi Adroddiad Blynyddol 2022 ac yn gwerthfawrogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r agenda hon.

Mae’r meysydd a nodwyd gan y Grŵp fel rhai i weithredu arnynt fel mater o flaenoriaeth yn y cyfnod adrodd nesaf yn cynnwys: 

  • Parhau i godi ymwybyddiaeth o’r Ddyletswydd Sylw Dyladwy yn Neddf y Lluoedd Arfog 2021 mewn awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol er mwyn gallu nodi anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog a sicrhau bod staff yn ymwybodol o anfanteision posibl ac yn gallu gweithredu ar hynny
  • Cefnogi Teuluoedd y Lluoedd Arfog sy’n byw yng Nghymru neu’n cael eu lleoli yno, er mwyn lleihau'r posibilrwydd o anfantais i'r graddau mwyaf posibl, yn enwedig mewn perthynas â chael mynediad at iechyd neu addysg. Meysydd penodol i ganolbwyntio arnynt:
    • Cael gafael ar gymorth gofal plant
    • Datblygu dealltwriaeth Teuluoedd y Lluoedd Arfog o’r system addysg a’r cymorth sydd ar gael yng Nghymru
    • Lleihau’r gwrthdaro sy’n gysylltiedig â symud i Gymru mewn cysylltiad ag anghenion gofal iechyd sylfaenol Teuluoedd y Lluoedd Arfog
  • Helpu cyn-filwyr a phobl sy’n gadael y Lluoedd Arfog i ddod o hyd i gyflogaeth briodol yng Nghymru drwy ganolbwyntio’n barhaus ar ddigwyddiadau cyflogaeth a chydweithio â’r Tri Llu Arfog, y Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd a Chymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a’r Cadetiaid
  • Annog cyfranogiad yn y Cynllun Achredu Meddygon Teulu pan gaiff ei lansio 
  • Sicrhau bod cynlluniau ar gyfer deddfwriaeth digartrefedd newydd yn ystyried anghenion Cyn-filwyr ac Aelodau o'r Lluoedd Arfog sy’n pontio i fywyd sifil
  • Gwneud yn siŵr bod grwpiau a chanolfannau cymorth ledled Cymru sy’n cefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yn cael gwybod am gyngor a chymorth mewn perthynas â chostau byw 
  • Cefnogi Cyn-filwyr LHDTC+ mewn cysylltiad â chanfyddiadau'r 'Adolygiad Annibynnol o Gyn-filwyr LHDT' 
  • Roedd Ffederasiwn Teuluoedd y Llynges Frenhinol, Ffederasiwn Teuluoedd y Fyddin a Ffederasiwn Teuluoedd yr Awyrlu Brenhinol, yn arbennig, yn falch o weld cyfeiriad at deuluoedd y lluoedd arfog yn yr adroddiad a'r ymgysylltiad parhaus drwy’r ffederasiynau Teuluoedd
  • Yn benodol, tynnodd y Lleng Brydeinig Frenhinol sylw at yr angen i roi ystyriaeth bellach i gyn-filwyr yn y system cyfiawnder troseddol a’r cymorth sydd ar gael yng Nghymru

Uchafbwyntiau’r Lluoedd Arfog

Yn draddodiadol, mae'r adroddiad hwn yn cynnwys diweddariad gan y Lluoedd Arfog. 

Y Llynges Frenhinol/Y Môr-filwyr Brenhinol

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod o dwf i deulu’r Llynges Frenhinol yng Nghymru. Mae tua 1,500 o aelodau’r gwasanaeth yn dal i fyw yng Nghymru, ac yn aml yn cymudo o’u mannau gwaith dros y ffin y tu allan i Gymru. Yn seiliedig ar gyfanswm yr amcangyfrifon poblogaeth, mae hyn yn dangos bod tua thair gwaith yn fwy o staff Gwasanaeth y Llynges y pen yn byw yng Nghymru nag sy’n byw yn Lloegr. 

Mae Academi Arweinyddiaeth y Llynges Frenhinol yn Nhal-y-bont, Canolbarth Cymru wedi cynyddu i 3,500 o forwyr. Ar y safle hwn, mae Swyddogion a Llongwyr yn profi cyfnod o ‘ymestyn’ dan reolaeth, sydd wedi’i gynllunio i ddod â sgiliau arwain a gwaith tîm i’r amlwg. Bydd y fenter ‘Tyfu’r Llynges’ yn cynyddu’r niferoedd hyn i ychydig o dan 4,000 am y 10 mlynedd nesaf.

Mae RAF y Fali yn gartref i 13 o Forwyr sy’n helpu i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o beilotiaid awyrennau adenydd cylchdro a sefydlog y Llynges Frenhinol. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant jetiau uwch ar yr Hawk T2 (yr un math o awyren â'r un a ddefnyddir gan y Red Arrows), hyfforddiant jetiau sylfaenol ar y Texan, a hyfforddiant adenydd cylchdro ar y Juno a'r Jupiter ar gyfer pob rôl eilaidd yn y Llynges Frenhinol. Rhagwelir y bydd 38 o Beilotiaid, 15 o Arsyllwyr a 35 o Aelodau o Griwiau Awyr yn cael eu hyfforddi yn ystod y flwyddyn hyfforddi hon. 

Yn ddiweddar, croesawyd nifer o bwysigion dinesig a phartneriaid y diwydiant i dderbyniad ar HMS CAMBRIA, cartref y Llu Wrth Gefn Morol yng Nghymru, wrth i’r Llynges Frenhinol ddatgelu mai’r mezzo-soprano Katherine Jenkins OBE fydd noddwr nesaf y llong HMS CARDIFF. Cyn y derbyniad, cafodd y cyhoeddiad ei wneud ym Mae Caerdydd ar fwrdd y llong HMS EXPRESS, sy'n gysylltiedig ag Aberystwyth. Mae HMS CARDIFF wrthi’n cael ei hadeiladu yn Glasgow ar hyn o bryd a bydd yn dechrau cael criw at ei gilydd ddiwedd 2023. 

Bydd llong sy'n gysylltiedig ag Abertawe, HMS SCOTT – y llong Arolygu Cefnforoedd fwyaf yng Ngorllewin Ewrop – yn destun gwaith adnewyddu mawr er mwyn ymestyn ei hoes, a bydd ei hoes weithredol yn awr yn cael ei ymestyn hyd at 2033.

Mae HMS SEVERN yn parhau i gynnal Patrolau Diogelu Pysgodfeydd ledled y DU, gan hyfforddi cenhedlaeth nesaf y Llynges Frenhinol o fordwywyr ar yr un pryd. Cafodd y llong ei henwi’n gyd-enillydd yng Ngwobrau Lluoedd Arfog Cymru 2023 am ymdrechion y criw i achub bywydau pan suddodd cwch mewnfudwyr mewn dyfroedd geirwon yn y Sianel yn Lloegr.

Mae’r timau Ymgysylltu a Denu yn parhau i fod yn wyneb i'r Llynges Frenhinol yma o ddydd i ddydd yng Nghymru, ac yn parhau i lywio, ysbrydoli a chwalu rhwystrau. Gellir eu gweld yn aml yn cefnogi digwyddiadau amlddiwylliannol yn ogystal â mynychu sioeau megis Sioe Awyr Cymru a Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru. Mae'r tîm yn defnyddio Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yn rheolaidd i ymgysylltu â chynulleidfaoedd, yn ogystal ag offer Realiti Rhithwir er mwyn galluogi cyfranogwyr i brofi sut beth yw bod yn beilot F35 neu godi oddi ar long mewn Hofrennydd Merlin.

Y Fyddin

Mae’r Fyddin yng Nghymru wedi parhau i gefnogi pobl Cymru drwy baratoi i fyddino milwyr mewn achosion o weithredu diwydiannol, yn ogystal â chymryd rhan mewn cyfleoedd hyfforddi ar gyfer gweithrediadau cadernid yn y DU gydag asiantaethau partner yng Nghymru.

Roedd eleni yn wahanol i unrhyw flwyddyn arall o ran yr ymrwymiadau seremonïol mewn perthynas â marwolaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines a'r trefniadau yng Nghymru ar gyfer esgyniad y Brenin newydd. Canlyniad hyn oedd cyfnod dwys o weithgarwch seremonïol a chefnogol.

Mae Tîm Ymgysylltu’r Frigâd wedi parhau i fod yn eithriadol o brysur, gan ddefnyddio digwyddiadau fel dathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog, Saliwtiau Gynnau Brenhinol, Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru a nifer o sesiynau briffio Grŵp Ymgysylltu’r Fyddin i roi gwybod i’r cyhoedd am yr hyn y mae’r Fyddin yn ei wneud a’r cyfleoedd y gall eu cynnig i rywun sy’n ystyried gyrfa naill ai yn y Fyddin Reolaidd neu’r Fyddin Wrth Gefn. Ar ben hynny, rydym wedi darparu gweithgareddau priodol i ymgysylltu â phobl ifanc er mwyn cefnogi sefydliadau addysgol ledled Cymru.

Mae tua 1,200 o aelodau rheolaidd a 1,000 o aelodau wrth gefn o’r Fyddin yng Nghymru ac mae tua 7% o holl aelodau Byddin y DU yn dod o Gymru. Ar ben hynny, mae cyn-filwyr Cymru yn cyfrif am dros 4% o’r boblogaeth ac rydym yn gwerthfawrogi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i sicrhau mai Cymru yw’r lle gorau i aelod o’r Lluoedd Arfog wasanaethu ynddo neu'r lle gorau i gyn-filwyr ymgartrefu ynddo. Mae enghreifftiau o’r ymrwymiad hwn yn cynnwys cymorth i alluogi’r Cynllun Gofal Plant cofleidiol, ariannu tîm Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg Cymru, rhoi cymorth i'r Ffair Pontio Gyrfaoedd, a rhoi cefnogaeth barhaus i Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog.

Mae Brigâd 160 (Cymru) wedi cyflwyno ymarfer llwyddiannus arall, PATRÔL Y CAMBRIAN, yr ymarfer patrolio byd-enwog sydd â dros 1,000 o gyfranogwyr mewn timau o 8, gan gynnwys 43 o dimau o wledydd tramor. Mae wedi cael ei enw da fel ‘Y Gemau Olympaidd ym maes Patrolio’ yn bennaf oherwydd hinsawdd a thirwedd Cymru, ac mae cael cyfranogiad cenedlaethol a rhyngwladol yn rhoi Cymru ar fap y byd. 

Y Llu Awyr Brenhinol

Mae’r Awyrlu Brenhinol (RAF) yng Nghymru wedi cael blwyddyn brysur yn darparu hyfforddiant hanfodol i sicrhau bod gan yr Awyrlu'r criw sydd ei angen arno yn yr awyr ac ar y tir i gyflawni’r Genhadaeth Amddiffyn.

Mae RAF y Fali yn parhau i fod yn brif ganolfan gweithgarwch ar gyfer yr Awyrlu Brenhinol, gan hyfforddi peilotiaid jetiau cyflym a chriwiau awyr hofrenyddion, a chefnogi dros 1200 o swyddi sifil medrus iawn. Mae Canolfan Cadernid yr RAF yng Nghrucywel hefyd yn hyfforddi tua 2,500 o staff yr Awyrlu Brenhinol y flwyddyn, gan ddefnyddio mannau awyr agored gwych Cymru i roi amrywiaeth o heriau hyfforddi anturus i recriwtiaid sy'n dechrau arni er mwyn meithrin cadernid personol a sgiliau gwaith tîm.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Awyrlu Brenhinol wedi trefnu a chefnogi amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ymgysylltu ym mhob cwr o Gymru, gan roi cyfle i bobl Cymru gwrdd â staff yr Awyrlu Brenhinol a deall mwy am y gwaith rydym yn ei wneud. Roedd angladd Ei Mawrhydi'r Frenhines ac esgyniad Ei Fawrhydi'r Brenin Charles yn rhan flaenllaw o'r cyfnod hwn, a chwaraeodd yr Awyrlu Brenhinol ran lawn yn y digwyddiadau hyn. Mae digwyddiadau mawr eraill o bwys wedi cynnwys Diwrnod Lluoedd Arfog Cymru, presenoldeb yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, ynghyd â Sioe Awyr Cymru yn Abertawe a Sioe Awyr y Rhyl.

Ar y cyd â Fforwm Gofod ac Awyrofod Cymru, fe wnaeth yr Awyrlu Brenhinol gyd-noddi Gweithdy Gofod yng Nghaerdydd ym mis Ebrill. Nod y Gweithdy Gofod oedd sicrhau bod Sector Gofod Cymru yn ymwybodol o gynlluniau'r Weinyddiaeth Amddiffyn i fuddsoddi ym maes Gofod a rhoi cyfle i ymgysylltu.

Mae digwyddiadau llai eraill wedi cynnwys cefnogi gweithgareddau amrywiol ar gyfer cyn-filwyr yng Nghymru, gan gynnwys ymweliad Swyddog Awyr Cymru ag un o’r canolfannau cyn-filwyr mwyaf yn Ne Cymru (“Cyn-filwyr y Cymoedd” yn Nhonpentre) lle bu'n siarad â nhw am yr Awyrlu Brenhinol yng Nghymru ac yn gweld yr ystod eang o weithgareddau maen nhw’n eu trefnu ar gyfer eu cymuned sylweddol o gyn-filwyr. Fe wnaeth yr Awyrlu Brenhinol hefyd gefnogi digwyddiad a drefnwyd gan KIRAN Cymru (sefydliad gwrth-hiliol yng Nghymru), a oedd yn cynnwys arddangosfa yn ymwneud â’r Ail Ryfel Byd yn tynnu sylw at bobl o dras Indiaidd a oedd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Prydain.

Yn olaf, mae rhaglen STEM yr RAF yn parhau â’i gwaith rhagorol yma yng Nghymru. Yn ystod blwyddyn ysgol 2022 i 2023, fe wnaeth y rhaglen hon ymgysylltu’n uniongyrchol ag 165 o ysgolion yng Nghymru, gan hefyd gynnal 7 digwyddiad aml-ysgol (yn cynnwys cyfanswm o 81 o ysgolion). Daethom â'r flwyddyn ysgol i ben drwy gynnal seremonïau gwobrwyo yn y gogledd a'r de i ddathlu llwyddiannau ysgolion Cymru yn rhai o gystadlaethau STEM yr Awyrlu Brenhinol a gynhaliwyd gennym drwy gydol y flwyddyn. Gan ystyried pob agwedd ar ein rhaglen STEM, sydd hefyd yn cynnwys Gwersylloedd STEM, ymgysylltu uniongyrchol ac anuniongyrchol (rhithwir), mynediad at adnoddau STEM am ddim wedi’u mapio yn unol â'r cwricwlwm, a rhaglenni partner; rydym yn amcangyfrif bod tua 440 o ysgolion yng Nghymru a 65,000 o ddisgyblion yng Nghymru wedi cymryd rhan yn ein rhaglen STEM dros y flwyddyn ddiwethaf.

Bydd rhaglen STEM yr Awyrlu Brenhinol, sy’n canolbwyntio ar y grŵp 9 i 13 oed, ac yn benodol ar hyrwyddo manteision STEM i ferched a phlant sydd dan anfantais gymdeithasol yn ehangach, yn parhau i fod yn elfen bwysig o waith ymgysylltu’r Awyrlu Brenhinol yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod.

Darpariaeth Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog

Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau â'i chyllid grant blynyddol o £275,000 i awdurdodau lleol yng Nghymru i gynnal rhwydwaith o Swyddogion Cyswllt ar draws y cyfnod hwn. Mae Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yn gweithio ar sail ranbarthol gan gefnogi 7 clwstwr o awdurdodau lleol ac asiantaethau partner. Mae llawer o’u hymdrechion dros gyfnod yr adroddiad hwn wedi bod tuag at wella ymwybyddiaeth o’r ‘Ddyletswydd Sylw Dyladwy’ ar gyfer Cyfamod y Lluoedd Arfog, ond mae cymorth drwy gyfeirio, cydlynu gweithgareddau a chefnogi mentrau lleol wedi parhau ochr yn ochr â hyn. Mae’r canlynol yn rhoi enghreifftiau o weithgarwch Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog.

Gogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam

  • Gwella ymwybyddiaeth a dysgu: Mae hyfforddiant ar y Ddyletswydd Sylw Dyladwy wedi cael ei ddarparu i 345 o staff ar draws y 6 ardal awdurdod lleol ers mis Hydref 2022. Yn dilyn yr hyfforddiant, dywedodd 86% o’r rheini a gafodd hyfforddiant y byddent yn ‘gofyn y cwestiwn’ ar ôl y sesiwn ac yn ceisio adnabod cymuned y Lluoedd Arfog.

De-orllewin Cymru: Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr

  • Cydweithio a chefnogi teulu cyfan y Lluoedd Arfog: Gweithio gyda’r Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol i gynnal Digwyddiad i Blant y Lluoedd Arfog ym Mhort Talbot, yn Ysgol Cwm Brombil. Daeth 40 o blant y lluoedd arfog o Gastell-nedd Port Talbot i'r digwyddiad, gan amrywio o blant yn y Cyfnod Sylfaen i bobl ifanc 16 oed. Cydweithiodd y Swyddog Cyswllt â'r Swyddog Cyswllt ar gyfer Gorllewin Cymru hefyd ar weithdy data plant y Lluoedd Arfog gyda'r awdurdodau lleol perthnasol.

Gorllewin Cymru: Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro

  • Mae'r Swyddog Cyswllt wedi parhau i gysylltu cyn-filwyr â darparwyr cymorth yn y gymuned. Mae hyn yn cynnwys parhau i ddatblygu'r prosiect clwb brecwast sydd â lleoliadau yn Sir Benfro (Doc Penfro a VC Gallery yn Hwlffordd), Neuadd Ymarfer Llanelli (Links), a Chlwb Pêl-droed Aberystwyth (Woody’s Lodge). Mae lleoliad ychwanegol yng Nghaerfyrddin yn cael ei ystyried.

Powys

  • Cefnogi’r Lluoedd Arfog ar draws ardaloedd gwledig: Mae canolfannau / grwpiau cymorth i gyn-filwyr wedi cynyddu ledled y sir ac mae 6 gwasanaeth galw heibio misol sefydlog bellach ar waith yn Aberhonddu, y Gelli Gandryll, y Drenewydd, Llandrindod, y Trallwng a Machynlleth. Hefyd, yn ystod y cyfnod adrodd, lansiwyd yr unig ‘Ganolfan Symudol i Gyn-filwyr’ yng Nghymru. 

Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf

  • Diwallu anghenion grwpiau amrywiol o gyn-filwyr: Sefydlodd y Swyddog Cyswllt grŵp cymorth/sesiynau galw heibio newydd ar gyfer cyn-filwyr a gwasanaethau golau glas ym Mhontypridd ym mis Ionawr 2023 gyda Woody’s Lodge, a chyd-gynhaliodd grŵp cymorth i gyn-aelodau o'r lluoedd arfog sy'n LHDTC+, gan weithio gyda Fighting with Pride.

Caerdydd, Bro Morgannwg

  • Cefnogi cyflogaeth a gwaith achos ar gyfer y Lluoedd Arfog: Cynlluniau Gwarantu Cyfweliad wedi’u cynnwys ym mholisïau Adnoddau Dynol cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg. Darparu Gwasanaeth Cynghori i Gyn-filwyr a gweithio gyda chleientiaid i ddatrys problemau, gan gynnwys rhai sy'n ymwneud â thai.

Gwent

  • Cefnogi’r gwaith o gyflawni Deddf y Lluoedd Arfog a'r Ddyletswydd Sylw Dyladwy: Yn ardal Gwent (Caerffili, Torfaen, Casnewydd, Sir Fynwy a Blaenau Gwent) ers mis Hydref, sef pan ddechreuodd yr hyfforddiant, roedd 222 o aelodau staff wedi cael hyfforddiant Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog ar draws meysydd tai, addysg, aelodau etholedig, uwch arweinwyr, gwasanaethau i gwsmeriaid a gwasanaethau cymdeithasol. Cynhelir sesiynau’n fisol ac maent hefyd yn cynnwys asiantaethau allanol megis Cyngor ar Bopeth.

Ymarfer cwmpasu cyn-filwyr/strategaeth y DU ar gyfer ein cyn-filwyr: diweddariad ar gynnydd

Mae'r Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr yn cynrychioli fframwaith gweithgarwch dan arweiniad Llywodraeth Cymru sy’n cyfrannu at y gwaith parhaus o gyflawni Strategaeth y DU ar gyfer ein Cyn-filwyr. Cyhoeddwyd yr argymhellion a'r adroddiad terfynol ym mis Ionawr 2020 ar y cyd â Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban. 

Isod ceir diweddariad ar y cynnydd a gyflawnwyd hyd yma:

Cynnydd yn erbyn argymhellion

Tai

Argymhellion
  • Adolygu ac argymell unrhyw ddiweddariadau i ganllawiau tai Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau rhagor o gysondeb ac ymwybyddiaeth o'r Lluoedd Arfog ymysg staff tai.
  • Ystyried diwygio'r angen blaenoriaethol i gynnwys cyn-filwyr â chyflyrau sy'n gysylltiedig â Gwasanaeth.
  • Ystyried diwygio canllawiau tai i gydnabod gwŷr a gwragedd sydd wedi ysgaru / gwahanu.
  • Annog a hyrwyddo'r arfer o gasglu data ar gyn-filwyr sy'n gwneud cais am dai cymdeithasol, gan wneud yn siŵr eu bod yn cael eu nodi ar y pwynt mynediad.
Cynnydd hyd yma
  • Rydym wedi gweithio gyda'r Swyddfa Materion Cyn-filwyr ac Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog ar ddarparu Operation Fortitude yng Nghymru. Mae Alabaré wedi cael ei ddewis fel partner cyflenwi yn y rhaglen, sydd wedi’i dylunio i ddileu digartrefedd ymysg cyn-filwyr.
  • Buom yn gweithio gyda’r Panel Adolygu Arbenigol yn archwilio deddfwriaeth digartrefedd yng Nghymru i sicrhau ei fod yn cael adborth gan elusennau sy’n cynrychioli cyn-filwyr yng Nghymru.
  • Mae Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yn gweithio gydag awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i hyrwyddo’r gwaith o gofnodi statws y Lluoedd Arfog mewn gwasanaethau sy’n ymwneud â thai. 

Gofal iechyd

Argymhellion
  • Hyrwyddo ac annog yr arfer o nodi cyn-filwyr yn y system gofal iechyd.
  • Hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o faterion cyn-filwyr ymysg staff iechyd.
  • Gwneud yn siŵr bod triniaeth iechyd meddwl i gyn-filwyr yng Nghymru'n bodloni'r angen presennol.
  • Gwneud yn siŵr bod darparwyr cymorth iechyd meddwl, fel GIG Cymru i Gyn-filwyr, yn ymgysylltu â charcharorion cyn iddynt gael eu rhyddhau.     
  • Gwneud yn siŵr bod cyn-filwyr sydd â phroblemau yn ymwneud â chamddefnyddio sylweddau yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gael gafael ar wasanaethau.
  • Gwneud yn siŵr bod prosthetyddion y Ganolfan Cyfarpar ac Aelodau Artiffisial yn cael hyfforddiant priodol i ymateb i ddatblygiadau technolegol newydd. Sefydlu fforwm i ystyried darparu gwasanaethau prosthetigau i gyn-filwyr.
Cynnydd hyd yma
  • Rydym wedi darparu £920,000 i gefnogi GIG Cymru i Gyn-filwyr gyda'i waith i ddarparu cymorth iechyd meddwl i gyn-filwyr sydd â chyflyrau sy’n gysylltiedig â’r lluoedd arfog. 
  • Mae gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru wedi cefnogi 253 o gyn-filwyr yn ystod 2022 i 2023. 
  • Rydym wedi darparu £332,535 ‌‌drwy ein Polisi Prostheteg i Gyn-filwyr er mwyn sicrhau bod cleifion sy'n gyn-filwyr yn cael y gofal prosthetig sydd ei angen arnynt.
  • Rydym wedi darparu £50k er mwyn i brosthetyddion gael hyfforddiant ar y technolegau newydd sydd eu hangen arnynt i gefnogi cyn-filwyr.
  • Fe wnaethom sefydlu fforwm newydd yn 2020 gan ddod â’r GIG, BLESMA a WHSSC at ei gilydd i rannu gwybodaeth a nodi materion sy’n wynebu cymuned y Lluoedd Arfog.
  • Fe wnaethom weithio gyda’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru a Rhwydwaith Trawma De Cymru i ddatblygu Rhwydwaith Trawma Cyn-filwyr Cymru, gan sicrhau bod y cyn-filwyr hynny sydd â’r cyflyrau mwyaf difrifol sy’n gysylltiedig â gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog yn cael y gofal sydd ei angen arnynt. 
  • Cafodd gwaith ei wneud ar ganllawiau newydd i fyrddau iechyd lleol yng Nghymru ynghylch ystyried cyn-filwyr fel mater o flaenoriaeth. Mae'r canllawiau hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gymorth i deuluoedd y Lluoedd Arfog ac mae disgwyl iddynt gael eu cyhoeddi ym mis Mehefin 2023. 
  • Cafodd gwaith ei wneud hefyd ar gynllun meddygon teulu newydd i gyn-filwyr sy’n cefnogi meddygfeydd ac yn sicrhau bod ganddynt fwy o wybodaeth am gyn-filwyr a chymuned ehangach y Lluoedd Arfog a mwy o ymwybyddiaeth ohonynt. Disgwylir hefyd i'r cynllun hwn gael ei lansio ym mis Mai 2023.

Cyflogaeth

Argymhellion

  • Hyrwyddo'r sgiliau a'r manteision mae'r rheini sy'n gadael y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr yn gallu eu cyfrannu at y gweithle.
  • Lansio a hyrwyddo Swyddi i Deuluoedd y Lluoedd gyda'r Ffederasiwn Teuluoedd yng Nghymru. Partneriaid a'r sector i hyrwyddo'r fenter hon i fuddiolwyr.
  • Helpu i wneud yn siŵr bod cyn-filwyr yn gallu cysylltu'r sgiliau a enillwyd yn ystod Gwasanaeth â'r sgiliau sydd eu hangen mewn gweithleoedd sifil.

Cynnydd hyd yma

  • Rydym wedi gweithio gyda Chymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a'r Cadetiaid, y Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd a Gyrfa Cymru i sefydlu digwyddiad cyflogaeth newydd i gyn-filwyr yn Ne Cymru. Cafodd hwn ei gynnal yn 2021 a 2022, a bydd yn cael ei gynnal eto yn 2023.
  • Rydym wedi ymrwymo i gynnal ffair swyddi i'r Lluoedd Arfog yng Ngogledd Cymru yn 2024.
  • Rydym wedi cefnogi’r Rhaglen Eich Sgiliau Eich Dyfodol, a ddatblygwyd gan Places for Growth a Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog ar gyfer Gwent.

Astudiaeth achos:

Ym mis Tachwedd 2022, cynhaliodd Llywodraeth Cymru a phartneriaid ail ffair cyflogaeth i gyn-filwyr a phobl sy’n gadael y Lluoedd Arfog. Cafodd y digwyddiad yn 2022 ei ddatblygu gan Grŵp Gweithredu Cyflogaeth Llywodraeth Cymru, sy'n bwrw ymlaen â Strategaeth y DU ar gyfer ein Cyn-filwyr. Mae gwaith y Grŵp yn seiliedig ar dystiolaeth o ymgynghoriad yr Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr a glywodd gan dros 1,000 bobl sy'n gadael y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr, teuluoedd a sefydliadau.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys anerchiad gan y prif siaradwr, Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Yn ystod y dydd, gallai cyn-filwyr a phobl sy'n gadael y lluoedd arfog ymgysylltu’n uniongyrchol â bron i 50 o gyflogwyr mewn ffair swyddi bwrpasol, ynghyd â sefydliadau cymorth eraill. Darparodd cyflogwyr, gan gynnwys Palletways ac Allan Webb, wybodaeth allweddol i’r rhai a oedd yn bresennol am y rolau sydd ar gael yn eu sefydliadau a’r cyfleoedd ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog. Roedd dros 160 o gyn-filwyr a phobl sy’n gadael y lluoedd arfog yn bresennol a gwnaed o leiaf 21 cynnig cyflogaeth o ganlyniad i’r digwyddiad. Hefyd, ers y digwyddiad, gwelwyd y nifer uchaf erioed o leoliadau ledled Cymru drwy’r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd.

Yn ogystal â hyn, cymerodd cyflogwyr a sefydliadau ran mewn sesiwn gynadledda a oedd yn hyrwyddo gwerth a sgiliau Cymuned y Lluoedd Arfog. Roedd y sesiwn hon yn cynnwys Llywodraeth Cymru a Rheoli Cysylltiadau Amddiffyn, ochr yn ochr â chyflogwyr yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. 

Cymorth cymunedol a phontio

Argymhellion

  • Llywodraeth Cymru i weithio gyda sector y Lluoedd Arfog yng Nghymru i gefnogi a gwella'r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd/y Gwasanaeth Cymorth wrth Adael y Lluoedd Arfog yng Nghymru.
  • Gwella'r cyfeiriadau a'r wybodaeth sydd ar gael i bobl sy'n gadael y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a theuluoedd, er mwyn eu helpu i ymgartrefu yn y gymuned.

Cynnydd hyd yma

  • Sefydlwyd Grŵp Gweithredu ar Bontio yn 2020 ac mae wedi dod â phartneriaid sy’n cefnogi cymorth pontio yng Nghymru at ei gilydd yn rheolaidd i gydweithio a meithrin cysylltiadau ar draws asiantaethau allweddol.
  • Gan weithio gyda’r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd, y Tri Gwasanaeth a’r Grŵp Gweithredu ar Bontio, fe wnaethom gynhyrchu’r Canllaw Adsefydlu cyntaf ar gyfer Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021. Hyrwyddwyd hwn ar draws y Tri Gwasanaeth a'r Ffederasiynau Teuluoedd.
  • Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, cynhaliwyd 5 gweithdy Pontio Gyrfaoedd yng Nghas-gwent a 3 yng Nghaerdydd i gefnogi 96 o gyn-filwyr a phobl sy’n gadael y Lluoedd Arfog.
  • Ers mis Chwefror 2023, mae 132 o gyflogwyr newydd yng Nghymru wedi bod yn ymwneud â’r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd, gan hysbysebu swyddi byw drwy’r llwyfan Right Job, mynd i Ffeiriau Cyflogaeth, cyfrannu at gylchlythyr sydd â chyrhaeddiad rhanbarthol a chenedlaethol, a chymryd rhan mewn rhith-gyflwyniadau gan gyflogwyr sydd ar gael i gyn-filwyr a phobl sy’n gadael y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae nifer y lleoliadau gyda chyflogwyr yng Nghymru ar ei lefel uchaf ers 5 mlynedd.
  • Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cwrdd yn rheolaidd â thîm Dysgu a Datblygu Sgiliau Talent y Weinyddiaeth Amddiffyn i gefnogi’r cynnig pontio yng Nghymru, ac mae wedi darparu adborth gan gyn-filwyr a phobl sy’n gadael y Lluoedd Arfog yng Nghymru i’r Weinyddiaeth Amddiffyn er mwyn helpu i lywio'r ddarpariaeth yn y dyfodol. 

Addysg

Argymhellion

  • Codi proffil anghenion plant y Lluoedd Arfog mewn ysgolion yng Nghymru, gan ddarparu cymorth ble mae angen a data gwell.

Cynnydd hyd yma

  • Parhaodd Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid blynyddol o £270k i gefnogi plant y Lluoedd Arfog ledled Cymru yn ystod 2022 i 2023.
  • Gall ysgolion ac awdurdodau lleol wneud cais am gyllid i redeg prosiectau yn ystod blwyddyn academaidd 2022 i 2023, gan gefnogi plant y Lluoedd Arfog.
  • Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi dechrau prosiect trawsadrannol i archwilio'r ffynonellau data a'r mecanweithiau presennol ar gyfer casglu gwybodaeth ar gyfer plant y Lluoedd Arfog, a dau grŵp arall o ddysgwyr agored i niwed: plant wedi'u mabwysiadu a gofalwyr ifanc.

Gwybodaeth/ymwybyddiaeth a chyllid

Argymhellion

  • Codi proffil a gwella ffrydiau gwybodaeth ymysg awdurdodau lleol a staff rheng flaen o ran y cymorth a'r gwasanaethau sydd ar gael i gymuned y Lluoedd Arfog.
  • Darparu gwybodaeth glir a hyfforddiant ar reolaeth ariannol ac atebolrwydd cyn pontio.
  • Cefnogi'r gwaith mae'r Adran Gwaith a Phensiynau a phartneriaid yn ei wneud yn barod i ymgysylltu â chymuned y Lluoedd Arfog a hyrwyddo rhwydweithiau/grwpiau cyn-filwyr.

Cynnydd hyd yma

  • Mae Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog wedi darparu hyfforddiant i awdurdodau lleol a chyrff yn y sector cyhoeddus ar gymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys goruchwylio Deddf y Lluoedd Arfog a’r Ddyletswydd Sylw Dyladwy.
  • Rydym wedi hyrwyddo'r cymorth ariannol a'r cymorth gyda chostau byw sydd ar gael yng Nghymru drwy swyddogion ailsefydlu sy’n gweithio ar draws y Tri Gwasanaeth. Rydym hefyd wedi hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael gan y sector elusennol.
  • Rydym wedi trefnu cynhadledd undydd ar gyfer mis Mai 2023, sy'n canolbwyntio ar gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog a chefnogi’r gwaith o gyflawni’r Ddyletswydd Sylw Dyladwy.
  • Buom yn gweithio gyda chyngor Swydd Warwick a Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog i ddatblygu pecyn hyfforddi ar Gyfamod y Lluoedd Arfog a'r Ddyletswydd Sylw Dyladwy ar gyfer staff rheng flaen. Mae hwn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. 

Cyfiawnder Troseddol

Argymhellion

  • Adeiladu ar y cymorth sydd mewn lle yn barod ar gyfer nodi cyn-filwyr sy'n dod yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol.
  • Codi ymwybyddiaeth o'r wybodaeth sydd ar gael am gymorth ar lefel leol i'r rheini sy'n gadael y ddalfa.

Cynnydd hyd yma

  • Yn 2021, sefydlwyd fforwm i ddod â GIG Cymru i Gyn-filwyr, swyddogion cymorth i gyn-filwyr yn y carchar a Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog at ei gilydd i wella’r cymorth sydd ar gael i gyn-filwyr yn y system Cyfiawnder Troseddol. Roedd hefyd yn gyfle i gyfnewid gwybodaeth allweddol.
  • Treialodd GIG Cymru i Gyn-filwyr, ar y cyd â Llywodraeth Cymru a'r ystad gofal iechyd yn y carchar, lwybr gofal integredig i gyn-filwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â'u cyfnod yn y Lluoedd Arfog sydd mewn carchardai yng Nghymru ar hyn o bryd.
  • Gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a phartneriaid, rydym wedi gweithio gyda Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a’r Heddluoedd i helpu i adnabod a chyfeirio cyn-filwyr yn y System Cyfiawnder Troseddol.
  • Mae Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog wedi darparu hyfforddiant i staff yn y system cyfiawnder troseddol i wella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o wasanaethau cymorth lleol y Lluoedd Arfog. 
  • Rydym wedi cefnogi gwasanaethau cymorth i gyn-filwyr, gan gynnwys yn CEF Berwyn yng Ngogledd Cymru. 

Gweithgarwch Ychwanegol

Er bod yr Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr wedi bod yn ffocws ar gyfer gweithgarwch ac yn bwynt cyfeirio cyson, mae meysydd gweithgarwch eraill i dynnu sylw atynt yn yr adroddiad hwn hefyd. Isod ceir detholiad o weithgareddau perthnasol a manylion ychwanegol am ddatblygiadau allweddol:

Diwrnod y Lluoedd Arfog

Parhaodd Llywodraeth Cymru i gefnogi un awdurdod lleol bob blwyddyn i gynnal dathliad Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghymru, gan ddarparu grant o £20,000. Yn 2022, cynhaliwyd y digwyddiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyda dros 300 o staff y lluoedd arfog a chyn-filwyr yn gorymdeithio drwy’r ddinas. Ymunodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol a'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd â'r torfeydd i dalu teyrnged i waith y Lluoedd Arfog ac ymgysylltu â'r Tri Gwasanaeth.

Iechyd

Cefnogi cyn-filwyr sydd wedi colli braich neu goes

Yng Nghymru, mae Polisi Prostheteg Cyn-filwyr sy’n sicrhau bod cyn-filwyr sydd â chyflyrau y gellir eu priodoli i'w gwasanaeth gyda'r Lluoedd Arfog yn gallu cael gafael ar y cymorth prosthetig sydd ei angen arnynt i’w cefnogi yn eu bywydau. Rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023, roedd cyfanswm y gwariant ar gymorth prosthetig i gyn-filwyr yng Nghymru yn £332,535 gyda 42 o gleifion sy'n gyn-filwyr wedi cofrestru ar draws y Canolfannau Aelodau Artiffisial yng Nghaerdydd, Abertawe a Wrecsam.

Cyfarfu fforwm Prostheteg y Lluoedd Arfog Llywodraeth Cymru, sy’n dod â’r GIG, BLESMA, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a chanolfannau aelodau artiffisial at ei gilydd, ddwywaith. Mae’r fforwm, a sefydlwyd yn 2020, yn galluogi’r rheini sy’n darparu gwasanaethau i gyn-filwyr sydd wedi colli braich neu goes i rannu adborth a chydlynu cymorth.

Ian Massey, Prosthetydd clinigol arweiniol, Canolfan aelodau artiffisial a chyfarpar Caerdydd:

Mae gennym nifer o gyn-filwyr sy’n defnyddio ein gwasanaethau prosthetig ac mae gennym bolisi Cymru gyfan ar gyfer rhoi darpariaeth well i'r cyn-filwyr hynny sydd wedi colli braich neu goes o ganlyniad i wasanaethau yn y Lluoedd Arfog. Mae gennym gefnogaeth lawn ein comisiynwyr i ariannu’r lefel hon o wasanaeth ar gyfer ein cymuned o gyn-filwyr. Mae ein prosesau cymeradwyo mewnol yn gyflym a hyd yma, rydym wedi gallu cyflenwi pob cais rydym wedi’i wneud ar ran y grŵp hwn o gleifion.

Cawsom ein gwahodd i fod yn rhan o grŵp Lluoedd Arfog Llywodraeth Cymru pan gafodd ei sefydlu. Mae hyn yn rhoi mynediad uniongyrchol i ni at gynrychiolwyr y gymuned o gyn-filwyr yn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y comisiynydd cyn-filwyr sydd newydd gael ei benodi ar gyfer Gymru. Mae aelodau allweddol eraill yn cynnwys BLESMA a’n comisiynwyr. Mae’r fforwm hwn yn ein galluogi i glywed am ddatblygiadau sydd ar y gweill ar gyfer y gwasanaethau i gyn-filwyr ac mae'n gyfle i gyfrannu’n uniongyrchol at ddatblygiadau o’r fath yn ystod y cyfnod cynnar hwn.

Mae’n fforwm agored sy’n annog ac yn hwyluso trafodaethau dwyffordd am lefelau'r gwasanaeth a ddarparwn a chynnydd ein gwasanaethau. Mae’n ein galluogi ni i rannu ein llwyddiannau a’r heriau rydym yn eu hwynebu wrth ddarparu ein gwasanaethau yn uniongyrchol. Mae rhannu gwybodaeth fel hyn yn hanfodol er mwyn deall, datblygu a chefnogi unrhyw faterion sy’n codi. 

Mae’r fforwm yn ddatblygiad cadarnhaol iawn ac mae'n fraint bod yn rhan o rywbeth sy’n ein galluogi ni i rannu arferion gorau a hyrwyddo’r gwasanaethau i gyn-filwyr ar draws y tair canolfan prostheteg yng Nghymru.

Rhwydwaith Trawma Cyn-filwyr: Cymru

Parhaodd y Rhwydwaith Trawma Cyn-filwyr (VTN) yng Nghymru i gefnogi cyn-filwyr gyda'r anafiadau corfforol mwyaf cymhleth dros gyfnod yr adroddiad. Cafodd y gwasanaeth ei hyrwyddo yn Nigwyddiad Adferiad y Rhwydwaith Gwasanaethau Cyn-filwyr, yn y Gynhadledd Genedlaethol Op Restore, a’r Gynhadledd Fighting with Pride yng Nghymru. Dros y flwyddyn adrodd nesaf, bydd cynrychiolwyr VTN yn mynd i gyfarfodydd cyfamod rhanbarthol y Lluoedd Arfog, cyfarfod hyrwyddwyr Bwrdd Iechyd y Lluoedd Arfog Cymru Gyfan, y Gynhadledd Cyn-filwyr Benywaidd yng Ngogledd Cymru a Chynhadledd Rhwydwaith Trawma De Cymru i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth. Mae’r gwasanaeth hefyd wedi cael ei hyrwyddo i feddygon teulu ledled Cymru. 

Atal hunanladdiad

Yn 2022, sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Trawslywodraethol Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed. Nod y Grŵp yw cryfhau a sbarduno gwaith trawslywodraethol, gan gynnwys ym maes iechyd, tai, trafnidiaeth, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, plismona a lleoliadau carcharu, lles a chyflogaeth. Bydd y Grŵp hefyd yn sicrhau integreiddio ar draws sectorau aml-asiantaeth. 

Bydd swyddogion ar draws Llywodraeth Cymru, gan gynnwys tîm y Lluoedd Arfog, yn parhau i weithio ar y cyd â sector y Lluoedd Arfog yng Nghymru, wrth i ni ymgynghori ar strategaeth hunanladdiad a hunan-niwed newydd. 

Rydym wedi parhau i gefnogi ‘One is Too Many’, prosiect ymchwil Prifysgol Northumbria, a byddwn yn ystyried y canfyddiadau yng nghyd-destun gwasanaethau atal yng Nghymru. 

Gweithio gyda'n gilydd i gyflawni'r Ddyletswydd Sylw Dyladwy

Ym mis Mai 2022, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Forces in Mind, fe wnaethom gynnal cynhadledd undydd ar gyfer sector Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru, a oedd yn canolbwyntio ar gyflawni’r Ddyletswydd Sylw Dyladwy. Daeth dros 120 o gynrychiolwyr i'r gynhadledd, ac fe glywsant ddiweddariadau gan dîm Cyfamod y Weinyddiaeth Amddiffyn, Canolfan Ymchwil Iechyd Milwrol King’s, Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru a’r Ffederasiynau Teuluoedd. Cynhaliwyd gweithdai a oedd yn ymdrin â’r 3 maes polisi sy'n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd Sylw Dyladwy, iechyd, tai ac addysg, a oedd yn rhoi cyfle i ddarparwyr rannu profiadau ac adborth. 

Coffáu a Chydnabod

Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, ymunodd Gweinidogion Llywodraeth Cymru â digwyddiadau coffa cenedlaethol. 

Ym mis Mehefin 2022, ymunodd y Prif Weinidog â gwasanaeth cenedlaethol i nodi 40 mlynedd ers y gwrthdaro ar Ynysoedd Falkland yng Nghadeirlan Llandaf, gyda Chymdeithas Medalau De’r Iwerydd. Bu'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn nhaith feicio 'Falklands 40' yng Nghaerdydd ac yng Ngwasanaeth Coffa'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn y Goedardd Goffa Genedlaethol.

Ym mis Tachwedd 2022, ymunodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol â digwyddiad cofio'r Gymdeithas Gweddwon Rhyfel yn y Senotaff Genedlaethol. Bu’r Prif Weinidog yng Ngŵyl Cofio Cymru y Lleng Brydeinig Frenhinol ac yn nigwyddiad coffa Cymru yng Ngerddi Alexandra. 

Ym mis Tachwedd 2022, ychwanegwyd digwyddiad coffa cenedlaethol newydd yng Nghymru, wrth i Race Council Cymru gydlynu seremoni gosod torchau ar gyfer Aelodau Ethnig Leiafrifol o'r Lluoedd Arfog ac Aelodau o'r Gymanwlad a chymuned Windrush yng Ngerddi Alexandra, lle bu'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn bresennol.

Ymgysylltu â chyflogwyr

Fe wnaethom weithio’n agos gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn a’r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd i dynnu sylw at y cymorth cyflogaeth sydd ar gael yng Nghymru i gyn-filwyr a phobl sy’n gadael y Lluoedd Arfog. Ers mis Chwefror 2023, mae 132 o gyflogwyr newydd yng Nghymru wedi ymwneud â’r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd, gan hysbysebu swyddi byw drwy’r llwyfan Right Job a mynd i Ffeiriau Cyflogaeth, cyfrannu at gylchlythyr sydd â chyrhaeddiad rhanbarthol a chenedlaethol, a chymryd rhan mewn rhith-gyflwyniadau gan gyflogwyr sydd ar gael i gyn-filwyr a phobl sy’n gadael y Lluoedd Arfog yng Nghymru.

Mae digwyddiad Cyflogaeth De Cymru wedi'i drefnu ar gyfer mis Tachwedd 2023. Diben y digwyddiad yw tynnu sylw at swyddi gwag gyda chwmnïau yng Nghymru sy’n addas ar gyfer cyn-filwyr a phobl sy’n gadael y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd, gan ddangos manteision byw yng Nghymru ac adleoli i Gymru.

Gweithiodd Cymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a'r Cadetiaid gyda llofnodwyr Cyfamod y Lluoedd Arfog a'r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr i wella’r ymgysylltiad â chyflogwyr er budd y rheini sy’n gadael y Lluoedd Arfog. 

 

Ar ddiwedd 2022 i 2023, roedd 546 o lofnodwyr Cyfamod y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Ar gyfer yr un cyfnod, fel rhan o Gynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer sefydliadau yng Nghymru, enillwyd 43 medal Aur, 55 medal Arian a 210 medal Efydd. 

Cymorth i deuluoedd

Swyddi i Deuluoedd y Lluoedd

Gan weithio gyda Ffederasiwn Teuluoedd y Llynges Frenhinol, Ffederasiwn Teuluoedd y Fyddin a Ffederasiwn Teuluoedd yr Awyrlu Brenhinol, yn ystod y cyfnod hwn parhaodd Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y sector i hyrwyddo gwefan Swyddi i Deuluoedd y Lluoedd, sy’n hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth i deuluoedd y Lluoedd Arfog. 

Fe wnaethom gwrdd â Ffederasiwn Teuluoedd y Llynges Frenhinol, Ffederasiwn Teuluoedd y Fyddin a Ffederasiwn Teuluoedd yr Awyrlu Brenhinol i sicrhau bod anghenion teuluoedd y Lluoedd Arfog yn cael eu hystyried yn ein gwaith. Ymhlith y materion a godwyd yr oedd cynllun gofal plant cofleidiol y Weinyddiaeth Amddiffyn a mynediad at wasanaethau deintyddol, ac fe wnaethom weithio gyda chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Amddiffyn a gwasanaethau lleol i sicrhau bod y blaenoriaethau yn strategaeth Teuluoedd y Lluoedd Arfog yn cael eu cyflawni yng Nghymru.

Cyn-filwyr Profion Niwclear

Ym mis Tachwedd 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fedal newydd i gydnabod cyfraniad cyn-filwyr profion niwclear Prydain. Cyhoeddwyd cyllid hefyd i gefnogi llesiant cyn-filwyr ac i addysgu plant ysgol am y rhaglen profion niwclear. Roedd Cofio Gyda’n Gilydd: Cyn-filwyr Profion Niwclear, i gael ei ddarparu gan Syniadau Mawr, sefydliad sy’n gweithio gydag ysgolion a chymunedau lleol. Roedd pedair ffilm sy’n cynnwys cyfweliadau â chyn-filwyr profion niwclear i gael eu cynhyrchu ar y cyd â phlant ysgol uwchradd o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. 

Data

Mae hon wedi bod yn flwyddyn arwyddocaol o ran data a gweithiodd swyddogion Llywodraeth Cymru yn agos gyda chydweithwyr yn Llywodraeth y DU i sicrhau bod yr arolwg cyntaf o Gyn-filwyr y DU yn ystyried Cymru’n llawn. Cafodd yr arolwg 1,534 o ymatebion o Gymru a oedd yn cynrychioli 5.17% o'r cyfanswm ar gyfer y DU. 

Eleni, cyhoeddwyd y setiau data cyntaf o Gyfrifiad 2021 a oedd, am y tro cyntaf, yn gofyn cwestiwn am wasanaeth blaenorol yn y Lluoedd Arfog. Mae’r data hwn yn cael ei ddefnyddio i lywio penderfyniadau ar lefel leol ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi trefnu hyfforddiant ar gyfer Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog i alluogi ein swyddogion rheng flaen i greu eu setiau data personol eu hunain.

Cyn-filwyr benywaidd

Ym mis Mehefin 2022, fe wnaethom ariannu ein Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog ar gyfer Gwent i gynnal gweithdy i gyn-filwyr benywaidd, gan ddod â chyn-filwyr benywaidd at ei gilydd i rannu profiadau er mwyn llywio polisi yn y dyfodol. 

Plant y Lluoedd Arfog

Drwy gydol cyfnod yr adroddiad, gweithiodd tîm Cefnogi Plant mewn Addysg Cymru yn agos gyda swyddogion y llywodraeth, awdurdodau lleol, ysgolion, plant a phobl ifanc, gweithwyr addysg proffesiynol, teuluoedd y Lluoedd Arfog a sefydliadau cymorth, yn ogystal â’r Weinyddiaeth Amddiffyn. 

Fe wnaethant barhau i ddarparu amrywiaeth o gyngor a chymorth, gan gynnwys gwefan, ynghyd ag adnoddau gwybodaeth a phecynnau cymorth i ysgolion; hyfforddiant ymwybyddiaeth i athrawon; a rheoli cyllid o grant blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau ysgolion ac awdurdodau lleol. Cynyddodd diddordeb ysgolion mewn ennill achrediad Ysgolion sy'n Ystyriol o’r Lluoedd Arfog yng Nghymru, yn ogystal â nifer y cofrestriadau. Cefnogodd staff y prosiect ysgolion ac awdurdodau lleol i gynnal digwyddiadau i ddathlu Mis y Plentyn Milwrol a Diwrnod y Lluoedd Arfog. 

Adolygiad Annibynnol o Gyn-filwyr LDHT

Yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn, casglodd yr ‘Adolygiad Annibynnol o Gyn-filwyr LDHT’ dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Etherton KC dystiolaeth i ystyried effaith y ‘Gwaharddiad Hoyw’ a oedd yn bodoli ar draws y Lluoedd Arfog cyn 2000. Cyfarfu’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol â’r Arglwydd Etherton fel rhan o’r broses a chytunodd y dylai’r adroddiad gynnwys awgrymiadau i Lywodraeth Cymru eu hystyried. Bu swyddogion Llywodraeth Cymru a Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yn gweithio gyda’r Tîm Adolygu i helpu eu dealltwriaeth o wasanaethau datganoledig.

Ymgysylltu/ymweliadau

Yn ogystal â dangos cefnogaeth Gweinidogion i goffa a chydnabod, mae hon wedi bod yn flwyddyn brysur o ran gweithio gyda phartneriaid i godi proffil Cymuned y Lluoedd Arfog.

Elfen allweddol o gefnogi cydnabyddiaeth y cyhoedd o'r Lluoedd Arfog bob blwyddyn yw Diwrnod y Lluoedd Arfog. Yn 2022, cafodd y digwyddiad ei gynnal yn Wrecsam ac ym mis Mehefin 2023 mae cynlluniau i'w gynnal yng Nghasnewydd. 

Ymunodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol â digwyddiadau i godi proffil yr 'Adolygiad Annibynnol o Gyn-filwyr LHDT'. Roedd hyn yn cynnwys mynd i Encil Blynyddol yr elusen Fighting with Pride i Gyn-filwyr yn Llanberis ym mis Medi 2022, cyfarfod â'r Arglwydd Etherton, Cadeirydd yr Adolygiad ym mis Rhagfyr 2022 a siarad yng nghynhadledd Fighting with Pride Cymru ym mis Ionawr 2023.

Yn ogystal, aeth y Dirprwy Weinidog i Wobrau Cyn-filwyr Cymru ym mis Mehefin 2022 ac i seremoni gwobrau Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn ym mis Rhagfyr, gan annog cyflogwyr ledled Cymru i gefnogi'r rhai sy'n gadael y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr. 

Cynllun Nofio am Ddim y Lluoedd Arfog

Drwy gyllid Cynllun Nofio am Ddim y Lluoedd Arfog Llywodraeth Cymru, darparwyd 11,788 o sesiynau nofio am ddim i gyn-filwyr ac aelodau o’r lluoedd arfog dros gyfnod yr adroddiad.

Addysg Uwch

Darparwyd cyfanswm o £137,710 tuag at y Cynllun Addysg Bellach ac Uwch dros gyfnod yr adroddiad hwn, gan alluogi pobl sy'n gadael y Lluoedd Arfog ledled Cymru i elwa ar addysg bellach ac uwch.

Plant sydd wedi dioddef profedigaeth

‌Yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn, cyfrannodd Llywodraeth Cymru £55,160 tuag at Gynllun Ysgoloriaeth Profedigaeth y Lluoedd Arfog, gan roi cyfle i blant y rheini sydd wedi marw tra oeddent yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog gael dechrau da mewn bywyd drwy ysgoloriaethau.

Cydlynu a gweithio mewn partneriaeth

Fe wnaethom barhau i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod ein hymdrechion i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog a chyflawni’r Cyfamod yn cael eu cydlynu gyda’n holl bartneriaid. 

Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog

Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol fu'n cadeirio Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog ym mis Hydref 2022 a mis Mawrth 2023. Mae aelodau wedi ystyried pynciau allweddol fel cyflawni’r Ddyletswydd Sylw Dyladwy, gwaith Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog a’r argyfwng costau byw a’i effaith ar gymuned y Lluoedd Arfog. Bydd y Grŵp nawr yn dechrau ar gyfres o ‘ddadansoddiadau dwfn’ i archwilio materion allweddol yn fanwl ac awgrymu camau gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru a phartneriaid er mwyn llywio’r gwaith o gyflawni polisïau.

Y Weinyddiaeth Amddiffyn

Fe wnaethom weithio’n agos gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn a phartneriaid o’r llywodraethau datganoledig eraill i gydlynu ein gwaith. Mae hyn wedi cynnwys helpu i hwyluso gweminarau hyfforddi ar-lein ar y Ddyletswydd Sylw Dyladwy ar gyfer awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yng Nghymru. 

Y Swyddfa Materion Cyn-filwyr

Rydym yn aelodau o Weithgor Gweinyddiaethau Datganoledig y Swyddfa Materion Cyn-filwyr a buom yn gweithio’n agos gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Swyddfa Materion Cyn-filwyr ar arolwg Cyn-filwyr y DU. Rydym hefyd wedi ymgysylltu â’r Swyddfa Materion Cyn-filwyr ynghylch Op Fortitude i ddarparu gwasanaethau cymorth digartrefedd, ac rydym yn parhau i ymgysylltu a rhannu arferion gorau wrth gyflawni Strategaeth y DU ar gyfer ein cyn-filwyr.

Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru

Ym mis Mehefin 2022, penodwyd y Cyrnol (Wedi Ymddeol) James Phillips OBE gan Swyddfa’r Cabinet i ymgymryd â rôl y Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf yng Nghymru. Cyfarfu'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol â'r Comisiynydd ar sawl achlysur, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, a chyfarfu'r Comisiynydd hefyd â Gweinidogion Llywodraeth Cymru ar draws ystod o bortffolios.

Ym mis Ionawr 2023, cyflwynodd y Comisiynydd ei adroddiad cyntaf i Weinidogion y DU. Roedd asesiad y Comisiynydd yn ffafriol ar y cyfan, gan nodi bod Llywodraeth Cymru a darparwyr gwasanaethau yn ymwybodol o'r Cyfamod ac yn gefnogol o gyn-filwyr. Nodwyd pwysau ym meysydd gofal iechyd a thai cymdeithasol, er y cydnabuwyd nad oedd y rhain yn unigryw i Gymru. 

Mae'r meysydd arfer da a amlygir yn cynnwys canolfannau i gyn-filwyr, Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog a GIG Cymru i Gyn-filwyr.

Fforwm Hyrwyddwyr Byrddau Iechyd Lleol Llywodraeth Cymru

Mae Hyrwyddwyr Cyn-filwyr a’r Lluoedd Arfog yn bodoli ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru i eirioli dros gymuned y Lluoedd Arfog yn ardal eu bwrdd iechyd lleol. Mae’r Hyrwyddwyr hyn yn aelodau anweithredol o’r bwrdd sy’n cael eu cefnogi gan aelod arweiniol o’r bwrdd gweithredol. Rôl yr Hyrwyddwyr yw helpu i sicrhau bod anghenion cymuned y lluoedd arfog yn cael eu diwallu'n lleol; a helpu i wella'r cysylltiadau rhwng iechyd ac eiriolwyr cyhoeddus eraill ar gyfer cymuned y lluoedd arfog.

Ddwywaith y flwyddyn, mae’r Hyrwyddwyr, ynghyd â chynrychiolwyr o GIG Cymru i Gyn-filwyr, Brigâd 160 (Cymru) a Gofal Iechyd Sylfaenol Amddiffyn, yn cwrdd ag arweinwyr polisi iechyd y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr Llywodraeth Cymru i drafod cynnydd ar weithgarwch; materion newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg; rhannu arferion gorau; a hyrwyddo cysondeb y ddarpariaeth i gymuned y lluoedd arfog ledled Cymru. Cyfarfu'r Hyrwyddwyr ym mis Mai a mis Tachwedd 2022.

Yn ogystal â chael diweddariad gan fyrddau iechyd ar weithgarwch yn eu hardaloedd, trafodwyd yr eitemau canlynol:

  • Tynnodd Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru sylw at feysydd arfer da yng Nghymru a chyflwynodd ei flaenoriaethau. Dywedodd fod y Grŵp Hyrwyddwyr yn ategu ei rôl.
  • Cynlluniau ar gyfer cyhoeddi canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Bractisau Meddygon Teulu sy’n Ystyriol o Gyn-filwyr ar gyfer meddygon teulu, a datblygu a lansio'r Cynllun Achredu Practisau Meddygon Teulu sy'n Ystyriol o Gyn-filwyr, a reolir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
  • Cynlluniau ar gyfer canllawiau diwygiedig ar Gyfamod y Lluoedd Arfog – Blaenoriaeth Gofal Iechyd / Ystyriaeth Arbennig ar gyfer Cyn-filwyr / Cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog cyn y bwriad i'w hailgyflwyno ym mis Mehefin 2023 i bob Bwrdd Iechyd Lleol, Hyrwyddwyr y Lluoedd Arfog a phob meddyg teulu ledled Cymru.
  • Rheoli atgyfeiriadau trawsffiniol at y Gwasanaeth Orthopedig i Gyn-filwyr yn Ysbyty Robert Jones ac Agnes Hunt yng Nghroesoswallt, a hyrwyddo’r gwasanaethau teg sydd ar gael mewn byrddau iechyd ledled Cymru.
  • Gwasanaeth Dulliau Adferol i Gyn-filwyr a Theuluoedd a ddarperir gan Tros Gynnal Plant ac a ariennir gan Ymddiriedolaeth Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Grŵp Elusennau’r Lluoedd Arfog Cymru Gyfan

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn mynychu'r grŵp, dan gadeiryddiaeth y Lleng Brydeinig Frenhinol. Mae'r Grŵp wedi parhau i gyfarfod drwy gydol 2022-2023, gan ddod ag elusennau allweddol yng Nghymru a'r DU at ei gilydd i rannu arferion gorau a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu cymorth i gymuned y Lluoedd Arfog. Ym mis Mawrth 2023, cynhaliodd y grŵp ymarfer ysgrifenedig i gasglu enghreifftiau o effaith yr argyfwng costau byw ar gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru a chafodd hyn ei gyflwyno i Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog. 

Cafwyd adborth gan sefydliadau gan gynnwys VC Gallery yn Sir Benfro sy’n darparu cymorth a chyngor i gymuned y Lluoedd Arfog ar y cymorth y gallant ei gael gyda chostau byw. O ganlyniad i’r gwaith hwn, mae'r cymorth costau byw allweddol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cael ei hyrwyddo ar draws y sector i helpu i sicrhau bod aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wybodaeth am y cymorth y gallent fod â hawl iddo. 

Rhestr termau

  • AFC: Cyfamod y Lluoedd Arfog
  • AFCFT: Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog
  • AFEG: Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog
  • AFLO: Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog
  • ALAC: Canolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar
  • CTP: Partneriaeth Pontio Gyrfa
  • LHB: Bwrdd Iechyd Lleol
  • MODLAP: Partneriaeth Awdurdodau Lleol y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • MDT: Tîm Amlddisgyblaethol
  • OVA: Y Swyddfa Materion Cyn-filwyr
  • RBL: Y Lleng Brydeinig Frenhinol
  • RFCA: Cymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a'r Cadetiaid
  • RFEA: Cymdeithas Cyflogaeth y Lluoedd Arfog Rheolaidd
  • SP: Aelodau o'r Lluoedd Arfog
  • SSCE Cymru: Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog Mewn Addysg Cymru
  • STEM: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, a Mathemateg
  • RSLO: Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol
  • VNHSW: GIG Cymru i Gyn-filwyr
  • VTN: Rhwydwaith Trawma Cyn-filwyr
  • WHSSC: Pwyllgor Cydwasanaethau Iechyd Cymru
  • CLlLC: Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru