Cyfamod y Lluoedd Arfog: adroddiad blynyddol 2021
Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wneud yn ystod 2021 i sicrhau bod aelodau a chyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog a’u teuluoedd yn cael eu trin yn deg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyfamod y Lluoedd Arfog
Cyfamod parhaus rhwng pobl y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Ei Mawrhydi a hefyd pawb sydd neu a fu’n gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y Goron a'u teuluoedd.
Dyletswydd gyntaf y llywodraeth yw amddiffyn y deyrnas. Ein Lluoedd Arfog sy’n cyflawni'r cyfrifoldeb hwnnw ar ran y llywodraeth, gan aberthu agweddau ar eu rhyddid sifil, wynebu peryglon, ac weithiau dioddef anaf difrifol neu farwolaeth o ganlyniad i'w dyletswydd.
Mae teuluoedd hefyd yn chwarae rhan hanfodol mewn cefnogi gweithrediad effeithiol ein Lluoedd Arfog. Yn gyfnewid am hyn, mae gan y genedl gyfan ddyletswydd foesol i aelodau o’r Gwasaneth Morol, y Fyddin a'r Awyrlu, ac i’w teuluoedd.
Maen nhw'n haeddu ein parch a'n cefnogaeth, a chael eu trin yn deg.
Ni ddylai unrhyw un sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, p’un ai fel milwyr rheolaidd neu wrth gefn, y rhai sydd wedi gwasanaethu yn y gorffennol, na'u teuluoedd, wynebu unrhyw anfantais o'i gymharu â dinasyddion eraill wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a masnachol. Mae ystyriaeth arbennig yn briodol mewn rhai achosion, yn enwedig yng nghyswllt rhai a ddioddefodd anafiadau a phrofedigaeth.
Mae'r rhwymedigaeth hon yn berthnasol i bawb mewn cymdeithas: mae'n cynnwys cyrff gwirfoddol ac elusennol, sefydliadau preifat, a gweithredoedd unigolion yn cefnogi'r Lluoedd Arfog. Mae cydnabod rhai a gyflawnodd ddyletswydd filwrol yn uno'r wlad ac yn dangos gwerth eu cyfraniad. Nid oes ffordd well o fynegi hyn na thrwy ategu’r Cyfamod hwn.
Rhagair y gweinidog
Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r cyfnod rhwng mis Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022 a dyma’r trydydd adroddiad o’r fath lle mae COVID-19 yn gyd-destun i’r gweithgarwch a fu. Adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, mae COVID yn dal yn bryder i Lywodraeth Cymru er bod lefel yr ymateb a oedd yn gofyn am gefnogaeth filwrol wedi dod i ben, diolch byth. Unwaith eto, hoffwn gofnodi fy niolch i’r Lluoedd Arfog ar ran Llywodraeth Cymru am y ffordd y maent wedi parhau i’n cefnogi yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Yn wir, mae wedi bod yn gyfnod gwahanol ac anodd i lawer, a hynny’n cynnwys cyn-filwyr, ac roedd y dyddiau unig pan oedd COVID ar ei anterth yn ystod y cyfnod hwn yn anodd i’r gymuned honno hefyd. Mae cwmnïaeth, cyfarfod a rhannu llwyddiannau a thrafferthion, mor hanfodol i gynifer o gyn-filwyr. Er bod llawer o grwpiau ac unigolion wedi addasu trwy ddatrysiadau hyblyg, doedd hynny ddim cystal â chyswllt wyneb yn wyneb. Mae wedi bod yn bleser ailgychwyn yr ymweliadau i weld grwpiau o gyn-filwyr ar lawr gwlad.
Er gwaethaf yr heriau, mae llwyddiannau i’w dathlu o hyd yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn, yn enwedig:
- darparu’r ffair swyddi a’r gweithdy cyflogwyr cyntaf yng Nghymru ac i Gymru
- cyhoeddi ein Canllaw Adsefydlu cyntaf i Gymru
- sicrhau cyllid rheolaidd ychwanegol ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr
Yn ogystal ag edrych yn ôl ar yr hyn sydd eisoes wedi digwydd, dyma gyfle i edrych at y dyfodol hefyd ac, wrth wneud hynny, cyfeirio’n fras at ddatblygiadau allweddol a fydd yn siapio’r flwyddyn nesaf:
- wcráin: rôl y Lluoedd Arfog o ran cefnogi Wcráin drwy hyfforddiant a deunyddiau
- yr argyfwng costau byw: a’i effaith ar y rheini sy’n darparu gwasanaethau i gyn-filwyr ac ar y cyn-filwyr eu hunain
- bod â Chomisiynydd Cyn-filwyr Cymru, ymateb i’w eiriolaeth ar gyfer y gymuned cyn-filwyr
Yn olaf, ar ôl arwain y gwaith ar Gynllun Gweithredu LHDTC+ newydd Llywodraeth Cymru, rwy’n croesawu’r gydnabyddiaeth i’r cam a wnaed yn hanesyddol â’r rheini a fu’n gwasanaethu mewn amgylchedd gwahanol iawn i’r hyn ydyw heddiw yn y Lluoedd Arfog a hynny cyn 2000 pan oedd bod yn lesbiaidd neu’n hoyw yn drosedd. Rwy’n edrych ymlaen yn arbennig at adolygiad Etherton a’r cyfle i gyn-filwyr Cymru leisio eu barn.
Hannah Blythyn AS
Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Cyflwyniad
Bwriad adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gyfamod y Lluoedd Arfog yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu cymorth i gymuned y Lluoedd Arfog, aelodau a chyn-aelodau, yng Nghymru. Mae’n amlinellu’r cynnydd a’r cyflawniadau a sut mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid gan gynnwys llywodraeth leol, byrddau iechyd lleol, ysgolion, byd busnes a’r Lluoedd Arfog.
Mae’r adroddiad yn ymdrin ag amrywiaeth o themâu a darperir diweddariadau mewn adrannau ar wahân. Mae’n werth cofio bod cryn orgyffwrdd a chroesi rhyngddynt:
- coffáu a chofio
- troseddu a chyfiawnder
- addysg ac ysgolion
- bywyd teuluol
- cyllid a budd-daliadau
- tai
- iechyd a llesiant
- pontio i fywyd sifil a gwaith
Er bod gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol gyfrifoldeb portffolio dros oruchwylio’r gwaith o gyflawni Cyfamod y Lluoedd Arfog ar faterion lle mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb datganoledig, mae’r gwaith o gyflawni’r themâu hyn yn cael ei rannu ar draws nifer o wahanol Weinidogion, Dirprwy Weinidogion a’u timau ategol.
Mae'n bwysig cofio hefyd wrth ddarllen yr adroddiad hwn fod y Cyfamod a'i egwyddorion na ddylai neb wynebu anfantais a’r ystyriaeth arbennig i’r rhai sydd wedi aberthu fwyaf, megis y rhai sydd wedi dioddef anafiadau neu brofedigaeth ar gael, yn ôl yr angen ac yn y cefndir, i’r rhan fwyaf o aelodau a chyn-aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sylwadau gan grŵp arbenigol y lluoedd arfog
Mae Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog yn dwyn ynghyd gynrychiolwyr allweddol o bob rhan o sector y Gwasanaethau Arfog a Chyn-filwyr. Mae’n cwrdd â’r Dirprwy Weinidog ddwywaith y flwyddyn i helpu i lunio blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Gwahoddwyd aelodau’r Grŵp Arbenigol sy’n cynrychioli’r 3 Gwasanaeth Lluoedd Arfog, Elusennau a Ffederasiynau Teuluoedd y Gwasanaethau/Cyn-filwyr, Llywodaeth Leol a Gwasanaethau Iechyd i roi sylwadau ar adroddiad blynyddol eleni. Dychwelodd y Ffederasiwn Teuluoedd ar gyfer y tri gwasanaeth ymateb cyfunol sydd wedi’i nodi yn ymateb Ffederasiwn y Teuluoedd i Adroddiad Blynyddol Cyfamod 2021 Llywodraeth Cymru.
Hoffai Ffederasiynau Teuluoedd y Llynges Frenhinol, y Fyddin a’r Llu Awyr Brenhinol gydnabod cynnydd y llywodraeth yn erbyn yr ymrwymiadau a restrwyd yn ystod amgylchiadau heriol. Mae Cymru yn parhau i fod yn lleoliad cadarnhaol a chefnogol i’n Lluoedd Arfog a’n teuluoedd fyw a gweithio ynddo.
Roeddem yn ddiolchgar am y cyfle i annerch Cynhadledd Flynyddol Cymru ym mis Hydref 21, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y gwaith yr ydym yn ei wneud yn ogystal â’r problemau y mae ein teuluoedd yn dod ar eu traws.
Mae cyflwyno Strategaeth Teuluoedd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn darparu llwyfan cadarnhaol i fwrw ymlaen â’r gwaith sydd ei angen ar staff a theuluoedd ein lluoedd arfog. Rydym yn falch o weld ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn, y Ffederasiynau Teuluoedd a rhanddeiliaid eraill ar y prosiect hwn.
Ar hyn o bryd, mae teuluoedd milwrol yng Nghymru, a ledled y DU, yn wynebu heriau o ran cael gafael ar ofal deintyddol ac orthodontig. Byddwn yn parhau i weithio gyda darparwyr gofal iechyd lleol a Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw teuluoedd milwrol sy’n symud i Gymru o dan anfantais.
Rydym yn croesawu cyflwyno cynllun Gofal Plant cofleidiol y Weinyddiaeth Amddiffyn ond rydym yn cydnabod bod angen digon o ddarparwyr gofal plant er mwyn i hyn fod yn llwyddiant i’n teuluoedd. Mae heriau cyllido parhaus i deuluoedd ein Lluoedd Arfog sy’n ymgymryd ag Addysg Uwch ac Addysg Bellach, a byddwn yn parhau i weithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn a Llywodraeth Cymru ar hyn.
Yn dilyn COVID, mae mwy o bobl sy’n briod ag aelodau o’r Lluoedd Arfog neu sy’n bartneriaid iddynt yn awyddus i weithio gartref, a byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru i hyrwyddo’r cyfleoedd y mae Forces Families Jobs a’r Military Coworking Network yn eu cynnig. Mae RAF y Fali yn un o’r Unedau sydd â chanolfan Rhwydwaith Cydweithio Lluoedd Arfog bwrpasol.
Rydym yn cefnogi’n llwyr y penderfyniad i ddarparu cyllid tymor hir ar gyfer rhaglen Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru, yn ogystal â’r estyniad i ariannu Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog.
Rydym yn croesawu’r berthynas gydweithio agos barhaus â Llywodraeth Cymru i gefnogi cymunedau’r Lluoedd Arfog sy’n byw yng Nghymru.
Uchafbwyntiau'r lluoedd arfog
Roedd ‘Cysylltu, cefnogi a darparu’ yn themâu allweddol i’r 3 Gwasanaeth Lluoedd Arfog dros y cyfnod adrodd hwn, ac fe wnaethant barhau i gyfrannu at ymateb Llywodraeth Cymru i COVID-19 a dechrau dychwelyd at weithgarwch mwy traddodiadol hefyd.
Roedd y tri gwasanaeth a oedd yn adrodd i Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog ym mis Mawrth 2022 yn tynnu sylw at ymrwymiad bron i ddwy flynedd a oedd yn cynnwys:
- helpu i ddylunio, adeiladu a gosod cyfarpar yn ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality
- adolygu, gwella a helpu i ddarparu cyfarpar diogelu personol ac ocsigen
- darparu Profion Symudol
- cefnogi Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gyda gyrwyr a dyletswyddau dadhalogi
- cynllunio a darparu profion i gymunedau cyfan
- cefnogi’r rhaglen frechu yng Nghymru
Roedd hyn wedi cynnwys dros 1900 o Aelodau Rheolaidd ac Aelodau wrth Gefn o’r Llynges Frenhinol, y Fyddin a’r Awyrlu Brenhinol ac roeddent wedi cefnogi pob bwrdd iechyd yng Nghymru.
Adeg cyfarfod Grŵp Arbenigwyr mis Mawrth, roedd y Lluoedd Arfog yn edrych ymlaen at leihau eu cefnogaeth wrth i’r sefyllfa wella ac yn unol ag ymrwymiadau gweithredol eraill gan gynnal briff gwylio ar yr un pryd.
Yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn, cawsom newyddion am newid ym mhatrwm y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn y dyfodol yn sgil adolygiad amddiffyn Llywodraeth y DU. Roedd hyn yn cynnwys:
- parhad Barics Aberhonddu yn bencadlys i Frigâd 160 (Cymru)
- y posibilrwydd o ddatblygu barics newydd yng Nghaerwent, gan ddarparu cartref yn y dyfodol i fataliwn 1 y Reifflwyr a Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines o 2028 ymlaen
- cwmni Byddin wrth Gefn newydd ar gyfer Barics Hightown yn Wrecsam
- tynnu 14 o Gatrawdau Signalau o Farics Cawdor ym Mreudeth, Sir Benfro
Ymhlith y datblygiadau arwyddocaol eraill a nodwyd dros gyfnod yr adroddiad roedd:
- agoriad swyddogol HMS Cambria newydd yng Nghaerdydd
- pen-blwydd Brwydr Prydain ac arddangosfa a digwyddiadau wedi’u trefnu ledled Cymru
- paratoi ar gyfer 40 mlynedd ers rhyfel Ynysoedd Falkland
- ailddechrau ymgysylltu STEM yr Awyrlu Brenhinol ag ysgolion ledled Cymru
- cynlluniau i’r Awyrlu Brenhinol yng Nghymru weithio gyda fforwm Awyrofod a Gofod Cymru er mwyn cysylltu â’r 160 o gwmnïau yng Nghymru sy’n gweithio yn y sector awyrofod a gofod
Gweithio i gyflawni
Mae sector y Lluoedd Arfog wedi parhau i gydweithio i gynnal egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog a darparu gwasanaethau cysylltiedig. Mae’n gwneud hyn drwy fforymau, rhwydweithiau a grwpiau gweithredol y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â nhw.
Roedd y rhain yn darparu gwaith craffu, adborth a chyfleoedd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth yn ystod 2021 i 2022, ar lefel Cymru a’r DU, gan sicrhau dull gweithredu cydgysylltiedig.
Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog ar Anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog
Cadeiriodd Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru yr AFEG ym mis Medi 2021 a mis Mawrth 2022. Cafodd yr holl aelodau gyfle i gymryd rhan a rhoi eu barn am eitemau fel Strategaeth Teuluoedd y Lluoedd Arfog Llywodraeth y DU a’r Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr. Yn 2019, nododd y Grŵp restr o feysydd a oedd yn galw am weithredu â blaenoriaeth yn ystod tymor y Llywodraeth hon yng Nghymru. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn Atodiad 1.
Rhwydwaith Lluoedd Arfog Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
Parhaodd rhwydwaith Lluoedd Arfog CLlLC i gyfarfod yn ystod 2021 i 2022. Cafodd cynrychiolwyr Llywodraeth Leol gyfle i roi adborth ar Fil y Lluoedd Arfog 2021, i glywed y diweddaraf am waith Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog a gwaith parhaus Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru (SSCE Cymru). Yn dilyn etholiadau llywodraeth leol 2022, bydd carfan newydd o hyrwyddwyr y Lluoedd Arfog yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd ac yn dod ynghyd i gyfnewid arferion gorau ledled Cymru drwy’r rhwydwaith.
Fforymau’r Lluoedd Arfog
Mae fforymau rhanbarthol a lleol y Lluoedd Arfog wedi parhau i gwrdd dros y we. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi parhau i’w mynychu ac i wrando ar adborth, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf am faterion fel Bil y Lluoedd Arfog a’r Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr.
Cynhadledd flynyddol Cymru
Ar 15 Hydref 2021, cynhaliwyd Cynhadledd Lluoedd Arfog Llywodraeth Cymru ar-lein unwaith eto. Daeth dros 100 o gynrychiolwyr o elusennau, y llywodraeth a phartneriaid yn y sector cyhoeddus i’r digwyddiad. Rhoddwyd yr anerchiad agoriadol gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol gyda chyflwyniadau gan Woody’s Lodge a’r Ffederasiynau Teulu. Rhoddodd y rhai a oedd yn bresennol eu barn am y gwaith o gyflawni’r Cyfamod yng Nghymru.
Ymgysylltu gan Weinidogion
Mae’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi ymgysylltu’n rheolaidd â Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid ar draws sector y Lluoedd Arfog. Yn ystod y cyfnod, cyfarfu Gweinidogion Cymru ag amrywiaeth o bartneriaid gan gynnwys Woody’s Lodge, penaethiaid y Lluoedd Arfog yng Nghymru a’r rheini a oedd yn bresennol yn y digwyddiad gwobrwyo cyn-filwyr a gynhaliwyd ym mis Medi 2021.
Roedd y cyfarfodydd gweinidogol yn gyfle i dynnu sylw at arferion da ac i gadarnhau ein barn am faterion cenedlaethol sy’n effeithio ar Gymru, er enghraifft, cefnogi penodiad Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru gan Lywodraeth y DU.
Drwy eu hymgysylltiad, roedd y gweinidogion yn gallu tynnu sylw at eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog. Wrth roi prif araith yn ystod y digwyddiad cyflogaeth i gyn-filwyr ym mis Tachwedd 2021, tynnodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol sylw at y sgiliau gwerthfawr y gall cyn-filwyr eu cynnig i sefydliadau lle maen nhw’n cael eu cyflogi.
Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru
Ar 1 Mawrth cyhoeddodd Llywodraeth y DU benodiad y Cyrnol James Phillips yn Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru. Yn dilyn y cyhoeddiad, gweithiodd Llywodraeth Cymru gyda’r Swyddfa Materion Cyn-filwyr a Swyddfa Cymru i sicrhau bod y rôl yn adlewyrchu natur ddatganoledig darparu gwasanaethau a strwythurau llywodraethu sefydledig. Mae Llywodraeth Cymru nawr yn gweithio gyda’r comisiynydd a phartneriaid i ddatblygu ei rwydweithiau ac i ymgysylltu â chyn-filwyr ledled Cymru.
Fforwm Elusennau’r Lluoedd Arfog Cymru Gyfan
Mae fforwm Elusennau’r Lluoedd Arfog Cymru Gyfan wedi parhau i gyfarfod drwy gyfnod yr adroddiad hwn. Mae hyn yn rhoi cyfle i elusennau drafod materion a rhannu arferion gorau. Mae presenoldeb Llywodraeth Cymru yn gyfle i rannu diweddariadau a chlywed yn uniongyrchol gan y rheini sy’n gweithio gyda chymuned y Lluoedd Arfog.
Grwpiau a Chanolfannau Cymorth i Gyn-filwyr
Mae’r rhwydwaith o grwpiau cefnogi a chanolfannau ledled Cymru wedi parhau i ddarparu cyfeillgarwch a chymorth i gymuned y Lluoedd Arfog, gan ddod â phobl at ei gilydd i wella eu lles. Mae’r rhain yn cynnwys Valley Veterans, Adferiad, Woody’s Lodge, VC Gallery, Bulldogs Boxing a Chanolfan Cyn-filwyr Casnewydd. Mae grwpiau newydd wedi cael eu sefydlu hefyd, gan gynnwys yng Nghaerffili a’r Fenni. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r grwpiau hyn gyda rhaglen grantiau bach gwerth £25,000.
Grŵp trawsbleidiol y Senedd ar y Lluoedd Arfog a’r cadetiaid
Rydym wedi parhau i fynychu’r grŵp trawsbleidiol ac i weithio gyda’r holl aelodau i rannu gwybodaeth a rhoi cyhoeddusrwydd i’r cymorth sydd ar gael i gymuned y Lluoedd Arfog. Mae’r fforwm hwn yn darparu rhwydwaith gwerthfawr i aelodau’r Senedd a chymuned y Lluoedd Arfog ymgysylltu a thynnu sylw at arferion gorau a materion allweddol y mae angen mynd i’r afael â nhw mewn ffordd gydweithredol.
Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog
Mae’r rhwydwaith o 8 Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog ledled Cymru yn ein helpu i weithio’n rhanbarthol gydag awdurdodau lleol a sefydliadau lleol, gan ddarparu polisïau a gwasanaethau sy’n cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog.
Mae Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yn gwasanaethu 7 rhanbarth sy’n gweithredu o awdurdod lleol sy’n lletya:
- Y De-orllewin: Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr
- Y Gorllewin: Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro
- Y De-ddwyrain: (2 Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog) Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf; Caerdydd a Bro Morgannwg
- Gwent: Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Torfaen
- Y Gogledd: Ynys Môn, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam
- Powys
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd cyllid o £275,000 y flwyddyn ar gyfer y rolau hyn yn parhau o 2021 i 2023. Bydd hyn yn eu helpu i adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd wedi cael ei wneud hyd yma. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) i Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog ac mae’r swyddogion yn darparu adroddiadau cynnydd ddwywaith y flwyddyn. Roedd y DPA ar gyfer y cyfnod adrodd yn cynnwys:
- gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth ynghylch blaenoriaethau cenedlaethol
- cyflwyno ein canllawiau Ein Cymuned Ein Cyfamod
- casglu data
Mae Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog ledled Cymru yn cwrdd yn rheolaidd fel grŵp i rannu profiad ac arferion gorau rhwng ardaloedd. Maent yn cynnal Fforymau’r Lluoedd Arfog yn rheolaidd fel ffordd o ddod ag arweinwyr lleol at ei gilydd ar gyfer materion sy’n ymwneud â’r Lluoedd Arfog a chyn-filwyr, gan godi materion lleol.
Mae eu gwaith yn eang ac yn cynnwys elfennau amrywiol o gefnogaeth i holl aelodau cymuned y Lluoedd Arfog.
Mae crynodeb byr o weithgarwch Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog wedi’i gynnwys isod, gyda rhagor o fanylion yn Atodiad 1:
- cyfeirio a chynghori aelodau a chyn-aelodau’r lluoedd arfog
- darparu hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl
- casglu data am dai ac annog dulliau cyffredin o ddarparu ar gyfer Cyn-filwyr
- datblygu gwefan Cyfamod Cymru
- cydlynu digwyddiadau gweithgareddau cofio, digwyddiadau Diwrnod y Lluoedd Arfog, digwyddiadau coffáu lleol
- helpu i sefydlu clybiau brecwast a grwpiau cymdeithasol rhithiol
- darparu hyfforddiant ar y Cyfamod i awdurdodau lleol, staff yr Heddlu a’r BILl
- cydweithio ar geisiadau am gyllid ar gyfer gwasanaethau lleol
- hyrwyddo’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad
- rhaeadru gwybodaeth ddefnyddiol i grwpiau lleol
Cyswllt Addysg
Bu Swyddogion Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac ysgolion yng Nghymru i ddiweddaru’r data a gedwir am blant y lluoedd arfog. Nodwyd bod cyfanswm o 2677 o blant y lluoedd arfog mewn 589 o ysgolion. O’u cymharu â mis Mawrth 2021, mae’r ffigurau hyn yn dangos cynnydd o 620 o blant y lluoedd arfog a 95 o ysgolion.
Fe wnaeth Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru a’r Swyddogion Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol ddarparu hyfforddiant i staff yr ysgol er mwyn gwella gwybodaeth am blant a theuluoedd y Lluoedd Arfog. Cyflwynodd y Swyddogion hyn sesiynau datblygiad proffesiynol parhaus i 169 o gyfranogwyr o 74 o ysgolion yng Nghymru.
Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog (AFCFT)
Mae’r elusen AFCFT wedi parhau i gefnogi prosiectau yng Nghymru. Mae ei strwythur Bwrdd yn darparu ar gyfer cynrychioli safbwyntiau Llywodraeth Cymru ynghyd â’r Gweinyddiaethau datganoledig eraill yn ei goruchwyliaeth strategol o ddyrannu grantiau. Mae prosiectau nodedig yn y cyfnod adrodd hwn yn cynnwys:
Rhaglen Veterans Places, Pathways and People
Dyfarnwyd £795,000 i Adferiad Recovery a’r partneriaid portffolio er mwyn sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu’n gynaliadwy i gyn-filwyr yng Nghymru. Bydd y portffolio o brosiectau’n gweithio’n rhanbarthol i ddatblygu cefnogaeth well a mwy cydgysylltiedig a pharhaus i gyn-filwyr lleol sydd ag anghenion iechyd meddwl yng Nghymru.
Forces for Change
Roedd y grant Forces for Change yng Nghymru yn cefnogi nifer o brosiectau, gan gynnwys:
- derbyniodd y sefydliad Building Heroes Education £9,750 i roi cyfleoedd i gyn-filwyr a’r rhai sy’n gadael y Lluoedd Arfog ddysgu sgiliau adeiladu a chefnogi’r gwaith o adeiladu llety i gyn-filwyr
- dyfarnwyd £10,000 i Gyngor Sir Powys i gefnogi teuluoedd aelodau’r Lluoedd Arfog o Nepal gyda sgiliau iaith a chefnogi integreiddio rhwng yr ysgol a’r gymuned leol
Cynnal cefnogaeth: cefnogi cyn-filwyr a theuluoedd y mae’r gwrthdaro yn Affganistan wedi effeithio arnynt
- Dyfarnwyd £35,000 i Adferiad Recovery ar gyfer prosiect Equi Grow Valley Veterans. Bydd hyn yn darparu cymorth ychwanegol, wedi’i dargedu, i gyn-filwyr a fu’n gwasanaethu yn Affganistan sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol, gofid ac sydd wedi llithro'n ôl i gam-drin alcohol, sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd.
- Dyfarnwyd £113,583 i Combat Stress i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i fynd i’r afael ag anghenion cyn-filwyr Cymru sydd â phroblemau iechyd meddwl cymhleth yn dilyn gwasanaethu yn Affganistan. Bydd Combat Stress yn darparu’r gwasanaethau hyn mewn partneriaeth agos â darparwyr presennol, er mwyn sicrhau gwasanaethau di-dor i gyn-filwyr.
- Llwyddodd Woody’s Lodge i sicrhau £35,000.00 i gynnal y tîm cymorth sydd wedi hen ennill ei blwyf ac sy’n darparu cymorth, arweiniad a gwasanaeth cyfeirio mawr ei angen ar gyfer cymuned cyn-filwyr y Lluoedd Arfog. Byddant yn gallu parhau i gynnig ymweliadau estynedig â chartrefi cyn-filwyr a allai elwa o hyn.
Cynnydd yn erbyn ymrwymiadau ac argymhellion
Mae adran hon yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru yn erbyn ymrwymiadau ac argymhellion. Mae’r tabl yn cyfeirio at 3 ffynhonnell:
- sylwadau Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog ar Adroddiad Blynyddol 2020 a restrir yn Atodiad 1
- ymarfer cwmpasu 2019 ar gyfer cyn-filwyr wedi’i restru yn Atodiad 2
- ymrwymiadau’r dyfodol yn adroddiad blynyddol 2020 wedi’u rhestru yn Atodiad 3
Mae rhai o’r ymrwymiadau hyn yn gorgyffwrdd o ran eu ffynhonnell ac mae llawer ohonynt yn ymrwymiadau parhaus.
Coffau
Gweinidogion: Prif Weinidog Cymru a’r cabinet yn ôl y gofyn.
Partneriaid cyflawni: Y Lluoedd Arfog, Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog, awdurdodau lleol, y Lleng Brydeinig Frenhinol/partneriaid.
Gweithredu |
Ffynhonnell
|
Cynnydd 2021 i 2022 |
Y camau nesaf |
---|---|---|---|
Gweithio gyda CLlLC, partneriaid milwrol, llywodraeth leol a’r Trydydd Sector i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog yng Nghymru. |
Adroddiad 2020 |
Oherwydd cyfyngiadau COVID-19, nid oedd llawer o gyfle i gynnal digwyddiadau cyhoeddus mawr. Gweithiodd Llywodraeth Cymru gyda phartneriaid i hyrwyddo Diwrnod y Lluoedd Arfog (yn rhithiol). Roedd hyn yn cynnwys cyfres o negeseuon fideo i dynnu sylw at rôl bwysig ein milwyr wrth gefn ynghyd â negeseuon fideo gan y Prif Weinidog a’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. |
Mae hwn yn ymrwymiad blynyddol parhaus. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i gynnal digwyddiad blynyddol Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog yng Nghymru, gan ddechrau yn Wrecsam ar 18 Mehefin 2022. |
Nodi 80fed Pen-blwydd Brwydr Prydain a Chanmlwyddiant y Lleng Brydeinig Frenhinol.
|
Adroddiad 2020 |
I gefnogi 80 mlynedd ers digwyddiadau coffáu Brwydr Prydain, bu’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn bresennol mewn digwyddiadau yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ac yn Abaty Westminster i dalu teyrnged am yr aberth a wnaeth yr awyrenwyr o Gymru, gan gynnwys peilotiaid, criwiau’r tir a chymunedau. Mae Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog a phartneriaid lleol wedi cefnogi arddangosfa goffa Brwydr Prydain sy’n cael ei harddangos ledled Cymru. |
Mae’r prif ddigwyddiadau seremonïol wedi’u cwblhau. Mae'r arddangosfa'n parhau i deithio a bydd Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog a phartneriaid yn cyfathrebu'n lleol pan fydd yn eu hardal. |
Parhau i weithio gyda’n partneriaid allweddol i gefnogi digwyddiadau coffa, gan gynnwys Brwydr Prydain a Dydd y Cofio.
|
Adroddiad 2020 |
Bu Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Race Council Cymru, 160fed Brigâd (Cymru) ac RBL i gynnal digwyddiad coffa i gydnabod aberth staff a theuluoedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ym mis Tachwedd 2021. Cymerodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ran yn agoriad Maes Coffa Cymru yng nghastell Caerdydd ym mis Tachwedd 2021. Cymerodd y Prif Weinidog ran yng Ngwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru ar Sul y Cofio. |
Mae ymrwymiad parhaus gan weinidogion Cymru i gefnogi digwyddiadau coffa cenedlaethol, gan gynnwys gweithgarwch Cofio blynyddol Falkland 40 yn ddiweddarach eleni. Yn 2022 byddwn yn nodi 40 mlynedd ers gwrthdaro Ynysoedd Falkland, gan gynnwys gwasanaeth coffa cenedlaethol. |
Cyfiawnder troseddol
Portffolio: Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Partneriaid cyflawni: Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf, GIG Cymru i Gyn-filwyr, yr heddlu
Camau gweithredu |
Ffynhonnell:
|
Cynnydd 2021 i 2022 |
Y camau nesaf |
---|---|---|---|
Dod â Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog a’r rheini sy’n cefnogi cyn-filwyr yn y carchar at ei gilydd i wella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael.
|
Ymarfer Cwmpasu |
Gan weithio gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, rydym wedi cefnogi fforwm newydd sy’n dwyn ynghyd Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog, staff carchardai, gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr a phartneriaid allweddol i rannu arferion gorau a gwybodaeth i wella gwasanaethau i gyn-filwyr yn y system cyfiawnder troseddol. Mae prosiect peilot newydd gyda GIG Cymru i Gyn-filwyr wedi cael ei sefydlu i fynd i’r afael â’r mater hwn. |
Byddwn yn monitro prosiect peilot GIG Cymru i Gyn-filwyr fel bod cyn-filwyr sydd yn y carchar yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl arbenigol i gyn-filwyr.
|
Gweithio gyda Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, IOM Cymru a phartneriaid eraill i gyflawni argymhellion yr ymarfer cwmpasu ar gyfer cyn-filwyr. |
Adroddiad 2020 |
Mae pob heddlu yng Nghymru wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae swyddfeydd pob un o Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu wedi ymrwymo i lofnodi'r Cyfamod ac mae Comisiynydd Gwent wedi ymrwymo’n llawn. Nodwyd bod adnabod cyn-filwyr gan ringylliaid y ddalfa yn faes yr hoffem weld cynnydd ynddo. Fodd bynnag, mater i heddluoedd unigol yw hyn a bydd angen gwaith i reoli’r systemau newid TGCh angenrheidiol pan fydd cyfleoedd yn codi. |
Ymgysylltu pellach â’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu arweiniol. |
Addysg
Portffolio: Y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Partneriaid cyflawni: SSCE Cymru a Swyddogion Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol, awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion.
Camau gweithredu |
Ffynhonnell |
Cynnydd 2021 i 2022 |
Y camau nesaf |
---|---|---|---|
Ariannu’r gronfa Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru yn barhaol a pharhau i fuddsoddi ym Mhrosiect SSCE Cymru i sicrhau bod plant y Lluoedd Arfog yn cael y dechrau gorau posibl
|
Grŵp Arbenigwyr Ymarfer Cwmpasu |
Roedd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 eto’n cynnwys £270,000 i ariannu rhaglen Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg Cymru. Bydd hyn yn darparu cynnig cyffredinol ynghyd â chyllid wedi’i dargedu i gefnogi plant y Lluoedd Arfog yn lleol lle mae ei angen fwyaf. Cytunwyd hefyd ar gyllideb ddangosol o £270,000 ar gyfer 2023 i 2024 a 2024 i 2025, a fydd yn helpu gyda chynllunio yn y tymor hwy. |
Adolygu parhaus fel rhan o broses y gyllideb. |
Yn ystod Blwyddyn Ariannol 2021 i 2022, darparwyd cyfanswm o £85,292 tuag at y Cynllun Addysg Bellach ac Uwch a oedd yn galluogi’r rheini sy’n gadael gwasanaethau ledled Cymru i elwa o addysg Bellach ac Uwch.
Cyfrannodd Llywodraeth Cymru £28,150 yn ystod Blwyddyn Ariannol 2021 i 2022 tuag at Gynllun Ysgoloriaeth Profedigaeth y Lluoedd Arfog, sy’n rhoi plant y rheini sydd wedi marw yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ar y blaen mewn bywyd drwy ysgoloriaethau.
Cefnogi teuluoedd
Portffolio: Cyfiawnder Cymdeithasol
Partneriaid cyflawni: Y Weinyddiaeth Amddiffyn, ffederasiynau teuluoedd
Camau gweithredu |
Ffynhonnell
|
Cynnydd 2021 i 2022 |
Y camau nesaf |
---|---|---|---|
Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a phartneriaid i lunio strategaeth Teuluoedd y Lluoedd Arfog yn y DU. |
Adroddiad 2020 |
Cafodd y strategaeth ei lansio ym mis Hydref 2021. Cynhaliwyd gweithdy i fwrw ymlaen â’r strategaeth ym mis Chwefror 2022 gyda rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru, gan gynnwys Ffederasiynau Teuluoedd yr Heddluoedd. |
Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan yn y grwpiau cyflawni sy’n cael eu harwain gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ac sy’n bwrw ymlaen â’r argymhellion. |
Byddwn yn parhau i gwrdd â’r Ffederasiynau Teuluoedd ac yn sicrhau bod safbwyntiau teuluoedd y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn cael eu clywed. |
Adroddiad 2020 |
Mae’r Ffederasiynau Teuluoedd yn aelodau allweddol o Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog sy’n codi materion sy’n effeithio ar deuluoedd staff y Lluoedd Arfog. Rydym wedi ymgysylltu’n uniongyrchol â’r Ffederasiynau Teuluoedd i fwrw ymlaen â Strategaeth Teuluoedd y Lluoedd Arfog yng Nghymru. |
Mae hwn yn ymrwymiad parhaus. |
Cyllid a budd-daliadau
Portffolio: Cyfiawnder Cymdeithasol
Partneriaid cyflawni: Yr Adran Gwaith a Phensiynau, y Gwasanaeth Cynghori Ariannol a Phensiynau, RBL a sefydliadau cynghori’r 3ydd Sector.
Camau gweithredu |
Ffynhonnell
|
Cynnydd 2021 i 2022 |
Y Camau Nesaf |
---|---|---|---|
Byddwn yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol a Phensiynau, yr Adran Gwaith a Phensiynau a darparwyr eraill i hyrwyddo gwasanaethau cymorth ariannol drwy ymgyrch wedi’i thargedu at gymuned y Lluoedd Arfog. |
Ymarfer cwmpasu |
Drwy ein Grŵp Gweithredu Cwmpasu Gwybodaeth, Ymwybyddiaeth a Chyllid, rydym yn parhau i ystyried y cymorth ariannol sydd ei angen ar gymuned y Lluoedd Arfog a ffyrdd o fynd i’r afael â hyn. Cynhaliwyd digwyddiad i gynghorwyr ariannol ar 26 Ionawr 2022 i ddatblygu dealltwriaeth y rhai sy’n gyfrifol am ddarparu arweiniad ariannol. Cafodd ei arwain gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol a Phensiynau a’r Lleng Brydeinig Frenhinol. Gan ganolbwyntio ar y cymorth sydd ar gael i gyn-filwyr, roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys canllawiau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Roedd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn bresennol ym Mwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru ym mis Mehefin 2021 am sesiwn yn canolbwyntio ar Daliad Annibynnol Personol a Mynediad at Waith ym mis Rhagfyr 2021. |
Mae Cangen y Lluoedd Arfog yn mynychu cyfarfodydd dan arweiniad y Weinyddiaeth Amddiffyn i ystyried effeithiau’r argyfwng costau byw ar Gymuned y Lluoedd Arfog. Nodi cyfleoedd i gynnal rhagor o ddigwyddiadau eleni sy’n cyd-fynd â gwaith ehangach Llywodraeth Cymru ar yr argyfwng sy’n ymwneud â chostau byw.
|
Parhau i ddarparu teithio am ddim ar fysiau i staff y lluoedd arfog sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol a chyn-filwyr sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol ac sy’n bodloni’r meini prawf cymhwyso angenrheidiol. <[1]Hawl awtomatig i gael cerdyn teithio rhatach (h.y. dim angen asesiad pellach) yw pan fydd rhywun sy’n bodloni’r maen prawf preswylio wedi cael un o’r budd-daliadau canlynol gan y Wladwriaeth. Yr Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel (WPMS), neu ddyfarniad dan Dariffau 1-8 Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog (AFCS). |
Adroddiad 2020 |
Mae hwn yn ymrwymiad parhaus, sy'n cynnwys 2022 i 2023. |
Mae’r ymrwymiad hwn yn cael ei gynnal yn 2022 i 2023. |
Llywodraethu
Portffolio: Cyfiawnder Cymdeithasol
Partneriaid cyflawni: Y Weinyddiaeth Amddiffyn, OVA, Arweinwyr y Lluoedd Arfog, CLlLC, Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog.
Camau gweithredu |
Ffynhonnell
|
Cynnydd 2021 i 2022 |
Y camau nesaf |
---|---|---|---|
Drwy ein strwythurau llywodraethu sefydledig, bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod sefydliadau partner yn cael cyfle i godi materion sy’n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog.
|
Adroddiad 2020 |
Mae Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog yn parhau yn fforwm lle gellir codi a rhoi sylw i faterion allweddol sy’n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog. Cadeiriodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol 2 gyfarfod rhithiol rhwng 2021 a 2022. Bob chwarter, mae Cangen y Lluoedd Arfog yn cwrdd â Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog i drafod materion sy’n cael eu codi ar lawr gwlad. Rydym hefyd yn cwrdd â grŵp Elusennau Cymru, holl fforymau Rhanbarthol y Lluoedd Arfog a’r Gwasanaeth Tri. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £550,000 i sicrhau bod cyllid ar gyfer swyddi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog ledled Cymru wedi cael ei sicrhau am 2 flynedd arall. |
Bydd Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog yn cwrdd ar 14 Medi. Cyfarfodydd rheolaidd Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog i barhau. |
Datblygu cynllun cenedlaethol i weithredu’r newidiadau sy’n ofynnol o dan Ddeddf y Lluoedd Arfog. |
Grŵp Arbenigwyr |
Rydym wedi gweithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod y canllawiau statudol newydd yn adlewyrchu sefyllfa a natur ddatganoledig gwasanaethau yng Nghymru. Mae hyn wedi cynnwys pedwar grŵp ffocws yng Nghymru a hyrwyddo’r Ddeddf drwy rwydweithiau Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog.
|
Mae disgwyl i'r Ddyletswydd ddod yn gyfraith yn ddiweddarach yn y flwyddyn sy'n ddibynnol ar amserlen ddeddfwriaethol Senedd y DU. Mae pecyn hyfforddiant e-ddysgu ar gael ac mae’n cael ei deilwra i anghenion Cymru. Mae cynllun cyfathrebu cysylltiedig hefyd yn cael ei ddatblygu er mwyn gallu codi ymwybyddiaeth ar ôl i’r dyddiadau ddod yn fwy clir. |
Darparu mewnbwn Cymru i adroddiad blynyddol Cyfamod y DU.
|
Adroddiad 2020 |
Cafodd y cynnydd parhaus o ran cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru ei adlewyrchu yn Adroddiad Blynyddol 2021 y Lluoedd Arfog ar Gyfamod y DU. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at lwyddiannau allweddol yng Nghymru, gan gynnwys buddsoddiad pellach gan Lywodraeth Cymru o £270,000 y flwyddyn i gefnogi plant y Lluoedd Arfog yng Nghymru, ynghyd â phenodi pedwar Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol ar gyfer plant y Lluoedd Arfog ledled Cymru, wedi’u hariannu gan grant gan Ymddiriedolaeth Cronfa’r Cyfamod. |
Mae hwn yn ymrwymiad blynyddol parhaus. |
Gweithio gyda Swyddfa Materion Cyn-filwyr (OVA) Llywodraeth y DU i barhau i gyflawni Strategaeth y DU ar gyfer ein Cyn-filwyr. |
Adroddiad 2020 |
Rydym wedi gweithio gydag OVA fel rhan o Weithgor Data’r Strategaeth Cyn-filwyr a’r grŵp monitro i ddarparu diweddariadau cynnydd a sicrhau dull cydweithredol o ymdrin â materion trawsbynciol sy’n effeithio ar gyn-filwyr ledled y DU. Rydym yn parhau i ddatblygu ein cynllun cyflawni ar gyfer yr Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr i adlewyrchu ymrwymiadau ledled y DU. |
Mae hwn yn ymrwymiad parhaus. Mae Cangen y Lluoedd Arfog yn cwrdd yn rheolaidd ag OVA. |
Parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar ddeddfwriaeth newydd y Cyfamod, gan baratoi ar gyfer ei gweithredu. |
Adroddiad 2020 |
Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn wrth i Fil y Lluoedd Arfog gael ei basio fel Deddf ym mis Rhagfyr 2021. Fe wnaethom hefyd gyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Senedd i gefnogi’r ddeddfwriaeth, a chafodd hwn ei basio ym mis Hydref 2021. Mae’r gwaith o ddatblygu’r canllawiau statudol bron â dod i ben. Ar y cyd â’r Weinyddiaeth Amddiffyn, fe wnaethom drefnu i gynnal grwpiau ffocws yng Nghymru ym mis Gorffennaf a mis Tachwedd 2021 oedd yn cynnwys rhanddeiliaid allanol a swyddogion polisi Llywodraeth Cymru ym meysydd tai, iechyd ac addysg. Mae adborth gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei adlewyrchu yn y canllawiau sydd wedi’u diweddaru. Disgwylir y bydd y canllawiau statudol terfynol yn cael eu cyhoeddi yn ystod 2022 a bydd y ddyletswydd ‘sylw dyladwy’ yn dod i rym ddiwedd 2022. |
Mae hwn yn ymrwymiad parhaus. Mae Cangen y Lluoedd Arfog yn cwrdd yn rheolaidd â’r Weinyddiaeth Amddiffyn ar weithgorau sy’n ymwneud â’r Cyfamod. |
Iechyd a llesiant
Portffolio: Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Partneriaid Cyflawni: BILlau, GIG Cymru i Gyn-filwyr, Prifysgol Northumbria, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Arweinwyr Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Poen Parhaus, Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog, Fforwm Prostheteg y Lluoedd Arfog, BLESMA.
Camau gweithredu |
Ffynhonnell
|
Cynnydd 2021 i 22 |
Y camau nesaf |
---|---|---|---|
Sicrhau bod adolygiad parhaus o’r capasiti a’r cyllid sydd eu hangen ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr i ddiwallu anghenion iechyd meddwl cyn-filwyr mewn modd amserol o ran apwyntiad cyntaf a thriniaeth ddilynol |
Ymarfer Cwmpasu Grŵp Arbenigwyr |
Ym mis Mawrth 2021 fe wnaethom ddarparu cyllid ychwanegol o £235,000 ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr, gan ddarparu cyfanswm cyllid rheolaidd o £920,000 y flwyddyn o 2021 i 2022 ymlaen Mae hyn wedi galluogi GIG Cymru i Gyn-filwyr i greu swyddi Arweinwyr Clinigol Arbenigol Iawn ar gyfer Cyn-filwyr yn y gwasanaeth a chynnal y ddarpariaeth therapi ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cwrdd â GIG Cymru i Gyn-filwyr ddwywaith y flwyddyn i asesu capasiti a monitro amseroedd aros. Gweler atodiad 4 am ragor o wybodaeth. |
Cyfarfodydd rheolaidd â GIG Cymru i Gyn-filwyr i fonitro’r ddarpariaeth/capasiti. |
Gweithio gyda’n Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog a phartneriaid gan gynnwys cydlynwyr rhanbarthol atal hunanladdiad a hunan-niweidio i hyrwyddo hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl. |
Adroddiad 2020 |
Roedd y gweithdy cyd-gynhyrchiol ‘One is too many’ dan arweiniad Prifysgol Northumbria a gynhaliwyd yn Llandudno ym mis Mehefin 2022 yn cynnwys cyn-filwyr, teuluoedd a rhanddeiliaid o Gymru. Cynhaliwyd yr ail weithdy ym mis Awst 2022 gyda rhanddeiliaid yng Nghymru i gyfrannu at yr ymchwil. Mae Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog a chydlynwyr Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio Rhanbarthol wedi codi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael i helpu i fynd i’r afael â hunanladdiad a hunan-niweidio. Gyda chyllid gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, cafodd hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl ei ddarparu i bob un o’r 6 awdurdod lleol yn y Gogledd a’r 9 awdurdod lleol yn y De. Hyd yma, mae dros 200 o staff o’r Heddlu, y Byrddau Iechyd Lleol, llywodraeth leol ac elusennau wedi ennill cymhwyster lefel 2/3 mewn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. |
Byddwn yn parhau i gefnogi prosiect ‘One is Too Many’ i gefnogi ymyriadau wedi’u targedu ar gyfer cyn-filwyr sydd mewn perygl o ladd eu hunain. |
Diweddaru’r ‘Fframwaith Triniaeth Camddefnyddio Sylweddau i Gyn-filwyr’ a darparu gwell cefnogaeth i gyn-filwyr sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau |
Grŵp Arbenigwyr |
Bydd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau yn cael ei ddiwygio dros y flwyddyn nesaf; bydd hyn yn cynnwys ystyried anghenion grwpiau penodol gan gynnwys cyn-filwyr. |
Byddwn yn diweddaru’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau ac yn ystyried anghenion grwpiau penodol gan gynnwys cyn-filwyr. |
Gweithio gyda Fforwm Hyrwyddwyr y BILlau i ddechrau cyflwyno’r cynllun achredu meddygon teulu yng Nghymru. |
Ymarfer Cwmpasu Adroddiad 2020 |
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, wedi llunio canllawiau ar-lein i atgoffa practisau cyffredinol o’u cyfrifoldeb i ganfod cyn-filwyr sydd wedi cofrestru gyda’r practis, cofnodi eu statws fel cyn-filwyr a sicrhau eu bod yn cael blaenoriaeth at ofal y GIG (gan gynnwys gofal ysbyty, gofal sylfaenol neu ofal cymunedol) ar gyfer unrhyw gyflyrau sy’n codi o ganlyniad i’w gwasanaeth milwrol. |
Byddwn yn hyrwyddo canllawiau i feddygon teulu i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ym maes iechyd i edrych ar gynllun meddygon teulu sy’n addas i gyn-filwyr yng Nghymru. |
Sicrhau bod cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu yn gallu cael triniaeth poen cronig yn gyson pan fydd ei hangen arnynt, lle mae ei hangen arnynt ac mewn ffordd sy’n gweithio iddynt, yn agos i’w cartrefi ac yn wahanol i’r gwasanaeth a ddarperir gan y Rhwydwaith Trawma Cyn-filwyr, sydd wedi’i fwriadu ar gyfer y rheini sydd ag anableddau corfforol mawr |
Grŵp Arbenigwyr |
Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn cefnogi datblygiad gwasanaethau poen parhaus bob amser. Yn ogystal â chyhoeddi canllawiau i’r rheini sy’n byw â phoen barhaus, mae Llywodraeth Cymru wedi penodi dau Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Poen Parhaus sy’n gyfrifol am oruchwylio gwasanaethau teg ledled Cymru, gan gynnwys triniaeth a chymorth i gyn-filwyr sy’n byw gyda chyflyrau poen tymor hir. |
Ceir rhwydwaith poen parhaus cenedlaethol sy’n gallu ystyried materion a gwasanaethau pan fo hynny’n briodol. Bydd fforwm prosthetigau Lluoedd Arfog Cymru yn monitro profiadau cyn-filwyr o ran rheoli poen. |
Byddwn yn adolygu ac yn cyhoeddi ein Cyfamod y Lluoedd Arfog newydd, Canllawiau Gofal Iechyd sy’n Flaenoriaeth i Gyn-filwyr, yn amodol ar ddatblygiadau yn y DU gan gynnwys Bil y Lluoedd Arfog. |
Adroddiad 2020 |
Cafodd yr adolygiad o ‘Cyfamod y Lluoedd Arfog blaenoriaeth gofal iechyd ar gyfer canllawiau i gyn-filwyr’ ei ohirio oherwydd pandemig COVID-19. |
Byddwn yn asesu ein canllawiau blaenoriaeth ar ôl cyhoeddi’r Canllawiau Statudol ar gyfer Deddf y Lluoedd Arfog a’r ddyletswydd ‘sylw dyladwy’. |
Byddwn yn parhau â’n Fforwm Prostheteg y Lluoedd Arfog, gan fonitro ac ymateb i faterion sy’n ymwneud ag anghenion iechyd cyn-filwyr sydd wedi colli braich neu goes.
|
Adroddiad 2020 |
Mae Fforwm Prostheteg y Lluoedd Arfog yn parhau i fonitro cefnogaeth i gyn-filwyr sydd wedi colli braich neu goes a’u teuluoedd. Mae BLESMA, Llywodraeth Cymru, Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru a’r canolfannau i aelodau artiffisial y corff yn gweithio’n agos i fonitro materion sy’n ymwneud â rheoli poen, darparu cadeiriau olwyn a chapasiti mewn gwasanaethau sy’n cefnogi pobl sydd wedi colli braich neu goes. Mae sifiliaid bellach yn gymwys i gael pengliniau a reolir gan ficrobrosesydd; gan gynnwys cyn-filwyr sydd ag anafiadau na ellir eu priodoli i wasanaeth, yn amodol ar angen clinigol. Yn 2021 i 2022, dyrannwyd cyfanswm o £258,559 i ddarparu’r prosthetigau angenrheidiol i filwyr ag anafiadau y gellir eu priodoli i wasanaeth. Roedd 38 o gyn-filwyr ag anafiadau y gellir eu priodoli i wasanaeth wedi’u cofrestru ar draws y 3 canolfan aelodau artiffisial yng Nghymru, sef yn Wrecsam, Caerdydd ac Abertawe. |
Byddwn yn parhau i gyflawni ein polisi prosthetigau gwell ar gyfer cyn-filwyr Rhyfel. Byddwn yn darparu fforwm ar gyfer BLESMA ac arbenigwyr yn y maes i roi gwybod am faterion sy’n peri pryder. |
Tai a digartrefedd
Portffolio: Newid yn yr Hinsawdd
Partneriaid Cyflawni: Awdurdodau Lleol, Cymdeithasau Tai, Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog
Camau gweithredu |
Ffynhonnell
|
Cynnydd 2021 i 2022 |
Y camau nesaf |
---|---|---|---|
Ymestyn yr angen blaenoriaeth i dai i gynnwys 5 mlynedd ar ôl gadael y lluoedd arfog a sicrhau bod gwŷr/gwragedd neu bartneriaid staff y Lluoedd Arfog yng Nghymr, sydd wedi gwahanu neu ysgaru, yn gallu cael gafael ar gymorth tai ar yr un telerau â theuluoedd eraill y Lluoedd Arfog.
|
Grŵp Arbenigwyr
|
Bydd newidiadau deddfwriaethol yn cael eu rhoi ar waith yng Nghymru i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd er mwyn canolbwyntio ar atal ac ailgartrefu. Bydd hyn yn cynnwys ystyried anghenion amrywiaeth o grwpiau ac ymgysylltu â nhw, gan gynnwys cymuned y Lluoedd Arfog yn ei ystyr ehangaf.
|
Byddwn yn ystyried anghenion cymuned y Lluoedd Arfog wrth ddiwygio ein gwasanaethau digartrefedd yng Nghymru. Byddwn yn cynnal gweithdy gyda sector y Lluoedd Arfog i ystyried pa gymorth tai sydd ei angen ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog a sut gallwn hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd. |
Pontio
Portffolio: Cyfiawnder Cymdeithasol
Partneriaid Cyflawni: RFCA, RFEA, CTP, Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog, y Lluoedd Arfog
Camau gweithredu |
Ffynhonnell
|
Cynnydd 2021 i 2022 |
Y camau nesaf |
---|---|---|---|
Gweithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn i ddarparu gwasanaethau yng Nghymru i wella’r broses o bontio i fywyd sifil. |
Grŵp arbenigol Ymarfer Cwmpasu Adroddiad 2020 |
Rydym wedi cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn i fynd ar drywydd yr argymhelliad hwn. Fe wnaethom gyflwyno tystiolaeth ac astudiaethau achos o’r ymarfer cwmpasu Cyn-filwyr i dynnu sylw at farn pobl sy’n gadael y lluoedd arfog a chyn-filwyr yng Nghymru am eu profiad pontio. Cynhaliwyd Ffair Swyddi a Seminar Cyflogwyr i’r rheini sy'n gadael y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr yn y Celtic Manor ym mis Tachwedd 2021. Cynhaliodd y Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd weithdai newid gyrfa yn HMS Cambria ym mis Mehefin 2022. |
Bydd y Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd yn cynnal gweithdai pontio ychwanegol yn HMS Cambria yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2022. Gyda phartneriaid, byddwn yn cyflwyno ffair swyddi i bobl sy’n gadael y Lluoedd Arfog/teuluoedd a chynhadledd i gyflogwyr ar 17 Tachwedd 2022. Byddwn yn parhau i alw ar i’r contract Partneriaeth Pontio Gyrfaoedd newydd ddarparu cyrsiau yng Nghymru. Drwy Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog, byddwn yn sicrhau bod Awdurdodau Lleol a sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus eraill yn gallu cael gafael ar hyfforddiant i staff rheng flaen er mwyn cynyddu gwybodaeth am gymuned y Lluoedd Arfog a’r ddyletswydd ‘sylw dyledus’ newydd drwy Ddeddf y Lluoedd Arfog |
Ehangu a chyflymu’r gwaith o gyflwyno cyfweliadau wedi’u gwarantu ar gyfer y rheini sy’n gadael y Lluoedd Arfog, Aelodau’r Lluoedd Wrth Gefn a gwŷr/gwragedd sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer swyddi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru
|
Grŵp Arbenigwyr |
Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan weithredol yn y cynllun hwn. Mae cyrff cyhoeddus a chyflogwyr preifat wedi parhau i ddarparu cynlluniau gwarantu cyfweliad ar gyfer y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru a chyflogwyr preifat sy’n gweithio gyda’r Lluoedd Wrth Gefn a Chymdeithas y Cadetiaid (RFCA). |
Defnyddio’r cynlluniau ysgogi sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i annog a hyrwyddo defnydd lle ceir cyfleoedd. |
Byddwn yn cyhoeddi Canllaw Adsefydlu Cymru ar y cyd â’r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd a’r 160fed Brigâd (Cymru).
|
Ymarfer Cwmpasu Adroddiad 2020 |
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda 160fed Brigâd Cymru, CTP a’r Grŵp Gweithredu ar Bontio, lunio a lansio’r Canllaw Adsefydlu cyntaf i Gymru ym mis Mehefin 2021 i ddod â gwybodaeth a gwasanaethau cyfeirio at ei gilydd o ran y cymorth sydd ar gael yng Nghymru. |
Byddwn yn adnewyddu canllaw Adsefydlu Cymru gan weithio gyda’r 160fed Brigâd, y Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd, y Gwasanaethau Pontio Amddiffyn a’r ymarfer cwmpasu ar gyfer cyn-filwyr y grŵp Gweithredu ar Bontio. |
Studiaethau achos ac enghreifftiau
Mae’r astudiaethau achos a’r enghreifftiau hyn yn rhoi cipolwg ar waith ar draws y Sector yng Nghymru.
Cynllun Cydnabod Cyflogwyr
Ers i’r cynllun ddechrau yn 2014, cafwyd 208 o wobrau Efydd, 71 o wobrau Arian a 46 o wobrau Aur yng Nghymru.
Yn 2021, enillodd 24 o gyflogwyr o Gymru statws Arian, ac o’r rhain aeth 15 ymlaen ymhellach yn y flwyddyn i gyrraedd statws Aur ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a sicrhaodd eu statws Aur eleni hefyd.
Statws Arian ac Aur yn 2021
- Admiral Group PLC (Arian ac Aur)
- ARC Academy UK Ltd
- BCB International Ltd
- Brightlink Learning Ltd
- Camilleri Construction Ltd
- Cyngor Sir Ddinbych
- EA Inclusion
- Enbarr Foundation CIC
- Hafal
- K Sharp Ltd
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
- Grŵp NPTC o Golegau
- Ollywood Ltd
- Pathway Risk Management Ltd
- Fforwm Cymunedol Penparcau Cyf
Statws Aur yn 2021
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Statws Arian yn 2021
- Portsec Security Ltd
- Print Inc & Design Ltd
- Quadrant 4
- Rubicon Facilities Management Ltd
- The VC Gallery
- Trafnidiaeth Cymru
- Gwobrau Cyn-filwyr CIC
- Woody’s Lodge
Ffair Swyddi a Gyrfaoedd Digidol Cymru Gyfan
Mewn partneriaeth â Gweithio dros Gymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau, y Partneriaethau Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol, gyda chefnogaeth sefydliadau a chyflogwyr eraill, cynhaliwyd 3 ffair swyddi a gyrfaoedd digidol ar gyfer Cymru gyfan yn ystod mis Hydref 2021. Yn agored i holl aelodau’r gymuned, gan gynnwys sector y Lluoedd Arfog, roedd y digwyddiad yn gyfle i glywed am y prif sectorau cyflogaeth ledled Cymru a’r swyddi sydd ar gael.
Cynlluniau Gwarantu Cyfweliad Awdurdodau Lleol
Hyd yma, mae 44 o gyflogwyr lleol yng Nghymru wedi cyflwyno’r Cynlluniau Gwarantu Cyfweliad ar gyfer pobl sy’n gadael y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a milwyr wrth gefn.
Ym mis Ionawr 2022 lansiodd Cyngor Rhondda Cynon Taf ei Gynllun Gwarantu Cyfweliad; gan gydnabod y sgiliau gwerthfawr y gall aelodau cymuned y Lluoedd Arfog eu cynnig i’r gweithle. Wedi’i anelu at bawb sy’n gadael y Lluoedd Arfog, y Cyn-filwyr a’r Aelodau o’r Lluoedd Wrth Gefn ac sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol gofynnol ar gyfer unrhyw swydd wag a nodir yn unrhyw becyn cyflogaeth y Cyngor, bydd y cynllun yn gwarantu cyfweliad i’r unigolion am y swyddi gwag sydd ar gael.
Cefnogaeth Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda
Enillodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda Wobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn ym mis Tachwedd 2021. Mae’n parhau â’i gamau gweithredu i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog ac i gynnig cymorth ac arweiniad gan gymheiriaid i sefydliadau eraill sy’n dymuno gwneud cais am lefelau efydd neu arian yn y cynllun.
Mae hefyd yn cefnogi’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad i Gyn-filwyr. Os yw unigolion yn bodloni’r meini prawf hanfodol sylfaenol ar gyfer y rôl, maent yn sicr o gael cyfweliad.
Rhwng mis Mawrth 2021 a mis Chwefror 2022, roedd cyfanswm o 320 o ymgeiswyr wedi datgan eu bod yn ‘Aelod o gymuned y Lluoedd Arfog’. Yn dilyn prosesau tynnu rhestr fer, cafodd 153 eu gwahodd i gyfweliad gyda 47 yn cael cynnig cyflogaeth. Roedd y rolau amrywiol yn cynnwys 12 mewn Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol, 12 mewn swyddi Gweinyddol a Chlerigol, pedwar Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, pump mewn swyddi Ystadau ac Ategol ac 11 mewn Nyrsio a Bydwreigiaeth Cofrestredig.
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi defnyddio ei Rwydwaith o Staff y Lluoedd Arfog i ddarparu gwybodaeth am brofiadau go iawn er mwyn nodi camau gweithredu a fyddai’n gwella canlyniadau i Gyn-filwyr ac aelodau eraill o gymuned y Lluoedd Arfog sy’n chwilio am gyflogaeth yn y Bwrdd Iechyd.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda hefyd wedi cofrestru ar wefannau’r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd a Swyddi i Deuluoedd y Lluoedd Arfog ac mae ganddo broffil gweithredol gyda swyddi gwag yn cael eu llwytho i fyny’n rheolaidd. Mae’n cymryd rhan mewn digwyddiadau a drefnir gan y Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd a Chyn-filwyr ac mae aelodau o Rwydwaith Staff y Lluoedd Arfog yn bresennol i rannu eu profiadau o symud o’r Lluoedd Arfog, a dangos yr amrywiaeth o rolau sydd ar gael yn y GIG.
Peilot Llwybr Triniaeth Iechyd Meddwl
Mae GIG Cymru i Gyn-filwyr (VNHSW), ar y cyd â Llywodraeth Cymru a’r ystad gofal iechyd mewn carchardai, yn treialu llwybr gofal integredig ar gyfer cyn-filwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â’r gwasanaeth ac sy’n cael eu cadw mewn carchardai yng Nghymru ar hyn o bryd. Bydd y llwybr yn cael ei werthuso ar ôl 6 mis a’i ddiwygio yn dilyn model gwella ansawdd. Yn ei hanfod, bydd hyn yn caniatáu i staff gofal iechyd gael ymgynghoriad â staff VNHSW ynghylch addasrwydd cyn cael eu cyfeirio at VNHSW.
Bydd cyn-filwyr mewn carchardai (VIPs) yn cael cynnig asesiad drwy alwad cynhadledd fideo gyda therapydd VNHSW yn y bwrdd iechyd y maent yn dychwelyd iddo ar ôl cael eu rhyddhau. Ar ôl ei ryddhau i’r gymuned, bydd y cyn-filwr yn gallu dechrau therapi neu bydd yn dechrau ar ôl iddo ddod i frig rhestr aros y bwrdd iechyd. Os yw’r cyn-filwr yn dal i dreulio ei ddedfryd yn y carchar, bydd yn cael cynnig therapi o bell yn y carchar yn dilyn trafodaeth bellach ar addasrwydd a mynediad at le diogel a chyfrinachol.
Woody’s Lodge
Ym mis Ebrill 2022, ymwelodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, a Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant â Woody’s Lodge yn fferm ymddiriedolaeth Amelia ym Mro Morgannwg.
Cyfarfu’r Gweinidogion â staff a chyn-filwyr a chlywed am waith yr elusen a’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Bu Woody’s Lodge ac Elusen y Llynges Frenhinol a’r Môr-filwyr Brenhinol (RNRMC) yn cydweithio ar brosiect wedi’i ariannu i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael i gyn-filwyr. Mae’r prosiect wedi galluogi gwell cydweithio a rhwydweithio â sefydliadau eraill i gyrraedd a chefnogi cyn-filwyr y Llynges Frenhinol a’r Môr-filwyr Brenhinol yn ne-ddwyrain a gorllewin Cymru. Roedd y prosiect yn ceisio gwella dulliau cyfathrebu â theuluoedd a rhyngweithio cymdeithasol ar gyfer cyn-filwyr unig, cynyddu cymorth symudedd ar gyfer cyn-filwyr gan ddefnyddio Woody’s Lodge, trafnidiaeth a gosod sylfeini ar gyfer gwell cefnogaeth i staff y Llynges Frenhinol a’r Môr-filwyr Brenhinol a’u teuluoedd drwy gysylltiadau sefydliadol cydweithredol.
Roedd ‘Gerald’, cyn-filwr o’r Ail Ryfel Byd ac sy’n 98 oed, yn un o fuddiolwyr y prosiect hwn. Roedd asesiad o’i anghenion yn galluogi rhaglen o waith atgyweirio, addasiadau ac ymweliadau cefnogi i’w alluogi i barhau i fyw gartref; fe wnaeth eiriolaeth ar anghenion meddygol sicrhau cymorth clyw newydd a chymorth ychwanegol gan feddygon teulu; roedd cyngor ar fudd-daliadau yn sicrhau hawl i gael Lwfans Gweini wedi’i ôl-ddyddio a mwy. Gyda’i gilydd, roedd y rhain i gyd yn cyfrannu at welliant sylweddol yn ei amgylchedd byw.
Ysgolion Cyfeillgar Lluoedd Arfog Cymru
Wedi’i lansio ym mis Ebrill 2022, amcanion AFFSC yw gwreiddio arferion da ar gyfer cefnogi plant y Lluoedd Arfog, creu amgylchedd cadarnhaol i blant y Lluoedd Arfog rannu eu profiadau ac annog ysgolion i ymwneud mwy â chymuned y Lluoedd Arfog. Mae SSCE Cymru a’r RSLO yn gweithio’n agos gydag ysgolion i’w cefnogi i gyflawni eu statws, drwy gwblhau gweithgareddau/camau gweithredu ar restr wirio Ysgol SSCE Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan SSCE Cymru.
Ysgol Iau Mount Street yn Aberhonddu oedd yr ysgol gyntaf i ennill statws Efydd AFFS Cymru.
“Mae statws AFFS Cymru yn cadarnhau bod cefnogaeth, gofal ac arweiniad yn yr ysgol yn arbennig o gryf o ran gwella/cynnal iechyd meddwl a lles disgyblion. Mae’r statws yn cadarnhau bod ethos a gweledigaeth yr ysgol yn cael ei chydnabod yn y gymuned.” Pennaeth
Gweithdy rhithiol Little Troopers
Ar 10 Tachwedd, bu dros 260 o blant y Lluoedd Arfog o 40 o ysgolion cynradd ledled Cymru yn cymryd rhan mewn gweithdy rhithiol rhad ac am ddim a gynhaliwyd gan yr elusen Little Troopers ar y cyd â SSCE Cymru.
Fe wnaeth plant y Lluoedd Arfog fewngofnodi i’r gweithdy Little Troopers yn yr Ysgol lle’r oeddent yn defnyddio dulliau adrodd straeon, chwarae dychmygus, tynnu lluniau, symud a drama i archwilio rhai o’r heriau unigryw a ddaw yn sgil bywyd yn y lluoedd arfog fel bod â rhiant wedi'i leoli dramor a gorfod symud tŷ ac ysgol yn rheolaidd.
“Fe wnes i fwynhau’r gweithdy’n fawr; roedd hi’n braf gwybod nad ydyn ni ar ein pen ein hunain. Roedd yn dda clywed bod pobl eraill ar draws y byd yn cael y teimladau hyn. Rwy’n falch bod pobl yn yr ysgol sy’n ein helpu ni.”
Valley Veterans
Sefydlwyd canolfan Valley Veterans yn y Rhondda dros 10 mlynedd yn ôl fel grŵp cefnogi anffurfiol ar gyfer pobl sy’n dioddef o anhwylder straen wedi trawma (PTSD), ac mae bellach yn ganolfan fywiog a gweithgar gyda dros 140 o gyfranogwyr. Mae wedi parhau i dyfu dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ddarparu cymorth i gyn-filwyr a theuluoedd ledled yr ardal. Cynhelir gweithgarwch garddwriaethol a cheffylau bob dydd gan y grwp yn eu hardal benodol eu hunain wrth ymyl Canolfan Gymunedol Ton Pentre. Mae’r clwb brecwast wythnosol yn denu hyd at 60 o gyn-filwyr ac yn eu cysylltu â phartneriaid allweddol gan gynnwys yr awdurdod lleol ac elusennau. Mae’r gweithgarwch ceffylau dyddiol yn denu oddeutu dwsin o gyn-filwyr yn rheolaidd.
Mae Valley Veterans yn gweithio’n agos gyda Trivallis, cymdeithas dai leol, sydd wedi darparu grant o £5,000 i wella’r safle gyda ffens ddiogelwch.
VC Gallery
Mae VC Gallery wedi parhau i ddarparu amrywiaeth o gefnogaeth a chynlluniau dros y flwyddyn ddiwethaf. Diolch i fwrdd iechyd lleol Hywel Dda, llwyddodd yr elusen i ennill ei gwobr efydd cynllun Cydnabod Cyflogwyr ynghyd â Buddsoddwyr mewn Gofalwyr (IiC) cynllun sicrhau ansawdd sy’n cydnabod arfer gorau ar gyfer cefnogi gofalwyr di-dâl. Mae’r ganolfan wedi cofrestru gofalwyr gyda’u meddygfeydd ac wedi sefydlu grwpiau cefnogi gofalwyr sy’n cael eu cynnal yn wythnosol yn y ddau safle. Dau Ofalwr Arweiniol ar gyfer pob safle sy’n helpu i hwyluso’r cynllun, ac mae’r holl aelodau staff a gwirfoddolwyr allweddol wedi cael hyfforddiant ar sut i ganfod gofalwyr di-dâl er budd Cymuned y Lluoedd Arfog.
Mae ‘Art of Memories’, a ariennir gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, wedi casglu a chofnodi straeon gan staff y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd ac maent yn cael eu defnyddio i ysbrydoli cyfranogwyr i greu gwaith celf a barddoniaeth. Mae dros 200 o gerddi a channoedd o waith celf wedi cael eu cynhyrchu ac mae’r prosiect hyd yma wedi cysylltu â dros 150 o gyn-filwyr, naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein.
‘Mae rhannu stori fy nhad gyda chi wedi helpu i gadw ei gof yn fyw. Gwir ystyr Cofio.’ Merch cyn-filwr.
Mae ‘Dig for Victory’ yn cynnig therapi gwyrdd awyr agored ar ymyl Llwybr Arfordir Cenedlaethol Sir Benfro a oedd unwaith yn fagnelfa arfordirol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae’r prosiect wedi arwain at gannoedd o aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog yn ymweld â’r gerddi. Mae’r gwaith datblygu’n parhau i gyrraedd y byncer ar y safle, gan ychwanegu mynediad i bobl anabl ac mae’r gwaith plannu yn dal i ddigwydd a’r cynnyrch yn cael ei roi i gyn-filwyr a thros 40 o deuluoedd lleol.
Mae’r rhaglen ‘Mynd i’r Afael ag Unigrwydd’ hon wedi galluogi VC Gallery i gyflogi aelod amser llawn o staff sy’n hwyluso’r prosiect hwn. Mae VC Gallery yn gweithredu ‘Seibiannau NAAFI’ ar gyfer milwyr wrth gefn, cyn-filwyr a’u teuluoedd, brecwast sy’n cael eu cynnal ddwywaith y mis ar bob safle, a hwyluso diwrnodau allan. Mae VC Gallery yn canolbwyntio ar sgyrsiau cyffredinol a chwmni gyda chyn-filwyr eraill, lluniaeth, a helpu i gael mynediad at blatfformau digidol, gan ganolbwyntio ar gyn-filwyr hŷn sy’n byw yn yr ardal leol. Rhan o’r prosiect yw canfod mwy o gyn-filwyr gwrywaidd a benywaidd yn Sir Benfro drwy fynd â’n hamgueddfa symudol i amrywiol leoliadau chwaraeon, neuaddau pentref ac ati, i gwrdd â chyn-aelodau o’r lluoedd arfog lle bynnag y gallent fod yn byw. Mae mentoriaid cymheiriaid VC Gallery hefyd yn ymweld â chartrefi preswyl lleol neu gartrefi cyn-filwyr sydd â phroblemau symudedd i helpu gydag ymgysylltu. Ar hyn o bryd rydym wedi dod o hyd i bron i 100 o gyn-filwyr ledled de Sir Benfro yn y prosiect hwn.
Blind Veterans UK
Mae Blind Veterans UK wedi gweithio gyda’r sector yng Nghymru i barhau i ddarparu offer arbenigol i gyn-filwyr dall a rhai â nam ar eu golwg ledled Cymru.
Rhwng mis Mai 2021 a mis Mawrth 2022, gwariodd yr elusen £60,305 ar ddarparu offer arbenigol i helpu cyn-filwyr dall yng Nghymru i fyw bywydau annibynnol a chyflawn yn eu cartrefi eu hunain a thu hwnt, er eu bod wedi colli eu golwg yn sylweddol. Mae’r amrywiaeth eang o offer a ddarperir, fel sganwyr darllen-yn-hawdd, offer TG, watshis siarad ac offer cegin, wedi galluogi buddiolwyr yng Nghymru i gael rhywfaint o annibyniaeth nad oeddent yn credu oedd yn bosibl mwyach, gan eu helpu i adennill rheolaeth dros eu bywydau, adfer eu hyder, a gwella eu lles.
Cwmni Buddiannau Cymunedol Canolfan Cyn-filwyr Casnewydd
Mae’r ganolfan wedi parhau i ddarparu cefnogaeth werthfawr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i gyn-filwyr a theuluoedd. Rhwng mis Awst a mis Tachwedd 2021, cynhaliwyd 13 sesiwn galw heibio ym mhlasty Malpas Court, gyda dros 150 o gyn-filwyr yn bresennol. Yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr cynhaliwyd 6 sesiwn yn stadiwm Casnewydd gyda chyfanswm o 314 o gyn-filwyr yn bresennol yn ystod y cyfnod. Mae’r ganolfan wedi gweithio gyda phartneriaid fel GIG Cymru i Gyn-filwyr, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Guitars for Veterans ac AFC Sir Casnewydd.
Sesiynau Dosbarth Meistr Cynhwysiant Ariannol
Ym mis Ebrill 2022 trefnodd Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog ar gyfer Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro sesiynau dosbarth meistr cynhwysiant ariannol gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau, i uwchsgilio darparwyr gwasanaethau ar agweddau ar gymorth ariannol gan gynnwys Taliadau Annibyniaeth Personol a Mynediad at Waith.
RBL Cymru
Bu gwasanaeth cyngor ariannol a dyledion Budd-daliadau RBL Cymru yn gweithio gyda 100 o gleientiaid gan sicrhau cynnydd o £607,130 y llynedd gyda budd-daliadau ac iawndal.
Gwasanaethau Cynghori Cyn-filwyr y Cyngor: Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful
Mae’r Gwasanaeth Cynghori Cyn-filwyr yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth yn rhad ac am ddim i aelodau Cymuned y Lluoedd Arfog yn y 4 awdurdod lleol. Mae’r gwasanaeth yn cwmpasu amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys Budd-daliadau, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Cyllid, Cyflogaeth a Thai. Mae’r Gwasanaeth ar gael i gyn-aelodau’r Lluoedd Arfog, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn ac aelodau o’r teulu.
Ers i’r Gwasanaeth Cynghori Cyn-filwyr gael ei lansio yn 2017 yng Nghaerdydd a 2018 ym Mro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, mae dros 4000 o ymholiadau wedi dod i law mewn 4 awdurdod ac wedi arbed £1,933,993 i Gymuned y Lluoedd Arfog mewn budd-daliadau heb eu hawlio.
Veterans Legal Link
Mae Veterans Legal Link wedi parhau i ddarparu cyngor cyfreithiol am ddim i gyn-filwyr a chyfeirio at wasanaethau eraill, gan weithio’n agos gyda sefydliadau partner. Mae’r gwasanaeth yn canolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar ac osgoi argyfyngau, er mwyn helpu i ddiwallu anghenion cymhleth cyn-filwyr agored i niwed a’u teuluoedd. Rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mai 2022 roedd y gwasanaeth yn cefnogi 103 o gleientiaid gydag amrywiaeth eang o faterion cymorth, gan ddibynnu ar rwydwaith o gyfreithwyr a myfyrwyr, elusennau a sefydliadau cymorth.
Rhwydwaith Trawma Cyn-filwyr
Mae’r Rhwydwaith wedi parhau i ddarparu cymorth i’r rheini sydd wedi cael eu hanafu fwyaf yn ystod eu cyfnod yn y lluoedd arfog.
Astudiaeth achos
Roedd cyn-filwr a oedd wedi dioddef trawma difrifol i aelod o'i gorff wrth wasanaethu ac wedi cael nifer o lawdriniaethau heb wella ei boen felly roedd eisiau i’w lawfeddyg orthopedig lleol dorri’r aelod. Nid oedd y llawfeddyg lleol yn awyddus, heb fawr o brofiad o dorri aelod ymarferol a gweithredol o’r corff am resymau poen. Rhoddodd y Rhwydwaith Cymorth i Ddioddefwyr: cefnogaeth seicolegol briodol drwy gyfeirio at GIG Cymru i Gyn-filwyr a gwasanaethau lleol eraill; cymorth gan y trydydd sector drwy BLESMA a wnaeth ei roi mewn cysylltiad â grŵp cymorth i bobl sydd wedi colli aelod o’r corff; a chyfeirio at lawfeddyg trawma arbenigol yn Abertawe, a wnaeth y llawdriniaeth trychiad gyda blaenoriaeth briodol oherwydd statws ei glaf fel cyn-filwr a’r anaf y gellir ei briodoli i’w wasanaeth. Mae’r claf yn gwella’n dda.
Blwyddyn |
Nifer yr Atgyfeiriadau |
Canlyniadau |
---|---|---|
2021 |
5 |
1 x Torri aelod o’r corff |
2022 |
3 |
1 x Cefnogaeth ariannol y tu allan i’r ardal |
Atodiad 1: Uchafbwyntiau gweithgarwch swyddogion cyswllt y lluoedd arfog
Y Gogledd: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam
- Darparu a chwblhau hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl gyda dros 100 o staff o’r Heddlu, y Bwrdd Iechyd Lleol, Llywodraeth Leol ac elusennau yn ennill cymhwyster lefel 2/3 mewn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl.
- Casglu data am dai i helpu i adnabod cymuned y Lluoedd Arfog a gwella’r broses o gyfeirio pobl at gymorth. Hyd yma, mae 57 o bobl wedi cael eu hadnabod.
- Datblygu gwefan Cyfamod Cymru i wella llif gwybodaeth ledled Cymru.
- Cyflwyno diwrnod llwyddiannus i’r Lluoedd Arfog yng Nghymru yn Wrecsam
Y De-orllewin: Abertawe, Castell-nedd Port, Pen-y-bont ar Ogwr
- Ymateb i ymholiadau uniongyrchol ynghylch budd-daliadau, lles a chael mynediad at randiroedd, camddefnyddio sylweddau, cyfiawnder troseddol a digartrefedd.
- Hwyluso’r gwaith o ddarparu £25,000 o grant ‘Cryfhau'r gwaith o gyflwyno'r Cyfamod’ ar draws y rhanbarth, gyda 9 derbynnydd yn cael dyraniadau.
- Cyflwyno Gŵyl Goffa 2021 Castell-nedd Port Talbot, gan gynnwys cynllunio ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Wedi sicrhau Arddangosfa Brwydr Prydain ar gyfer mis Medi 2022.
- Ymgysylltu â’r tri Awdurdod Lleol i ddosbarthu gwybodaeth am gymorth i gyn-filwyr yn ystod argyfwng Affganistan, gan gynnwys darparwyr cymorth iechyd meddwl.
Y Gorllewin: Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro
- Lansio prosiect clybiau brecwast ar gyfer 2022 yn cynnwys VC Gallery, Links a Woody’s Lodge. Digwyddiad lansio yn Llanelli gyda dros 50 o gyn-filwyr yn bresennol.
- Cyflwyno sesiynau hyfforddi i staff: 8 sesiwn gyda 132 o staff wedi’u hyfforddi gan gynnwys yr Awdurdod Lleol, yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Bwrdd Iechyd Lleol. Cyflwyno 3 sesiwn hyfforddi ar gyfer Rhingyll yn y Ddalfa Heddlu Dyfed Powys ar y cyd â Woody’s Lodge. Datblygu rhwydwaith y Lluoedd Arfog yn y gweithlu a gweithio gyda’r tîm Adnoddau Dynol ar y Gwasanaeth Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn.
- Digwyddiad D-Day a gynhaliwyd yng Ngheredigion yn dod â chyn-filwyr at ei gilydd i fynd i’r afael ag unigrwydd a rhannu profiadau mewn amgylchedd sy’n ddiogel o ran COVID. Mae tri chyn-filwr bellach wedi ffurfio grŵp cyfeillgarwch ac mae’r Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog wedi’u rhoi mewn cysylltiad â VC Gallery sydd bellach yn trefnu cyswllt wythnosol â’i gilydd o ganlyniad.
- Ychwanegu cwestiwn y Lluoedd Arfog at 3 cais am dai gan Awdurdodau Lleol/asesiad o angen.
Powys
- Cefnogi 160 o Frigâd (Cymru) gyda Diwrnod Cymunedol ym mis Mehefin 2022.
- Gweithio gyda thîm addysg yr Awdurdod Lleol i sicrhau £9,000 o gyllid i ddarparu cymorth ychwanegol i blant Lluoedd Arfog Nepal.
- Mwy o atgyfeiriadau/ceisiadau am gymorth gan Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog wrth i ymwybyddiaeth staff rheng flaen gynyddu o ran y gwasanaethau sydd ar gael i gymuned y Lluoedd Arfog.
- Darparu diweddariadau rheolaidd i wefan Tyfu ym Mhowys lle mae deunydd Cymuned y Lluoedd Arfog wedi’i leoli.
Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf
- Lansio Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn Rhondda Cynon Taf. Mae’n berthnasol i’r rheini sy’n gadael y Lluoedd Arfog, Cyn-filwyr ac Aelodau o’r Lluoedd Arfog wrth Gefn sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol gofynnol ar gyfer unrhyw swydd wag a nodir yn unrhyw becyn cyflogaeth y Cyngor. Hyfforddiant parhaus i bawb sy’n dechrau o’r newydd.
- Data gwasanaeth Cynghori Cyn-filwyr a gasglwyd ar draws y system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid rhwng 1 Ionawr 2019 a 1 Mawrth 2022 mae’r gwasanaeth wedi derbyn 970 o atgyfeiriadau. Ystod eang o faterion gan gynnwys gofal cymdeithasol (24%), budd-daliadau (20%) a thai (12%).
- Sefydlwyd tri grŵp rhithwir o gyn-filwyr i ddarparu cymorth gan gymheiriaid a chyfeillgarwch i gyn-filwyr lleol. Cyfle i gysylltu â darparwyr cefnogaeth pan fo angen.
- Sicrhawyd £18,900 o gyllid ymddiriedolaeth Cyfamod ar gyfer prosiect Veterans Connected sy’n darparu dyfeisiau tabled a chymorth digidol i fynd i’r afael ag unigrwydd. Mae’r dyfeisiau tabled ar gael i Gyn-filwyr eu benthyg yn rhad ac am ddim gan Gynghorau Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg. Mae’r arwyddion cynnar o fore coffi ar-lein/rhith fore coffi i gyn-filwyr wedi dangos effaith gadarnhaol o ran lleihau arwahanrwydd cymdeithasol.
Caerdydd, Bro Morgannwg
- Cafodd dros 80 aelod o staff Cyngor Caerdydd eu hyfforddi gan Fentor Cyn-filwyr rhwng mis Hydref 2021 a mis Mawrth 2022. Ym Mro Morgannwg, mae 70 o staff wedi cael eu hyfforddi, gan helpu i wella gwybodaeth a chynyddu ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau cefnogi sydd ar gael.
- Hyfforddiant Staff mae’r Modiwl E-ddysgu ar Gyfamod y Lluoedd Arfog yn orfodol ar gyfer yr holl staff newydd a hyfforddiant gloywi bob 3 blynedd mae 2870 o staff wedi cwblhau'r hyfforddiant ers iddo gael ei wneud yn orfodol.
- Helpu i drefnu Gorymdaith Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines ym mis Gorffennaf 2022, cyfarfodydd a threfniadau ar gyfer lleoliad, llwybr parêd, lluniaeth a gwahoddiad i bobl enwog. Wedi cefnogi taith feicio Falklands 40 ym mis Mehefin 2022, a ddechreuodd yng Nghaerdydd.
- Trefnwyd digwyddiadau Forces Fitness ar gyfer Plant y Lluoedd Arfog ym Mharc Romilly y Barri a Chaerdydd ar gyfer Mis y Plentyn Milwrol ym mis Ebrill.
- Llwyddodd i sicrhau tir wrth ymyl canolfan Grŵp Cyn-filwyr y Barri. Cytunwyd ar brydles 5 mlynedd i ganiatáu defnyddio’r tir i dyfu llysiau a phlanhigion a chael sied a meinciau. Bydd y prosiect yn galluogi cyn-filwyr i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.
Gwent: Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy, Torfaen, Blaenau Gwent
- Mae canolfannau newydd i gyn-filwyr wedi cael eu sefydlu yng Nghaerffili a’r Fenni. Mae’r grwpiau’n darparu cymorth gan gymheiriaid ac yn caniatáu i ddarparwyr arbenigol gefnogi’r cyn-filwyr hynny y mae arnynt eu hangen mewn meysydd fel budd-daliadau a cheisiadau am dai. Mae dysgwyr y Coleg Paratoi a Chymhelliant ar gyfer Hyfforddiant (MPCT) hefyd wedi mynychu i ddatblygu gwaith sy’n pontio’r cenedlaethau.
- Mwy o ymgysylltu â’r cyfryngau cymdeithasol mae cyfrifon Twitter yn cynnwys: Cyfamod Cymru (234 o ddilynwyr), Gwent AFC (859 o ddilynwyr), hubCaerphilly (124 o ddilynwyr), VetHub Sir Fynwy (21 o ddilynwyr) safle twitter newydd i’w lansio ar 7 Mawrth.
- Dyfarnwyd £19,400 ar gyfer Cyrsiau Iechyd Meddwl yn y De-ddwyrain. Mae Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac ‘Eich Pecyn Cymorth ar gyfer Lles Meddyliol’ wedi cael derbyniad da ac mae cyfanswm o 56 o gyfranogwyr wedi cael hyfforddiant. Mae sesiynau pwrpasol ar gyfer y Gwasanaeth Carchardai a’r Milwyr Wrth Gefn wedi cael eu trefnu. Bydd o leiaf 128 o staff yn cael hyfforddiant erbyn diwedd y cyllid.
- Rhwng mis Medi 2021 ac Ebrill 2022, mae 242 o unigolion wedi cael hyfforddiant gan gynnwys tai, addysg, cyflogaeth a gwasanaethau cymdeithasol. Hefyd, mae byrddau iechyd, cymdeithasau tai, yr Adran Gwaith a Phensiynau ac elusennau wedi dod. Cynyddodd cyfradd gyfartalog dealltwriaeth o Gyfamod y Lluoedd Arfog o 2.37 allan o 5 i 4.53 allan o 5 ar ôl yr hyfforddiant.
Atodiad 2: Camau gweithredu blaenoriaeth a nodwyd gan grŵp arbenigol y lluoedd arfog ar gyfer tymor y llywodraeth hon
- Datblygu cynllun cenedlaethol i weithredu’r newidiadau sy’n ofynnol o dan Ddeddf y Lluoedd Arfog.
- Gweithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn i ddarparu gwasanaethau canolfannau ailsefydlu yng Nghymru i sicrhau gwell trawsnewid i fywyd sifil.
- Sicrhau bod adolygiad parhaus o’r capasiti a’r cyllid sydd eu hangen ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr i ddiwallu anghenion iechyd meddwl cyn-filwyr mewn modd amserol o ran apwyntiad cyntaf a thriniaeth ddilynol.
- Sicrhau bod cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu yn gallu cael triniaeth poen cronig yn gyson pan fydd ei hangen arnynt, lle mae ei hangen arnynt ac mewn ffordd sy’n gweithio iddynt, yn agos i’w cartrefi ac yn wahanol i’r gwasanaeth a ddarperir gan y Rhwydwaith Trawma Cyn-filwyr, sydd wedi’i fwriadu ar gyfer y rheini sydd ag anableddau corfforol mawr.
- Ymrwymo i ariannu’n barhaol gronfa cefnogi plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg yng Nghymru a pharhau i fuddsoddi ym Mhrosiect SSCE Cymru i sicrhau bod plant y Lluoedd Arfog yn cael y dechrau gorau posibl.
- Ehangu a chyflymu’r gwaith o gyflwyno cyfweliadau wedi’u gwarantu ar gyfer y rheini sy’n gadael y Lluoedd Arfog, Aelodau o’r Lluoedd Wrth Gefn a gwŷr/gwragedd sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer swyddi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
- Ymestyn yr angen blaenoriaeth i dai i gynnwys 5 mlynedd ar ôl gadael y lluoedd arfog a sicrhau bod gwŷr/gwragedd neu bartneriaid staff y Lluoedd Arfog yng Nghymr, sydd wedi gwahanu neu ysgaru, yn gallu cael gafael ar gymorth tai ar yr un telerau â theuluoedd eraill y Lluoedd Arfog.
- Diweddaru’r ‘Fframwaith Triniaeth Camddefnyddio Sylweddau i Gyn-filwyr’ a darparu gwell cefnogaeth i gyn-filwyr sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau. O ran y Cofio, edrychwn ymlaen at glywed am gynllun Cymru.
Atodiad 3: argymhellion yr ymarfer cwmpasu cyn-filwyr
Roedd yr ymarfer cwmpasu Cyn-filwyr, a gynhaliwyd rhwng mis Medi 2018 a mis Awst 2019, yn sgwrs ar gyfer Cymru gyfan a oedd wedi’i bwriadu i ganfod y bylchau mewn gwasanaethau ar gyfer cyn-filwyr a’u teuluoedd. Roedd yr ymarfer hefyd yn gyfrifol am gyfraniad Llywodraeth Cymru at strategaeth y DU ar gyfer ein Cyn-filwyr.
Tai
- Ystyried diweddaru canllawiau tai Llywodraeth Cymru i sicrhau rhagor o gysondeb ac ymwybyddiaeth o'r Lluoedd Arfog ymysg staff tai
- Ystyried diwygio'r angen blaenoriaethol i gynnwys cyn-filwyr ag amodau sy'n gysylltiedig â Gwasanaeth
- Ystyried diwygio canllawiau tai i gydnabod gŵyr a gwragedd sydd wedi ysgaru/gwahanu
- Annog a hyrwyddo'r arfer o gasglu data ar gyn-filwyr sy'n gwneud cais am dai cymdeithasol, gan wneud yn siŵr eu bod yn cael eu nodi ar y pwynt mynediad. Gofyniad i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai adnabod.
Iechyd
- Hyrwyddo ac annog yr arfer o nodi cyn-filwyr yn y system gofal iechyd
- Hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o faterion cyn-filwyr ymysg staff iechyd
- Gwneud yn siŵr bod triniaeth iechyd meddwl i gyn-filwyr yng Nghymru'n bodloni'r angen presennol
- Gwneud yn siŵr bod darparwyr cymorth iechyd meddwl, fel GIG Cymru i Gyn-filwyr, yn ymgysylltu â charcharorion cyn iddynt gael eu rhyddhau
- Gwneud yn siŵr bod cyn-filwyr sy'n camddefnyddio sylweddau yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddelio â phrofiad Gwasanaeth
- Sicrhau bod prosthetyddion y Ganolfan Cynghori ar Aelodau Artiffisial (ALAC) yn cael yr hyfforddiant priodol i ymateb i ddatblygiadau technolegol newydd. Sefydlu fforwm i ystyried darparu gwasanaethau prosthetigau i gyn-filwyr.
Pontio
- Hyrwyddo'r sgiliau a'r manteision mae'r rheini sy'n gadael y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr yn gallu eu cyfrannu at y gweithle
- Lansio a hyrwyddo Swyddi i Deuluoedd y Lluoedd gyda'r Ffederasiwn Teuluoedd yng Nghymru. Partneriaid a'r sector i hyrwyddo'r fenter hon i fuddiolwyr
- Helpu i wneud yn siŵr bod cyn-filwyr yn gallu cysylltu'r sgiliau a enillwyd yn ystod Gwasanaeth â'r sgiliau sydd eu hangen mewn gweithleoedd sifil.
Addysg
- Codi proffil anghenion plant y Lluoedd Arfog mewn ysgolion yng Nghymru, gan ddarparu cymorth ble mae angen a data gwell
- Gwybodaeth ac Ymwybyddiaeth
- Codi proffil a llif gwybodaeth ymysg awdurdodau lleol a staff rheng flaen ynghylch y gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd ar gael i gymuned y Lluoedd Arfog.
Llywodraethu
- Gwneud yn siŵr bod materion a meysydd sy'n cynnwys arferion da a nodir ar lefel leol yn cael eu huwchgyfeirio i'w trafod yng Ngrŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog
- Llywodraeth Cymru i archwilio grŵp cyflawni trawslywodraethol ar gyfer y Lluoedd Arfog gyda swyddogion o wahanol feysydd polisi (gan ystyried bwrdd y rhaglen fel cyfrwng posibl).
Cyfiawnder troseddol
- Adeiladu ar y cymorth sydd mewn lle yn barod ar gyfer nodi cyn-filwyr sy'n dod yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol
- Codi ymwybyddiaeth o'r wybodaeth sydd ar gael am gymorth ar lefel leol i'r rheini sy'n gadael y ddalfa.
Cyllid
- Darparu gwybodaeth glir a hyfforddiant ar reolaeth ariannol ac atebolrwydd cyn pontio
- Cefnogi'r gwaith mae'r Adran Gwaith a Phensiynau a phartneriaid yn ei wneud yn barod i ymgysylltu â chymuned y Lluoedd Arfog a hyrwyddo'r gwaith hwn i rwydweithiau/grwpiau cyn-filwyr.
Atodiad 4: adroddiad blynyddol 2020 ymrwymiadau i'r dyfodol beth rydyn ni'n bwriadu ei wneud dros y flwyddyn nesaf
Cyfamod y Lluoedd Arfog: adroddiad blynyddol 2020
Iechyd a llesiant
- Byddwn yn gweithio gyda fforwm Hyrwyddwyr ein Byrddau Iechyd Lleol i ddechrau cyflwyno’r cynllun achredu meddygon teulu yng Nghymru
- Byddwn yn adolygu ac yn cyhoeddi ein Cyfamod y Lluoedd Arfog newydd, Canllawiau Gofal Iechyd sy’n Flaenoriaeth i Gyn-filwyr, yn amodol ar ddatblygiadau yn y DU gan gynnwys Bil y Lluoedd Arfog. Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen ag argymhellion yr Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr mewn perthynas â gofal iechyd
- Byddwn yn parhau â’n Fforwm Prostheteg y Lluoedd Arfog, gan fonitro ac ymateb i faterion sy’n ymwneud ag anghenion iechyd cyn-filwyr sydd wedi colli braich neu goes
- Byddwn yn gweithio gyda’n Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog a’n partneriaid, gan gynnwys cydlynwyr rhanbarthol ar hunanladdiad ac atal hunan-niweidio, i hyrwyddo hyfforddiant cymorth cyntaf ym maes cymorth cyntaf iechyd meddwl. Addysg
- Byddwn yn parhau i archwilio gwelliannau i gasglu data ar blant y Lluoedd Arfog yng Nghymru, gan weithio gyda phartneriaid allweddol fel SSCE Cymru
- Byddwn yn ymgysylltu â phartneriaid allweddol sy’n gweithio gyda theuluoedd y Lluoedd Arfog i fonitro eu profiad o dderbyniadau i Ysgolion yng Nghymru
- Byddwn yn cefnogi fforymau cynghrair MODLAP a SCIP yng Nghymru.
Tai
- Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen ag argymhellion yr Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr yng nghyswllt tai.
Budd-daliadau a Chyllid
- Byddwn yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Arian, Cyngor a Phensiynau (MAPS), yr Adran Gwaith a Phensiynau a darparwyr eraill i hyrwyddo gwasanaethau cymorth ariannol drwy ymgyrch wedi’i thargedu at gymuned y Lluoedd Arfog
- Byddwn yn parhau i ddarparu consesiynau teithio i gyn-filwyr a theuluoedd yn unol â’r cynlluniau presennol. Cymorth wrth ddychwelyd i fywyd sifil
- Byddwn yn cyhoeddi Canllaw Adsefydlu Cymru ar y cyd â’r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd a’r 160fed Brigâd (Cymru)
- Byddwn yn darparu cyllid grant i gefnogi prosiectau lleol y Lluoedd Arfog drwy ein rhwydwaith o Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog
- Drwy Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog, byddwn yn sicrhau bod Awdurdodau Lleol a sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus eraill yn gallu cael gafael ar hyfforddiant ar gyfer staff rheng flaen er mwyn cynyddu gwybodaeth am gymuned y Lluoedd Arfog.
Cyfiawnder Troseddol
- Byddwn yn dod â Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog a’r rheini sy’n cefnogi cyn-filwyr yn y carchar at ei gilydd i wella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael
- Byddwn yn gweithio gyda Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (PCC), IOM Cymru a phartneriaid eraill i gyflawni argymhellion yr Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr
Cyflogaeth a sgiliau
- Byddwn yn gweithio gydag aelodau’r Grŵp Gweithredu ar Gyflogaeth i gynnal digwyddiad Cyflogaeth i Gyn-filwyr
- Byddwn yn parhau i hyrwyddo’r cynllun Lle Gwych i Weithio i Gyn-filwyr er mwyn rhoi cyfleoedd cyflogaeth i gyn-filwyr yn Llywodraeth Cymru. Cymorth i deuluoedd
- Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a phartneriaid i lunio strategaeth Teuluoedd y Lluoedd Arfog yn y DU
- Byddwn yn parhau i gwrdd â’r Ffederasiynau Teuluoedd ac yn sicrhau bod safbwyntiau teuluoedd y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn cael eu clywed.
Coffáu
- Byddwn yn gweithio gyda CLlLC, partneriaid milwrol, Llywodraeth Leol a’r Trydydd Sector ar gynlluniau ar gyfer dathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghymru
- Byddwn yn nodi 80 mlynedd ers Brwydr Prydain a Chanmlwyddiant y Lleng Brydeinig Frenhinol.
Llywodraethu
- Drwy ein strwythurau llywodraethu sefydledig, byddwn yn sicrhau bod sefydliadau partner yn cael cyfle i godi materion sy’n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog
- Byddwn yn rhoi mewnbwn Cymru i adroddiad blynyddol Cyfamod y DU
- Byddwn yn gweithio gyda Swyddfa Materion Cyn-filwyr Llywodraeth y DU i barhau i gyflawni Strategaeth y DU ar gyfer ein Cyn-filwyr
- Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar ddeddfwriaeth Cyfamod newydd, gan baratoi ar gyfer ei gweithredu.
Atodiad 5: metrigau gig Cymru i gyn-filwyr
Nifer yr atgyfeiriadau |
Ebrill 2021 |
Mai 2021 |
Mehefin 2021 |
Gorffennaf 2021 |
Awst 2021 |
Medi 2021 |
Hydref 2021 |
Tachwedd 2021 |
Rhagfyr 2021 |
Ionawr 2022 |
Chwefror 2022 |
Mawrth 2022 |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Aneurin Bevan |
5 |
6 |
3 |
3 |
13 |
10 |
9 |
13 |
8 |
7 |
6 |
7 |
Betsi Cadwaladr |
8 |
11 |
7 |
6 |
10 |
3 |
11 |
9 |
8 |
10 |
13 |
11 |
Caerdydd a’r Fro |
3 |
9 |
7 |
3 |
4 |
6 |
5 |
7 |
3 |
2 |
7 |
2 |
Cwm Taf Morgannwg |
8 |
8 |
15 |
12 |
14 |
14 |
10 |
7 |
6 |
14 |
12 |
3 |
Hywel Dda |
6 |
2 |
8 |
5 |
6 |
7 |
5 |
8 |
2 |
4 |
6 |
4 |
Bae Abertawe |
12 |
12 |
11 |
10 |
14 |
17 |
11 |
12 |
9 |
10 |
4 |
7 |
Cyfanswm |
42 |
48 |
51 |
39 |
61 |
57 |
51 |
56 |
36 |
47 |
48 |
34 |
Nifer oedd yn aros am asesiad |
Ebrill 2021 |
Mai 2021 |
Mehefin 2021 |
Gorffennaf 2021 |
Awst 2021 |
Medi 2021 |
Hydref 2021 |
Tachwedd 2021 |
Rhagfyr 2021 |
Ionawr 2021 |
Chwefror 2021 |
Mawrth 2021 |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Aneurin Bevan |
9 |
11 |
2 |
2 |
5 |
9 |
3 |
8 |
4 |
4 |
4 |
3 |
Betsi Cadwaladr |
4 |
4 |
3 |
4 |
3 |
4 |
2 |
8 |
4 |
10 |
6 |
2 |
Caerdydd a’r Fro |
6 |
8 |
6 |
7 |
4 |
7 |
3 |
3 |
4 |
3 |
2 |
4 |
Cwm Taf Morgannwg |
12 |
0 |
3 |
3 |
5 |
16 |
15 |
16 |
10 |
9 |
11 |
10 |
Hywel Dda |
1 |
2 |
5 |
12 |
6 |
6 |
5 |
5 |
6 |
9 |
3 |
3 |
Bae Abertawe |
14 |
12 |
13 |
11 |
6 |
10 |
19 |
16 |
19 |
10 |
7 |
6 |
Cyfanswm |
46 |
37 |
32 |
39 |
29 |
52 |
47 |
56 |
47 |
45 |
33 |
28 |
Nifer oedd yn aros am driniaeth |
Ebrill 2021 |
Mai 2021 |
Mehefin 2021 |
Gorffennaf 2021 |
Awst 2021 |
Medi 2021 |
Hydref 2021 |
Tachwedd 2021 |
Rhagfyr 2021 |
Ionawr 2021 |
Chwefror 2021 |
Mawrth 2021 |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Aneurin Bevan |
18 |
15 |
16 |
16 |
15 |
19 |
22 |
24 |
24 |
28 |
31 |
28 |
Betsi Cadwaladr |
31 |
28 |
23 |
17 |
16 |
18 |
15 |
11 |
9 |
7 |
9 |
12 |
Caerdydd a’r Fro |
14 |
18 |
20 |
21 |
23 |
25 |
24 |
26 |
25 |
21 |
22 |
19 |
Cwm Taf Morgannwg |
19 |
21 |
19 |
16 |
19 |
15 |
18 |
20 |
18 |
18 |
12 |
8 |
Hywel Dda |
14 |
7 |
6 |
5 |
7 |
5 |
4 |
3 |
4 |
4 |
3 |
3 |
Bae Abertawe |
24 |
21 |
22 |
24 |
14 |
24 |
17 |
19 |
24 |
20 |
6 |
12 |
Cyfanswm |
120 |
110 |
106 |
99 |
94 |
106 |
100 |
103 |
104 |
98 |
83 |
82 |
Atodiad 6: rhestr byrfoddau
|